|
|
"Atgofion" Tom Rowlands
Byddai cariwrs o Rhiw yn mynd i Bwllheli, dyma’r rhai a gofiaf; T Thomas Tyn Llan llanfaelrhys, Hugh Griffith Tyn Lon Bach, Hugh Jones Tyn Lon Fawr, Griff Williams Bryn Awel, W Hughes Conion, G Williams Fron Oleu, Evan Jones Penrallt, J Williams Talafon. Byddai Talafon yn mynd i’r dref ddwy neu dair gwaith bob wythnos a dwy drol yr un diwrnod yn amal. Arwahan i gerbyd cario blawd a glo yr oedd gan Tom Tyn Llan ‘Closed Carriage’ i gario teithwyr, cofiaf fynd i Bwllheli ar drip Ysgol Sul unwaith. Os byddai gelltydd, byddai rhaid cerdded, rhai o’r bechgyn hynaf yn cychwyn cerdded ar y blaen ac yr oedden nhw hanner ffordd i Bwllheli cyn i’r lleill ei dal, rhieni rhai ofn eu bod wedi colli ffordd yr oeddynt yn mynd ar ras o falchder cael trip.
Ceffyl a
trap
Bws Talafon 1920 Y ddau fodyr cyntaf i ddod i’r ardal oedd i Talafon a’r llall i E Jones
Penrallt, hen fodur ffordyn tunnell ddaeth i Talafon, tynnent ei ochrau ar
ddiwrnod marchnad a rhoddi seti i gario teithwyr, byddai yn codi amryw o
ffermwyr glan Afon Soch a byddai yn llawn yn cyrraedd Pwllheli. Cofiaf ar ol mynd i weini brynu beic newydd fi a’m partner Roland Syntyr
yn Efail Saithbont, £5 oedd y pris a phendrefynnu ar ddiwrnod ffair pentymor
fynd am ras efo lori, cychwyn yr un amser ond yr oeddym ym Mhwllheli o’i flaen,
yr oedd yn galetach mynd adref. Yn y cyfnod yma daeth Willie ‘Reifion adref o’r De a phrynu car
‘Buick’ i gario tua chwech o bobl, bron yr un amser prynodd Ishmael Jones
gar a chofiaf gath ddu fawr ar y bonnet fel mascot. Dim chwech fyddai’r llwyth
ar noson ffair ond dwsin neu ragor, rhai ar y mudguard a’r lleill ar llawr.
Dyna hwyl fyddai ffair Sarn, cerdded yno tua pedair milltir a dod adref tua
hanner nos efo Wil ‘Reifion. Pan fyddai Wil yn cerdded byddai yn dweud “this
side for the clywed”, effaith y twrio yn y De medda fo. Ar ol Ffair Galanmair
Sarn, peidio mynd i’r gwely ond cychwyn i hel llymriaid i Borth Ysgo, mynd a
rhaw ar y cefn a piser i’w cario adref tua saith yn bore wedi blino yn llwyr
ac i’r gwely tan ginio. "Tom Rowlands ar y chwith" Byddai siopau Rhiw yn llawn bob pen tymor, Evan Hughes yn cadw Siop Newydd
ar ol dod yn rhydd o’r fyddin, roedd seti rownd er mwyn i’r hogiau gael
eistedd byddai hwyl a miri yno ‘roedd rhyddid i fynd yno tan tua deg. Hefyd
roedd y Post Office ac mae’r un teulu yno hyd heddiw, ‘roedd siop arall yn
yr Eifion ac un yn Pisgah House, dwn i ddim pam fod enw mor seisneigedd arno
mewn ardal mor wledig, ‘roedd yr enw mewn print mawr uwchben y drws.. Hen
wraig o’r enw Jane oedd yn cadw’r siop, ychydig o nwyddau werthai, oil lamp,
siwgr, te, resins, cyraints, burum a blawd, yno byddai pawb yn cael burum ac ers
talwm byddai pawb yn crasu bara eu hunain. Cofiaf ym Mhengroes grasu’r bara yn
y gongl ger y tan gyda padell a radell, byddai’r
plant yn casglu eithin man neu redyn a poethwal i grasu, ‘roedd digon o
danwydd yn y mynydd wrth law. Yn ddiweddarach cofiaf fynd i Dy Nant Aberdaron
neu Cae Rhos Rhoshirwaun i nol bara. Gair bach eto am Pisgah byddai’r plant yn
mynd yno am werth dime o fferins, beth
bynnag fyddai yn roddi ar y glorian byddai yn cymeryd tamaid, blawd neud furum a
byddai ei cheg yn wyn o glust i glust!! ‘Roedd un mab yn gweithio yn y gwaith
lleol ac aeth mab a merch arall i Canada yn gynnar y ganrif yma (20fed). Clywais
lawer o son am Dafydd Pisgah bu yn gertmon ar un o brif ffermydd Llyn cyn mynd i
ffwrdd, yr oedd son drwy Lyn fel byddai ceffylau yn dew ac yn werth eu gweld,
byddai son fel y byddai yn prynu drugs iddynt. Byddai’r certmyn yn meddwl mwy
am geffylau ei feistr na’r meistr ei hun. Ar ol y Rhyfel Fawr Gyntaf mae gen i
gof bach o Dafydd adref yn edrcyh am ei fam cyn mynd yn ol i Canada yn
lifrai’r fyddin a chap bach a rhubanau ar ei ochr. Ty newydd o’r enw Awelon
sydd yna heddiw ac yn gartref i Saeson. Yr oedd ty arall o’r un enw sef
Pengroes o dan yr unto a’m cartref, Pengroes Dafydd Hughes yr oedd y plant
wedi tyfu fyny ac yr oedd Dafydd yn gweini yn ardal Pengroeslon, ac yr oedd yn
gymeriad os bu na un erioed. Cafodd wys o’r Fainc ym Mhwllheli am werthu
ffesants a Chadeirydd y Fainc yn gofyn “Yr oeddwn yn deall eich bod yn saethu
game?” a’r ateb oedd “Yndw os brain dach i yn alw yn game!!!”, a chafodd
ei ryddhau. ‘Roedd ei ferch Jane yn gweini ym Meillionydd un o ffermydd
mwya’r ardal a rhywun yn gofyn iddi “ Faint sydd er pan dach i yno Jane?”
“Bum yno haf ar ol gaeaf a gaeaf ar ol haf” a ‘doedd y gofynwr fawr
callach!! Diolch i Mrs M Hughes, am y gwreiddiol. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |