"Huw Cae Crin"
Hen Bennaeth y Pum
Cenehedlaeth yn Cofio am y Dyddiau Gwaeth.
Pur ychydig o bobl
sy’n awyddus i gychwyn cerdded i un man heddiw – ond pan oedd Mr Hugh
Jones, Penmaes, Uwchmynydd ym mlodau’i ddyddiau nid oedd dim ond cerdded
amdani. Cerdded o Aberdaron i Bwllheli ddwy waith yr wythnos pan oedd yn
gweithio ar adeiladu’r harbwr yn y dre ryw hanner can mlynedd yn ol,
cerdded i ffermydd yn Eifionydd .... cerdded o’i gartref yn Uwchmynydd i
Dudweiliog, ymlaen oddi yno i Bwllheli efo buwch yn ei ol i Uwchmynydd
‘run noson er mwyn bod adref drannoeth i blannu tatws. Cefn ei esgid yn
crafu ei sawdl nes ‘roedd yn gwaedu a gorfod cerdded ar y ffordd fetlin
heb ddim ond sach wedi lapio am ei draed. ‘Ydi mae pethau yn dipyn
amgenach erbyn hyn’ meddai Hugh Jones.

Llong ar y cei ym Mhwllheli yn
1925, yn dadlwytho coed o Norwy.
Y mae Mr Jones yr
hynaf o bum cenhedlaeth – ac yn 92 oed, er y buasai yn anodd gennych gredu
hynny pe ymwelech ag ef yn ei dyddyn uwchlaw Porth Meudwy ym Mhen draw
Llyn. Yng Nghaernarfon y ganwyd ef ond pan oedd yn
grwtyn bychan iawn daeth i Rosirwun at ei ewythr ‘Sion Cwm Ci’ i’w fagu.
Ni chafodd Hugh
Jones ddiwrnod o ysgol. ‘Cario tywod efo’r drol i adeiladu Ysgol
Rhoshirwaun y bum i’ meddai. Dechreuodd weini ar ffermydd yn fore ar ei
oes a gweini y bu – arwahan i ysbeidiau byr yn tendio ar y seiri cerrig ac
yn gweithio ar harbwr Pwllheli – nes y daeth i oed pensiwn.Bu Hugh Jones
mewn degau reit siwr o ffermydd yn Llyn ac Eifionydd. ‘Roedd hi’n talu i’w
newid nhw’n aml er mwyn cael gwell cyflog a chael cyfle i adnabod gwahanol
ardaloedd’. Ar ambell Ffair Wyl Ifan ai i Gricieth i gyflogi’r cynhaeaf ar
ffermydd Sir Feirionydd.
 |
 |
| Huw Jones |
Huw a'i wraig, Guto a Nellie (wyr
a wyres) |
A’r cyflog yn yr
oes hono ? Y tymor cyntaf y troes ati i borthi cawsai chwe sofren yn yr
hanner blwyddyn. Ar ol priodi nid oedd ei gyflog ond deg punt yr hanner
blwyddyn pan anwyd iddo ef a’i briod eu seithfed plentyn. Ar yr harbwr ym
Mhwllheli wrth weithio ddydd a nos fel byddai’r llanw – hanner coron am
rhyw bedair awr a ‘llai na hynny mewn lleoedd y byddai’r llanw yn dod i
fyny yn fuan’.
Er nad oedd baco
ond tair ceiniog yr owns bryd hynny’ meddai Mr Jones ‘Mae’n dipyn gwell
byd heddiw coeliwch chi fi. Meddyliwch am saith ohonnom ym Mhlas ym
Mhenllech yn troi cae deng acer o wair cyn brecwast a’i gario tan hanner
nos ‘run noson. Gormod o bwdin oedd hynny ynte?’.
Er iddo fyw yng
ngolwg Enlli am gyfran helaeth o’i oes unwaith y bu Hugh Jones yn gweini
ar yr ynys. ‘Lle rhy garcharus’ meddai. Ond pan gyflogodd i fynd i Enlli
cafodd wyliau pentymor hir. Methodd a mynd trosodd am fis oherwydd tywydd
mawr.

Cae Crin yn y pellter
Bydd Mr Jones yn
codi allan bob dydd. ‘Ar wahan i’r hen goesau ma, mi fuaswn yn
ardderchog’meddai. ‘Mae’n rhaid imi gael ffon, weithiau ddwy, i gerdded
tipyn yn awr’.
Pedwar o’r plant
sy’n fyw – un ohonynyt ddigon hen i gael pensiwn. Ac yn ffurfio’r pum
cenhedlaeth y mae Mrs Jane Ellen Moore, Aberdaron ei merch hithau, Mrs
Ellen Williams, Trwasfynydd ei merch hithau Mrs Betty Jones, Corris a dau
blentyn bach Betty.
Y Cymro, Chwefror
2, 1956.