"Rysetiau Nadolig"

Teisen Nadolig.

Defnyddiau :-

Pwys o flawd, hanner pwys o ymenyn ac o siwgr gwyn man, pwys o rhesin Sultana, hanner pwys o ryfon, wns o almonau, pedwar wy, a dwy lonaid llwy de o bowdr pobi.

Curer yr ymenyn yn hufen, ysgeintier y siwgr i mewn yn raddol, a thorer yr wyau, un ar unwaith i mewn, gan guro a’r llaw yr holl amser; yna cymysger y blawd a’r powdr a’u gilydd, a rhodder hwynt yn y cymysgedd. Bydded y rhesin a’r rhyfon wedi eu pigo yn lan, a’r almonau wedi ei dirisglio a’u malu. Cymysger y cyfan a’u gilydd yn ysgafn, a rhodder mewn ‘tin’ gyda phapur iredig ynddo. Craser mewn pobty poeth. Wedi iddo oeri gellir rhoddi iaaeth drosto i’w addurno.

 ~~~~~~~

Pwdin Nadolig.

Defnyddiau :-

Pwys o friwsion bara, pwys o resin wedi ei digaregu, pwys o ryfon, hanner pwys o siwgr, hanner pwys o swyf, hanner pergneuen, dwy wns o groen suryn grisialedig, hanner wns o sinsir, a thri wy; dim llaeth na gwirod.

Maler y swyf, gratheller y pergneuen a’r sinsir, curer yr wyau, cymysger y cyfan o’r defnyddiau gyda’i gilydd a rhodder mewn moldiau wedi ei hiro, gan ofalu eu llenwi rhag i’r dwfr fynd i mewn; yna rhwymer llieiniau drostynt yn dyn; berwer hwy am y cyntaf am bedair awr.  Maent yn well o’u gwneud yn gynnar, cadwent am wythnosau. Pan yn myned i’w defnyddio, rhodder hwynt mewn dwfr berwedig, a berwer hwy am tua dwy awr. Anfoner ‘ymenyn wedi doddi melys neu cwstard’, i’r bwrdd gyda hwynt. Doder brigyn o’r celyn yn y pwdin wr ddydd Nadolig.

 ~~~~~~~

Pwdin ‘Dolig Nellie (Bay View).

3 neu 4lb o Flawd Codi.

2lb o Siwgr.

2lb Sultanas.

2lb Raisins

2lb cyraints.

1 box mix spice.

Tun triog du bach.

1lb Margarine ( neu ½lb Atora Suet + ½ lb margarine).

Rhwbio’r marg i’r blawd ac ychwanegu’r siwgr, ffrwythau a’r speis.

Gwneir hyn y noson gynt os yn bosibl.

Toddi’r triog efo dwr poeth a’i oeri efo llefrith a chymysgu’r cyfan yn dda a’i roi mewn clwt. Gwyluchu’r clwt mewn dwr cynnes a rhoi blawd arno cyn ychwanegu ‘r pwdin, mae hyn yn help i’r pwdin beidio sticio i’r clwt.

Ei ferwi am 4 ½  i 5 awr ( mewn boiler) gan gofio ychwanegu dwr berwedig bob hyn a hyn.

 ~~~~~~~

Pwdin clwt Ellen Williams.

I’w fwyta’n oer fel cacen os dymunir.

8 owns Blawd Codi.

4 owns Siwgr Brown ( 5 yn well )

4 owns o fenyn wedi ei dorri yn dameidiau.

¾ lb o ffrwythau cymysg.

1 Afal go fawr wedi ei gratio.

Halen

2 Wy.

4 owns Briwsion Bara.

Llond llwy de o driog du.

Mymryn o Bicarbonate of soda am ei ben mewn cwpan dwr berwedig i’w doddi.

Cymysgu’r cyfan efo seidar neu lefrith.

Dodi mewn clwt a’i ferwi am dair awr a hanner.

 

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com