|
|
"Rysetiau Traddodiadol" Lobsgows. Darn o gig
eidion, goreu oll os ydio ar yr asgwrn i ychwanegu blas. Nionyn Moron Rwdan Tatws (Ciwb stock
– ychwanegiad os bydd angen) Berwch y
cig yn gyntaf mewn ychydig o’r dwr. Ychwanegu’r
nionod wedi ei sleisio. Ychwanegwch
weddill y llysiau wedi ei torri yn fan ar wahan i’r tatws Ychwanegu
mwy o ddwr a’r ciwb stock ( os oes ei angen) Rhoddi
halen a pupur at y’ch blas. Codi’r
cwbl yn ol at ferw, yna ei fud goginio am tua awr. Ychwanegu
‘r tatws a’i goginio am ugain munud yn rhagor. I gael blas
llawer gwell arno mae yn syniad ei baratoi ddiwrnod yng nghynt a’i ail gynhesu. ~~~~~~~ Tatws
Popty. Darn o gig
eidion, ond gellir defnyddio cig oen neu fochyn (belly pork) Tatws Nionyn mawr Pupur a
halen at eich tast. Rhostio’r
cig am rhyw awran Ychwanegu y
tatws yn dalpiau a’r nionod wedi sleisio. Tywallt dwr
berwedig dros y cyfan. Gorchuddio’r
tun rhostio a’i gaead neu ffoil. Coginio nes
bo’r cig yn barod a’r tatws wedi ‘brownio’. Un o’r
gorau erioed i wneud Tatws popty ydi Nain ty hen Llangwnadl, mi roedd ei flas yn
fendigedig, fel ag yr oedd y tatw newydd di ffrio efo cig moch (pan oedd gig
moch yn gig moch de!!!) ~~~~~~~ Stwnsh
neu Fwtrin. Gellir
defnyddio Moron, Rwdan neu ffa i wneud y stwnsh. Berwi’r
rwdan neu foron am ychydig cyn ychwanegu’r tatws. Berwi’r
cyfan gyda’i gilydd, ymarllwys y dwr ohonnynt. Ei rhoddi
yn y sospan gyda llwyaid fwrdd dda o fenyn ac ychydig o lefrith wedi ei gynhesu
a chymysgu’r cwbl efo’i gilydd nes ei fod yn llyfn (heb lympiau). Mae yn
fendigedig efo cig moch ac wy di ffrio.( Bacwn Pen Llyn de, mae hwn ddigon tebyg
i facwn ers talwm) Os yn
defnyddio ffa rhowch nhw fewn ar yr un pryd a’r tatws.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |