|
|
Tomos Ifans
(Twm Bodgrugyn). Yn
1910 y dois i’r hen fyd yma a mi ges fy magu yn annwyl iawn gan yr orau o
fammau, sylwch nad ydwi yn son am dad. Ond mi fuo mam yn hynod efo mi , wel yn
dad a mam yng ngwir ystyr y gair. Un o Benygroes oedd hi, ond ar ol profedigaeth
cael ei hanfon i Fodgrugyn i’w magu efo perthynasau. Mi fuo teulu Bodgrigin
hefyd tu hwnt efo mi. Hen
dy simna fawr oedd o a mam yn crasu bara, dwi’n cofio yn iawn crasu bara ar
radell. Ninnau’r hen blant yn hel grug a gleuod ‘ dach i yn gwybod be di
gleuod yn tydach ?Petha iawn i wneud tan. Mi
fydda hen ferched Rhiw yn mynd i’w hel nhw, hel llond ffedog fras, yna tollti
y cyfan i sach a mi gwelech nhw yn
cario y pwn am adra. Ia’n tad ffedog fras ers talwm, sacha wedi i gwnio yn
daclus, wn i ddim os oes na rhywun yn ei gwisgo heddiw. Diar
torth dda oedd y dorth badell, bendigedig a wyddoch chi be fydda ni’r hen
blant yn leicio orau, wel y bara cri fydda mam yn i neud ar ol gorfffen crasu,
disgwyl yn eiddgar amdanyn nhw efo digon o fenyn fferm. Mi
fyddai yn corddi siwr iawn, troi yr hen fuddai sgwar efo’r handlen dipyn o
job, ond menyn gwerth ei fyta, a mi fydda hen fachgen Griffith Jos Penmynydd,
hen foi a locsyn gwyn mawr gyno fo, yn arfer tendio dyddiau corddi yn y gwahanol
ffermydd a dod o gwmpas i hel y menyn glas. Y menyn fyddai yn dod allan rhwng yr
handlen a’r fuddai, mi fyddai’r hen greadur yn hel bocsus polish gwag ac yn
gwneud eli. Mi fyddai wedi bod yn y caea yn hel “Codan y wrach”, enw da di
hwnna de. Yr hen beli , debyg i gaws llyffant crwn gewch chi yn y caea. Rhai
wedi sychu fyddai oau gan Griffith Jos, mi fydda yn cymysgu pwdwr efo menyn glas
a’i roi yn yr hen duniau polish a’i gwerthu am ddwy
geiniog y tun. Andros o stwff da at losg eira “ciwar” bob tro. Wrth
sgwrs mi fyddai mam yn ei gael am ddim yn dal am y menyn. Mi
chwerthwch rwan am fy mhen reit siwr ond mae’r peth yn berffaith wir i chi ,
peth rhyfedd ddigwyddodd i mi pan yn blentyn. Rhyw wyth oed on i a’m mrawd tua
pedair. Roedd
na le is lawr na ty ni Bodgrugyn bach oedd ei enw fo a ma wedi’n rhybuddio
lawer gwaith i beidio mynd ar gyfyl y lle, yn arbennig yn y niwl, roedd yno
dylwyth teg medda hi, a mi fasa nhw yn bownd o ddwad ar ein hola ni. Wel i chi
rhyw ddydd Sul dyma ni’n dau yn mynd ‘roedd na niwl cofiwch hel mwyar duon
dyna oedd y syniad. Dengid wrth sgwrs!!! Wedi hel dyrnad dyma ista ar ben rhyw
hen garreg yno, mi fedrwn ddangos i chi y munud yma mae hi yno o hyd, ond bod hi
yn edrych dipyn yn llai heddiw.Tydi popeth yn fawr i blentyn. Wel mi oedda ni
wrthi yn rhannu’r mwyar duon, llawn cynrhon ma siwr!! Dyma ni’n gweld y
creadur bach ‘ma, dyn bach du bitch yn dwad o docyn eithin!! Dyma fi yn gafael
yn Guto a dechrau i lusgo fo i fyny’r cae a’r ddau ohonno ni yn crio. Mi
ddaeth ar ein hola am sbel go lew, mi fedrwn ddangos y lle stopiodd o i chi rwan.
Deudwch be a fynnoch, mae’r dynion bach yn fyw iawn i mi. I Ysgol Rhiw
byddan ni’n mynd, rhyw bum munud o waith cerdded oedd gin i i’r ysgol. Efo
carreg nadd ar lechan y bydden ni’n sgwennu’r adeg honno, be fyddwn ni yn wneud
oedd torri darn o lechen o’r clawdd, carreg nadd berffaith. Dwi’n cofio
un diwrnod pawb yn mynd at eu gilydd, yr hen hogiau mawr fel Tom Man Garreg, i
ddeud ein pader a Dewyrth yn stopio’r weddi a gofyn i Tom beth oedd yn hongian
o’i boced o “Croglath syr”. “Pojars ar y naw yn hogia ysgol”!! "Dewyrth"
Cofio
Dafydd ‘Rerw yn dod i’r ysgol wedi cael torri ei wallt “cut” reit dda ac
yn dod i’r ysgol yn hwyr a’r hen Ddewyrth yn gofyn “ O ble daeth y feipan
yma”!!! Un garw oedd Dewyrth wyddoch chi.
Wedyn
mi ddoth R.H. Griffiths yn ysgolfeistr dyn ifanc pryd hynny, ac yn dipyn o fardd.
Ac i mi gael deud mi on i yn dipyn o sgolor pryd hynny a dim modd gan mam, felly
dim siawns i fynd yn bellach na ysgol Rhiw, ond wyddoch chi be nath Griffiths
gwneud standard 7 spesial i Iola Foel, Mary Syntyr a finnau.
Dechrau
gweithio yn bedair ar ddeg codi yd hyd y ffermydd a ballu. Gweithio tri diwrnod
i bedwar a chael y peth tebyca i ffortiwn i ni yr adeg honno, coron tua pedwar
prynhawn dydd sadwrn.
Mi
fum am dymor, y tymor cyntaf efo Mr a Mrs Rice a chael chwech a chweugain am
hanner blwyddyn. Cerdded tua milltir a hanner o’no bob bore i le o’r enw
Tyddyn Engan, cerdded yn ol i gael cinio, dim te i’w gael ond cerdded yn ol am
swpar tua’r chwech ma efo’r pisar llaeth wedi godro a ballu.
I
Drewan es i wedyn a chael saith bunt gin Lewis Griffith. Un tymor fum i ‘n
fano hefyd. Cofio mynd oddiyno i Aberdaron ar gefn beic un noson, noson fel y
fagddu. Ac er bod lamp garbaid yn help ‘chydig iawn o olau oedd hi’n daflu.
Dwi
ddim yn cofio beth oedd yn Aberdaron, ond mi on wedi cychwyn yno yn weddol handi.
Pan oeddwn yn ymyl Morfa Mawr dyma rhywun efo lantarn yn ei law yn fy stopio ac
yn gofyn “Wyt ti’n gwybod pwy di hwn?” ‘Roedd na ddyn ar ei hyd yn y
ffoes.
“Mae
o wedi marw” medda dyn y lantern “Dos i Aberdaron a gofyn i rhywun gael
gafael ar blisman” Wel mi es ac yn fy ol i Morfa Mawr
roedd na lot o bobol yna erbyn hyn. Son am ofn oedd gen i ar y ffordd
adref.’Ron i yn gweld corff y dyn yma ar hyd y ffordd adref yn enwedig wrth
basio mynwent Llandegwning! ‘Ron i yn chwys domen. Deall wedyn mai dyn o Aberdaron oedd o.
I
Meillionydd at William Owen es i wedyn, roedd yno chwech o weision pryd hynny yn
ogystal a dau fab. Yn Meillionydd ‘ron i y tymnor y daeth undeb y ffarmwrs i
fod. Griffith Williams Bryn Awel Rhiw oedd yn hel yr undeb. Grot yr wythnos oedd
y tal.Dwi yn cofio yn iawn paratoi ar gyfer y Sadwrn pwysig yma, criw ohonnom yn
torri “club eye”, math o ffon hit a bagal arni. Wyddoch chi be oedda ni am
wneud.. wel di clywed nad oedd criw Bodwrdda am dddod yn berthyn i’r undeb ac
am roi cweir iddyn nhw!!! Ond naethon ni ddim a mi naethon nhw ddod yn berthyn
i’r undeb!!!!
I
Drygarn es i wedyn a chael rhyw buntan o godiad naw punt rwan. Yna mi ges sbel
hir o waeledd, wel gwael iawn a dweud y gwir. Hen Dr Jones Botwnnog yn dod atai
bob diwrnod am dair wythnos ar ddeg. Dr da oedd o.
Mi
eis i gefn Isa Cricieth wedyn, cyflog gwell o lawer yn Eifionydd na Llyn ac
wedyn i Lanaelhaearn efo Richard Hughes dyna chi ddyn Cristnogol. Sylwch mai nid
crefyddol dwi’n ddweud. Mae digon o grefyddwyr ond chydig o Gristnogion.
Richard
Hughes yn gofyn i mi pan oeddwn yn cyflogi “Lle byddi di yn mynd i’r eglwys?”
“Waeth
gin i lle ond yr ei di “
Ond
i’r capel es i efo’r hogiau er mai eglwyswr ydwi o hyd, warden ers chwe
mlynedd ar hugain.
Yr
adeg honno fyddai neb yn meiddio gwneud dim ar y sul, a pan fydde ni hogiau yn
hel at ein gilydd yn ymyl Pentre bach, fydde dim ond gweld het Richard Hughes yn
dod rownd y gornel yn ddigon i bery i ni chwalu a mynd i le bynnag y byddem yn
addoli.
Bodwyddog
wedyn ar ol hynny Carreg Plas a phan yn y fan honno ces i afael ar y wraig
‘ma. Roedd hi ar y pryd yn gweini yn Ty Isa. Noson ‘Steddfod grempog
Rhoshirwaen y gwelais hi gyntaf, gweld hi’n slasen go handi!!! Mi ydan efo’n
gilydd ers tair blynedd a deugain ac ma gynnon ni chwech o blant.
Dal
cwnhingod efo nhad yng nghyfraith bum i wedyn, pla ohonnyn nhw a deud y gwir.
Rhyw ddeunaw y cwpwl fyddai’r pris.
“Lle
ddysgoch i ganu?”
Duwcs
yng nghor Meibion y Rhiw. Rhyw ddeg ar hugain neu well o hogiau ifanc yno fo,
rhyfedd wyddoch i ond roedd bron pawb gafodd ei eni yn Rhiw yn medru
canu.Cyfarfod yn hen Dy Capel Tan Foel, dim organ na dim ond yr hen bitchfork.
John Jones Terfyn oedd yr arweinydd ac un da oedd o hefyd, mi fydda’n mynd yn
wael ambell dro a mi fyddai Griffith Williams Bryn Awel yn yn cymeryd ei le fo
fel arweinydd. Cerdded bob cam o Neigwl Plas i Dan y Foel dyna chi sel ynte.
Partion bach fydda gynno ni, a John yr arweinydd yn canu caneuon gwerin fel
“Mari Lon”
Mi
ges i lythyr crand gin y brenin yn 1940 gyrru amdanai i fod yn un o’i weision
o. Roedd na siwt i gael efo’r job honno, un caci. Fyddai ddim yn leicio son am
yr hen ryfel yna ond ma raid i mi gael deud hon wrtha chi. Er cymaint pagan on i
ac ydwi ran hynny, mi fyddwn yn darllen fy meibl bob bore. Rhai o’r hen fois
yn gweiddi arnai “Throw that bloody book away Taff” ond dal ati i ddarllen
nes i
Drosodd
a ni i North Africa a jest fod yn fwyd morlo yn y Bay of Biscay.
Andros
o scarmes un noson ar ol inni landio Jerrry yn bomio a saethu a hogia ninnau
a’i gynnau yn winias. Tua pump y bore wedyn dyma ordors i’n section ni fynd
i godi tent bach a’r sarjant yn gwneud i ni ista a cael paned o goco. Pan es i
mewn i’r dent dyma’r hogiau yn gofyn
“Hey
Taff where’s that book of yours? Read Taff” a finnau dweud na cymraeg oedd
fy meibl
“Makes
no difference Taff there’s something in that old book of yours after all”
Mi
fum yn darllen iddyn nhw bob bore wedyn. Oes wir i chi mae na rywbeth yn yr Hen Lyfr yna. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |