Fel Griff Pencaera mae pawb ym
Mhen Llŷn yn fy nabod i achos ar Ffarm Pencaerau y ces i fy magu. Fe
symudodd Mam, fy chwaer Jennie a finnau yno i fyw at Taid, Nain a John pan
fu farw fy Nhad yn 44 oed yn 1937 a
finna’
ond dyflwydd oed. Symud yno o Benrhyn Mawr, le ces i fy ngeni, y drws
nesa i Benrhyn
Canol lle cafodd fy Nhad, Abram ei eni, felly ar un ochr, un o deulu
Penrhyn Canol ydw’i.
Roedd gan fy Nhaid a Nain Penrhyn
Canol, William Robert (1850-1935) a Jane Catherine (1854-1936) bedwar o
blant. Yn eu trefn, Robert (g.1885); Ann (g.1887); Evan (g.1889); a fy
nhad Abram (g.1893).
Saer coed oedd Taid a gafodd
ddamwain a thorri ei goes wrth adeiladu’r landing i gario manganese
o Borth Ysgo. Fe wnaeth Robert ei ddilyn yn yr un grefft a ymfudo i
America yn 1907. Dyma gofnod ohono yn mynd rwy Ellis Island a hefyd gofnod
o Jane Owen, Tŷ Oer, Clwt y Bont yn 1910.
Robert - Ellis Island
Jane Owen - Ellis Island

Hwyliodd Robert ar y "Teutonic" |
|

a Jane ar y "Baltic |
Mae’n ddiddorol taw mynd i fyw i
Vermont ardal chwareli wnaeth Jane o gofio taw o ardal Bethesda roedd yn
dod. Tybed a’i dyna’r rheswm dros symud yno? Go brin fod y ddau yn nabod
ei gilydd yng Nghymru achos roedd Clwt y Bont ac Aberdaron yn bell pryd
hynny, ond cyfarfod wnaethon nhw a phriodi ym mis Mai 1919. Fe adeiladodd
Robert
dŷ 715 Cherry Street, yn Rome yn Hudson/Mohawk Valley, NY State ac fe
anwyd iddynt fab Bill yn 1922. Fe briododd Bill a Beverly, o dras
Wyddelig, a symud i fyw yn Rochester. Mae’r flwyddyn 1922 yn creu ychydig
o gymhlethdod achos yn ôl Mam dyna’r tro olaf iddynt ddod yn ôl i Gymru. 'Roedd
Mam yn ferch ifanc 18oed a’u gweld am yr unig dro yn Siop Isa’ (Mrs Rice)
Pencaerau.
Fe fyddai Robert a Nhad yn
llythyru hyd at farwolaeth Nhad yn 1937, ac wedyn fe fu Mam a Jane yn
llythyru yn gyson. Yn wir roedd Robert a Jane yn awyddus i ni’n tri fynd i
fyw i America amser y rhyfel gan eu bod yn meddwl fod pethau yn ddrwg
arnom ym Mhen Llŷn a ninnau mor agos i Lerpwl.
|

Robert Bill a Jane yn 1934 |
"Breuddwyd plentyndod oedd cael
mynd i America i’w cyfarfod"
Dwi’n cofio’r parseli o fwyd nad
oeddem rioed wedi gweld o’r blaen fel lemon meringue pie, gyda’r lemon
mewn pilsen yn dod o America a socs fair isle. Fe wnes innau
ddechrau sgwennu atynt hefyd. Yn 1966 anfonais luniau a
ffilm
35mm o Benrhyn Canol a bae Aberdaron, a hefyd Tŷ Oer Clwt y Bont hen
gartre Jane a manylion o raglen ocsiwn pan werthodd ei thad yr hen gartre
ac ffilm o un o’i hen ffrindiau ysgol.
Dyma rannau o’i llythyron yng
Nghymraeg yn cyfeirio at hyn:
“Wel o’r diwedd dyma fi yn cael
hamdden i anfon gair atoch ac i ddiolch i chi am y darluniau ar card o fy
hen gartref anwyl. Ni ellwch amgyffred y teimlad ydyw o gael gweld
darluniau o’r hen ardal wedi bod oddi yno ers 56 yrs. Ond y mae'r cyfan yn
dod yn ôl i'r cof. Coeliwch fi yr wyf wedi treulio oriau yn edrych arnynt………….”
Tach 26 1966.
Am ryw reswm, dwi ddim yn cofio
pryd na pham, ond fe wnaethom golli’r cysylltiad,na chlywed dim oddi wrth
Bill, yn wir dwi ddim yn credu ei fod o fwy na Beverly yn hoff iawn o
sgwennu!! Yna fe glywodd Mam o rywle fod y
ddau mewn Nursing Home a chael eu cyfeiriad yn Boonville. Fe ysgrifennais
atynt yn 1979 a dyma eu hateb:
Fe welwch fod yn ddau wedi marw yn
1977 yn 92 oed. Syndod i mi oedd y cyfeiriad at “…baby son who created
so many happy moments….”, achos doeddwn i ddim yn gwybod am ei
fodolaeth.
Bum yn aml yn meddwl am drio
chwilio am bapur newydd yn Rochester gan obeithio cael erthygl am fy
ymdrechion i ddod o hyd i Bill a’i deulu, ond bryd hynny roedd yn rhy
gymhleth a thrafferthus.
Diolch byth am dechnoleg newydd sy
wedi dod i ni bethau fel Rhiw.com, sy’n drysor o wybodaeth. Fe
agorodd fyd newydd i mi hefyd. Yn gyntaf drwy ffrind imi, fy nghyd actor
Huw Emlyn gael cyfrifiadur a mynd ar y we! lle digwyddodd ddod i gysylltiad â merch oedd yn enedigol o Landeilo, ac yn byw ym
Methel, Connecticut. Fe gysylltais i a hi gyda ffacs yn dweud am fy
niddordeb i ddarganfod fy nheulu. Fe ddaeth Rhianon o hyd i ohebydd Clair
Ritter oedd â diddordeb yn y stori. Dyma erthygl a sgrifennodd yn y
Democrat & Chronicl, Rochester ym mis Medi 2000.
O fewn llai nag wythnos fe
gysylltodd rhywun a Rhianon i ddweud fod Bill fy nghefnder wedi marw ond
fod Beverly yn dal yn fyw ac yn wir fe ffoniodd Beverly hi i ddweud ei bod
wedi ail briodi ac yn byw yn Elba. Ar 19eg o Fedi
2000,
fe siaradais ar y ffôn gyda Beverly. Er nad yw’n perthyn dafn o waed imi
roeddwn yn
eitha’ cyffrous ar ôl yr holl flynyddoedd o gael siarad ‘da un o’r “teulu”
yn America! Dechreuais gysylltu â hi a Michael ei mab drwy e-bost, a oedd
yn awyddus iawn i wybod mwy am ei deulu, yn enwedig gan ei fod yn unig
blentyn a hefyd felly ei rieni.
Ym Mis Ionawr 2001 fe wnes
gyfarfod a Michael yn Efrog Newydd ac yn rhyfedd roedd yn gweld tebygwyd
rhyngddo fi a’i Dad yn syth ac yn falch o’r cyfarfod gan mai fi oedd y
“perthynas gwaed” cynta’ iddo gyfarfod. Treuliom tua 2 awr gyda’n gilydd
gan gynnwys ymweld â Rockefeller Centre.
Yr haf canlynol roeddwn wedi cael
gwahoddiad i briodas i berthynas i Rhianon yn Toronto ac yn gyrru yn agos
i Elba a
Rome. Ces gyfle felly i ymweld â Beverly a hefyd ddarganfod y tŷ oedd
Robert wedi ei adeiladu, 715 Cherry Street yn Rome. O ran cwrteisi fe
ofynnais i wraig y tŷ oedd y dyfrio’r ardd am ganiatâd i gael tynnu
lluniau ac egluro pam. Ei ymateb oedd “I’ve
come
out in goose pimples because my grandfather came from Anglesey”. Gwefr
oedd cael mynd i mewn i’r tŷ a gweld gwaith coed Uncle Robert. Roeddwn yn
gwybod mai ym mynwent Brotestannaidd Rome oedd y ddau wedi eu claddu, ond
doeddwn i ddim yn dychmygu y byddai tua i filltir o hyd ac wedi ei
gorchuddio a choed ac y gallwn yrru drwyddi.
Ar ôl ychydig amser o chwilio
roedd yn amlwg fod darganfod y bedd yn dasg anobeithiol, ond wrth edrych
drwy’r coed gwelwn lecyn yn y pellter a rhywbeth yn dweud wrtha i mai yno
yr oeddynt wedi eu claddu. Ces fy ngyrru i lawr yno a gwyddwn yn hollol
ble i stopio ac ar ôl cerdded rhyw hanner canllath roeddwn ar bwys bedd
Robert a Jane!
"Dyna’r agosaf y gallwn obeithio
dod at wireddu breuddwyd plentyndod"
*********