"Doctor Jones"

( Dr Robert Henry Jones LACP, LRCS, ac LRFR)

       "1883~1964"

Un o’r cymeriadau hynotaf o wlad Llyn a fu oedd Dr Bobi, roedd yn Feddyg Gwlad yng ngwir ysytyr y gair, yn gymwynaswr, yn was ffyddlon i’w gleifion, yn meddu ar ffraethineb a fyddai yn ffiisig gwell i sawl claf na’r hyn ddoi o botel, dyn bychan o ran corff ond cawr o ran cymeriad. All y neb a adnabu Dr Jos fyth ei anghofio, yr oedd mor wahanol i bob doctor arall. Y corffyn bychan eiddil – siwt o frethyn bras coch yn rhy fawr o lawer. Welid fyth mo’i esgidiau am eu bod yn cuddio yng ngodrau‘r trowsus. Gwisgai got fawr fler o laes, yn cyffwrdd y llawr, ac iddi goler fawr drom i guddio’i ben. Welid fyth mohonno heb ei het – doedd yna ddim na llun na siap i hon. Yr oedd lle i gredu na fyddai fyth yn tynnu ei het ar unrhyw achlysur. Yr oedd hyd yn oed ei sbectol yn rhy fawr, disgynnai yn anghelfydd i lawr ei wyneb. Mewn gwirionedd roedd y doctor yn rhy fach neu’r dillad yn rhy fawr. Byddai ganddo foddion at bob clwy bob amser, wrth law ym mhocedi mawr ei got a phedair poced ei wasgod.

Hannai ei dad o Dudweiliog a’i fam o Fryncroes, magodd y ddau eu plant pump ohonynt yn Hendy, ty ffarm Ffordd y Tram, Pen y Groes yn Arfon. Aeth Robert Henry i’r ysgol ddyddiol ym Mhen y Groes hyd nes ei fod yn dair ar ddeg oed. Yna, aeth efo’r car llaeth yn y boreau, yna, dal tren i Gaernarfon yn y pnawn i fynd i ysgol Jos Bach, lle yr ennillodd ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Ramadeg Pen y Groes. Cafodd yrfa lwyddiannus yn yr ysgol hon gan ennill Arholiad y Bwrdd Canolog a’r Matric a’i cymhwysodd i’r Brifysgol.

Ond yn lle mynd i’r Brifysgol fel y disgwyliem, aeth Robert yn brentis at ryw greadur o ddoctor digon od a meddw o Rostryfan. Dosbarthu moddion i gleifion y cylch oedd ei waith. Yr oedd i’r car a’r merlyn swyddogaeth wahanol y tro hwn. Yn ol ei arfer, safai’r hen ferlyn yn benderfynol wrth bob ty tafarn yn y plwyf ond llwyddai’r doctor bach i’w argyhoeddi nad oedd raid iddo ef wrth ddiod o’r ffynnon honno.

" Surgery Dr Jones"

Wedi tymor digon buddiol yn Rhostryfan gadawodd y darpar feddyg am Brifysgol Caeredin ac yn aeth i Brifysgol Glasgow – dwy Brifysgol a gyfrifid yn flaenllaw mewn meddygaeth yn y cyfnod hwnnw. Ennilliodd bedair gradd yn y pedwar cwrs a ddilynodd, LACP, LRCS, ac LRFR. Daeth i wlad Llyn yn 1927, yn 1930 aeth i Fethesda cyn dychwelyd i Lyn yn 1934 lle y bu hyd derfyn ei oes.

Am ei odrwydd, ei ffraethineb distaw a’i wreiddioldeb digymar y cofir Doctor Jos. Yr oedd popeth amdano ac yn ei gylch mor wahanol i bawb arall. Fyddai fyth sicrwydd y cyrheaddai ef a’i gerbyd ben ei taith. Yr oedd yna rhyw awyrgylch o ‘Fawlty Towers’ o gwmpas pob siwrnai o’i eiddo. Yr oedd wedi dysgu’r hen ffordyn i agor bob llidiart a fyddai heb ei chliciedu ac yn naturiol fe adawodd y gamp honno ei ol ar drwyn ei ffordyn. Bu mewn sawl gwrthdrawiad ar ffyrdd cul Llyn. Cafodd wrthdrawiad a cherbyd moethus ar b’nawn braf o haf wrth Siop y Bont. Daeth clamp o Sais at ddrws y ffordyn, ofnai am funud nad oedd yna ddreifar. Agorodd y drws yn betrusgar a daeth y doctor allan yn hamddenol, Yr oedd y Sais yn meddwl y byd o’i gar ac fe gyfarthodd yn ffyrnig ar yrrwr y ffordyn ‘Look at the dent you have put in my car’ meddai. Yr oedd sbectol y doctor yn dal ei gafael ar flaen ei drwyn, am dro cymerodd ddiddordeb yn yr hen ffordyn druan, ‘Look’ meddai ‘at the dents you have put in mine’. Fu erioed fwy o wir, o son am dolciau’r ffordyn, doedd yna ond lluosog amdani.

Fu erioed feddyg haws i fynd ato a thueddai pobol i gymeryd mantais arno yn hyn o beth – ni allai ddianc rhag ei bobol. Cyfarfu a dyn o’r Sarn wrth Gongl – y- Meinciau, cartref, Ellis Roberts y saer. ‘Mi rydwi yn bur wael doctor’ meddai’r dyn. ‘Mae fy ngwres i dros gant a phump’ ‘O! Meddai’r meddyg ‘well chi alw efo Ellis Roberts i gael arch, nid doctor ydach chi isio yn y cyflwr yna!!’Dro arall daeth gwr ifanc a’i nain drosodd o Ynys Enlli at y doctor yn Aberdaron. Yr oedd Doctor Jos yn disgwyl amdanynyt. Sibrydodd yr wyr yng nghlust y doctor.’Peidiwch a mynd i ormod o gostau efo hi gan ei bod mewn oed mawr’! Os oedd angen doctor ar Enlli y drefn fyddai cynnau tan ar fynydd Enlli, mi fyddai un o drigolion Uwchmynydd yn siwr o’i weld a mynd i ddweud wrth Williams Penbryn Bach – gwyliwr glannau yr ardal, a mi fyddai yntau yn cynnau tan fel arwydd eu bod wedi gweld y tan ar Enlli. Os oedd angen y meddyg ar frys fe fyddai’r taniwr ar Enlli yn chwalu’r mwg o ochr i ochr.

"Enlli yn galw'r Doctor"

Tro arall galwyd ef ar noson o eira mawr i fwthyn ar lethrau mynydd y Rhiw. Wedi hir ymdrech, cyrhaeddodd ac yn ol ei arfer curo y drws, agor a cherdded i mewn. Roedd yr hen lanc yn eistedd yn braf wrth danllwyth mawr o dan braf a’i wyneb yn disgleirio yn fflam y tan. Holodd y doctor am ei waeledd ac meddai’r bythynwr, ‘Ei gweld hi’n noson fawr yr oeddwn a thybiais tybed allai’r doctor ddod yma ar y fath dywydd pe bawn i yn wael go iawn!’. Diflannodd y doctor bach i’r nos a chadw ei ymateb a’i deimladau iddo’ hun. Dro arall cafwyd galwad i Ben yr Ogof, ble ‘roedd y chwiorydd Keatings yn byw ar y pryd, ‘roedd un o’r chwiorydd wedi mynd i’r Post at Robert Seaview ar gefn nos i gael defnyddio’r ffon i alw am y meddyg ar frys. Gofynnodd Robert i’r meddyg oedd ganddo  declyn pwmpio’r stumog allan. Yn ol y chwaer roedd ei chwaer wedi llyncu llygoden. Gadawodd Doctor Jos ei gar tu allan i Seaview ac aeth Robert efo fo  dros y mynydd i Ben yr Ogof , a lamp stabal yn goleuo’i ffordd. Wedi cyrhaedd y bwthyn darganfuwyd y chwiorydd mewn hysterics a phanic ac ar ol hir a hwyr llwyddodd y doctor i ddarbwyllo’r chwaer a dechrau ei archwilio a’i holi. Diwedd y gan oedd ei bod wedi breuddwydio iddi lyncu llygoden, pan ddeffrodd ac yng ngolau’r gannwyll gweld llygoden fach yn rhedeg ar draws traed y gwely! Byddai’n well tae’r teulu di gwneud ei ffortiwn o ‘bellets llygod’ un hytrach na powdwr chwain!!!

"Pen yr Ogof"

Byddai gan y doctor ddywediadau parod ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn hanes ei gleifion, un ohonnynt oedd: ‘Mi fum yr un fath yn union a chi fy hun’. Credai nad oedd dim yn debyg i fod yn brofiadol ei hun o’r afiechyd ac os oedd y doctor wedi mendio, wel roedd siawns dda iddynt hwythau ddod drwyddi. Daeth hwn yn un o hoff sylwadau’r doctor hyd nes iddo ei gyfeirio at wraig feichiog! Bu’r doctor yn hynod ofalus o’r sylw ar ol hynny. Wedi archwilio gwraig ganol oed yn bur drylwyr ar un achlysur, fe droes ei gefn arni ac edrych drwy’r ffenest gan fwmian rhyngddo ag ef ei hun, ‘Babi eto’. Deallodd y wraig – ffromodd, gwylltiodd a gweiddi ‘Dwn i ddim yn y byd mawr sut yr aeth o yna.’ Meddai’r doctor bach yn dal i syllu drwy’r ffenest, ‘Mi wn i yn iawn.’

Cwynai gwr Tyddyn Sandars o Dudweiliog fod crydcymalau yn cloi ei gymalau fel na allai symud bron. ‘Fedrwch chi roi rhywbeth imi allu symud?’ meddai’n ddigalon wrth y doctor. Heb air nac archwiliad rhoes y doctor botelaid o ffisig i’r dyn cyfflyd, fel pe bai yn disgwyl amdano. Yr oedd y dyn yn ol yn y feddygfa drannoeth yn bytheirio’i gwyn, ‘Beth roisoch chi yn y ffisig yna, mi rydwi wedi rhedag drwy’r dydd ddoe a neithiwr?’ Pesychodd y doctor, yn ol eu arfer, ac meddai’r drwy’r crygni ‘Mi roeddwn yn meddwl eich bod yn methu symud – wel mi rydach chi’n well ar y pen hwnnw os buoch yn rhedeg!’.

Cafodd Dr Jos a’r fydwraig alwad at wraig oedd ar fin esgor plentyn, roedd ei gwr yn eithaf petrusgar ac ar fin llewygu, ganwyd y plentyn yn ddidrafferth a chyflwynodd y doctor y babi i freichiau’r tad, wrth ddychwelyd i fyny’r grisiau arhosodd y doctor a hysbysu’r tad na fyddai’r wraig yn hir iawn a bod plentyn arall ei ffordd. ‘Nefi wen’ gwaeddodd y tad’ ‘da chi peidiwch ag ysgwyd llawer ar y gwely!’

priodas_dr_jones.jpg (81323 bytes)

"Priodas Dr Jones"

Arferai’r doctor fod yn smocio woodbine, ac aml i dro mi ddeudodd wrth ei fab ‘rhaid mi roi gorau i’r rhain, neu mi fyddai wedi marw yn ddyn ifanc’ roedd dros ei bedwar uagain ar y pryd!!!! Mi ddeudai wrth Wil Bwtsiar Sarn ‘Dach chi’n ei lladd a’u bwyta, dwin ei lladd a’u claddu!!’ ac wrth un arall or Sarn, Now Mynachdy, wrth dalu siec am y calor gas ‘Be di’r enw yn llawn?’ ‘O M Morris’ medda fynta ‘Wela i ‘ medda’r doctor ‘Old man Morris’. Daeth newyddion dros y radio fod y doctor wedi marw, a bu ffonio i gydymdeimlo, a pwy atebodd ond neb llai na Doctor Jones ei hun a’i ateb i hyn oll oedd ‘Os dowch chi i nghebrwng i, mi ddof innau i’ch cynhebrwng chithau’ Yn 1964 y bu Dr Jos farw yn dawel yn ei gwsg yn ei gartref yn Nhy’r Ysgol Llangwnadl, lle y bu yn ymgartrefu a’i ail wraig Jini, cymeriad bach bywiog a gwraig artistig iawn. Roedd yn ferch i Ap Morys cynbrifathro ysgol Llangwnadl a hi oedd ‘mam Porci’ yn nghomic Hwyl ers talwm, ac mi ysgrifennodd y llyfr ‘Tomos o Enlli’.  Arferai Jini fynd ar ymweliadau gyda’r meddyg yn eitha aml, a phan fyddai yn ymweld a chleifon ym Mryn Beryl ai at y piano a dechrau canu a diddanu’r cleifion a codi’i c’lonnau. Roedd Jini yn actores o’i chorun i’w sowdl ac yn fwrlwm aflonydd o fywyd. Cochai ei gweflau a phowdro ei gwyneb, ar adeg pan nad oedd hyn yn bod yn Llyn, roedd yn berchen cot ffwr, esgidiau sodlau uchel, roedd hi yn hoff o ffasiwn, roedd hi yn llawer mwy ‘modern’ ei meddwl na merched eraill ei chyfnod. Cof pennaf y rhan fwyaf a’i adnabu oedd ei chlywed yn canu’r gan ‘Ar draws y swnt i Enlli’, digon a dod a deigryn i lygaid aml un yn sicr. Bellach gorwedd y ddau mewn hedd ym mynwent St Gwynhoedl ymhlith cyfoedion a chymdogion, dau gymeriad unigryw na welir eto fyth mo’i tebyg yn rhodio daear Llyn, a mi ges i’r fraint o’i adnabod fel ‘Yncl Bobi ac Anti Jini’.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Gyda diolch i Mr R T Jones ( mab Dr Jones) a’r Parch, Emlyn Richards am hanes ‘Yr Hen Ddoctor Bach’

 Llun ei priodas gan Mrs L Griffith.

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com