Tyn
Fron Rhiw,
Rhagfyr
12 1963.
Annwyl
Gyfaill,
Dyma fi yn cael y fraint o sefyll o flaen yr hen dresal y
bore hwn eto, yr hen gloc yn tipian fel y clywaist ef lawer tro.
Newydd ceisio chwarae yr hen don ‘Deganwy’ a ‘Cwmanedd’
(Os edrych i’r dwyrain draw) o fy mlaen mae darlun o’r
diweddar Tom Nefyn a’i lygaid fel tae yn tremio o
dragwyddoldeb yn sylldremu, eto’n fyw. Bore gwener daeth O
Mindon ac O Ty Ucha i mewn ac fe’m rhwystrwyd rhag ysgrifennu,
trio eto heddiw mae’r ddau yn gweithio ar y ffordd. Maddau i
mi os y gwnei am fod mor hir yn gyrru atat, rhyw oedi heb reswm,
derbyniais dy lythyr a’r darluniau, diolch yn fawr. Bu’r
tywydd yn oerllyd a gwlyb drwy’r haf, dwyrain oer ers dyrnodie,
cymylog ac iasol. Nis gwn faint o hanes yr ardal yma wyt yn
wybod amal i hen bererin wedi croesi’r ffin, Jane Ty Croes
Bach yn un, mae ei lle yn wag, a Billi Mawr Brenin y pentref,
Evan Bryn Morfa wedi bod yn wael iawn a W Nicolas yn yr ysbyty
yn gwella o thrombosis. Mae Meri Tyddyn Hammer yn Gallt y Sil
Caernarfon, yn tynnu at y terfyn dwi yn ofni, cael strocs yn aml,
Tom Post ac Evan Shop wedi bod yn yr ysbyty a Capt Williams Bryn
Meillion, dyna’r brasion o’r pethau annifyr sydd wedi digwydd.
William
Orwig yn cario’r post ochr yr eglwys Rhiw a gweithio yn Ty
Rhos y prynhawn efo rhyw Sacsonyn Mr Smith.
Bum
yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yr oeddwn mor unig a bran
mynydd yno. Bydd Isaac yn galw yn weddol aml ar y sabbathau am
ychydig mae yn bur brysur arno mae’n siwr, mae o fel Abram tad
y genedl gymreig sydd i ddod. Daeth bwlch bridd Orwig i lawr yn
Ty Rhos gelli feddwl yr olwg oedd arno. Bum yn y
diolchgarwch Eglwys Llanfihangel Bachellaeth eleni lle y
dechreuodd Howell Harris ar ben rhyw garreg, bron nad oeddwn yn
ei glywed, cefais fodlonrwydd mawr. Yr oedd y llais yn galw ers
40 mlynedd.
Da
gennyf fod mewn gwaith yma, mae pawb ar i fyny yn Tyn Fron.
Byddaf yn dal i ymladd efo harmoniwm o hyd, weithiau tan y bore,
fel pan oeddyt yma , byddaf yn ceisio chwarae yn Tan y Foel
weithiau pan fydd pethau yn wan a R Griffith yn cyfansoddi o’m
blaen, rhyngom ein dau fydd y safon o ochr y byd i farnu ddim
uchaf.
Mae
gwyl y bydd Satan yn sylw mawr wrth y drws, Gwyl Geni yw i fod,
mae gennyf ysgol sul wedi cynnyddu yn ddiweddar 19 ar brydie to
newydd i gyd, anrhydedd o fraint yw cael arwain y rhain, byddant
yn canu’n rhyfeddol weithiau ( gadewch i blnat bach ) .
Terfynaf
i ti , Tangnefedd i ti,
G Jones Cofion goreu oddiwrth bawb yma.
Bore
mawrth Rhagfyr 17.
Wedi
gorffen ysgrifennu i ti methais a chael amlen i hedfan, cefais
un gan Anne Tal Fan do yn wir cofiwch, roedd yno res o gathod yn
symud wrth eu henwau. Tywydd oerllyd yma ers tro gwynt y dwyrain
yn pigellu yn iasol dan y croen. Rhoddodd Meri Tyddyn Morthwyl
ei chryman ar y pared nos wener, ni ddaw mawyach hyd lon Llan.
Bum yn ei angladd ddoe yn Llan Rhiw
(ar y degfed dydd o Fai dechreuodd ddal ei thafod) wedi
cyrraedd pen y dalar (Ragluniaeth fawr y nef mor ryfedd yw)
W
Hughes yn yr ysbyty yn Bangor dan archwiliad, a Tom Post rhaid
iddo ef orwedd am tua mis neu ragor, helynt yn ei goes. Capt
Williams wedi dod adref.
Terfynaf heddiw eto
Gan
ddymuno Dedwyddwych a Thangnefedd hyd byth G Jones.