Tyn
Fron,
Rhiw,
Medi 27 1956.
Annwyl
Gyfaill,
Ar
ol te diwrnod ysgythrog niwlog a gwlyb a’r haul bron a machlud,
yn yr hen gwt wyf yn ceisio ysgrifennu gair atat, a’r hen
deulu ar y mur yn edrych arnaf a bron a dweud eu bod yn cofio
atat. Yr wyf wedi bod wrthi yn ceisio canu yr hen don
‘Eifionydd’ rwan ar yr harmoniwm rho dro arni wedi ti
dderbyn hwn, buaswn wedi ysgrifennu atat ers talwm ond nis
gallwn gan fod y llaw dde yn rhy grynedig ar ol gwaeledd blin a
maith, ond yr wyf wedi gwella yn go lew erbyn hyn ac yn dechrau
gweithio ychydig, diolch yn fawr i ti am dy lythyr yr oeddwn yn
fy ngwely y pryd hynny, da iawn gennyf
dy fod mewn iechyd a mewn gwaith, cefais air unwaith neu
ddwy gan W Roberts Tyn Llidiart yr oedd yn holi amdanat, nid yw
yr hen air yn wir i gyd ( allan o olwg allan o go ). Ni fum mewn
Eisteddfod na thrip eleni, nid oes fawr o newydd ond bod amryw
wedi marw, fel y gwyddost yn siwr.
Mae
Catherine Bryn Awel yn cael dod o’r ysbyty heddyw i dy Jinni
ac yn gwella. Mae M Hughes Shop Newydd adref rwan hefyd ers tua
tair wythnos ond yn ddigon gwan wedi bod yn yr ysbyty am y 10
fed tro gyd ( mae
hi’n wydyn fel cath ) Mae I Morris wedi tacluso llawer ar Ael
y Bryn yr ha yma, gwelais ef tua’r Sul mewn hwyl arferol.
Dal
crancod mae G J Foel rwan a’r rheini yn fawr myn diawl. Jones
Bros yn codi ty yn Aberdaron, ac amryw yn gweithio yn y gwaith
dwr o Gwm Strallyn i Ben Rhiw, bobol bach.
Mae
E williams wedi rhoi droed dros y tresi yn Wesla, paid a son ! W
John Tyn Fron wedi weirio mynydd dwy ochr i’r ffordd rwan, mae
o reit braf ‘free trade’. Mi fu yn anodd iawn torri’r yd
eleni, glawogydd trymaf yn oes neb sydd yn fyw mewn byr amser,
ond mae y rhan fwyaf wedi ei gael erbyn hyn ond Rolant. Ann
Griffiths Shop Pencaerau yn yr ysbyty wedi llosgi choes a hwnnw
wedi mynd yn septic medda nhw. Wel Edgar mae’n rhaid i mi ddod
at y terfyn weldi, gobeithiaf y cawn weld ein gilydd ryw ddydd
bron na chlywn i di yn canu ‘Crimond’ ‘Ar for tymestlog’.
Terfynaf
nawr yng ngeiriau John Ceiriog Hughes ‘Ti wyddost beth ddywed
fy nghalon’
Ydwyf
yn barchus iawn dy ffrind G Jones.