Awst
25 1961 am hanner wedi naw Tyn Fron.
Annwyl
Gyfaill,
Wedi meddwl ganwaith, ai thaflu heibio tan drannoeth ond
nis ddaeth y trannoeth hwnnw tan heddiw. Bore digon hegar y
gwynt o’r gorllewin a Phorth Llawenan yn frith o’n blaen,
Penarfynydd fel pe yn cofio atat a minnau yn eistedd ar y stol,
a’r papur ar yr hen harmoniwm fu gynt yn moli yn wesla, gyda
llu o bererinion sydd wedi mynd, yn llu mawr bellach. Bum yn
ceisio cael ganddi ganu bore ma yr hen don anfarwol ‘Bryniau
Casia’ y gwr wrth
ffynnon Jacob eisteddai gynt i law, tria dro arni pan gei gyfle.
Diolch yn fawr am dy lythyr a’r cerdyn Nadolig, gobeithiaf y
gwnei faddau i mi am fod mor hir heb anfon gair i ti nid wyt
allan o go chwaith. Mae’n falch gennyf dy fod yn bwriadu dod
yn ol cyn hir, mae rhai tebyg i ti yn brin yn yr ardal hon, nid
wyf yn galaru ond dyna’r gwir mae Cymru fel yr Israeliaid yn
Babylon wedi ymwerthu fel hwythau mewn masnach a phleser ac
anghofio gorffennol a thraddodiad, mae’r Deml wedi ei gadael
a’r menyg gwyn wedi mynd. Ond mae peryg y daw rhyw Cyrus Brenin Persia eto i ddinistrio eilun y
Cymry.
Yr
oeddwn yn sefyll rhyw nos sul spel cyn y Nadolig o flaen y
gweithdy ac yn meddwl y gallwn dderbyn cerdyn gennyt, er ei fod
yn bell cyn yr wyl, bore drannoeth pan oeddwn yn sefyll yn union
yn yr un man, daeth yr Hen Domos a’r cerdyn im llaw,
brawychais braidd. Mae y greadigaeth i gyd yn ddirgelwch
tragwyddol i mi , credaf fod llawer o bosibiliadau yn ein hymyl
yn llawer mwy syml nac ymffrost blentynaidd mynd i’r gofod (y
babis) Ni ddaw ac ni ddaeth trefn ar fyd trwy ymffrost ffol
dynion (os efe gaiff ei lle)
Mae’n
dda gennyf dy fod wedi crwydro cymaint ar y rhan yna o’r byd,
gall cyfoeth ddiflannu, ond bydd yr hyn a welaist gennyt tra
pery dy gof.
Mae’n
debyg dy fod yn gwybod farw pawb sydd wedi mynd. Nid oes
diddordeb mewn newyddion oni byddent yn syfrdannol neu drist a
drwg. Mary Hughes Ty Rhyd yw’r diweddaf fu farw yma hyd y gwn
i , hyd y bore hwn.
Roedd
Ras Cwn yn y Rhiw yma dydd mawrth. Mae Evan Ty Croes yn cael ei
bensiwn rwan ac yn byw yn Ty Croes a’r tir gan Meillionydd,
Sian ddim yn dda a Evan yn giami weithiau ar top a weithiau ar y gwaelod. Mae
Rolant Ty Rhos yn ffarmio Ty Rhos a Tyddyn Meirion a gwag yw’r
ty. Saeson wedi prynu Conion, chwith ar ol yr hen Sion wedi tewi,
William Tyn Llidiart a’r wraig adref am saib er tro,
hwylio’n ol mis nesa, digon trist. William Rhydy bengan wedi
priodi Jennie Penrallt ac yn byw yn Fryndol, D Williams Eifion
wedi mynd yn ddigon bregus, wyt ti’n cofio hi yn eistedd ar ei
thin rhyw dro ar balmant y dref wrth fynd am drip, cof melys am
y trip i Dolwar Fach a phen y Wyddfa, efallai cawn fynd eto.
Mae’r
ddawns wedi edwino a marw bron yn y Rhiw ac nid oes mynd ar ddim
arall yn yr hall. Mae Isaac Morris wedi traforio llawer yn Ael y
Bryn mae wedi altro llawer hefyd, mae ganddo fab yn awr, tebyg
iawn i’w dad.
W
Orwig ar yr un gwaith yn Bryn Awel, bob tro daw adref am ei
wyliau mae ganddo waith am flwyddyn, dringodd unwaith i ben y
stabal a syrthiodd anafodd beth, mi fyddai yn credu y bydd yr
iaith heb fod yn bur o dipyn weithiau. Mae Carreg Lefain wedi
altro yn edrych yn dda, Jones Bros fu’n gweithio yno, fel
gweli mynd ymlaen rhywbeth yn debyg y mae yma o hyd, ond bod yr
ardal wedi mynd yn fwy marwaidd o lawer, visitors, coupons,
televisions Amen.
Mae’n
dda gennyf dy fod mewn iechyd fel finnau yr wyf yn cael pensiwn
65 yn awr, ond yn gweithio yr wyf ni chaf heddwch. Mae Mary yn
gweithio mewn caffi yn
Pwllheli yn tynnu am ddeunaw, mae Wil ac Anne mewn hwyl yn
gwerthu llaeth bob dydd efo fan hyd ben Rhiw.
Terfynaf
yn awr gan ddisgwyl cwrdd cyn hir.
G Jones.