|
|
Llythyr o
Canada i Daniel Rowlands. Bangor PO, Saskatchewan, Canada. Mawrth. 11/1909. Daniel,
Rhiwlas,
Annwyl gyfaill; Llawer gawith er pan adewais yna yr wyf wedi
meddwl anfon gair atat, ond yn ddiweddar adnewyddwyd yr awydd pan gefais air
mewn llythyr o’r Waen yn dweud dy fod yn cofio ataf, ynghyd a’r Herald; a
dyma fi ati o’r diwedd gan obeithio dy fod yn iach fel ac yr wyf
finnau ac eithrio yr Influenza neu fel y gelwir ef yma Grip neu La
Grippe, yr wyf yn gwella hefyd. Dyma fath o englyn wnes heno. Dan
y Grip yr wyf un llipryn – a f’awen
Heb fywyd trychfilin: Afrwydd
darllenaf ryw lyfryn; Od
o ddihwyl y dyddiau hyn! Y llyfr yr
oeddwn yn geisio ei ddarllen oedd “ Cofiant Ben Bowen”. Ni ddarllenais am y
fath athrylith o’r blaen, ond gan dipyn o gur yn fy mhen nid hawdd oedd para i
ddarllen, a gwnes yr englyn uchod a dyma fi yn dechrau ysgrifennu heb wybod yn
iawn beth i’w ddweud. Fel yr wyt
yn gofio mae’n debyg yr oedd Abraham Maen Hir a minnau yn cychwyn gyda’n
gilydd. Bum i yn Nhalaith New York am yn agos i flwyddyn, a daethum yma; ym mhen
blwyddyn neu ddwy wedyn dechreuodd Abraham symud ac mae wedi crwydro cryn lawer,
yn California y mae yn awr ers tua dwy flynedd. Wedi i mi ddod yma bum yn
gweithio gyda’r hen sefydlwyr o gwmpas am ddwy flynedd, a dechreuais wedyn ar
yr ‘Homestead duties’, rhaid byw chwe mis o bob blwyddyn lawn 3 blynedd, ac
aredig 30 acer cyn y ceir gweithred gan y Llywodraeth am y fferm. Nid wyf eto
wedi apelio am weithred ond yr wyf ar dir i wneud unrhyw adeg. Digwyddais
gymeryd fferm mewn lle sydd erbyn hyn yn dod yn hynod o gyfleus, gan fod
rheilffordd newydd yn cael ei gweithio ar draws y cyfandir ac yn digwydd pasio
yma, mae y station a rhyw ddechrau tref neu bentref agosaf i mi o fewn hanner
milltir, ei henw yw Bangor. Ar y
cyntaf Basco oedd ei henw, ond cododd ychydig ohonnom ddeiseb i’w hanfon at y
cwmni gan awgrymu amryw eiriau Cymreig, a dewiswyd yr enw Bangor. Yr oedd gennym
o’r blaen 15 ac 20 milltir i’r trefi agosaf. Post office o fewn 3 milltir i
mi sef Llewelyn PO. Cwyd y
ffordd newydd hon werth y tir yma; tua dwy fil a hanner o ddoleri ydyw gwerth y
ffermydd (160 erw yr un) o gwmpas yma yn awr. Nid oes tir y Llywodraeth i gael
ffordd yma yn awr mae o fewn rhai ugeiniau o filldiroedd, mae ymfudwyr yn dod
yma fel llifeiriant – dechreua y llywodraeth osod telerau i lawr fel nas gall
pob math ddod yn awr fel y bu. Nid wyf yn
gwybod beth yw nifer y Cymry yn y Sefydliad hwn, gallwn dybio mai tua tri chant.
Y rhan fwyaf o Dde Amerig ( Patagonia) rhai o’r Taleithiau Unedig a Chymru ac
ychydig o Manitoba. Rhenir y Sefydliad i dair o ardaloedd a Llewelyn yn y canol,
Glyndwr i’r dwyrain a Bangor i’r de orllewin. Cynhelir achosion crefyddol
Cymraeg yn Glyndwr gan yr Annibynwyr ac yn Llewelyn a Bangor gan y MC. Bydd
cyrddau llenyddol bychan yn y tri lle bob gaeaf bob ryw 2 neu 3 wythnos. Eleni mae
cor meibion bychan wedi ei ffurfio yn Bangor. Cawsom Gyngherdd da yn Llewelyn
nos Gwyl Dewi, y goreu gafwyd er cychwyniad y Sefydliad. Canodd y cor meibion
“ Dewision feibion Gwalia” “ Y Gwanwyn” a “Myfanwy” = “Arabella”.
Hoffwn glywed cor y Rhiw yn pyncio
yma dan arweiniad DR. Da oedd gennyf weled am eich llwyddiant. Cor
y Rhiw, encor i rhain – i esgyn
Hen ysgol arwyrain; Eled
su eu telaid sain Nas
peidied diaspedain. Mae y
ffaith fod yma gynnifer o Gymry yn gwneud y lle yn fwy cartrefol o dipyn nag a
fuasai lle a mwy o saesneg neu ryw aeg arall, yn enwedig os y bydd ryw faint o
duedd at ‘len a chan’ mewn dyn. Nid wyf yn
gwybod ond am un o Leyn heblaw fy hunan yma – sef Wm Parry o Nefyn, mae yma 3
neu 4 o Arfon. Bu John Watkins Trygarn yma am ychydig, mae ef yn ol yna ers
misoedd. Wel, yn
ddiau mi fydd yn newydd pan ddywedaf ei bod yn oer yma yn y gaeaf. Bu un spel
oer iawn y gaeaf hwn yn Ionawr y thermomedr i lawr un dydd 62 below zero, mae y
gaeaf yn sych er ei bod yn oer, does dim o’r lleithder sydd yna, hawdd iawn
cadw ei ddillad a’r tai yn lan yma yn y gaeaf, ni ellir cael dim baw yn unlle
achos mae wedi rhewi fel craig ym mhob man a’r eira sych yn gorchuddio’r
cyfan. Os y caf gyfle ar Catalogue un o’r mail order houses yma anfonaf un i
ti gael gweled ffasiynnau y wlad. Wel am wn i
fy mod am aros ar hyn heno. Fy nghofion cynnes atat ti a phawb ohonnoch fel
teulu, ac unrhyw un o’m hen gydnabod yna fydd yn dewis clywed.
Yr Eiddot yn ffyddlon William Owen. Roedd William Owen, yn wreiddiol o Waen y Saer, Rhiw. ~~~~~~~~~~~ Diolch i Mrs G Sol Owen, am y llythyr yma. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |