Cadair Eisteddfod
Genedlaehol Eryri a’r Cyffiniau 2005.
Fel y gwyr pawb
bellach ennilwyd Cadair yr Eisteddfod eleni gan Tudur Dylan Jones o
Gaerfyrddin. Mae Dylan, ei wraig Enid a’r genod
Catrin a Siwan yn treulio llawer o benwythnosau a gwyliau yma yn y Rhiw,
wedi iddynt ail wneud bwthyn bach Bwlchgarreg, sydd wedi bod yn nheulu
Enid ers ymron dwy ganrif bellach. Wrth ei ail wneud maent wedi llwyddo i
gadw cymeriad yr hen fwthyn ac y mae hyn yn glod iddynt a’r adeiladwyr
crefftus a medrus a ymgymerodd a’r gwaith sef y ddau frawd Osian a Dylan
Jones, Tryfan.
Roedd llawenydd
mawr pan ddatgelwyd enw ‘Drws y Coed’ ar ddiwedd y feirniadaeth a balchder
mawr ym mhentref y Rhiw fod un o’n hogia ni wedi ennill y Gadair. Ac
anrhydedd o’r mwyaf oedd cael dweud fod Cadair yr Eisteddfod wedi bod ym
Mwlchgarreg. cyn mynd i’w chartref sefydlog a chymeyd ei lle wrth ochr y
Gadair ennillodd Dylan ddeng mlynedd yn gynharach yn Eisteddfod Bro
Colwyn.
Pan fu Cyngerdd
Dathlu Penblwydd Neuadd y Rhiw ym mis Awst fe fu
Dylan yn ein diddori ac fel rhan o’i arlyw ar gyfer y noson mi
ysgrifennodd yr englynion canlynol am bentref Y Rhiw. Mwynhewch fel y
gwnaethon ni.
**********
|
Y Rhiw
Uwch pob
ffynnon fach lonydd, uwch y bae
ac uwchben y
dolydd,
uwch Afon
Daron ein dydd
mae mwy na
chraig a mynydd.
Oesoedd o
deithwyr cyson trwy y Rhiw
fu’n troi at
Afallon
a’r un yw’r
pererinion
sy’n dynesu
am sŵn y don.
O’r Eifion i
Feillionydd, af yn daer
i Fin Don ar
drywydd
y fan uwch
Penarfynydd
mor uchel
â’r awel rydd.
Ac o raid mae
newydd griw’n y lle hwn
ond llawenydd
ydyw
fod gwledd
‘run croeso heddiw
yn Gymraeg
yma i’r Rhiw.
Tudur Dylan Jones
**********
|