|
|
"Ynys Enlli a’i thrigolion" Gan
Isaac Rowlands ~~~~~~~ Y mae Ynys
Enlli neu Iona Cymru fel ei gelwid hi gan rai, yn codi allan o’r mor tua thair
milldir i’r de-orllewin o Braich y Pwll Aberdaron. Ers llawer o filoedd o
flynyddoedd yn ol yr oedd yn rhan o’r tir mawr, ond gwisgodd y mor y tir isel
meddal gan adael y darn creigiog presenol ar ei ben ei hun yng nghanol y mor. Ar
adegau bydd y gwynt cryf a’r tide a’r llifeiriant nerthol yn gwneud y
passage neu y swnt fel y gelwir,
rhwng yr ynys a’r tir mawr yn beryglus iawn, ac yn aml iawn byddyn amhosibl
cyrraedd na gadael yr ynys am wythnosau. Mae Enlli yn ddwy filltir o hyd ac yn
bum milltir o amgylchedd ac yn codi yn y gwyneb Gogledd Ddwyrain i tua chwe chan
troedfedd uwchlaw arwynebedd y mor. Dywedir na
ysgrifenwyd hanes cyflawn am Enlli erioed, ond y mae yr ychydig sydd ar gael
o’r cyfryw wedi chwalu trwy amryw gyfrolau, felly buasai ei gasglu a’i
drefnu yn golygu llawer o amser. Pa un bynnag mae yr enw Cymraeg Enlli yn bur
ddisgrifiadol o’i safle yn y llif, gan fod y llifeiriant rhwng yr ynys a
Braich y Pwll yn gryf iawn ac yn cael ei alw gan y saeson yn ‘Bardsey Race’,
ond yn cael ei alw mewn amseroedd boreol fel ‘Ffrydiau Caswenan’ gan i long
perthynol i’r Brenin Arthur, medd traddodiad fynd yn ddrylliau yma a’i henw
oedd ‘Gwenan’ ac felly galwyd yr ynys yn ‘Ynys Caswenan’, ond yr enw
mwyf cyffredin i ni yw Enlli. Mae’r
ynys hon yn nodedig am ei draddodiadau a chawn sylwi ar rai ohonynt ymhellach
ymlaen. Mae yn lle
prydferth iawn a bydd llawer o ymwelwyr yn mynd yno yn yr haf. Glanient yma yn y
pen ddeheuol i’r ynys mewn porthladd bychan a elwir Y Cafn, a’r peth cyntaf
sydd yn tynnu eich sylw yw nifer y cychod, sef tua 25 o wahanol faintioli, o’r
cwch mawr – sef y cwch i gario ceffylau, yr hwn sydd yn abl i gario tua chwe
tunnell, i lawr at y cychod bach cwella a’r storws hefyd sydd yn llawn o
rwydau, rhwyfau, hwyliau cewyll ac yn y blaen.
Ond y peth
harddaf yma yw y goleudy ysblenydd. Saif hwn ar y dibyn yn y pen de orllewinol
i’r ynys, gyda’i ‘Revolving light’ ardderchog yn taflu pump fflach yna
pedwar yn dywyll. Hefyd y ‘Fog horn’ yn cael ei weithio gan ddwy oil engine.
Mae yn werth cael mynd i fyny y goleudy i weld y lamp hardd sydd y tu fewn, ond
y mae mor gryf fel na ellir edrych arni heb gael glasses. Ni chaiff ymwelwyr
fynd i fyny’r twr yn awr fel yn yr hen amser, am y rheswm i’r
‘suffragettes’ geisio rhoi Goleudy Eddystone ar dan. Mae tri ty yn perthyn
i’r goleudy ac ynddynt y trig y rhai sydd yn edrych ar ei ol. Saeson yw y rhai
hyn a byddant ar waith bob yn ail shift. Mae y goleudy wedi bod yn help mawr i
longau yn y nos a dyma fel y canai Ieuan Lleyn iddo.
‘Mae darpar, llachar wawl llon – ar Enlli
Eirian llawr uwch eigion
Gyr oleu ar brydiau bron
Er oerddu nos i’r Iwerddon.’ Mae ar ynys
ddeuddeg o dai heblaw y tri sydd yn perthyn i’r goleudy, ac mae’r rhan fwyaf
ohonynt yn ffermydd. Un brif ffordd sydd yno yr hon sydd yn arwain yn union
o’r Cafn hyd at y ty pellaf ar yr ynys. Ar y llaw dde wrth ddod i fyny o’r
porthladd cawn Ty Pellaf sef cartref Love Pritchard y brenin, ac yna Rhedynog
Goch a’r ddau Gristin. Ychydig cyn cyrraedd Cristin cawn yr hen gapel lle y
cedwir yr ysgol ddyddiol, yna Plas Bach, Carreg Fawr, Ty Bach, Ty Nesa, Hendy
a’r Nant ar yr ochr chwith, ac ar yr ochr dde cawn Carreg Bach a’r Mission
House, ty y gweinidog a’r Addoldy. Hefyd yn y pen ogleddol mae hen fynachlog;
sef muriau onglog gyda dwy neu dair ffenestr, wedi ei hadeiladu o Galch Brwd,
a’r cerrig conglau i gyd o ‘Gritstone’, gerrig grud, ac mi ellir tynnu yr
un garreg yn rhydd ac fe ddywedir mai ol bwledi o’r ‘Man of Wars’ sydd
i’w weld yn dyllau y mynachlog heddiw. Hefyd mae yn agos iddo addoldy, hen glochdy yr hwn a fu unwaith mae’n debyg yn fan lle yr arferant addoli ac yn ei ymyl mae mynwent ond sydd erbyn hyn yn bur ddiaddurn, ond saif yma dair o gofgolofnau heirdd, sef un ar fedd Lord Newborough a dwy er cof am yr hen seintiau. Y mae y pennill a ganlyn yn gerfiedig ar un ohonynt.
‘Safe in this Island
Where
each saint would be
How wilt thou smile
On life’s stormy sea.’ Ac y
mae’r ysgrif yma ar fedd Lord
Newborough hefyd ‘Canys yr oedd efe yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd
ini synagog’. Dywedir fod
yr ynys yn llawn o feddau gan fod ugain mil o saint wedi eu claddu yma ebai un
hanes! Gwelir olion beddau hyd y caeau a’r ffyrdd a phobman. Gwelir hyd heddiw
seler ar draws y ffordd gyferbyn a llidiart cadlas Ty Nesa, yr hon sydd yn
cyrhaedd i’r ardd ac o dan y beudai yr hon sydd yn llawn o hen feddau.
‘Mae’n llawr hon – maen allor ha,
Medrodau fel modrydau’. Mae Enlli
wedi bod yn lle Cristnogol iawn gan y bu yma lawer iawn o Seintiau yn byw o dro
i dro. Ar ol i’r gallu Rhufeinig gael ei dorri yn yr ynys hon tua diwedd y
bedwaredd neu yn ystod y rhan gyntaf o’r bumed ganrif, gormesodd lluoedd o for
ladron ar y wlad hon a chafodd brodorion Cristnogol diamddiffyn eu harteithio yn
feunyddiol gan yr Angles a’r Saxons ar un llaw a gan y Pictiaid ar y llaw
arall, pa rai a lofruddiant eu hathrawon crefyddol a llosgi eu haddoldai, ac o
dan y trallodion trymion hyn ymneilltuodd amryw o’r rhai mwyaf duwiol i leoedd
mwy anhygyrch, a daeth rhai i’r ynys hon, lle y ffurfiasent Gymdeithas
Sanctaidd gan arwain bywyd o hunan ymwadiad a phan laddwyd y mynachod ym Mangor
is y Coed lluosogodd poblogaeth yr ynys. Yn eu mysg roedd Archesgob Eglwys Loegr
yr hwn y dilynwyd gan lawer o ddynion da eraill o ganlyniad i hyn aeth yr ynys i
gael ei chyfri yn sanctaidd. Disgrifiai rhai o’r hen feirdd Cymreig hi fel
Nefoedd ar y ddaear neu Ddrws Paradwys, felly gwelir fod Enlli wedi bod ar hyd
yr oesau yn lle sanctaidd iawn. Gwelir hyd heddiw lawer o ffynhonau, y rhai medd
traddodiad a arferid gan y seintiau at eu gwasanaeth eu hunain, sef ‘Ffynnon y
Barfau’ yn yr hon meddid y byddent yn torri eu barfau, un arall yw ‘Ffynnnon
y Dwr Oer’ lle yr arferant gael diod a ‘Ffynnon y Dalar’ a’r ystyr yw yr
arferant gael rhinwedd o’r dyfroedd. Yn awr
ychydig o fanteision addysg a gaiff y plant. Cedwir ysgol ddyddiol gan y
pregethwr am ryw ddwy awr yn y prynhawn a byddent yn cael gwneud yn union fel pe
byddent adref yno, er hynny mae pawb yn hollol gartrefol yno, y naill yn helpu y
llall gyda phopeth. "Rhai o drigolion Enlli" Ffermwyr a
physgotwyr yw y trigolion a charient eu masnach ymlaen gydag Aberdaron. Pan yn
dywydd braf deuant drosodd ddwywaith yr wythnos, gan gludo y mail bag a phopeth
fydd arnynt eisiau yn ol. Yn y gaeaf bydd yn sobr iawn ar y trigolion gan y
byddant am wythnosau weithiau yn methu dod drosodd a bydd bwyd yn brin iawn yno,
a dywedir yn awr eu bod yn dod oddiyno i gyd i fyw, er hynny bydd yn chwith ar
ol llawer o bethau gan y tyfir Pompionau, Berw’r Dwr, Camomile, a’r Wermod
Lwyd yno heb brinder. Ni phoenir y fforddolyn chwaith gan Motors, Beic, Car
llaeth, Tren, Tram na dim o’r cyfryw. Flash Light chwaith nis delir ar ei
wynebpryd pan yn dod o’r moddion neu ar y ffordd, hefyd ni chanfyddir Tramp yn
gorwedd yn unlle, ond pawb yn trigo mewn diogelwch. Dyma fel y canodd un o
feirdd Rhiw pan yno. ‘Mi
af adref o Ynys Enlli Ar hyd y môr Rhaid
ffarwelio am eleni, Af
dros y môr Mynd
yn saff rhwng drwg y sownd ysgubol Ac
af adref at fy mhobol Dros y garw fôr. Isaac Rowlands ~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Traethawd |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |