Owen Griffith,

     "1891~1974"

Hanes Bugail y ddafad wyllt o 1954,

Yn siop Pencaerau ym mhen draw Llyn gellwch brynu unrhyw beth o’r bron gan gynnwys hoelion clocsiau. Dyma siop gwlad fel y byddai siopau’r wlad dan yr hen drefn. Yno hyd heddiw mae ambell erfyn nad yw’r siopwr Owen Griffith yn cofio bod hebddo. Mae yn 65 oed ond y mae yn aros o hyd yn beth o stor ei dad a’i fam. Eithr nid chwilio am yr un o’r pethau hyn y daeth gwraig o Buenos Aires i Benycaerau ychydig fisoedd yn ol. Daeth yno am feddyginiaeth i’r "Ddafad wyllt." Yn Saesneg "Rodent ulcer" math o ganser ar y croen.

Siop Pencaerau 1954

Am bum diwrnod o’r wythnos yn unig mae Owen Griffith yn siopwr. Bob bore mercher, ers henflynyddoedd fe ddeil y bws am 9.30 am Bwllheli ac yno ato daw pobl o bob rhan o Gymru a Lloegr a’r Iwerddon ac ar adegau o bellafoedd byd. Ychydig o flynyddoedd yn ol roedd perchen ystad ddefaid o Freemantle Awstralia ym Mhwllheli yn derbyn triniaeth. Dro arall daeth gwr mewn awyren o Singapore.

Yn sgil y gyfrinach ryfeddol a etifeddodd, daeth enw Owen Griffith yn Hysbys ar hyd a lled y byd. Er tri chan mlynedd bu’r gyfrinach o ddadwreiddio’r ddafad wyllt yn meddiant ei deulu.

Ei daid a oedd yn fferyllydd trwyddedig a gafodd afael ar y feddyginiaeth hon gyntaf, ond ei ewythr, brawd ei dad a ddaeth fwyaf i sylw’r cyhoedd fel "dyn y ddafad wyllt" yn guntaf.

Owen Griffith oedd hwnnw hefyd Owen Griffith Siop Penygraig, Llangwnadl ac ato ef yr aeth Owen Griffith Siop Penycaerau i weithio gybtaf erioed yn ddeuddeg oed.

Ac yno dysgodd y grefft o adnabod y dddafad wyllt. Adwaen un a chyffyrddiad ei law heb edrych arni. " Rhaid i’r sawl sy’n trin y Defaid gwylltion fod yr un fath a phob bugail" meddai Mr owen Griffith "Rhaid iddo wrth ryw gyneddf i adnabod ei ddefaid".

Ond arwahan i adnabod y defaid daeth Mr Owen i nabod y cyffur sy’n eu gwella hefyd. Etifeddodd gyfrinach fawr y teulu. "Mae’n beth cyfarwydd i bawb dim ond i chwi wybod beth ydyw".

Ar ol tair mlynedd ym Mhenygraig blinodd Owen Griffith ar y siop ac aeth i’r mor yn bymtheng oed. Am ddeunaw mlynedd bu yn hwylio’r cefnforoedd a bu rownd y byd bedair gwaith, ond pan fu farw ei ewythr yn 1921 dychwelodd yntau i Lyn i gadw siop ei rieni, John a Mary Griffith ym Mhencaerau. Bryd hynny y dechreuodd drin y ddafad wyllt o ddifri.

Erbyn hyn fe ddadwreiddiodd rai miloedd ohonynt. Nid oes Ganddo amgyffred faint- ond ato i Bwllheli bob dydd mercher daw 25-30 o bobl yn dioddef o’r anhwylder. Yn yr haf ni fydd yn trin Defaid o dan y dillad oherwydd y gwres ond yn ystod y misoedd hynny bydd rhyw ddwsin yn ei "surgery"bob wythnos. Ni fydd Owen Griffith byth yn cadw cyfri o’i gleifion ac yn fynych iawn ni wyr eu henwau nac o ba le y don’t.

Unwaith yn unig y rho ei eli arbennig ar ddafad wyllt a hynnu "dim ond a brwsiad lleiaf welsoch chi erioed". Yn wir mewn potel fach fach a garia ym mhoced ei wasgod potel lai o’r hanner na photel aspirin, a brynir mewn siop gyffredin bydd digon o eli i roi triniaeth i ddeg ar hugain o bobl a ddaw ato ar ddydd mercher.

O fewn tair i chwech wythnos ar ol y driniaeth bydd y ddafad yn disgyn ymaith. Dibyna yr amser ar faint y ddafad ac ar ba ran o’r corff y mae. "I bawb a ddaeth mewn pryd ac a ddilynodd fy ngyfarddwyddiadau" meddai Owen Griffith"" ni fethodd y driniaeth".

Yn gyfangwbl y mae cryn ddwsin gwahanol fathau o’r defaid. Dadwreiddiodd Owen Griffith un cymaint a wyneb cwpan de a daw ar draws rhai cymaint a phisyn coron yn gyffredin iawn.

Y mae wedi gwella pobl dros eu 90 oed o’r anhwylder hwn ac fe wellhaodd rai oedd yn ceisio meddyginiaeth yn ysbytai gorau’r  wlad.

Nid yw’r meddygon yn cydnabod fod neb fel Owen Griffith sydd heb gymhwyso ei hun yn feddyg ond er adeg ei ewythr gall y bobl sydd yn cwyno oddi wrth y ddafad wyllt ac yn cael triniaeth ganddo dderbyn tal yswiriant. Mewn amryw o chwareli yn Arfon hefyd mae " cronfa dafad wyllt"  y chwarelwyr yn cyfrannu bob wythnos er mwyn rhoi cydnabyddiaeth i’r "meddyg pan fo un ohonynt ynderbyn triniaeth.

Ni fydd Owen Griffith yn codi tal ar neb wrth sgwrs, fe ddibynna ar ewyllys da ac yn ardal Llyn fe adroddir fel y rhoes yr ewyllys da ym mhoced llawer un i fynd adref yn yr oes gyfyng a fu.

Casglu hen gynghorion at wahanol anhwylderau fu un o brif ddiddordebau Owen Griffith erioed. Cafodd un cynghor gan hen frawd rywdro sut i gael blew i dyfu ar geffyl a oedd wedi anafu. Ond aeth y cynghor hwnnw i ebargofaint, ni roes mohono ar bapur. Efallai y buasai’r cynghor hwnnw yn tyfu gwellt, pwy a wyr?.

Aeth y cynghor hwnnw yn angof a daw hyn a ni at gwestiwn sy’n blino llawerodd y byd y ddyddiau hyn. A oes perygl i gyfrinach y ddafad wyllt fynd i ffordd yr holl ddaear hefyd? Meddai Owen Griffith "Pan fydd pobl yn gofyn fydd y gyfrinach yn mynd pan fyddai yn mynd, byddaf bob amser yn ateb; Tydw’i ddim yn bwriadu mynd am sbel".

Ond yr ateb pendant yw hwn: Y mae y gyfrinach yn ddiogel. Bydd yn parhau yn y teulu ar ei ol ef.

Diolch yn fawr iawn i Mrs J M Hughes Jones, am fenthyg ei llyfr teulu.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com