"Twm Tangraig"

Os ydych yn awyddus am gael graen ar gyfarfod neu ryw sioe neu'i gilydd, galwch y peth yn rali – dyna un o eiriau mawr ein dyddiau ni. Cawn rali wleidyddol (neu fe'i cawsom, o leiaf), a rali amaethwyr ieuainc ; mae rali neu raliau (beth bynnag yw'r lluosog), yn rhywle bron bob Sadwrn. Ond – dyma i chwi "rali" sydd yn Rhiw, Llyn, bob dydd – un 1924, 225c.c., S.V., neu, os mynnwch, fotobeic Thomas Williams, Tangraig a rydd bob tractor yn y niwl.
Un o bostmyn y gymdogaeth yw Thomas Williams, ond wedi gorffen gyda gwaith y post, a chyda cymorth Ann Williams, ei fam, sy'n 74 oed, try i amaethu ei dyddyn dwy acer a chwarter. A dyma lle daw ei Raleigh amaethyddol arbennig ef i mewn.
Gyda'r drol "olwynion gwynt" a fechir wrth ei gwtyn y motobeic sy'n gyfrifol am holl waith mecanyddol y tyddyn, dyna ddaw a phob blewyn o wair i ddiddosrwydd; dyna sy'n teilo y lleiniau bach carregog; dyna sy'n hau a medi – heb sôn am y mân orychwilion fel cario dor a phriciau.
Wedi dadfachu'r drol a chan ddiystyrru'r rhwd a'r pytiau wifren crogleth, â Thomas Williams i Bwllheli, tua deng milltir (?) i ffwrdd, bron bob dydd Mercher, ac i ddychwelyd i'r Rhiw gyda blawd i'r fuwch a'r llo fe ddringa'r Raleigh un o'r gelltydd serthaf yn Arfon.
Ac er ei fod bellach yn chwech ar hugain oed, ni roddir arno ddimai o gost – " mae o fel watch".
Yn wir fel dywedodd un o'r ardalwyr "Gallasai Thomas droi allan i ddyrnu hefo'r peiriant 'na".
(Y CYMRO tua 1950)

Dyma "cutting" o'r Cymro i fynd hefo llun y motobeic.

Diolch yn fawr i Mr Alun Jones.

 

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com