John Griffith,

john_griffith.JPG (33747 bytes)

      "1850~1921"

Siopwr gwlad oedd John Griffith Pencaerau Llyn, blaenorodd gyda’r achos ym Mhencaerau a bu yn weithgar iawn gyda bywyd y capel ac yn ddyn ysbrydol hefyd. Wedi ei farwolaeth ar y trydydd o Ragfyr 1921 ymhlith ei ddogfennau darganfuwyd amlen ac arnri’r geiriau "agreement nid yw hwn i’ w agor", gan dybio fod a wnelo’r cynnwys rhywbeth a’i fasnach agorwyd yr amlen ac oddimewn iddo roedd cytundeb a wnaeth John Griffith efo Duw ddeugain mlynedd yng nghynt. Ar ol ei farwolaeth daeth yr ardalwyr i wybod am gynnwys y llythyr ac roedd pawb o’r farn ei fod wedi cadw ei gytundeb a bod Duw hefyd wedi caiatau ei ddeisyfiadau, dyma gopi o’r cytundeb:

Yr wyf fi John Griffith Pencaerau ar y pedwerydd dydd o Ragfyr yn y flwyddyn 1881 yn yr unfed flwydd ar ddeg ar hugain o’m hoedran ar ol maith a dwys ystyriaeth yn cyflwyno fy hun gorff ac enaid a meddianau i fy Ngwaredwr Bendigedig Iesu Grist.

Ac mae gennyf ychydig o ddeisyfiadau ac erlyniadau i’w gwneud at y Person Bendigedig hwnnw ac y buaswn yn dymuno yn fawr eu meddu yn y byd hwn a’r hwn a ddaw oherwydd y rhesymau a roddir drostynt.

Yn Gyntaf,

Na ddyro imi na chyfoeth na thlodi ond portha fi a’m digonedd o fara. Rhag imi os rhydd ef lawer o gyfoeth i mi gallaf ymfalchio ac ymddyrchafu a dywedyd" Pwy yw yr Arglwydd fel y gwasanaethem Ef. Ac o’r ochr arall na ad i mi fyned yn dlawd oblegid gallai hynny fy arwain at Anghrediniaeth ac achosi i mi fyned dan draed fy ngelynion ac felly dynnu gwarth a dirmyg ar dy achos mawr ar y ddaear, ond dyro ddigon o bethau’r byd i mi fel na byddwyf yn nyled neb a ddim ond o garu ein gilydd a hefyd fel y byddo gennyf beth i’w gyfrannu i’r rhai sydd mewn eisiau a thuag at gynnal dy achos ar y ddaear.

Yn Ail,

Dawn gweddi neilltuol ac i siarad yn gyhoeddus fel y gallwyf gyda dy fendith di fod o rhyw les i fy nghydbererinion a phechaduriaid ac felly i fod o rhyw les i dy achos mawr ar y ddaear a hefyd fel na byddo cymeryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus nac unrhyw gyfarfyddiad daionus yn faich arnaf ond yn hytrach yn bleser mawr "Deisyfwch y doniau gorau"

Yn Drydedd,

Duwioldeb amlwg- mor amlwg fel y byddo gelynion yr eglwys yn cydnabod fy mod yn ceisio gwlad saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.Llewyrched felly eich goleuni Duwioldeb sydd fuddiol i bob peth.

Yn Bedwerydd,

Mwynhau cymdeithas a heddwch Duw fel y gallwyf yn wastad yn yr ysbryd foliannu enw yr Arglwydd a rhag i mi er dim fod wedi i mi gynghori eraill fod fy hun yn anghymeradwy ag y gallaf ddweud: Fy nghymdeithas i yn wir sydd gyda’r Tad a chyd a’i fab ef Iesu Grist .

Cymorthwya fi Dad Nefol i gadw at y cytundeb sef caru yr Arglwydd a’m holl enaid ac a’m holl galon ac i ddisgwyl yn hyderus a ffyddiog wrthyt tithau am roddion grasusau eraill i mi oblegid yn haeddiant a theilyngdod dy sanctaidd annwyl fab Iesu Grist yr wyf yn ei deisyfu gennyt –A’m cair ynddo ef heb fy nghyfianwder fy hun.

Arwyddwyd y 4ydd dydd o Ragfyr 1881.

John Griffith.

Ac yn ol son felly y bu, glywsoch chi son am gytundebau cyffelyb? Diddorol yw nodi na fu John Griffith yn dlawd na chyfoethog ac y bu ar hyd ei oes yn ffyddlon iawn i’r Achos ac i Dduw.

Marwnad i’r diweddar Mr John Griffith Penycaerau.

    Eisteddfod Rhos 1924.

  John Griffith fwyn ei galon’roes oreu, i oes Dduw

A chymwynaswr hawdd ei geal er cysur dynol ryw,

Tra byddo’r mor yn estyn ei fraich am wddf y tir

Fe gofir enw’r annwyl wr a’r faelfa amser hir,

Mor siriol oedd bob adeg, a blodeu gras y nef

Yn rhoi eu sawr i wella’r byd trwy ei wasanaeth ef.

Bu llawer un anafus ar hyd a lled y wlad,

Yn cyrchu ato am ei fod yn rhoi esmwythad.

 

Yr ydoedd yn physigwr, a chalon fawr fel tad,

A gwnai i’r cyffur chwerw’i flas droi’n falm i roi iachad.

Pan fyddai anifeiliad amaethwyr pen draw Llyn,

Dan afiechydon yn llesgau, adferoddllawer un.

Mor dirion oedd bob amser, ac ni chai olwyn ffawd

Un cyfle ganddo i roi tro i ddiystyru’t tlawd.

Un o’i nodweddion pennaf a gofir amser hir

Oedd dweud yr oll yng ngwyneb pawb, a pheidio celu’r gwir.

 

Pan ddeuai’r gaeaf garw, a’r nos o faith barhad

Fe ddenodd lawer bachgen mwyn o safn tafarnau’r wlad,

Agorai ddrws ei faelfa er mwyn i’r ieuanc gwrdd

I rydd ymddiddan a chwarae ar y bwrdd.

Ei eiriau arferiedig a’i ymadroddion doeth

A dreigla i lawr o oes i oesyn gynnyrch meddwl coeth.

Ac atswn ei weddiau sy’n aros ar ein clyw

Fel clychau’r archoffeiriad pan yn mynd i gwrdd a Duw.

 

Fe roddai air o gyngor i leddfu mynwes flin,

A throi teimladau garw ffrom yn fywyd hyfryd hin.

Manteisiodd ar bob cyfle i ddweud am ffordd i’r nef,

Gan son am fwynder Iesu Grist y Gwr a garai ef.

Yr ydoedd yn y seiat dan wenau’r nefoedd fawr

Yn dwyn i’r pererinion blin, y manna per i lawr.

Cadd llawer blwch o enaint ei agor ganddo ef,

Yng nghysegredig eglwys Dduw a gofir yn y nef.

 

Yn eglwys Penycaerau bu’n flaenor gyda llwydd

Ac am flynyddau rhoddodd ef anrhydedd ar y swydd.

Bu’n arwain mawl yn Sion wrth angen amser maith

Ni allai oddef bod yn ol mewn unrhyw ran o’r gwaith.

Ei lafur a’i ffyddlondeb a erys mewn coffad

Bu’n athraw am flynyddau maith yn hen athrofa’r wlad.

Hyfrydwch penna’i galon oedd gwaith yr Ysgol Sul

A llewyrch llusern oleu’r gair i rodio llwybr cul.

 

Fe dreuliodd ddeugain mlynedd o’i oes yn weithiwr byw

Er pan arwyddodd ef trwy lw, gyfamod gyda Duw.

Yr oedd ei erfyniadau fel gweddi Jabez gynt

Heb eisiau cyfoeth a’i fwynhad, na thlodi ar ei hynt

Yr oedd tangnefedd hyfryd yn llamwi ‘i natur dda,

Mor siriol fydda’i wyneb ef a’r haul ar foreu ha’

Er cwrdd a stormydd bywyd mor lariaidd oedd pryd hyn

A’r mwyn John Griffith oedd efe wrth fynd i lawr i’r glyn.

 

Atgof Hiraeth John Owen Brychdir.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com