Tyn
Fron, Rhiw.
Chwe
4 1959.
Annwyl
Gyfaill.
Dyma fi yn ceisio anfon gair atat, gan ddisgwyl dy fod yn
dal mewn iechyd fel pawb yma, drwg iawn gennyf am yr oedi
ofnadwy sydd wedi bod ar fy rhan, ond er hynny nid wyt allan o
go yn yr wythnos na dydd mae’n debyg, diolch yn fawr i ti am y
cofio Nadolig. Dyna ni wedi dechrau blwyddyn newydd unwaith yn
rhagor, mae amser yn newid pob peth, mae Cymru yn dlotach ar ol
yr anfarwol T Nefyn Williams, a dyma yr hen R Evans Penarfynydd
( wedi rhoi ei gryman ar y pared) ers ychydig ddyddiau yn
ddirybydd, mae gennyf chwith ar eu holau, anodd peidio wylo
weithiau yn yr hen fyd yma, wrth feddwl ni ddaw mwyach tros ei
grinllwyd lan, wedi colli ei golwg fel y gog yn hedeg i ffwrdd
tros mor. Ond aros mae y mynyddau mawr, mae’r Ynysoedd
Gwylanod ac Enlli yn yr un man yn union a phan est oddi yma.
Mae’n debyg dy fod yn cael dipyn o hanes y Rhiw yma weithiau,
rhyw dipyn o sodom sydd yma o hyd, ceisio tynnu safon yr efengyl
in siwtio ni, pob peth yn iawn. Rhywbeth tebyg ydi hanes y
capelau o hyd, ar y sul ceir hwyl yn son am rhasus ac ymryson.
Ychydig
newyddion rwan,
Mwy
o law er mis Mehefin nac a welais erioed, sychu y dyddiau yma,
gwynt dwyrain. Defaid yn marw yn lluoedd hyd y wlad wedi cael
clwy. William Orwig adref am saib y dyddiau yma, Lizzie wedi
torri i braich ac yn gwella. Yn Lerpwl mae J Roberts Tyn
Llidiart wedi gorffan cwrs ‘Electric treatment’ disgwyl dod
adref yn fuan mae’n siwr. Ismael Jones Trip wedi bwriadu byw
yn Hafan, Glyn a Beryl wedi mynd oddi yno. Leila yn Edren, Isaac
a’r wraig wedi bod yn Ael Bryn dydd sul. Hugh Ty Croes Bach yn
byw yn Awelon. Evan Williams Ty Croes Bach mewn iechyd gwell nac
y bu ers blynyddoedd medda fo. Wil Ty Hywel wedi prynu Bryn
Hyfryd, ac wedi gwneud llawer o waith ar ei du mewn. Ond heb
briodi eto mae Wil wedi prynu chwalwr tail, o drugaredd i sbario
chwalu. Mae Mary yn dal i geisio dysgu chwarae piano, mae wrthi
rwan piti na fuaset yn ei chlywed yn y siamber mae hi wrthi
‘Nefol Addfwyn Oen’ mae hi yn ganu rwan, disgwyl bydd hi yn
ei chwarae yn y deml wedi mi fynd oddiyma, dyna’m bwriad yn
cymell arni, ond siomedig ydi pethau yn aml, ond disgwyl y goreu.
G
Jones Foel wedi prynu Austin Seven, gweithio yn Fourcrosses,
Austin bach yn well na char neb yn mynd dim fel gwyddost. R
Griffith Seaview yn ddigon bregus, ond yn dal ati. W Parry
Bodwyddog gwneud dim ond llusgo tua’r ty. Owen Evans Pen Nebo
wedi marw. William Penbwlch wedi cymeryd Penbwlch. Carrol
Penbwlch yn gweithio yn Swyddfa lafur yn Pwllheli. Beti Min Don
yn Coleg Bangor. Ann Min Don ddim yn dda mynd i Fangor am rhyw
driniaeth. Daniel yn dal fel ebol, Ann Blawdty yn ei gwely o hyd,
Robert efo’i ddwy ffon crudcymalau mawr.
Gobeithio
na weli fy llythyr fel Galarnad Jeremiah, yr wyf yn ddigon hapus,
digon o waith a byddaf yn cael digon o gysur wrth geisio cael
cerddoriaeth allan o’r hen harmoniwm wesla gynt, mae hi gennyf
yn y gweithdy.
Os
bum i flwyddyn heb yrru gair i ti, gobeithio y caf air yn ol yng
nghynt ac na wnei dalu yn o fy haeddiant i mi.
G
Jones.