|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Tudalennau Ionawr ar goll. Chwefror Sul 12 EO Lloyd Porthmadog. Llun 13 BW 2.30 am i 6.30 am. Mawrth 14 - Mudo o Gimla i Tan Ffordd er mwyn i Owen gael lle ir dodrefn. Derbyn 4/- or goron rois ei fenthyg i Sam. Mercher 15 Niwl tamp. Arian watiad £2/14/0d. Iau 16 BW 4 am i 8. Derbyn 1/- gan Sam wedi talu y goron. BW 10pm i 1am. Gwener 17 i 19 Llun 20 Eisteddfod Rhos rigio at y drill. Mawrth 21 BW 1 am i 5.Drill y gwn am 3 pm. BW 10pm i 2 am. Mercher 22 BW 2pm i 6. Iau 23 BW 6am i 10. Hel arian ir hosbitol. Talu am dri chant o gorn yn yr Eifion. Gwener 24 Yn Rocket House yn glanhaur rhaffau. Talu £1/5/0d i R Jones Lon Las am y glo. Sadwrn 25 Cysgu yn Rhiwlas. Abersoch yn galw 5.10 am. BW 6 am i 10. a 10pm i 2am. Sul 26 Hughes y Rhiw. Llun 27 - BW 10 am i 2pm. Arian watiad £2/5/0d Mawrth 28 BW 2am i 6. Owen a fi yn dod ar dodrefn i Gimla. Mawrth. Mercher 1 BW 10 am i 2pm. Iau 2 BW 2am i 6. DR yno o 2pm i 5pm. Gwener 3 BW 1pm i 5. Pobol Nefyn yn cynnal cyfarfod yn Pisgah am chwech. BW 9pm i 1am. Sadwrn 4 BW 5 am i 9. Sul 5 Llun 6 BW 5am i 9. Prynu oen yn Sarn 2/6d. Mawrth 7 - DR yn dechrau 2 pm a finnau 4pm dan 8 ar y BW. Mercher 8 BW 12 i 4 pm. Iau 9 - BW 4 am i 8. Efo DR yn y Rocket House yn glanhau. Symud yr ieir or Gimla. Gwener 10 Drill y watchers am 2pm. Sadwrn 11 Derbyn £3/5/6d. Am watiad. DR torri fy ngwallt. Talu am gant o gorn a bag o beilliaid i WJT. Sul 12 - Hughes Rhiw am 2. BW 8am i 12. Llun 13 - Lydia Jones yn dod i Gimla. Owen Jones yn cysgu yno am y tro cyntaf. Mawrth 14 Palu clwt mawr Ael Bryn a rhychu lle i tatws cynnar. Mercher 15 - Ffair newydd, Nel wedi mynd yno. Dechrau palur ardd yn Tan Ffordd. Iau 16 Gorffen palur ardd yn Tan Ffordd. Plannu clwt isa yn Ael Bryn. Gwener 17 Plannu tatws cynnar yn Ael Bryn. Sadwrn 18 - Yn Uwchmynydd heddiw. Derbyn £2/10/0d gan Evan Owen, arian yr injen dorri gwair. Derbyn rhent Bryn Awel £1/10/0d. Sul 19 - Cyfarfod Gweddi am 2 a 6. Llun 20 - Dwsin o wyau i Sam. Rhychu yn Tan Ffordd. Mawrth 21 BW 8am i 12. Arian watiad 9/3d. Mercher 22 Newydd am farw Robert Pig Parc. BW 4pm i 8. Iau 23 Cyfarfod chwarter yn Pwllheli. BW 11 am i 3 pm. Gwener 24 Rhychu y clwt mawr yn Ael Bryn. Pawb wedi mynd i gyfarfod Pencaerau. Sadwrn 25 Angladd Robert Jones Pig Parc. Sul 26 Evans gweinidog Penlan am 2 a 6. Llun 27 BW 2 i 6am. Mawrth 28 BW 2 i 6am. Mercher 29 - BW 12 i 4am. Cau efo calch yn llofft Rhiwlas. Iau 30 Rhychu a plannu tatws yn Rhiwlas. Gwener 31 Nol tail o Llwynfor. Ebrill. Sadwrn 1 Gorffen plannu yn Ael Bryn. Sul 2 - Bob Humphreys am 2. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 3 - Talu yn yr Eifion am gorn a gwenith 15/-. Mawrth 4 BW 2am i 6. Newydd am farw Mac y Coastguard. Mercher 5 Iau 6 Pensiwn £1/10/0d. Hanner tunnell o lo wedi talu £1/5/0d. Gwener 7 Plannu yn Rhiwlas a Tan Ffordd. Sadwrn 8 Sul 9 Mab John P Jones am 2 a 6. BW 2am i 6. Llun 10 Cyfarfod Uwchmynydd heno. Mawrth 11 - Cant o wenith or Eifion. Angladd Griffith brawd Evan Pengroes. Mercher 12 Gorffen plannu yn Tan Ffordd. Hesbin pen gwyn wedi marw. Mynd ar oen yn ol i Daniel. Iau 13 BW 7am i 11. Gwener 14 BW 3 am i 7. Sadwrn 15 Bob Owen a Parry yn yr ysgol. BW 10pm i 2am. Sul 16 - WJ Jones y gweinidog. BW 7pm i 11. Llun 17 BW 3pm i 7. Talu £1/4/9d. Mawrth 18 Yn Cadwgan yn gorffen yn yr ardd. Mercher 19 Adref yn palu tatws, nol y spinod ar myharen or mynydd. Iau 20 Hesbin Benwan wedi dod ag oen. Derbyn £1/0/0d. Gwener 21 Mynd i gyfarfod y D O ir Cwt Rocet am 2pm. Claddu tatws yn Cadwgan. BW 10pm i 2am. Sadwrn 22 BW 2pm i 6. Sul 23 Llun 24 BW 2am i 6. a 2pm i 6. Mawrth 25 Wyau o Rhiwlas dan yr ieir. Mercher 26 Priddo clwt sydd wrth y wal yn ymyl y cwt ieir. Iau 27 Palu tatws Ael y Bryn. Gwener 28 Rhychu yn Cadwgan 3 awr. Sadwrn 29 - Nel, Ici Thomas a Edgar wedi mynd ir dref. Cant o gorn a cant o split or Eifion. Sul 30 WJ Jones y gweinidog.
Mai. Llun 1 - BW 2am i 6. a 6pm i 10. Mawrth 2 BW 2pm i 6. Mercher 3 Yn Plas gydar nos. Iau 4 Pensiwn £1/10/0d. BW 2pm i 6. Gwener 5 BW 6am i 10. Bwrrw yn dda neithiwr. Sadwrn 6 Sul 7 Llun 8 Glanhau yn y Cwt Rocet. Mawrth 9 BW 2am i 6 fog. Gosod grat yn cegin yr Eifion. Mercher 10 BW 2am i 6 fog. Iau 11 Palu tatws yn Tan Ffordd ac Ael y Bryn. Gwener 12 - Gwynt oer or NE. DR dechrau BW 6pm. Ffair Aberdaron. Sadwrn 13 BW 2am i 6. Ffair Pwllheli. Derbyn 7/6d gan W Jones Ty Croes, trael y Gymanfa. Sul 14 Cyfarfod Gweddi nawn a nos dim ond fi a EW Hughes yn y ddwy oedfa i gymeryd rhan. Llun 15 BW 8am i 12. a 6pm i 10. Mawrth 16 - BW 6am i 10. Gwynt oer or gogledd bob dydd. Mercher 17 BW 12 i 4pm. Iau 18 Cymanfa yn Nefyn. Talu £1/3/6d yn yr Eifion. Gwener 19 Drill gwn 5/-. Sadwrn 20 Palu tatws. Sul 21 - Eisiau ateb llythyr Modryb Sera. Llun 22 Talu am gorn i W Thomas (Eifion) £1/3/6d. Mawrth 23 Arian watch £3/3/0d. Mercher 24 Torri bona yn Tan Ffordd. Eisiau ateb Jane merch modryb Sera. Iau 25 Ail osod pobty Penebo Fawr. Pensiwn £1/10/0d. Gwener 26 Dim glaw, poeth a sych. Sadwrn 27 Glanhau cynffona defaid. Laura ar genod yma or dre, fi yn cysgu yn Tan Ffordd. Sul 28 R J Rowlands Meuryn am 2 a 6. Cysgu yn Tan Ffordd. Llun 29 Dim glaw, hynod o sych. Cysgu yn Tan Ffordd. Mawrth 30 Bore braf dim awel. Torri bona yn Tan Ffordd. Mercher 31 Torri bona yn Tan Ffordd. Mehefin. Iau 1 Torri bona. Tywydd poeth. Gwener 2 Torri bona yn Tan Ffordd, dim glaw hynod o sych a phoeth. Sadwrn 3 Laura ar genod yn mynd adref. Golchi defaid yn Conion. Sul 4 - WJ Jones y gweinidog. Eliza gwraig Tanrardd yn cael ei tharo yn wael. Llun 5 Cneifio defaid yn Tan Ffordd. Diwrnod poeth dim golwg am law. Mawrth 6 Gwynt caled or NE. Mercher 7 - Yn y dre yn prynu coed i seilio Bryngloeu Bach. Prynu set y WC gan O Parry. Iau 8 Gwynt or NE eto. Gwener 9 Cymanfa MC yn Tudweiliog. Sadwrn 10 Gwynt wedi symud ir west. Sul 11 Evans am 2. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 12 Dechrau watch DR 2 i 4pm. Gwynt oer heddiw or gogledd. Mawrth 13 Drill Watchers. Mercher 14 Yn Bryngoleu Bach yn seilio Iau 15 BW 1 i 2. Yn Bryngoleu Bach. Bwrrw glaw yn dda. Gwener 16 BW 12 i 4am. Hanner yn Bryngoleu Bach yn gorffen. Angladd Evan Penparwyd, Aberdaron. Marw Dafydd Griffith, Bethel. Sadwrn 17 Bwrrw yn dda yn y bore. BW 11pm i 3am. Sul 18 WJ Jones y gweinidog am 2 a 6. BW 3pm i 7. Llun 19 Priddo tatws yn Tan Ffordd ac yma. Angladd Dafydd Griffith Bethel. Anfon bill i Bryngoleu Bach. Mawrth 20 Anfon 4/8d am y llyfrau. Mercher 21 Hanner yn yr Eifion ar y wal. Iau 22 Cyfarfod chwarter yn Pisgah. Hanner yn yr Eifion. Mynd ir cyfarfod chwarter yn y pnawn. Gwener 23 Diwrnod yn yr Eifion. Sadwrn 24 Yn yr Eifion ar y wal. Sul 25 Llun 26 Diwrnod yn yr Eifion. Gwerthu yr wyn i Owen Plas 15/6d. Mawrth 27 Tri chwarter yn yr Eifion, dim syment. Mercher 28 BW 6am i 10. Glaw heddiw. Iau 29 BW 2am i 6. WJ Thomas wedi mynd i Ffair Cricieth am geffyl. BW 6pm i 10. Gwener 30 BW 11am i 2pm. Derbyn 2/3d am y Drill Watchers.
Gorffennaf. Sadwrn 1 Sul 2 WO Lloyd, Porthmadog. Llun 3 BW 4pm i 8. Mawrth 4 Godro defaid yn Tan Ffordd. Rhoi 5/- i Albert am fod efo fi yn Bryngoleu Bach yn seilio. Mercher 5 - BW 6am i 10. Iau 6 - Talu i R Jones Lon Las 4/- am ddod a coed Bryngoleu Bach. Gorffen llawr i Lydia talu 5/-. Gwener 7 BW 5am i 9. Sadwrn 8 BW 1 am i 5. Sul 9 Hughes am 2. Llun 10 Adref, Nel wedi mynd i Pwllheli. Godro defaid. Pwyso gwlan yn Eifion £4/8/6d. Mawrth 11 Dipior defaid yn Tyn Mynydd. Mercher 12 DR wedi bod yn Pwllheli. Arian watchiad £1/2/6d. DR yn newid cheque y gwlan £4/8/6d. Gosod gwlau yn Tan Ffordd. BW 10pm i 2am. Iau 13 Pensiwn £1/0/0d. BW 2pm i 6. Bwrrw glaw trwm John Evans wedi gwlychu wrth ddod yma. Gwener 14 BW 6am i 10. Sadwrn 15 Mudo o Ael Bryn i Tan Ffordd. Visitors yn dod heddiw. Sul 16- Llun 17 Mawrth 18 DR yn dechrau ar y gwair. Mercher 19 Glaw trwm neithiwr. Cant o wenith ir ieir. Eisiau anfon am ofyniadaur maes llafur. Iau 20 Niwl tamplyd ar ol glaw. Cant o gorn ir ieir. Gwener 21 Rhoi lliw i llawr Tan Ffordd. Sadwrn 22 BW 4am i 8, y gyntaf o Tan Ffordd. Sul 23 Cyfarfod Ysgol yn Tyddyn. Llun 24 Ail roi pobty yn Conion. Mawrth 25 BW 2am i 6. Mercher 26 Chwalu gwair yn Bwlchgarreg. Iau 27 Pensiwn. Niwl a glaw. BW 8pm i 12. Gwener 28 Niwl a glaw trwm. BW 8pm i 12. Sadwrn 29 Glawogydd trwm. BW 12 i 4am (bore sul). Sul 30 Roberts yr ail weinidog am 2 a 6. BW 8pm i 12. Llun 31 Troi cae llidiart gwyn Bwlchgarreg. BW 4pm i 8.
Awst. Mawrth 1 - Pwys o fenyn Llywenan or Rhiwlas. Mercher 2 Nol menyn i Ty Croes Mawr. Simdde Penponcyn wedi dod lawr. Iau 3 Talu am 3cant o lo i Rhisiart Lon Las Gwener 4 Cario cae llidiart gwyn Bwlchgarreg. Nell wedi mynd ir dre. Sadwrn 5 Cario cae o flaen yr Eifion ac ardd Penyponcyn. Sul 6 Bob Humphreys am 2. Llun 7 Arian watchiad £1/16/0d. Cario cae lleiniau Penponcyn. Pawb wedi mynd i Porthor ir rygeta. Mawrth 8 Efo Owen Hughes yn torri yn Conion. Mercher 9 Merched Richard fy mrawd yma o Lundain. Glaw. BW 10pm i 2am. Iau 10 Arian watch 4/6d. Torri yn Bwlchgarreg a chwalu. Gwener 11 Adref dan annwyd. Laura ar genod yn dod yma. Sadwrn 12 Adref ddim yn dda. Sul 13 - Adref dan annwyd. Sul braf. Llun 14 Adref ddim yn dda. Diwrnod da ar y gwair. Mawrth 15 Drill y watchers 2pm. Diwrnod da eto. Mercher 16 Diwrnod braf eto. Edrych am Lewis a Sarah. Iau 17 Cyfarfod pregethu Rhos. Cario yn Conion. Diwrnod braf. Gwener 18 Diwrnod braf. Nel wedi mynd ir dref ar gownt visitors Bryn Difyr. Sadwrn 19 Sul 20 Llun 21 - Terfysg mawr. Mawrth 22 Arian Drill 2/-. Mercher 23 Iau 24 Yn y cwt watchiad. Gwener 25 BW 5 am i 9. Sadwrn 26 Talu yn yr Eifion. Sul 27 Hughes Rhiw am 2 a 6. Llun 28 Ffitio am fasg yn yr ysgol. Arian watiad 9/-. BW 12 i 4am. Mawrth 29 BW 12 i 4am. Mercher 30 BW 12 i 4am. Iau 31 Angladd Elin Jones Trip yn Nebo.
Medi. Gwener 1 BW 4pm i 8. Sadwrn 2 BW 12 i 4pm. Sul 3 BW 12 i 4pm. Llun 4 BW 4am i 8. Cael masg yn yr ysgol. Mawrth 5 BW 4am i 8. Mercher 6 BW 4am i 8. Gosod grat yn Brynfran. Iau 7 BW 4 am i 8. Gwener 8 BW 8am i 12. 2 gant o lo a bag o syment talu i R Jones Lon Las am y ddau a talu am y 2 gant arall un i Tan Ffordd ac un i Ael Bryn. Sadwrn 9 8am i 12. Sul 10 Gwynt a glaw neb wedi bod yn y cwrdd.BW 12 i 4am. Llun 11 Fi a Owen yn newid y watiad. Mawrth 12 BW 4pm i 8. Arian watiad £1/11/6d. Mercher 13 BW 8pm i 12. Iau 14 Newydd am farw Morris Cadlan. BW 4pm i 8. Gwener 15 Chwynu tatws at eu tynnu. BW 4pm i 8. Sadwrn 16 Angladd Morris Hughes, Cadlan yn Llanfaelrhys. Arian watiad £1/11/6d. BW 4pm i 8. Sul 17 Ysgol y bore. Cricieth am 2. Cyfarfod gweddi am 6 G Thomas, Tom Hughes a Evan. Llun 18 BW 8am i 12. Tynnu tatws Ael Bryn. Mawrth 19 Watiad 4am i 8. Derbyn rhent Bryn Awel. Mercher 20 BW 8am i 12. Miss Rowlands yn mynd ir dre. Iau 21 BW12 to 4pm. Bag o beilliaid or Eifion. Gwener 22 Bwrrw glaw yn y bore. BW 12 i 4. Arian watiad £1/16/0d. Sadwrn 23 BW 6am i 12. Sul 24 BW 4am i 8. Llun 25 BW 4am i 8. Dyrnu yn Ty Croes Bach a Conion. BW 12 i 4am. Mawrth 26 Dyrnu yn Tyn Fron. BW 12 i 4am. Tynnu carchar y myharen. Mercher 27 BW 12 i 4am. Iau 28 - Sale ddefaid Sarn. BW 4pm i 8. Gwener 29 D O yma yn gosod y compas. BW 8pm i 12. Sadwrn 30 Hydref Sul 1 BW 12 i 4. Llun 2 BW 4pm i 8. Mawrth 3 Yr Inspector yma 10.30 am. BW 4pm i 8. Mercher 4 Gwynt cryf. BW 4pm i 8. Iau 5 Talu arian hosbitol 3/3d. Arian pensiwn £1/0/0d BW 4pm i 8. Gwener 6 BW 4pm i 8. Sadwrn 7 BW 4am i 8. Arian watiad £1/16/0d. Sul 8 - Y gweinidog newydd am 2 a 6. Llun 9 BW 4am i 8. Mawrth 10 BW 4am i 8. Cael Griffith Evans, Bodygrigin wedi marw yn ty ei ffrindiau. Mercher 11 BW 4am i 8. Iau 12 BW 4am i 8. Arian watiad £1/11/6d. Gwener 13 BW 8am i 12. Angladd Griffith Bodgrigin. Sadwrn 14 BW 4am i 8. Mynd am dro i Uwchmynydd dod yn ol efo William Penbryn Bach efor motor heibio Saron, cael te yn Tyn Llan. Sul 15 BW 4am i 8. Llun 16 BW 4am i 8. Dydd diolch y cynhaeaf. Marw John Tyn Rhos. Mawrth 17 BW 12 i 4am. Mercher 18 BW 8am i 12. Iau 19 BW 12 i 4pm. Lladd dafad yn Tan Ffordd. Arian watiad £/11/0d. Gwener 20 BW 12 i 4pm. Angladd John Jones, Tyn Rhos. Sadwrn 21 BW 12 i 4pm. Sul 22 - Morgan yr ail weinidog am 2 a 6. Llun 23 BW 8am i 12. Nol benthyg yr oen myharen o Conion. Mawrth 24 BW 4am i 8. Ocsiwn Ty Canol. Mercher 25 BW 4am i 8. Yn Pwllheli gadael fy llyfr yn y bank. Iau 26 BW 4am i 8. Pensiwn £1/10/0d. Gwener 27 BW 4am i 8. Arian watiad £1/10/0d. Sadwrn 28 BW 4am i 8. Sul 29 Hughes Rhiw am 2. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 30 BW 8am i 12. Mawrth 31 BW 8am i 12. Anfon 5/1d am y degwm.
Tachwedd. Mercher 1 BW 12 i 4pm. Nel wedi mynd i dre prynu dau grys. Iau 2 BW 8am i 12. Daniel yn mynd ar gwartheg ir sel. Talu yn yr Eifion am gorn yr ieir 18/-. Gwener 3 BW 4am i 8. Arian watiad £1/11/0d. Sadwrn 4 BW 12 i 4am. Sul 5 Hughes y Rhiw am 2 a 6. BW 12 i 4am. Glaw trwm yn nos. BW 8pm i 12. Llun 6 BW 4pm i 8. Mawrth 7 BW 4pm i 8. Mercher 8 - DR wedi mynd ir dre John Jones yn gwneud 12 i 4 BW 4 i 8pm. Iau 9 - Pensiwn £1/10/0d. BW 12 i 4pm. Gwener 10 BW 4 i 8pm. Sadwrn 11 Kate Bryn Awel yn priodi. Arian watiad £1/11/6d. DR yn torri fy ngwallt. Watiad 4 i 8pm. Sul 12 Morgan yr ail weinidog . Llun 13 BW 8 am i 12. Mawrth 14 BW 12 i 4pm. Mercher 15 Talu yn yr Eifion am 2 cant corn ir ieir £1/5/0d. BW 4 i 8pm. Iau 16 BW 4pm i 12. Gwener 17 Arian watiad £1/16/Od. Sadwrn 18 - Yn Tyn Llan yn ail osod pobty 2/6d. Ocsiwn Tyn Rhos. Glaw trwm. BW 4 pm i 12. Sul 19 Bancar Cricieth am 2. BW 4 pm i 8. Llun 20 BW 4pm i 8. Mawrth 21 - Palu clwt dan y ty Gimla. BW 4 pm i 8. Mercher 22 BW 12 i 4pm. Iau 23 Penswin £1/10/0d. BW 4 pm i 8. Gwener 24 BW 4 pm i 8. Sadwrn 25 Arian watiad £1/11/6d. Gwynt a glaw. BW 8pm i 12. Sul 26 Hughes y gweinidog am 2. BW 4 pm i 8. John Evans yma fwrrw Sul. Llun 27 BW 12 4 pm. Mawrth 28 BW 12 i 4 pm. Mercher 29 Talu i Ianto swllt am drwsus i Leila. BW 12 i 4 pm. Iau 30 BW 12 i 4.
Rhagfyr. Gwener 1 BW 4pm i 8. Niwl a glaw gwynt SE. Sadwrn 2 BW 8 pm i 12. Sul 3 Gwynt a glaw trwm. BW 4 pm i 8. Llun 4 Angladd Llywelyn Jones or cartra i Benebo. BW 4 pm i 8. Mawrth 5 - Derbyn 2/- gan Hughes y pregethwr am y llyfrau misol.. BW 8pm i 12. Mercher 6 Diwrnod braf haul a dim gwynt. BW 4 pm i 8. Iau 7 Pensiwn £1/10/0d. BW 4 pm i 8. Gwener 8 Nel, Mary Carreglefain a Anne Pisgah yn mynd i Aberdaron. BW 4 pm i 8. Sadwrn 9 Gwynt a niwl a glaw or south. BW 4pm i 8. Sul 10 BW 12 i 4 am. Llun 11 BW 12 i 4 am. Mawrth 12 Hel arian hosbitol (ochr y Llan) Mercher 13 BW 8 am i 12. Iau 14 BW 4 am i 8. Hel arian yr hosbitol Ty Canol ar ddau Feillionydd. Prynu siwt yn Pencaerau. Gwener 15 BW 4 am i 8. Sadwrn 16 BW 4 am i 8. Angladd Harry Parry, Ty Fry. Arian watiad £1/10/0d. Sul 17 Morgan yr ail weinidog. BW 8 i 12 pm. Llun 18 Newydd fod gwraig Conion Ucha wedi marw. BW 4 pm i 8. Mawrth 19 BW 8 am i 12. DR yn y pluo heddiw. Mynd a llyfr hosbitol i Williams wedi hel £1/7/6d. Mercher 20 BW 4 am i 8. Newid carcharaur defaid. BW 12 i 4 am. Iau 21 BW 12 i 4 am. Gwener 22 BW 12 i 4 am. Talu am yr wydd yn Rhiwlas 10/-. Sadwrn 23 Pawb yn mynd ir dre o Ael Bryn, pawb ond y fi. Angladd Mary Hughes Conion Uchaf. BW 12 i 4 pm. Sul 24 Dim pregethu, plant yn canu at yr Eisteddfod yn Sarn. BW 12 i 4 am. Llun 25 BW 4 pm i 8. Plant yn mynd i ganu yn yr Eisteddfod yn Sarn. Mawrth 26 BW 12 i 4pm. Mercher 27 Llythyr oddiwrth John Williams or America. BW 12 i 4 am. Iau 28 BW 12 i 4pm. Gwener 29 BW 12 i 4 pm. Sadwrn 30 BW 4 am i 8. Sul 31 -
~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |