|
|
"Iaith
y Brain" Un
oedd yn honni iddo ddeallt y brain yn siarad oedd Obadiah, Pwll Budr, (Noddfa)
Rhiw. Yn wir cymaint oedd ei ddeallusrwydd ohonynt gallai wahaniaethu rhwng
Brain Meillionydd, Brain Bodwrdda a Brain y Sarn. Dyma enghreifftiau o’r iaith
honno : Iwnial
coles jerifus membrabs getting oilad spanish and the shifs and rerish bron. That
ruthesofampton nicolsffin trimesiwyr sleming steials lic.....(mae’r geiriau
yma yn anelwig) Brildedhiwansiti
bytethisborn and the wefing iwnial coles. Un
arall: Ymdetlan,
ymdetlyn ymdetlyn, ymbetolant amserolantmewn beddrod euddeguent a ddel ac a
seliwyd a seliau utgyrn ffiwrish. Ac
eto: Ryw
bywicau afler ninnau dydi weirglodd cans gorffwysedd nid yn anweledydd y dydd
majesun arun. Ai
Obadiah o amgylch gwahanol ffermydd gyda’i ful a’i gert yn danfon blawd o
Felin Bodwrdda, a pe doech ar ei draws ar fore llun, yna fe’i clywech yn
adrodd pregeth y Sul air am air wrth y mul ac yn enwi’r pregethwr wrth
ymadrodd. Bu’n
gweini ym Mhenbryn Llanstumdwy i William Pritchard, a’r ddau rhyw ddydd yn
gweithio mewn cae yn ymyl y lon, pan ddaeth cymydog heibio a tharo sgwrs efo
William Pritchard dros y clawdd. Ymhen sbel mi sylwodd William Pritchard fod
Obadiah yn lled orwedd yn nhin y clawdd yn lle gweithio, a dyma siarsio Obadiah.
‘Be ti’n neud yn fana – caria ‘mlaen efo dy waith, mi ddoi ata ti toc’.
‘Digon i’r disgybl fod fel ei athro’ meddai’r hen Oba. Dipyn o gymeriad yn ol pob son oedd Oba, a synnwn damaid na ddaw mwy o straeon amdano i’r fei. Efallai fod rai o’r Brain yn cofio stori neu ddwy pe bawn ni ond yn medru deallt eu iaith cystal a fynta.!!!! ~~~~~~~~~~~~ Dyma enghraifft ac eglurhad Mistar
Mistar codwch o’r bwlibwnjar a gwisgwch eich fflein dragwns, mae clap mawr o
gocolorwm wedi disgyn ar ben chwip jini, chwip jini wedi rhedeg i bensifidion a
mae’r lle yn wenfflam dan. Mistar Mistar codwch o’r gwely a gwisgwch eich trowsus mae clap mawr o lo wedi disgyn ar ben y gath ac mae’r gath wedi rhedeg i ben yr ysgubor ac mae’r lle ar dan. ~~~~~~~~~~~~~~~~~
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |