|
|
"Mary Williams" Fron Oleu Rhiw ~~~~~~~ Allan o'r llyft
"Y Ty a'r Teulu" a gyhoeddwyd yn Medi 1891. Ffyngwy
(Ketchup) Defnyddiau. - At
bob phiolaid (dau alwyn) o gaws llyffaint, hanner pwys o halent. At bob chwart
o'r sudd,hanner wns bob un o mace, sinsir, ac allspice, wedi eu powdro, a
chwarter wns o cayenne. Anfynych y ceir
ffyngwy wedi ei wneud yn y modd goreu i gadw yn hir. A pha un bynag y byddis yn
ei brynu mewn siop neu yn y wlad, y gwyn ydyw, ar ol unwaith ei agor, y bydd
tair rhan o bedair o bob potelaid yn cael ei daflu fel yn hollol ddiwerth. Yr
ydym wedi rhoddi prawf teg ar y cyarwyddeb a ganlyn o eiddo Mrs Beeton, ac
yn cael ei fod, os gwneir fel hyn yn parhau yn gryf, ac yn cadw am flynyddoedd.A
chan fod caws llyffaint mor gnydfawr a thoreithiog ar hyd ein meusydd,gobeithir
y dilynir ef yn fanwl yn ngwneuthuriad ffyngwy. Ni byddai yn anhawdd gwerthu
unrhyw swm o hono pe deuai unwaith i hysbysrwydd ei fod un bur, ac wedi ei wneyd
yn briodol - yn genuine article. Dewiser caws
llyffaint mawrion, addfed; a gofaler eu bod newydd eu casglu ar dywydd sych;
onid e, nu phar unthyw driniaeth i'r ffyngwy gadw ond amser byr.Nid oes eisiau
eu golchi, na thynu eu erwyn; ond rhyddhaer unrhyw bridd neu bydrni, a thorer
ymaith y darnau a thyllau pryfaid ynddynt, ac ychydig oddi ar flaenau eu Rhodder haen
o honynt mewn padell ddofn a halen drostynt. Ar ol iddynt sefyll am noson, torer
hwy i fyny gyda'r llaw, neu lwy bren.Gosoder y badell mewn lle oer am dri
diwrnod, a chymysger hwynt yn aml, torer y ffwng yn fan, er mwyn cael cymaint o
sudd ohonynt ag y byddo modd. Yna mesurer y gwlybwr heb ei hidlo, a rhodder y
chwaethonau uchod at bob chwart. Tywallter ef i jar carreg, a rhodder cauad neu
orchudd yn dyn arno. Yna gosoder ef mewn crochan o ddwfr berwedig, a gadawer
iddo ferwi am dair awr. Ar ol hyny troer y ffyngwy allan i stewpan ac araf
ferwer ef am hanner awr heb gauad arno.Tywallter ef i ysten - a dylai sefyll
mewn lle oer am ddiwrnod heb ei gymysgu.Dranoeth, gloewer ef yn araf i ysten
arall; ac ar ol iddo ymlonyddu, hidler ef i botelau sychion. Na wasger y caws
llyffaint, ond gadawer y gwaelodion yn yr ystenau. Corceir y poteli yn dyn,
rhodder cwyr selio neu ystor ar y cyrc,i'w cadw yn awyr-dyn. Gwell ydyw
defnyddio poteli heb fod yn rhy fawr; ac os gwelir arwyddion nad ydyw yn ffyngwy
yn cadw yn dda, rhodder berw iddo, gydag ychydig o buprau hirion. Defnyddir y gawelodion i flasuso cignodd neu isgell tew. Poteler ef i'w ddefnyddio mewn byr amser. ~~~~~~~~~ Brywes
Yscotaidd (Scotish Brewis) Defnyddiau:- Bara Charter wns o
ymenyn pupur a halen dwr berwedig Mwynheir y bwyd
syml hwn, am ei fod mor ysgafn. Tafeller ychydig
o fara gwyn yn denau, rhodder yr ymenyn ac ychydig o halen phupur ynddoa
thywallter dwfr berwedig i orchuddio'r bara. ~~~~~~~~~ Llymru Defnyddiau:- Pwys o flawd
ceirch man hanner pwys o
beilliad dimeiwerth o'
furum gwneud' !!! a llwyaid o sugr. Cymysger y
blawdiau a'u gilydd a gwneler pwyfysgedd (batter)tenau o honynt gyda dwfr
clasuar; yna rhodder y burum ynddo, gyda llwyaid o sugr. Gadawer iddo suro am
dri diwrnod; gloewer y dwfr oddi arno, a hidler; yna berwer am chwarter awr, a
bwytaer ef mewn llaeth. Rhodder run faint o ddwfr ac o'r blaen ar y gwaelodion,
a gellir ei ddefnyddio mewn ychydig oriau. O.N.
Nid wyf yn rhyw glir iawn ynglyn a'r frawddeg olaf. ~~~~~~~~ Modd
i Gadw Wyau yn Ffres. O'r gwahanol
foddion i gadw wyau yn ffres erbyn yr amser y byddant yn anhawdd eu cael,. ac yn
ddrudion, y ddau anlynol sydd wedi profi yn fwyaf llwyddiannus yn y
cystadleuaethau am wobrwyon yn yr arddangosfau amaethyddol. (a) Cadwant am
aryw fisoedd os gosedir hwynt mewn halen sych ar eu gilydd, gan ofalu eu
gorchuddio ag ef. (b) Hanner
lenwer cawg o dwfr oer, a rhodder darn o galch poeth ynddo - pwys at bob
dau chwart o ddwfr,dyweder. Gadawer iddo oeri am ddau ddiwrnod; yna gosoder y
wyau ynddo. Fe ddylai y wyau
fod yn berffaith ffres pan rhoddir yn y dwfr-calch, neu yr halen. Os gadewir
wyau yn hir ar eu hochrau heb eu troi, bydd y melyn, yr hwn sydd yn ysgafnach
na;r gwyn wedi ymgodi, a glynu wrth y plisgin. I ochel hyn, gosoder hwynt ar eu
penau, a'r pen mwyaf i fyny. Cedwir y melyn felly rhag cyffwrdd a'r plisgin gan
yr awyr sydd yno. Y mae iro wyau cyn eu rhoddi yn yr halen, a chwanegu cyffeiriau eraill at y calch yn y dwfr, wedi eu profi yn aflesol. ~~~~~~~~~ Diolch i Mrs M Roberts, am y gwreiddiol. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |