|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr. Llun 1 4 BW 12 i 4pm a 4am i 8. Gwener 5 - Ocsiwn Ty Fry, gwerthur gwellt ar gwair a gosod y tir. BW 12 i 4 pm. Sadwrn 6 BW 4am i 6. Sul 7 - Y gweinidog am 2, Cyfarfod gweddi am 6. BW 8 pm i 12. Llun 8 Arian watiad £1/18/0d. BW 8 pm i 12. Mawrth 9 BW 4 pm i 8. Mercher 10 Nel yn mynd ir dref. BW 12 i 4 pm. Iau 11 Talu £1/6/0d i R Jones Lon Las am y glo wrth lidiart Tan Ffordd. BW 12 i 4 pm. Gwener 12 - Sam yn mynd i Abersoch. Arian watiad £1/14/0d. BW 12 i 4 am. Sadwrn 13 BW 8pm i 12. Sul 14 Hughes Rhiw am 2 a 6. BW 8 am i 12 a 12 i 4 am. Llun 15 Talu 13/- i R Jones Lon Las am Indian meal. BW 12 i 4pm. Mawrth 16 Bwrrw eira, rhewi yn galed. BW 4 am i 8 a 12 i 4 am. Mercher 17 Dwr wedi rhewi yn y ty. BW 8pm i 12. Iau 18 Pensiwn £1/10/0d. BW 12 i 4pm. Gwener 19 Bwrrw eira cnwd tew pan yn mynd i cwt watiad at 8 am i ollwng D Rowlands. BW 8 am i 12. Arian watiad £1/14/5d. Sadwrn 20 Eira anodd mynd lawr i gwt y watiad. Clirio eira y defaid wedi eu claddu. Yr haul yn cyffwrdd y mynydd 4.30 pm edrych pa mor uchel fydd o ar Chwefror 20. BW 4 am i 8. Sul 21 - Eira cnwd tew, dim yn toddi, mae yn ddrwg ar y defaid. BW 12 i 4 pm. Llun 22 BW 4 am i 8 a 8pm i 12. Mawrth 23 - 25 BW 4 am i 12 a 4 pm i 8. Gwener 26 Glaw trwm. BW 12 i 4 am. Sadwrn 27 Llythyr oddiwrth Sam o Gaernarfon. Arian watiad £2/3/5d. Glaw trwm or dwyrain BW 4 pm i 8. Sul 28 Yr ail weinidog am 2 a 6. BW 8 am i 12 a 12 i 4 am. Llun 29 BW 4 pm i 8. Mawrth 30 - BW 4 am i 8. Cael gair ar y phone o Fangor yn dweud fod Jane Bach wedi marw ar ol llosgi yn Meillionydd Mawr. BW 4 pm i 8. Mercher 31 BW 8 am i 12 a 8 pm i 12.
Chwefror. Iau 1 BW 8 am i 12. Gwener 2 Angladd Jane Bach Ty Rhyd, losgodd yn Meillionydd Mawr. Yr haul yn mynd i gysgod y mynydd 4.38 pm ar yr ail ddydd o Chwefror. Sadwrn 3 Arian watiad £2/5/0d. Eisiau anfon i Williams America. BW 4 am i 8. Sul 4 - EO Lloyd am 2. BW 8 am i 12 a 4pm i 8, niwl tew yn Bytilith. Llun 5 Prynu tri ffioled o geirch ir ieir yn Ty Croes Bach. BW 4 am i 8 a 4pm i 8. Mawrth 6 BW 8 am i 12 a 12 i 4 am. Mercher 7 BW 12 i 4 (niwl tew) a 12 i 4 am. Iau 8 BW 4 i 8 pm a 12 i 4 am. Gwener 9 Arian watiad £2/14/0d. BW 4 am i 8 a 4 pm i 8. Sadwrn 10 BW 4 am i 8. a 4 pm i 8. Sul 11 Bwrrw eira. BW 4 am i 8 a 4 pm i 8. Llun 12 Sadwrn 17 BW 4 am i 8 a 4 pm i 8. Sul 18 Eira bore heddiw. BW 12 i 4 am. Llun 19 Nol hanner telaid o geirch o Ysgo ir ieir. DO ar Inspector yma ( DO = Director of Operations). BW 4 pm i 8 niwl tew. Mawrth 20 Gwener 23 BW 8 am i 12 a 4 pm i 8. Sadwrn 24 Gwerthu y cwch melyn i Thomas i fynd i Enlli. BW 4 am i 8 a 4 pm i 8. Sul 25 Bore Sul braf rhoi cloc awr ymlaen. Y gweinidog am 2 a 6. BW 8 pm i 12. Llun 26 BW 8 am i 12. Mawrth 27 Anfon llythyr i John Williams, fu yma yn Lay Agent, ir America BW 4 am i 8 a 8 pm i 12, John yn methu mynd i wneud am fod dafad yn methu dod ag oen yn Tyn Castell. Mercher 28 BW 12 i 4 pm. Iau 29 - BW 8am i 12.
Mawrth Gwener 1 BW 4 am i 8. Arian watiad £2/5/0d. Rhew caled or NE. Sadwrn 2 BW 4 am i 8. Cant ir ieir or Eifion wedi talu 18/- i Mrs Thomas. Sul 3 5 BW 8pm i 12 a 12 i 4 am. Mercher 6 Yr haul yn mynd or golwg ar ben y mynydd 6.20pm. Iau 7 9 BW 12 i 4 pm. Sul 10 Adref dan annwyd heddiw. Griffith T Roberts, Morfa yn Pisgah am 6. Llun 11 BW 4 pm i 8 niwl tew. Mawrth 12 BW 8 am i 12 (niwl wedi clirio) Niwl a glaw mawr eto pnawn. Anfon arian y llyfrau misol 10/10d. Mercher 13 14 BW 12 i 4 am. Gwener 15 Marw Mary Talafon. BW 4 pm i 8. Yr haul yn mynd lawr 6.35 pm. Sadwrn 16 - Arian watiad £2/5/0d. BW 12 i 4 pm. Sul 17 Eurig Jones, Bangor o Cricieth gynt. Testun ei bregeth Ni fydd nos yno. Niwl a glaw trwyr dydd. BW 4 am i 8. Llun 18 BW 8 am i 12. Niwl heddiw. Mawrth 19 BW 8 am i 12. Daniel yn dod i ddweud fod William yr Eifion wedi marw. Angladd Mary Talafon. BW 12 i 4 am. Mercher 20 BW 12 i 4 am. Iau 21 - DO yn y Rocket House. Owen Owens yn dweud fod Mari Ffor wedi marw. Niwl a glaw bob dydd. Gwener 22 Angladd W J Thomas, Yr Eifion am 12. Arian watiad £1/11/6d. BW 12 i 4 am. Sadwrn 23 Angladd Mari Ffor yn Nebo. BW 12 i 4 pm. Sul 24 - Brawd Eurig Cricieth am 2 a 6. Yr haul yn mynd or golwg 6.35 pm. BW 4 am i 8 a 4pm i 8. Llun 25 Daniel yn mynd ar dynewad i Congol. BW 4 am i 8 a 12 i 4 am. Mawrth 26 Edgar dan y frech goch. BW 4 pm i 8. ********** Dyma r olaf mae Griffith Thomas yn nodi yn ei ddyddiadur, maen cael ei gymeryd yn wael yn y cwt watiad Bytilith, ac mi fu raid i un or dynion ei nol i fyny oddyno. Mewn dau ddiwrnod mae Griffith Thomas wedi marw adref yn ei gwsg.
~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |