Ion
16 1955
Tyn
Fron Rhiw
Annwyl
Gyfaill,
Sut wyt ti ers talwm, mae swn y traed wedi tewi ar y
mynydd, ond nid yw’r hen air yn wir allan o olwg allan o go.
Dylaswn wedi ysgrifennu ymhell cyn hyn, ond dyma fi yn ceisio
anfon ychydig o linellau i ti o’r diwedd yn eistedd o flaen y
tan yn y gadair yn yr hen weithdy, Elfed ar ddrws y cwpwrdd
darlun mam a nhad ar y pared a’r hen ddraig yn hofran fel pe
be yn anfon ei gyfarchion i ti i gyd. Bore llun reit braf ydyw
heddiw, bum yn Ael y Bryn ddoe da iawn oedd gennyf weld y drws
yn agored a than ar yr aelwyd, roedd Isaac adref a Layla a bron
na chlwyn lais yn canu Crimond (Ar For tymestlog) Derbyniais dy
lythyr ac roeddwn yn falch iawn ohonno.
Wel
dyma ni wedi dechrau blwyddyn newydd eto, rhywbeth yn debyg ydi
popeth yma o hyd, mi fuo yma lawer o firi tua’r Nadolig, fel
pethau plant, y Whist Drive o fro’r estron a’r darluniau byw
yn y neuadd sydd yn mynd yr awr hon.
Mae
llawer o farwolaethau sydyn hyd y cwmpasoedd yma. Mae Catherine
Jane Bryneithin wedi mynd i’r cor at Owain Nathan. Bu Owain yn
gwneud cor ar y bwrdd rhyw dro efo’r llestri, pot jam oedd
Catrin Jane a Owain efo pric yn arwain , dos di i’r cefn
Catrin medda fo.
Wel
mae yma waith yn dal yn o dda, bum yn Ty Canol Mary Anne yn
gwneud deep litter yr wythnos ddiweddaf. Mae
Mae Jones Bros yn gweithio yn Meillionydd Fawr ers talwm
wedi gwneud beudy a shed yn y cae dan yr ardd. Mae Evan
Tyn y Gamfa wedi marw.
Mae Gwynfor Lon Las wedi bod yn tynnu tonsils ac yn edrych yn
ddigon drwg. Mae Rolant Ty Rhos wedi priodi Sydna Lon Las ac yn
byw yn Ty Rhos. Mae W Nicolas yn byw yn Penponcyn, mae chwaer
Sydna Tyn Mynydd yn byw yn Terfyn, wedi dod o’r Sarn a Evan Ty
Croes yn grudcymalau i gyd ond i geg.
M
E Evans a Maggie Roberts Penmachno yn cynnal cyfarfod yma
ychydig cyn y Nadolig, gwerth eu clywed.
Pen
Wyddfa mae’r trip yna wedi argraffu yn fawr arnaf rhyw firi di
niwed a mawl ar ben mynydd, yr hen Glanrafon yn dringo a’i het
ar ei goryn ac yn ei gwman ?
Wel
fachgan maddau i mi am gymysgfa fel hyn mae tipyn o wamalu mewn
hen ddyn triugain oed. Da gennyf ddeall dy fod mewn gwaith ac
iechyd a gobeithio medri fwynhau dy hun yna. Mae y bardd R
Williams Parry wedi marw a’i gladdu.
Terfynaf
yn awr gan anfon fy nghofion atat, Bendith arnat.
Ydwyf G Jones.