
Tyn Lon Fawr
Tachwedd 9
1942.
Annwyl Frawd a Chwaer,
Nid wyf yn cofio i mi fod mor hir heb
ysgrifennu i chwi a fina yn iach a fy esgyrn i gyd yn gyfa,
gobeithio eich bod chwithau i gyd yr un fath. Mi fuom yn brysur iawn
efo’r cynhaeaf yd, daeth y tywydd yn wlawog iawn i wneud llawer o
rwystr a mwy o waith, gorfod mynd i’w droi a’i symud lawer gwaith,
ond erbyn hyn yr wyf wedi ei gael ac wedi ei ddyrnu. Bu Griff Tyn
Lon yn lwcus iawn i gael i gyd cyn i’r tywydd droi, a finnau a Tyn
Llidiart ar ol mi fuom mi mewn pryder yn meddwl beth wnawn am bobl i
ddyrnu, ond mi ddaeth yma 16 heb i mi eu gofyn, ond pawb yn barod,
ac mi oedd rhai eraill wedi meddwl am gael dod ond fod ei hamser
gweithio yn y gwaith yn ei drysu. Cefais yd yn dda ac heb fod ddim
gwaeth ar ol bod allan yn y tywydd. Y gwaith mwyaf wedyn oedd stopio
y llygod i lofft y gegin, yr oeddwn wedi bod yn cau pob lle efo
cement ac mi ddaethant wedyn o dan set y ffenest a rhois wenwyn yno
o flaen y cement ac maent wedi cael eu trechu rwan. Mi fuom yn helpu
efo gwneud bwyd i bobl y dyrnu yn Tyn Lon, Tyn Rhos, Groeslon a
Llawenan. Wedyn daeth y tynnu tatws ac mae hynny wedi gorffen rwan.
Mi fuo dyn yn edrych ar bob lle faint oedd o datws wedi rhoi, ac yn
dweud mai chwarter acer wnai fy lle fi. Yr wyf wedi cael papur eto
yn gofyn i mi aredig tair acer a chwarter a rhoi hanner yn datws,
fel gwelwch fy mod am gael digon o waith a bwyd, mae yr yd yn braf
iawn i’r ieir. Mae yn newid mawr i mi rwan yn bwyta margarine a
prynu llefrith, y fuwch wedi mynd yn hesp a disgwyl llo bach at y
Nadolig. Mae saith o gathod yn disgwyl am laeth bob dydd a Mickey,
mae gan y gath ddu dair cath ddu a’r llall gath ddu ac un lliwiau
neis ac mae yn dal llygod mawr, bydd tair ambell i fore wedi eu
lladd yn y sgubor ac un neu ddwy bob bore, maent yn werth eu cadw (y
cathod felly).
Yr wyf wedi bod mor hir heb ysgrifennu nes yr wyf bron ac anghofio
beth i’w ddweud. Mae llawer o bol o’r gwaith yma wedi mynd i ffwrdd,
pobl oedd wedi dod i aros i’r Hostel (Llwynfor). Daeth gwraig un o’r
dynion oedd yno yn aros yno efo dau o blant i edrych ar ol y lle
(Saeson) dynes neis iawn yr olwg yn baent a phowder i gyd, ac mae hi
wedi gadael y lle fynd yn fudur a di drefn nes aeth y bobl oddiyno a
bu raid i hithau fynd hefyd a chaed yn eu bedroom 19 o sheets oddiar
y gwelyau wedi eu rhoi yn un tocyn budur, a phan aed i’w symud yr
oeddynt wedi glynnu wrth y dressing table a chynron yn berwi
oddiwrthynt a bu raid cymeryd picwach i’w cario allan a lot o
cushions wedi pydru a chynhroni. Rwan mae’n rhaid chwilio am bobl
newydd yno. Mi oedd yr holl dyniau cookio a sospenni wedi eu llosgi
a byth yn golchi yr un, mae Griff Tyn Lon wedi gweld y lle a’r
cynron. Mae son eu bod am weithio i lawr yn gwaith Nant ac maent yn
gweithio mewn level yn ymyl y stage bob dydd. Mae Mr Wills a’r hogan
bach briododd llynedd wedi mynd i ffwrdd i Cornwall a Mr Perry
ffrindiau gwraig Lon Las wedi mynd. Mae Dick Lon Las yn Derby rwan
ran a mae Lizzie a Gwynfor wedi mynd yno am wythnos o holidays rwan.
Mae Doreen yn Abersoch ac wedi mynd mor dal a May. Wil Tryfan wedi
dechrau gweithio yn y gwaith yma a Katie yn ymyl cael ei gwely am y
5ed plentyn. Wel rhaid i mi fynd am ginio gael i mi fynd i Rhiw i
bostio. Cofion cynnes atoch i gyd oddiwth Catrin – cofiwch fi at
Ivor.
~~~~~~~
Chwefror 1 1943.
Annwyl Frawd a Chwaer,
Daeth y parcel im llaw yn gyfa
a thaclus iawn, a mwy na diolch am y gape, yr wyf wedi gwisgo llawer
arni yn barod. Diolch byth i Ivor amdani, nid wyf wedi dosbarthu y
lleill eto, ond fe wn y bydd y cwbl yn dderbyniol iawn, rhwng fod
pob peth yn ddrud a coupons yn brin, mae yn anhawdd cael llawer o
bethau am arian, a diolch am y papur hefyd yr oeddwn wedi clywed am
y raid, a clywais a gwelais hanes y raid arall yn y dydd a colli
cymaint o blant a phobl yn yr ysgol, ac yn holi beth oedd enw y lle,
mor agos atoch. Mae pethau yn digwydd a chithau yn cael eich cadw o
hyd, gobeithio fod y diwedd yn ymyl ac na raid i Ivor fynd i ffwrdd.
Mae hogyn i ferch Sion Plas Coch wedi mynd am Africa rwan ac mae
hogyn Ellen Bodgrigyn wedi cyrraedd North Africa cyn y Nadolig. Mae
yma lawer o genod wedi gorfod mynd at ryw waith i’r airforce neu at
rywbeth arall a pob un yn leicio eu lle wedi mynd, mae rhai pobl
mewn helynt rwan eisiau morwyn. Mae yma lawer tanio rownd y coast
yma. Rhai wedi mynd allan i’r mor heb danio a mae un wedi mynd rhwng
y cerrig yn sownd ac heb danio tua Trwyn Penrhyn, a llawer o goed
yno a fedar neb fentro yno i nol coed rhag ofn na chaent ei bywyd.
Mae yma weithio mawr ar y mynydd yn ymyl Clip Bach a building mawr
wedi ei godi yno, ac nid oes ond dau wedi ei gwneud i’r un pwrpas yn
Ynys Prydain nid oes wybod gan neb i beth y mae yn da. Maent yn
gweithio ar y sul run fath a mae lorry’s yn mynd a pethau i fyny
ato. Wedi gwneud adwy a ffordd o dop lon comis, mae dynion yn
gweithio ar dywydd gwlawog ofnadwy. Mae pob man yn wlyb, mae yn
bwrrw yn drwm bob dydd a nos a fedar neb weithio ar y tir yn un man
ond tractors yn aredig tir glas, ac mewn rhai mannau rhaid stopio
cyn gorffen cae achos ei fod yn rhy wlyb. Ni welais erioed gymaint o
ddwr o gwmpas y ty yma, ond ni ddaeth dim i fewn yn ymyl y cloc ar
ol i ti gau, ond mae yn mynnu dwad rhwng y teils yn y llawr, nid wyf
wedi bod mor gartrefol ers blynyddoedd, mae y tywydd yn fy nghadw yn
y ty, ond hynny raid mi wneud efo’r gwaith ac mi wyf wedi cael mwy o
annwyd nag erioed. Nid wyf eto wedi diolch yn neullduol am y defnydd
uwd, diolch lawer iawn amdano ni welais ddim ers misoedd mewn box,
ac mae y points rwan yn gwneud pethau yn waeth i rywun fel fi, dim
ond un llyfr, ac mae y siopwyr yma yn hynod o gwta efo ei petha pan
ddaw petha i fewn, maent yn gofalu am roi a chadw i ryw rai, ar
lleill yn cael dim. Ond bydd chwith iddynt pan welir heb ration, mi
gofiwn i gyd yr adeg honno sut manet wedi bod efo ni rwan, ac mi
gawn ninnau fynd i lle y mynnwn ni. Anghofiais ddweud fod Wil Tryfan
wedi mynd at y soldiers i ymyl Sheffield.
~~~~~~~
Mawrth 10
1943
Annwyl Frawd a Chwaer,
Nid oeddwn wedi clywed am y
raid nes cael eich llythyr, diolch eto y tro hwn eich bod wedi cael
eich cadw. Wel arswydus iawn oedd y ddamwain fawr yn y tube, yr wyf
wedi gweld yr hanes yn yr Herald wythnos yma. Byddaf yn methu meddwl
sut mae neb yn medru ateb efo’r raids yna, byddaf yn meddwl y buasai
twrrw unwaith yn ddigon i fy ngorffen am byth. Pan fydda twrrw y
planes yn y nos yn bomio yr ynysoedd yn y dechrau mi fyddwn yn crynu
i gyd, a hynny byth er pan gefais fy nychryn efo’r ddaeargryn, ond
yr wyf yn well o lawer iawn rwan hefyd. Gobeithio na fydd raid i
wneud dim a beth amdanat ti? Mae Mr and Mrs Roberts ddaeth i Cadlan
Isaf mewn oryder garw, rhaid iddo ef fynd i gael ei Medical exam
dydd gwener nesaf i Gaernarfon. Mae wedi bod yn rhyw bwyllgor
amaethwyr a rhywun yn dweud wrtho y cawsai ei alw i fyny y bydd
iddynt roddi dyn mewn tipyn o oed yn Cadlan yn ei le o, ond ni
wnaiff y dyn yma adael iddynt dynnu ei groen. Yr wyf yn meddwl ei
fod yn biti i Gyggi adael ei le cyn bod rhaid arno, yn meddwl pe bae
y rhyfel yn stopio fel mae pawb yn ddisgwyl, tybed fyddai yn hawdd
iddo gael lle yr un fath, ynte fel ar ol y rhyfel o’r blaen y bydd
petha, er fod llawer o siarad am hynny, ond dwn ni ddim oes paratoi
ai peidio heblaw siarad..
Mae Miss Hughes oedd yn yr ysgol yma pan oedd Trevor yno am briodi y
Pasg efo Griff, Ty Canol, ac am ddod ato ef a’i fam i Moelwyn View i
fyw. Yn Waenfawr yr oedd rwan, fe gollodd ei thad a mam mewn ychydig
i’w gilydd.
Mae newydd wedi dod i wraig James Parry, ei fod ar goll. Mae y llong
yr oedd yn gapten arni wedi sinkio rywle yn agos i Affrica, rhai o’r
criw wedi achub ac yntau yn missing yr amser honno pan oeddant yn
anfon, os na ddaw rhywbeth eto. Peth sobr iawn ydyw clywed newydd
fel hyn am yr hogia, wedi gofal a gwaoth mawr eu magu a’u dwyn i
fyny a chael ei taflu fel hyn. Mae Robert, Bryn Mawr wedi marw hefyd
yr wyf yn anfon yr Herald i ti weld yr hanes

Griff Tyn Lon Bach
Prynais wair gan Griff, yr oeddwn wedi mynd heb ddim i’r fuwch a’r
llo, ac mae Talafon wedi dod a fo yma, mae yn well gwair nag oedd
gennyf. Yr wyf wedi palu agos i hanner yr ardd, yr wyf wedi cael
papurau i ddeud faint i aredig ac eisiau i mi roi hanner acer o
datws. Mi oedd Griff Tyn Lon eisiau mi anfon yn ddistaw bach at ryw
Dr Alun Roberts sydd fel pen dyn y pwyllgor amaethyddol, deud wrtho
sut yr oedd arnaf, mor ddi help ac mor ddrud a anodd oedd cael neb i
dynnu tatws, a faint oedd fy oed. Mi anfonais a chefais atebiad
boddhaol yn dweud i mi beidio ei gadael dan chwarter acer ac am i mi
wneud fy ngoreu. Yr oeddwn wedi dweud fy mod wedi aredig yn unol a’r
gofynion ac mae y llythyr wedi ei gadw gennyf rhac ofn daw rhyw
wrach a llai o awdurdod ataf eto ac i fygwth drwg arnaf.
Mae Ty Briks yn ymyl Clip i’w weld oddi yma rwan, ac mae lorris yn
brysur gario stwff i wneud lon goncrid i fyny o lon Commis i fyny at
y Clip a pobl eraill yn prysur osod polion lectric i ddod tros y
Rhiw i Uwchmynydd. Nid ydynt wedi dod i’r caeau yma eto, ond maent
am ddod a lorry fawr yn cario y polion yma ac acw hyd y lon. Wel
brysiwch yma neu ni wyddoch y ffordd na lle bydd y lon!! Cofion
cynnes atoch i gyd yna oddiwrth Catrin.
~~~~~~~~