Tyn
Fron, Rhiw.
Medi
1957
Annwyl
Gyfaill,
Dyma fi wedi hir oedi yn ceisio ysgrifennu gair atat,
drwg gennyf fod mor hir heb wneud. Bore llun bore niwlog ydi yma
heddiw, llawer o law sydd yma eleni mwy nag arfer drwy yr haf.
Ar fwrdd yr harmoniwm oedd yn Capel Wesla gynt yr wyf yn
ysgrifennu, bu llawer o’r hen seintiau yn moli yn ei swn, ac y
mae yn dal i seinio o hyd, byddaf yn ceisio cael cerddoriaeth o
honni bob dydd yn ei swn bydd y diafol yn ffoi, dyma rai o’r
nodau fydd ar y
tanau bob bore ‘ Dduw mawr pa beth a welaf draw. Tria dro arni
pan cei hwn, diolch yn fawr am dy lythyr da gennyf ddeall dy fod
mewn iechyd a gwaith ac o bob peth dy fod yn troi yn y pethau
goreu dal ati mae yn job fawr. Drwg gennyf ddweud i lawr mae
afon a nod ardal y Rhiw, Addoldai yn dal i wagio y Neuadd yn
eiddo Satan sasiwn y traed ball danon bob pythefnos diod a
rubish bore
drannoeth yw’r effaith a mwy trist na hynny y blaenoriaid
a’i tebyg yn gymysg a’r baw, does dim o’i le heddiw mae
popeth yn iawn you content sound the alarm (?) Drwg gennyf
ddweud hyn am ein hardal enedigol, ond dyna’r gwir, fel
gwyddost problem anodd dal ati, Cymru rhydd, Cymru wen a Chymru
Gristnogol yw’r nod ond pa le pa fodd ddechreuaf ond yn
Jerusalem. Rhyw ddisgwyl gweld yr had yn dod i ffrwyth yn rhy
fuan yr ydym, un yn hau arall yn medi, felly mi ddaliwn ni ati.
Mae’r
hen harmoniwm capel Wesla gennyf yn y fan yma nawr byddaf yn
cael cysur mawr wrth geisio ei chwarae bob dydd, mae’n debyg
mae mai marcia go isel a gaf ar safon y ddaear o farw. Yr wyf
mewn iechyd reit dda erbyn hyn a digon o waith ac mae pawb arall
reit dda. Mae W Jones Tyddyn Meirion wedi marw fel gwyddost
mae’n siwr a’r hen dyddyn ar werth, trist oedd ei unigrwydd
yn y diwedd.
Nancy
Jones Tyn Cae yn yr ysbyty, Radiwm, yn Lerpwl ers rhai dyddiau,
ddim yn dda. Richard Gilfach yna, tad Mrs Jones Foel, dim yn dda.
Anne Jones Pwllmelyn yn Bryn Beryl gwella gronyn.
Elsie
Bryntirion wedi priodi ac yn byw yn Penrhyndeudraeth hefyd Elin
heb briodi. Gwelais E Williams Ty Croes y bore ma yn gloff fel
ci, Sian ddim yn dda a Huw am briodi medda nhw. John Noddfa wedi
cael damwain angeuol yn y South efo motor beic ei gladdu dydd
sadwrn. Ifor Trip yn byw yn Terfyn Isa dau o blant ganddo. Mrs
Thomas wedi ymfudo i Lithfaen a Moses wedi prynu Terfyn Duwcs
annwyl.. William Orwig adref am wythnos o wyliau mynd i ffwrdd
heddiw. Ni welais Isaac Morris ers tua tair wythnos, mae mewn
hwyl dda wedi prynu Austin Seven gan Eurwyn Trip. Gwelais Layla
dydd Sadwrn mewn hwyl yn gweithio mewn siop yn dre, disgwyl
Richard adref yn fuan.
H
Williams Tyn Mynydd wedi codi bwthyn helaeth ar sylfaeni Ty
Maria. Mae gwely Maria a’i chrud wedi mynd i San Ffagan, awn
yno i’w gweld pan ddoi yn ol, yr hen greadures gallwn ddweud
amdani ‘Ar ol gofidiau dyrus daith, gorffwys mae yn Wesla.
Rwyf
am ddirwyn y llith i ben rwan mae un peth heb ei ddweud wrthyt
bum yn Rhoshirwaun yn y Gymanfa Bregethu ac yr oedd Robin
Williams, Parch R Williams yno yn pregethu, mab y diweddar Jerry
Williams Ty’r Efail, bachgen ieuanc ac argyhoeddiad ganddo .
Terfynaf
yn awr gan ddymuno hapusrwydd a llawenydd i ti.
Cofion
G Jones