"Blas Hir Hel"

gan

Griffith Griffith

Dechrau haf cytunais i fynd i Benycaerau at Griffith ac Ellen Hughes. Yr oedd rhyw garedigrwydd neilltuol yng nghalonnau’r ddeuddyn hynny. Mi gofiaf tra byddaf byw am y bara ffres a gaem ar ddiwrnod crasu bara. Mae John Parri Hughes eu mab, yn dal i ddweud na welodd neb erioed a fwytaodd fwy o afalau nag a wnes i y tymor hwnnw! Wn i ddim am hynny ond gwn fy mod yn cael pob rhyddid i fynd i’r berllan gan ei rieni caredig.

Ym mis Medi y tymor hwnnw cynhaliwyd Cyfarfod Misol llewyrchus iawn ym Mhencaerau. Ni welais ei debyg byth wedyn. Cynhaliwyd ef ar ddydd Llun, a chafwyd pregethu drwy’r nos a thrwy’r dydd drannoeth. Cofiaf fod y Parch John Parry Jones, Llanbedrog, yn un o’r pregethwyr a’i fod yn ei hwyliau gorau, a bod y capel yn llawn a’r canu yn odidog. Roedd Thomas Tyn Llan ac Evan a Wil Glan Gors yn faswyr da. Gallaf glywed Evan Rice Ysgo, y funud yma yn ffliwtio tenor y don “Colchester” ar yr emyn “Cymuned Seion Lan”.

Os aem i’r lon ar ol swper ar nos Sul braf wedi’r oedfa ym Mhencaerau, odid na welem bedwar o Ysgo sef Evan Rice a John ei frawd a’r ddwy chwaer, yn cerdded yn hamddenol braf i lawr o’r siop- John Rice bob amser a’i fodiau yn ei geseiliau. Mynd i Siop Isaf y byddent lle roedd Tom Rice, eu nai yn byw. Mae llidiaert ffrynt y Siop Isaf yn union wrth y fynedfa i fferm Penycaerau. Llawer gwaith ar nos Sul y bum a’m pwysau ar y llidiart yn gwrando ar y pedwarawd hwn yn canu emynau.

tom_rice_siop_isa.jpg (17212 bytes)

"Tom Rice Shop Isaf"

Tom Rice oedd y cyfeilydd. Efo ac un o ferched Llawenan fyddai cyfeilwyr Pencaerau ar y pryd hynny. John Rice a John Geufron oedd y codwyr canu. Edrychwn ymlaen at dro John Geufron bob amser. Byddai yn rhoi rhyw gic yn ol a’i goes chwith wrth ddechrau bob pennill.

Un tro- am – unwaith llwyddais i gyflogi yn ffair Aberdaron. Digwydd taro ar Harri Parri, Bodwyddog, ar gornel y Ship, a chytuno i fynd yn geffylwr yno efo Griffith y mab. Roedd yno lond stabl o geffylau rhai graenus i gyd ac eithrio hen gaseg y Felin, roedd coes fawr gan honno, a Thomas y ffariar y Sarn yn gorfod dod i’w gweld yn fynych.

Ifan Cae’r eglwys oedd y porthwr ym Modwyddog. Mae rhai o’i ddywediadau ar fy nghof o hyd. Digwyddodd rhywbeth pur anghyffredin ar y buarth pan oeddem yn dod allan o ginio. Ifan yn taro jou o faco yn ei geg ac yn dweud “Fu erioed y fath beth yn Neigwl Ganol yn amser yr hen bobol” Pam Neigwl Ganol yn amser yr hen bobol ‘wn i ddim yn y byd.

Roedd cael bod ym Modwyddog yn gyfle imi gael dod i adnabod pobol Rhiw, a chael Can y Brain yng nghoed Bodwrdda gan Obadiah, Pwll Budr. Cymeriad oedd Oba. Arferwn ag arllwys cynnwys fy mhoced stympiau sigarets ar y clawdd o flaen Pwll Budr ar bnawn sul iddo gael eu cnoi am fod baco yn brin.

A chymeriad hefyd oedd Jack, yr hen gi defaid melyn. Byddai hwnnw’n eistedd ar stol o flaen yr organ yn y parlwr. Rhoddai Sydna sbectol ar ei drwyn, a byddai yntau’n udo dros y ty. Ar ol te bob dydd cymerai fasged oddiar y bachyn yn y llaethdy ac ai efo Sydna i’r ardd wair i hel wyau. Codai bob wy a welai efo’i geg a’i roi yn y fasged.

sydna_bodwyddog.jpg (20637 bytes)

"Sydna Bodwyddog"

Oedd roedd cymeriadau diddorol yn ardal Rhiw. Dywedodd William Ty Croes bach am un oedd yn sgut am bres y codai balmant uffern i gael mwy o arian i’w boced. Rwy’n cofio’r hen Domos, Ty’n llan Llanfaerhys, yn rhedeg ei gi defaid yn y ras gwn ar gae Ty Canol, ac un o’r hogiau Rhiw yr ochr arall i’r clawdd yn gweiddi “Gwag”! a’r ci yn newid ei gyfeiriad y munud hwnnw ac yn ei gloywi am goed Tyddyn Meirion ar ol y brain!

Cymeriad arall oedd John Tyn Rhos- un o’r ychydig a wisgai fodrwy yn ei glustiau. Rhai melyn main oedd y modrwyau. Pan fyddai yn mynd i’r hwyl yn ei sgwrs byddai yn gafael yng ngwaelod ei glust dde ac yn ei phlycio i fyny ac i lawr. Pan ai ar dro heibio i Fodwyddog byddai yn rhyw droi wysg ei ochr. Mae’n debyg y tybiai na welai neb felly ac na welid mohonno yntau. Rhyw sleifio heibio wnai , gyda’i ddwy law ym mhocedi ei got yn ei gwasgu yn dynn am ei ben ol. Siarad am geffylau oedd ei ddiddordeb. Cerddodd lawer gwaith cyn belled a Muriau, Llangwnadl lle y gwyddai y cai bryd o fwyd ac oriau o siarad ceffylau- peth fedrai Owen Jones, y Muriau gystal ac yntau. Roeddwn yn ei adnabod flynyddoedd cyn i mi fynd i Rhiw. Cofiwn amdano gyda’i geffyl a’i drol yn cario glo o Borth Colmon. Yr oedd yn un o’r cwsmeriaid ffyddlon ym Mhorth Colmon yn amser y llongau glo.

Cario glo wnai Rolant Tyn Cae hefyd. Os oedd rhywbeth dynnai ddwr o’m dannedd yn hogyn gartref, trol a merlyn Rolant Tyn Cae oedd hwnnw.’Welais i ddim delach yn y Sioe Frenhinol erioed: merlyn coch, bychan, graenus, a harnais a byclau yn sgleinio a throl oedd yn ddigon o ryfeddod gyda’i phaent melyn, coch a du. Cario glo i’r man dyddynod yn y Rhiw y byddai – am ychydig geiniogau y cant, mae’n debyg. Rhyw bedwar neu bum cant fyddai ei lwyth. Gan fod Rolant a minnau at yr un oed, byddem yn cael sgwrs yn aml.

Galwai William Roberts, goruchwyliwr gwaith manganis y Rhiw ym Modwyddog bob dydd bron i gael sgwrs efo’r genod a smoc wrth y tan. Roedd rhyw wyth neu naw yn dal i weithio yn y gwaith y pryd hwnnw. Byddai William Roberts yn buddsoddi ei arian, ac yn darllen y papur dyddiol yn ofalus i wylio ffawd ei gyfranddaliadau. Cofiaf iddo unwaith ddangos siec o bum cant o bunnoedd imi. Derbyniasai hi y bore hwnnw, a gofynnodd imi a welswn un felly o’r blaen. Honno oedd y gyntaf imi erioed ei gweld.

Roedd dwy wedd yn aredig ym Modwyddog y tymor hwnnw pan fyddai’r tywydd yn caniatau. Am ryw reswm yr oedd Harri Parri yn ffermio’r Felin Uchaf hefyd. Bu Griffith a minnau yn aredig y lle bron i gyd y tymor hwnnw. Y cynllun, gan fod y daith mor bell o Fodwyddog i Felin Uchaf, oedd rhoi un daliad mawr y dydd- yn lle dau, yn ol ffermydd bob amser. Caem bryd o fwyd tua deg y bore, ac un arall ar ol cyrraedd adref oddeutu chwech o’r gloch. Cofiaf yn dda mor flinedig  fyddai’r ceffylau a ninnau yn cerdded heibio i Feillionydd Bach ar ein ffordd adref. Yr un tymor bum yn aredig y Parciau, sydd yr ochr uchaf i’r lon o dan Baronhill. Doedd neb wedi eu haredig ers blynyddoedd lawer.

aredig.jpg (79236 bytes)

"Aredig"

Roedd yno un eboles goch dair oed o’r enw Blodwen a oedd yn llawn castiau ac yn anhydrin iawn weithiau. Fe gychwynai’r daliad yn hwylus, heb stwr yn y byd, ond wedi rhoi rhyw dri thro ar y cae, dechreuai’r halibalw. Ymgodai a’i thraed blaen i fyny yn yr awyr, a beth ddigwyddai wedyn does neb yn byd a wyr. Byddai ei throed dros y cyplysau a phob blerwch. Cofiaf fynd a’r wedd yn ol i’r stabal droeon a chael un arall yn ei lle.

Ond mae “Mistar ar Fistar Mostyn”. Roeddwn yn aredig Parciau ryw bnawn, ac wedi’r trydydd tro ar y cae dyma hi’n dechrau strancian. Euthum a’r wedd yn ol i’r stabal. Wedi rhoi Blodwen yn y stol, a’i chlymu wrth y peintar, cefais afael mewn teclyn hwylus a churais hi’n ddidrugaredd. Roeddwn wedi colli fy nhymer yn lan. Pwy ddaeth i’r stabal ar ganol y cystwyo ond Harri Parri, ac aeth yn ddrwg iawn rhyngom. Wedi peth cecru dywedais wrtho fy mod yn mynd i ymadael a’r lle yn gyfan gawbl, ond fel pob storm arall, aeth honno heibio. Euthum a’r wedd yn ol i’r cae, a bu Blodwen yn hywedd ddigon byth wedyn.

Ar derfyn dydd er gwaetha’r caledwaith, anghofiem ein blinder yn llwyr a byddem yn hwylio i fynd am swae i rywle neu’i gilydd. Galwem yn Nhy Refail, cartref Jerry ac Anne fy chwaer, ddwy waith neu dair yn ystod yr wythnos. Byddai gorchest tynnu torch ar yr aelwyd – efo procer, fel rheol. Gallai Jerry godi dau ohonom ar unwaith. ‘Wn i ddim yn y byd ble’roedd yn cuddio ei gryfder! Byddai rhywun yno’n aml yn cael torri ei wallt. Rwy’n cofio trafodaeth yno ar gystadleuaeth y limrig yng nghyfarfod cystadleuol Cymdeithas Lenyddol Penycaerau. ‘Chofia i mo’r ddwy linell gyntaf, ond y drydedd oedd, ‘Beth a wnawn ar ddechrau’r flwyddyn?. ‘Roedd Griffith Bodwyddog wrthi’n rhoi’r lliain drosto ar gyfer cael torri ei wallt. Wrth droi i eistedd ar y stol gorffennodd y limrig fel ergyd o wn: ‘Torri rownd a gadael coryn’

Roedd motor beic Douglas ym Modwyddog, un yr oedd yn rhaid rhedeg wrth ei ochr i’w danio. Byddai’n hen ffasiwn iawn heddiw. Pan fyddai rhywbeth o’i le Jerry oedd y dyn i’w drwsio. Gwelais archwiliad manwl iawn yn cael ei wneud ar yr aelwyd wrth dan y gegin rhyw gyda’r nos. ‘Roedd Jerry’n beirianydd penigamp ac yn drefnus a thrylwyr gyda’i waith. O’r diwedd codwyd y motor beic ar ei stand a rhoddwyd plwc ar yr olwyn yn ol. Er syndod i bawb, ac yn enwedig i’r merched fe daniodd y peiriant yn syth. Gellwch ddychmygu’r twrrw a’r mwg oedd yno. Yna bu’n rhaid codi’r cadeiriau i gyd ar y bwrdd ar ganol y llawr er mwyn i Jerry gael mynd rownd y gegin ar gefn y motor beic!!

jerry_tair_efail.jpg (23870 bytes)

"Jerry Tai Refail"

Ychydig wythnosau cyn y Nadolig, daeth Huw Ty Corn i weithio i Fodwyddog. ‘Rwyn siwr o’r amser am mai efo oedd yn actio Santa Clos ar y noson cyn y Nadolig. ‘Roedd Huw, Griffith a minnau wedi trefnu rhyw fath o bresantau i Ann a Sydna. Yn y ty yr oeddem yn cysgu ddechrau’r gaeaf, a chan nad oedd trydan y pryd, hynny, roedd yn rhaid ymbalfalu yn y tywyllach, a cheisio mynd i stafell y genod heb iddynt eu clywed. Wrth inni fodio am hosan i roi’r presant ynddi, deffrodd un ohonnynt. Cyn pen dim roedd y ddwy wedi neidio allan o’r gwely ac yn sgrechian dros y lle. Gallent yn hawdd fod wedi deffro Harri Parri a Willie.

Llawer o hwyl a helynt a gafodd Huw a minnau ym Modwyddog. Un difyr oedd Huw, un o’r rhai mwyaf dymunol a charedig i fod yn ei gwmni, a’i dymer yr un fath bob amser. Bu’n rhaid i ni’n dau symud ein dau goffor a’r gwely allan i lofft y beudy ar ganol ein tymor yno. Wn i ddim paham hyd heddiw. Ymadawsom ein dau oddi yno ar yr un pryd.

Aeth llawer o flynyddoedd heibio heb i mi weld Huw. Ar ddamwain hollol yr haf diwaethaf euthum efo Aled ynglyn a rhyw gar ymwelwyr i Dy’n Gamdda Rhiw. A phwy oedd yno ond Huw wedi bod yn byw yno ers blynyddoedd, medda fo. Gellwch feddwl beth oedd ein teimladau y noswaith honno.

Doeddwn erioed wedi bod yn Nhy’n Gamdda cyn hynny, ond adwaenwn Evan Williams a fu’n byw yno yn dda. Wesle mawr. Wesleaid go iawn oedd Wesleiaid Rhiw. Ac felly yr oeddent ers talwm. Tyrrent i Gymanfa Gydenwadol Rhoshirwaun, yn enwedig pan fyddai’r pregethwr Wesle yn pregethu; byddent yno yn rhes ar y cadeiriau isaf: Tom Hughes Ty Canol, Teulu Meillionydd, Teulu Meillionydd Bach, ac Evan Williams Ty’n Gamdda

O dipyn i beth deuthum i gymeryd mwy a mwy o ddiddordeb yng nghor Hebron, deuthum i deimlo mai i mewn ynddo yr oedd fy lle, ac nid allan wrth y drws Ond   aeth tua dwy flynedd heibio cyn i mi ymuno ag ef. I ganol y baswyr yr euthum ar fy union, ac ni fu’n edifar gennyf byth am hynny. Fi oedd yr ieuengaf o’r baswyr tra bum yno. Rywsut neu’i gilydd, roedd y rhai nad oeddent gantorion yn disgyn i ffwrdd fel dail yr Hydref. Gwaith anodd oedd didoli, ond fe lwyddwyd i wneud hynny heb ddigio neb, hyd y cofiaf

Mae’n syn meddwl cyn lleied o’r hen gor sy’n fyw heddiw. ‘Rwyn bur siwr nad oes dim ond tri neu bedwar o’r baswyr yn fyw. Yr oedd cymaint o sel a chariad at bethau o’r fath yn y blynyddoedd hynny. John yn dod ar feic o Gongl Cae, Uwchmynydd, yr holl ffordd i Hebron ac Evan yn dod ar feic o Dy mawr Porth Neigwl. Griffith Williams Brynawel y Rhiw, wedyn. ‘Roedd ef yn gertmon yn Neigwl Plas yr amser hwnnw; ai adref i’r Rhiw newid ei ddillad ac yna deuai i lawr i Hebron i’r cor ar ei feic. Pan agosai at gystadleuaeth mewn rhyw eisteddfod, byddai’r cor yn cyfarfod ddwywaith neu dair yn yr wythnos. ‘Roedd Griffith Williams yn un o’r tenoriaid gorau, ac roedd ganddo wir ddiddordeb  mewn canu. Llawer gwaith y bum yn ei Barti Un ar Bymtheng. ‘Rwyn cofio bod mewn eisteddfod yn Dinas yn canu’r don “Hermon” o Ganiedydd yr Annibynwyr. Tybed ai honno oedd eisteddfod olaf Griffith Williams?

myfyr_machno.jpg (21225 bytes)

"Myfyr Machno"

Bu John Ty Newydd a minnau yn ei helpu i geisio cychwyn Cor Meibion ym Mhenycaerau ( Myfyr Machno oedd y gweinidog ar y pryd) Trefniant i gor meibion o’r “Delyn Aur” oeddem yn ei ganu. Ond methiant fu’r cais i godi cor ym Mhenycaerau. Sylwn mai o Rhiw yr oedd toreth y tenoriaid yn dod. ‘Wn i ddim a oedd a wnelo awelon yr ucheldir rywbeth i wneud a hynny, a bod baswyr yn fwy cyffredin ar y gwastadeddau!!.

Diolch yn fawr i Mr E Gruffydd, am ganiatad i ddyfynu o lyfr ei dad.

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com