"Gwilym y Rhos"

Canrif o hanes y fro yn ddiogel yn y tŷ.  A fedrwch chwi ddweud i sicrwydd pryd y daeth pethau fel peiriant lladd gwair, peiriant cymysgu mortar, a dyrnwr i’ch cymdogaeth am y tro cyntaf?  A wyddoch chi pryd y daeth acw fotobeic i hwyluso trafnidiaeth?  Wyrach na ŵyr y rhan fwyaf o bobl ym mhwndraw Llŷn ddim chwaith.  Ond byddai’r peth hawsaf yn y byd iddynt ddarganfod y wybodaeth  -  dim ond troi i dyddyn Ty’n Pwll yn Rhoshirwaun, a gofyn am weld cofnodion Gwilym Y Rhos.

Y mae yn Nhy’n Pwll stôr o hanes lleol am y ganrif ddiwethaf ar ei hyd, ac am chwarter gyntaf y ganrif hon.  O’i dyddiau cynnar gwnaeth Gwilym Y Rhos gofnodiad o ddigwyddiadau pwysig a diddorol ei ardal.  I gael hanes y blynyddoedd cynharach, bu’n holi’r hen bobl.

Crydd oedd William Jones  -  Gwilym Y Rhos  -  wrth ei alwedigaeth.  Ni chafodd ond tair wythnos o ysgol yn hen gapel y Bedyddwyr, Rhoshirwaun  -  er ei bod yn anodd sylweddoli hynny wrth fwrw golwg ar ei lyfrgell, a darllen y cyfrolau a ysgrifennodd.  Ei fagwrfa ddiwylliannol fu’r Gymdeithas Lenyddol.  Datblygodd Gwilym Y Rhos yn chwiliotwr dygn, ac yn un o golofnau’r gymdeithas farddol a roes arbenigrwydd ar ardal Rhoshirwaun.  Casglodd gannoedd lawer o ganeuon a baledi a gyhoeddwyd mewn papurau newydd neu a werthid mewn ffeiriau.  Ac mae ei gasgliad gwerthfawr yn gyflawn yn Nhy’n Pwll hyd heddiw  -  ynghyd a llawer o ganeuon beirdd Y Rhos, am droeon trwstan yr ardal, a phob llinell o brydyddiaeth a gyfansoddwyd gan Gwilym Y Rhos ei hunan

Englynion.

Bu Gwilym Y Rhos yn barddoni’n gyson hyd ychydig cyn ei farw yn  1925.  Mae ei gyfrol ‘Diliau Daron’ yn ei lawysgtif yn Nhy’n Pwll, yn un drwchus.  Dyma ambell englyn ohoni:-

 

Ofn

Dechrau ofn ydyw dychryn  -  o’i orsedd

Daw arswyd i’w ganlyn;

Brath fel cledd, gwna’r wedd yn wyn,

Dolaf a chwŷs yn dilyn.

 

Torrwr Beddau

Hen oesol gymwynaswr  -  dyn adwaen

Dan nodau bedd-dorrwr;

Daw’r tlawd a’r ymerawdwr,

Pob gradd yn gydradd i’r gŵr.

 

Cysgod

Eilun ffug a’i lom hugan  -  am daliodd

I’m dilyn i bobman,

Cofus fodd ond cefais fan

I ymadael a’r mudan.

 

Crydd

Gweithiwr parod rhwydd dirodres  -  dewr, craff

Ydyw’r crydd mewn proffes;

Ceidw’r gwron llon er lles

Gannoedd o draed cynnes.

 

Ganwyd Gwilym Y Rhos ar Chwefror   23  1851,  a chawn engraifft o’i ffordd o gofnodi hanes yn y nodyn hwn am ei gartref, Ty’n Pwll  . . .   ‘a adeiladwyd gan Ellis Parry, hendaid Gwilym Y Rhos, o ochr ei dad, a hynny yn y flwyddyn  1790,  ar y Rhos pan oedd yn gomin.  Ond daeth i feddiant R. Lloyd Edwards, Nanhoron, am chwe swllt a thair ceiniog.  “Yn y flwyddyn  1910,  prynnais innau, sef Gwilym Y Rhos, ef gan Claude H. Lloyd Edwards, am chwe ugain punt.  Chwi welwch ei fod wedi bod yng ngafael llinach Nanhoron am gan mlynedd gyflawn, ond cefais ef yn ôl fel ‘hanner coron drwg’!”

Rhydd wedyn gyfrif manwl am adeiladu tŷ newydd Tŷ’n Pwll.

Gwilym y Rhos yn Ty'n Pwll

* * *

Y Drylliad.

Hogyn wyth oed oedd Gwilym Y Rhos pan suddodd y ‘Royal Charter’  yn  1859.  Yr un noson yr oedd naw o longau bychain yn llechu ym mae Porthoer, ar arfordir Llŷn.  Chwerw fu eu tynged hwythau hefyd.  Edrydd Gwilym Y Rhos ‘fel yr hyrddiwyd y llongau oedd wedi angori, rhai i ddanedd y creigiau a rhai i’r traeth.

Yr oedd dwy long fechan ar y traeth wedi eu taflu i odre yr allt, tair gerllaw cerrig y trai wedi eu sincio a dim ond brigau y mestus yn y golwg, a thair yn ogofeydd tir Carreg wedi eu malu yn ysgyrion . . . Boddodd llawer ar derfynau Porthoer y noson honno.’

Ac ychwanega:  “Yr wyf fi, Gwilym Y Rhos, yn cofio yn dda y trychineb hwn, a bum ym Mhorthoer droeon yn gweld yr olygfa.  Ni chlywais yn fy oes ystorom mor fawr a hon, ac yn parhau cyhyd.”

Ceidwad y cyfrolau yn Nhy’n Pwll heddiw yw Mr. John Thomas Jones.  Mae yntau yn hoff o hanes ac englyn, a thrysora lyfrau, llawysgrifau, a chadair eisteddfod ei ewythr, Gwilym Y Rhos.  Mae can croeso i’r sawl a fyn i ddarllen y llawysgrifau  -  ond mae’n rhaid mynd i Dy’n Pwll i wneud hynny.  Ni roddir y gweithiau ar fenthyg ar unrhyw gyfrif yn y byd.

Dyna pam maent ar gael o hyd,” meddai Mr. Jones, “Gorchwyl anodd yw cael llyfr yn ôl ar ol rhoi ei fenthyg.”

 

Allan o ‘Y Cymro,’  Ionawr  4ydd.  1962.

*********

Diolch i Wil Williams am yr hanes yma.

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com