|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr. Sadwrn 1 Talu £2/12/0d am y llwch yn Aberdaron. Sul 2 - Glanfab Jones Bangor am 2. Llun 3 - R Hughes Aberffraw nos lun. Mawrth 4 Palu y fordor yn Ael Bryn. Mercher 5 Yn Pwll Melyn. Marw Joseff Jones y Pregethwr a newydd am farw Thomas y Waen. Iau 6 Hanner yn Pwll Melyn. Arian watiad £1/16/0d. Talu 9/- am y clagwydd. BW 8 pm i 12. Gwener 7 Yn Pwll Melyn yn gorffen bargod y ty. Derbyn 5/-. Anfon arian degwm 15/-. BW 8 pm i 12. Sadwrn 8 Yn Berch heddiw yn edrych am Thomas. Angladd Joseff Jones y Pregethwr yn cychwyn o Bwllheli. Sul 9 BW 6 am i 10. Llun 10 BW 6 am i 10. Mawrth 11 Yn Ty Croes Bach yn gwneud drws cefn y sgubor. BW 10 pm i 2 am. Mercher 12 Yn Glwyd yn trwsio llidiart. BW 12 i 4 am. Iau 13 - Gosod pobty yn Mindon. RH Thomas yn anfon or dre i Rhiwlas fod Thomas fy mrawd wedi marw. BW 8 pm i 12. Gwener 14 BW 4 pm i 8. Newydd am farw hogyn Talcen Foel gyfarfu a damwain ar ei feic ar bont Bodernabwy. Sadwrn 15 BW 12 i 4 am. Gwynt mawr. Llanw yn mynd trwy Aberdaron. Sul 16 - Sul glawog. BW 12 i 4 am. Llun 17 Angladd Thomas fy mrawd yn y Berch yn 74 oed. Mawrth 18 BW 4 am i 8. Yn fy ngwely pnawn. Mercher 19 Angladd Robert Hughes Pengroeslon. BW 12 i 4 am. Iau 20 Wyau 5/4d. Lladd oen yn Congol. BW 8 pm i 12. Gwener 21 Talu am 2 gant ir ieir 18/-. Arian watiad £2/5/0d. Sadwrn 22 2 gant ir ieir. BW 10pm i 2 am. Sul 23 - R Hughes yn Pisgah am 2. Llun 24 BW 2 pm i 6. Rhoi bateri newydd yn y look out hut. Mawrth 25 BW 6 am i 10. Bore mawr gwynt a glaw. Wyau 2/8d Arain watiad 18/-. Mercher 26 - Talu 18/- am gorn ir ieir. Iau 27 BW 2 am i 6. Palu yr ardd yn Tan Ffordd. Gwener 28 Talu £4/5/0d i Morris Roberts am y dreth. BW 6 pm i 10. Sadwrn 29 BW 10 am i 2 pm. 5 dwsin o wyau i Siop Newydd Sul 30 BW 10 pm i 2am. Llun 31 10cwt o lo o Talafon. Chwefror Mawrth 1 Wyau i Siop Newydd 4 dwsin 5/4d. BW 10 pm i 2 am. Mercher 2 BW 6pm i 10. Iau 3 Efor Doctor heddiw. BW 6pm i 10. Gwener 4 3 dwsin o wyau. BW 2 pm i 6. Arian watiad £3/12/0d. Sadwrn 5 BW 6am i 10. Cael potelad gan y Doctor. 9/7d am yr wyau. Sul 6 Ellis O Lloyd Porthmadog am 2. Llun 7 Drill y gwn 5/-. 5 cant o lo gan R Jones Pwllheli 11/-. Mawrth 8 Yn Ty Ucha yn ...r gwaith. Mercher 9 Diwrnod gwlyb. Iau 10 BW 3 am i 7. Wyau i Post 5 dwsin 6/9d. Gwener 11 Hanner yn Ty Ucha. Sadwrn 12 BW 6am i 10. Wyau i Siop Newydd 5 dwsin 6/8d. Sul 13 BW 8 i 10pm. Llun 14 Rhoi £1 i Richard Lon Las i ddod a wier o dre. BW 6pm i 10. Mawrth 15 Wyau ir Siop 4 dwsin 5/4d. Llwytho rwdins o Ysgo. BW 6 am i 10. Mercher 16 - Daniel yn mynd i dynnu oen i Penrhyn Mawr. BW 6pm i 10. Iau 17 Mary Hughes yn symud o Conion Ucha i Bryncroes. BW 2pm i 6. Gwener 18 BW 10 am i 2 pm. R Jones Lon Las am y wier 17/6d. Weirio pen isar cae nesa i Conion. Sadwrn 19 BW 2 am i 6. Wyau ir siop 5 dwsin 5/10d. Fi a Edgar Morris yn mynd ir dre. Sul 20 W Jones y gweinidog. Llun 21 Gorffen palu yr ardd yn Tan Ffordd. Arian watiad £3/7/6d. Mawrth 22 Yn Ty Ucha heddiw. Mercher 23 Diwrnod oer. Iau 24 Diwrnod yn Conion Ganol. Wyau i Siop Newydd 5 dwsin 5/9d. Gwener 25 Yn Conion Ganol. Sadwrn 26 BW 2am i 6. Wyau i Siop Newydd. Sul 27 - Alun Roberts. Sul glawog. Cynnal ysgol Alun Roberts yn holi. Llun 28 Cant ir ieir gan DR. Wyau i Siop Newydd 5/5d. BW 2 pm i 6. Mawrth. Mawrth 1 Yn Conion Ganol. Torri fy ngwallt. Mercher 2 Yn Conion Ganol. Iau 3 Hanner yn Conion Ganol. Talu am 2 gant o gorn. BW 10 pm i 2am. Gwener 4 Yn Conion Ganol. Marw Thomas y crydd Sarn, mab Hwmffra crydd Aberdaron. Sadwrn 5 Yn Conion Ganol. Sul 6 Jones y gweinidog am 2. Llun 7 Yn Conion Ganol. Mawrth 8 Yn Conion Ganol. Talu am y glo i R Jones Lon Las. Plannu tatws yn y clwt isa. Mercher 9 Yn Conion Ganol. Arian watiad £1/2/6d. Angladd Thomas Mab Hwmffra y crydd Aberdaron. Angladd John Ty Cerrig gynt o Tir Hobed. Iau 10 Yn Conion Ganol. D Rowlands yn gwerthu y fuwch froc yn sale y Sarn £23. BW 10 pm i 2 am. Gwener 11 Hanner yn Conion Ganol. Sadwrn 12 Yn Pwllheli heddiw, fi Ici a Leila. Talu am y coed. Sul 13 - Trefor Jones Cricieth am 2 a 6. Llun 14 Wyau i Siop Newydd 9/4d. Trwsio cwt Penmynydd i ferchaid Penrogo. Mawrth 15 BW 2am i 6. Plannu tatws yn y clwt o dan y gegin. Dod ar ddafad o Tan Ffordd i Gimla i edrych gymera hi yr oen. Mercher 16 BW 2am i 6. Talu 4/6d i Ianto. Iau 17 BW 2am i 6. Derbyn rhent Bryn Awel £1/10/0d. Drill y watchers. Anfon 15/- am y llyfrau misol. Wyau ir post 4/4d. Gwener 18 BW 4am i 8. Yn Cadwgan yn gwneud lle y lloiau yn fwy. Sadwrn 19 BW 4 am i 6. Wyau ir siop. Wyau dan yr wydd bach yn Congol. Sul 20 Hughes am 2. BW 4 pm i 8. Llun 21 Hanner yn Conion Ganol. Wyau i siop newydd 4/4d. Mawrth 22 Symud tacla ras cwn o Groeslon o Ty Lon. Hanner pnawn yn Conion Ganol. Mercher 23 Yn Ty Ucha. Cant o gorn ir ieir. Iau 24 Wyau o Fryngoleu Bach o dan iar yn Tan Ffordd. Gwener 25 Bwrrw glaw dod yn braf yn pnawn. Wyau ir siop 4/3d. BW 1.30 pm i 5.30. Cyfarfod Pencaerau. Sadwrn 26 BW 6am i 10. Hanner yn palur ardd yn Cadwgan. Sul 27 Alun Roberts am 2. BW 6am i 10. Llun 28 Diwrnod yn Conion Ganol gwneud y drws ai osod or llawr ir gegin. Mawrth 29 Diwrnod yn Conion Ganol yn gwneud drws y WC ai osod. Mercher 30 Hanner yn Conion Ganol yn rhoi ffram i ddrws y gegin a cau oi gwmpas.. Wyau dan iar Tan Ffordd. Iau 31 Diwrnod yn Cadwgan yn plannu yr ardd. Ebrill. Gwener 1 BW 12 i 4 am. Derbyn 2/6d gan DR am fesur y rhaffa LSA. Plannu tatws yn Tan Ffordd. Wyau ir siop 5 dwsin 3/7d. Sadwrn 2 Gorffen plannu gardd Tan Ffordd. Rhychu yn cae Cadwgan. BW 7 pm i 11. Sul 3 BW 3pm Llun 4 - William Clwt y Bont ar wraig yma. Arian watch £2/12/6d. Talu am 2 gant o gorn 18/6d. Mawrth 5 Ύ Yn Conion Ganol yn plastro a rhoi coed rownd y drws. Mercher 6 - Willie Clwt y Bont yn mynd adref. Nel wedi mynd i Bwllheli. Plannu tatws yn Gimla. Iau 7 - Diwrnod yn Conion Ganol yn plastro ty bach. Gwener 8 Diwrnod yn y Trip ar y simdde. Sadwrn 9 Yn Trip ar y simdde. Sul 10 Llun 11 Yn Cadwgan yn plannu tatws. Mawrth 12 Mercher 13 Plastro ty bach a plannu tatws yn Conion Ganol. Iau 14 Yn Conion Ganol plastro pared a trwsio y gratia. Drill bach. Gwener 15 Sadwrn 16 - Yn angladd Harry Brynchwilog heddiw yn Llanor. BW 8 pm i 12. Marw Dic druan ar 17, 1937. Talu am y garreg 16, 1938. Llun 18 - WJ Jones y gweinidog. Mawrth 19 Rhew caled bore heddiw. Yn Uwchmynydd heddiw. Mercher 20 Yn Tyn Gamfa yn rhoi gwydr yn to cwt. Iau 21 Yn Trip yn gorffen y simdde, talu 7/-. Drwg ar y defaid dim glaw. Gwener 22 Yn Conion Ganol gosod cliciad drws a dechrau efo peipiau. Sadwrn 23 Yn Conion Ganol codi y ddau billar brics. Laura ar plant yn mynd adref. Wyau dan iar Tan Ffordd. Sul 24 Glyn Roberts am 2. Llun 25 Yn Ty Canol Pencaerau yn ail osod y pobty. Mawrth 26 Yn Conion Ganol. Marw Ann Rhydbengan Bach. Mercher 27 Sych dim glaw, heb fwrrw o gwbwl yn April. Iau 28 Gwynt caled or dwyrain. Gwener 29 - Yn yr Eifion yn trwsio drws y gegin. Talu £1/9/0d am gorn ir ieir. Sadwrn 30 - Mai. Sul 1 Hughes Rhiw am 2 a 6. Llun 2 Hynod sych. Mawrth 3 Mercher 4 Tywydd hynnod sych a gwynt or dwyrain. Iau 5 Pwyllgor heno. Gwener 6 Oer a sych heddiw. Sadwrn 7 Sul 8 Llun 9 - Heur ar y rhiniog yn Ty Ucha. Diwrnod yn Ty Ucha i Keatings. Mawrth 10 - Yn Conion Ganol yn rhoi y beipen blwm. Mercher 11 - Adref yn palu tatws. D O (Director of Operations) yn galw yn Bytilith 1.30 am. BW 10 pm i 2 am. Iau 12 Bwrrw yn dda bore heddiw. BW 6 pm i 10. Gwener 13 BW 10 am i 2 pm. Ffair glanmai. Marw Robert Owen Tan Rardd yn 38 oed. Sadwrn 14 BW 2 am i 6. Bwrrw glaw cawod drom am 8 .BW 6pm i 10. Sul 15 BW 2pm i 6. Llun 16 - Anfon i Mr O E Pugh, New Terrace, Pwllheli, yng nghylch cyfarfod ysgol (sul). Mawrth 17 - Gaddo mynd i Ty Croes Bach. Marw Eliza, Siop Newydd. Angladd Robert Owen, Tan Rardd o Llithfaen. Mercher 18 Corn ir ieir or Eifion, dau gant. Iau 19 Gwener 20 Angladd Elisabeth, Siop Newydd, 82 oed. Sadwrn 21 Fi, Leila ac Edgar yn y Gymanfa yn Pwllheli. Sul 22 - R Hughes am 2. Hughes efo wireless yn capel am 8pm Tegla yn rhoi hanes John Wesla. Llun 23 Niwl tamplyd. Drill y gwn. Mawrth 24 Iar ddu i ddeor. Gorffen Ty Croes Bach. BW 12 i 4pm. Mercher 25 Nel a Ici wedi mynd ir dre o flaen y doctor. Iau 26 - Iar wen Ty Canol i ddeor yn yr heuwal. Yn Ty Croes Bach yn gwyn galchu y bwtri. BW 11.30pm i 3.30. Gwener 27 Bwrrw Glaw. Corbad (?) yn mynd dros ben Rhiw. Sadwrn 28 Yn twtio i Keatings. Sul 29 W J Jones y gweinidog. Llun 30 BW 6am i 10. Bwrrw glaw. Eisiau llenwi y pobty i Morris. Mawrth 31 Tynnu tatws Ael Bryn. Bwrrw glaw. BW 7.30 i 11.30 pm. Mehefin. Mercher 1 Talu £1/11/0d am gorn ir ieir i W Thomas Eifion. Bwrrw glaw. Torri fy ngwallt yn y Rhiwlas. Iau 2 Bw 12 i 4am. Noson fawr gwynt a glaw or N E. BW 8 pm i 12. Corn i ieir Tan Ffordd. Gwener 3 Yn Tyn Graig gwerth 1/6d o goed i drwsior drysau. 9 dwsin i wyau 8/3d. Talu am garreg 7/6d. Sadwrn 4 Tynnu tatws. Sul 5 Talu 2/6d am y set.. Llun 6 BW 8 pm i 12. Niwl, gwynt a glaw. Catherine Rowlands yn ei gwely yn sal. Mawrth 7 BW 4 am i 8. Niwl, gwynt a glaw. BW 8pm i 12. Mercher 8 BW 12 i 4pm. Iau 9 BW 12 i 4 am a 8pm i 12. Gwener 10 Wyau i Mrs Kwaek (Quaeck?) Corn ir ieir o Bwlchgarreg. Sadwrn 11 Mynd ar fuwch at y tarw efo D R. Corn ir ieir or Eifion. Sul 12 Llun 13 Paentio pen llofft fawr Ael Bryn. Mawrth 14 Niwl tamp or gogledd. Arian BW £1/7/0d. Mercher 15 Yn Pwllheli heddiw yn prynu stof i osod yn y gegin. Iau 16 Yn Tyn Gamfa yn gwneud cilia yn ffrynt y ty. Gwener 17 - Rhoi pot ar gorn Bwlchgarreg. Nel a Mary Cerreg Lefain wedi mynd i Uwchmynydd. Sadwrn 18 Dechrau yn Bwlchgarreg, glaw yn fy stopio, efor syment. Anfon papur i D Parry. Sul 19 Mr Hughes yn pregethu am 6. Llun 20 Fi a Lewis yn y dre efo car Miss Hughes efo dyn tynnu planniaur hall. Ail osod pobty Bryn Difyr. Mawrth 21 BW 12 i 4pm. Cant i ieir Ael Bryn. Mercher 22 Talu 19/- am gorn ir ieir. BW 12 i 4pm glaw a niwl. Iau 23 BW 12 i 4 pm. Gwener 24 BW 12 i 4pm. D Rowlands yn dweud ar y ffon i Bytilith fod Sydna Penbryn Bach wedi marw. Cyfarfod gan y plant yn yr ysgol. Sadwrn 25 Cant i ieir Tan Ffordd. 5 dwsin o wyau ir siop 5/-. BW 4 am i 8. Sul 26 Jones y gweinidog am 2. Llun 27 - BW 3am i 7. Angladd Sydna Penbryn Bach.BW 11pm i 3 am. Mawrth 28 Pawb wedi mynd am drip ir Rhyl. Glaw a storm drwyr dydd. BW 11pm. Mercher 29 Yn Ffair Cricieth. Prynu sgidia gan Watcyn. BW 11 pm i 3am. Iau 30 Gorffenaf. Gwener 1 Gosod y stof yma heddiw. Sadwrn 2 Rhoi paent dwr ir gegin. Nel a Ici wedi mynd i dre efo bws 6pm. Sul 3 Roberts Cricieth. BW 4pm i 8. Llun 4 Dechrau ar y gwair. Mawrth 5 Mercher 6 Yn Pwllheli dim newydd gan Mrs Griffith. Arian watiad £2/9/6d. Iau 7 Glaw or dwyrain. Daniel Rowlands yn dechrau watch 7 am. Anfon y degwm 5/1d. Gwener 8 Wyau dan yr iar yn y trwnc(?). Rhoi llechi ar ben Ael Bryn. Gwerthu 7 oen i Owen Plas am £4/18s. BW 110 pm i 2 am. Sadwrn 9 Ici a John Seaview yn mynd ir dre. Cau o dan y stof yn Ael Bryn. Corn ir ieir gan DR. Wyau ir siop 3 dwsin 4/-. Sul 10 Neb yn capel glaw trwm drwyr dydd. BW 10 am y teliffon ddim yn gweithio. Llun 11 BW 2 am i 6. Yn Pwllheli yn newid chek yr wyn a un am weithio yn Conion Ganol. BW 10pm i 2am. Mawrth 12 Danfon yr wyn i Talafon. Arian watiad 18/-. Mercher 13 Gorffen y WC yn Bryn Difyr. Myndylu darn o gae o flaen yr Eifion ar ol te. Angladd Lowri Grepach. Iar ddu i ddeor. Iau 14 BW 4 am i 8. Niwl a glaw trwm. Gwener 15 Yn Tyn Graig. Sadwrn 16 Cario lleiniau Penponcyn. Jorgan ar genod yn dod yma. Sul 17 - Yn Dublin heddiw. Llun 18 Mawrth 19 Niwl. BW 8 pm i 12. Mercher 20 Niwl. Wyau 1/5d. Iau 21 Braf. Cario yn Bwlchgarreg. Gwener 22 Cael y gwair yn Bwlchgarreg. Sadwrn 23 Drill y wip 5/-. Sul 24 William Jones am 2. Llun 25 Yn Ty Croes yn gosod y pobty. Pwyllgor Jorgan ar hogan yn canu. Mawrth 26 - 3 cant o lo o Talafon. Nol llwyth o dywod o Aberdaron. Mercher 27 Dan annwyd. Glaw trwm. Iau 28 BW 9.30 am i 1pm. DR yn mynd ar heffrod i sale. Gwener 29 BW 1.30 i 5.30. WJT yn y cwt am hanner oherwydd glaw. Sadwrn 30 BW 1.30am i 5.30. Mr Jorgan ar ddwy ferch fach yn mynd i ffwrdd. BW 9.30pm i 1.30 am. Y fuwch yn dod a llo yn Bwlchgarreg. Sul 31 WJ Jones am 2. Awst. Llun 1 Troi gwair yn Congol. Cant i ieir Ael Bryn. Mawrth 2 Troi gwair yn Congol. Glaw mawr. Am yr wyau 15/-. Mercher 3 Cario gwair yn Congol. Wyau yn y farchnad 1/6d y dwsin. Iau 4 Hanner yn Ty Rhos. Cario dau lwyth. Cant i ieir tan Ffordd. Gwener 5 Troi yn Conion yn y bore, fi a E Williams yn cychwyn i Tyn Rhos at Cadwgan, glaw mawr sydyn. Sadwrn 6. Sul 7 Hughes Rhiw am 2. Llun 8 Mawrth 9 Cario 2 lwyth yn Conion. Arian watiad £4/7/6d. Mercher 10 Mynd i Pengroeslon i nol syment efo car Conion. Mynd i Ty Rhos ar y gwair, glaw a terfysg gyda bod ni lawr. Laura ar plant yn dod yma. Iau 11 BW thick fog 8.30am. DR yn mynd ar heffar ddu ir sale efo motor Talafon. Nel, Laura ar plant yn mynd i Rigeta Aberdaron. Gwener 12 Troi a cario un llwyth yn Ty Rhos. Sadwrn 13 Bach a landars i Ty Ucha. Sul 14 - GT Roberts Congl Meinciau am 2 a 6. Llun 15 Mawrth 16 Drill bach am 10. Mercher 17 Cario cae llidiart gwyn Conion a torri cae croeslon. Iau 18 Cyfarfod pregethu Rhoshirwaen. BW 8 pm i 12. Gwener 19 Nel a Edgar wedi mynd i dre. Cant ir ieir gan DR. BW 8pm i 12. Sadwrn 20 Sports yn cae Tyn Mynydd. Sul 21 Llun 22 Arian watiad 11/3d. Prynu oen yn Methlam .. Tyn Llyn yno efo mi yn y car. Mawrth 23 Niwl a glaw. Mercher 24 Efo DR pnawn yn tynnu to. Iau 25 Hanner yn Tyddyn Castell. Gwener 26 Yn Tyddyn Castell. Sadwrn 27 Efo Evan Llwynfor. Dyffi yn mynd i ffwrdd o Ael Bryn. Glaw gydar nos. Cant o lo o Talafon i Tan Ffordd. Sul 28 Evans y Rhiw am 6. Llun 29 Derbyn 5/- gan B Griffith. Mawrth 30 Troi a cario 3 llwyth yn Llwynfor. Mercher 31 Trwsio talcen Ty Penygroes. Medi Iau 1 Cario cribynion yn Tan y Foel. Gwener 2 Tynnu y das wair yn Tyddyn Castell. Sadwrn 3 Cario cae Bwlch wrth dalcen Pengroes. Sul 4 W J Jones am 2 a 6. Thomas Ty Mawr yn cyfarfod ai ddiwedd wrth Bryn Ffwg efo beic. Llun 5 Efo Mrs Keatings am y syment ar tywod 1/6d a 2/6d i mi. Mawrth 6 Mercher 7 -Mynd am dro i Penrhyndeudraeth a Port. Iau 8 Lladd oen efo DR. Gwener 9 Yn 4crosses ar ben y ty, un baich o dywod. Sadwrn 10 Yn 4crosses eto. Sul 11 - Cyfarfod ysgol yma. Davies Pwllheli yn holir plant a Mr Evans yn holi 18 bennod Mathew yn yr hwyr. Cyfarfod reit dda. Llun 12 Hanner yn y 4. Mawrth 13 Hanner yn 4crosses. Efo DR yn tynnu cwt y cwch yn Tyn Borth. £1/0/0d am yr wyau. Mercher 14 Hanner yn 4crosses. Talu 17/- am gorn yn yr Eifion. Iau 15 - Ύ yn 4 crosses. Dwy o ferchaid modryb Sara yma efo Ann Tyn llyn. Cario dau lwyth o wair yn Llwynfor. Gwener 16 Hanner yn gorffen yn 4crosses. Boys yn paentio. BW 12 i 4pm. Sadwrn 17 Bore hegar gwynt a glaw. BW 4pm i 8. Sul 18 Hughes am 2 a 6. BW 8 am i 12. Llun 19 - Yn Rhiwlas yn yr eil yn stopio iddi ollwng. Derbyn rhent Bryn Awel £1/10/0d. Newydd am farw John Plas ym Mhenllech yn Bangor. Mawrth 20 Yn Rhiwlas yn gorffen yr eil. Derbyn £1/0/0d gan Mary 4 am drwsio. Arian wyau £1/0/0d. Mercher 21 Yn Tyddyn Castell. Iau 22 Hanner yn Tyddyn Castell. Cario sgloffion i ben y das. Mynd i Bytilith at 3pm dan 7. Gwener 23 BW 3am i 7. Arian watiad £1/2/6d. Talu 14/- am gant o gorn ir ieir or £1/2/6d. Sadwrn 24 - W J Thomas (Eifion) wedi talu 5/- am gap ir ferlan. BW 3am i 7. Angladd John gwr Ann Cae Hen, roedd yn byw yn Plas ym Mhenllech. Sul 25 - W J Jones y gweinidog am 2. Llun 26 Diwrnod yn Tyddyn Morthwyl. Newydd am farw Ellen chwaer John Roberts Tyn Llidiart, yn Bethel. Mawrth 27 Yn Tyddyn Castell. Arian wyau 15/-. Mercher 28 Yn Tyddn Castell. Mynd i Plas efo Keatings gydar nos. Iau 29 Yn y Trip. Talu 2/6d. Gwener 30 Yn Ty Croes Mawr gwerth 1/- o syment a 6d o dywod i O Owens. Hydref Sadwrn 1 Yn Ty Croes Mawr. Sul 2 BW 6am i 10. Mynd at Hirdrwyn mewn amheuaeth mai cwch oedd yn nofio. BW 10pm i 2am. Llun 3 - Hanner yn Ty Croes Mawr. Gwynt a glaw. BW 6pm i 10. Mawrth 4 - Ty gwair Tan Ffordd wedi ei daflu gan y gwynt, ac amryw o dai wedi torri. BW 10 am i 2pm. Mercher 5 Bwrrw eira 6.30 am. Arian wyau 12/4d. Iau 6 BW 2am i 6. Gwener 7 BW 2 am i 6. Sadwrn 8 BW 2 am i 6. Hanner tunnell o lo gan R Jones Cadwgan. Hanner tunnell gan John Williams Talafon. Wedi talu ir ddau £3/0/0d. Sul 9 Glyn Roberts am 2. BW 2 am i 6. BW 10pm i 2 am. Llun 10 Dafad yn cymeryd myharen. Gorffen tynnu tatws Ael Bryn. BW 6 pm i 10. Mawrth 11 Hel tatws Ael Bryn bore. Dwy long awyr yn rhedeg iw gilydd uwchben Trefollwyn, tri yn cael eu lladd. BW 2 pm i 6. Arian wyau 4/4d. Mercher 12 - BW 10 am i 2 pm. Glaw trwm. Iau 13 Gwerthu dau geiliog un ir Trip a Bryn Hyfryd 4/8d. Ocsiwn Tyn Parc. Marw gwraig Tyn Mynydd. BW 6 pm i 10. Gwener 14 Ocsiwn yn Llawenan. Talu £2/3/9d am gorn ir ieir. BW 2 pm i 6. Cael llythyr o Safn Pant yng nghylch Penbwlch. Sadwrn 15 BW 6 am i 10. Angladd Catherine Williams Tyn Mynydd yn Nebo. Sul 16 R Hughes Rhiw am 2 a 6. Te yn Noddfa. BW 6 am i 10. Llun 17 BW 2 am i 6. Dydd Diolch heddiw.BW 5 pm i 9. Arian watch £3/3/0d. Mawrth 18 - Efo Lida ar aden y ty W.O. Dafad yn cymeryd myharen, tair wedi cymeryd oi blaen. BW 10 pm i 2 am. Mercher 19 - Eifion wedi mynd i dre wedi colli stem. Iau 20 Marw Anne Thomas, Eifion. Hanner yn Ty Croes Mawr fi a O Owens. Gwener 21 Yn Cadwgan a Ty Croes. Sadwrn 22 Yn Pwllheli efo Ici a Edgar yn prynu sgidia gwisgo. Sul 23 Cyfarfod Gweddi am 2 a 6. Llun 24 Yn angladd Ann Thomas yr Eifion. Mawrth 25 Glaw drwyr dydd. Arian watiad 9/-. Mercher 26 BW 4 am i 8. Stopio 8 Daniel yn mynd ir dre a finnau yn ail osod y pobty yn Rhiwlas. Cadw watch am 4 pm i WTJ (Eifion). Iau 27 BW 4 am i 8. Derbyn £2 gan Mr Owen am weithio yn Tyn Graig. Gwener 28 BW 12 i 4 am. Sadwrn 29 Yn Tyddyn Morthwyl yn trwsio cefn y ty. Syment at y gwaith 2/6d. Sul 30 Jones y gweinidog am 2. Llun 31 Talu 17/6d am gorn i WJT. Drill y gwn 5 pm 5/-. Tachwedd Mawrth 1 BW 4 am i 8. Yn Rocket House yn sychu y rhaffau a glanhau. Mercher 2 BW 12 i 4 am. Cant ir ieir gan DR. Yn Rocket House yn gorffen efor rhaffau. BW 8 pm i 12. Iau 3 BW 12 i 4 pm. Sel yn Sarn R Jones wedi mynd yno. Gwener 4 BW 4 pm i 8. Gorffen yn y Rocket House. BW 12 i 4 am. Sadwrn 5 BW 12 i 4 am. Sul 6 - Hughes y Rhiw am 2. BW 8 i 12pm. Llun 7 Diffyg cyflawn ar y lleuad dechrau chwarter i ddeg. BW 4 am i 8. Arian watiad £1/2/6d. Mawrth 8 BW 12 i 4 pm. Mercher 9 BW 12 i 4 pm Y Florence Cook yn mynd am y gogledd. Dyrnu yn Conion. Iau 10 Pensiwn £1/10/0d. Martha yn symud o Syntyr i Sgubor Isa. BW 8pm i 12. Gwener 11 BW 8am i 12. Ffair glangaeaf heddiw. Arian watiad £2/14/0d. Sadwrn 12 BW 4 am i 8. Glaw trwm heddiw. Sul 13 BW 12 i 4 am a 8 pm i 12. Llun 14 Mawrth 15 Hanner yn Ty Croes fi a Owens. Mercher 16 Bwrrw glaw. Arian watiad 18/-. Iau 17 Bwrrw glaw trwm. DR yn mynd ar heifer ir sel. Gwener 18 Nol y ddafad oedd wedi dengid o Parciau Bodwyddog. BW 6pm i 10. Glaw wrth fynd lawr. Sadwrn 19 - Llythyr o Ty Mawr Llanfrothen Robert Griffith isio gwartheg. BW 2 pm i 6. Sul 20 Alun Roberts am 2. Llun 21 Gosod pobty Bryngoleu Bach, talu 3/- am y grat 3/6d i finnau. Mawrth 22 Drill watchers 10 am 2/8d. Mercher 23 Gwynt mawr or SE glaw. DR i ddechrau am 5 am y gwynt yn troi ir WNW. BW 9pm i 1 am. Iau 24 Tynnu rhes datws yn Llwynfor, dau fagiad. Gwener 25 Anfon llythyr i Ty Mawr Llanfrothen. BW 5pm i 9. Sadwrn 26 BW 1 pm i 6. Sul 27 Hughes am 2 a 6. Sul gwyntog a glawog neb yn y capel. BW 9pm i 1am. Llun 28 Efor doctor yn y post. BW 5 pm i 9. Mawrth 29 Dafad wen yn cymeryd myharen. Mercher 30 Arian watiad £2/9/6d. Rhagfyr Iau 1 BW 6 am i 10. Gwener 2 BW 6am i 10. Hanner yn Penbwlch. Syment 1/-. Sadwrn 3 - BW 2 am i 6. Sam yn symud o Abersoch i Gimla. Hanner yn Penbwlch, syment a tywod 1/-. Sul 4 Rev Jones y gweinidog am 2. Sul glawog fawr yn y capel. Llun 5 BW 8pm i 12. Mawrth 6. BW 4pm i 8. Mercher 7 Newydd am farw Ellis Ty Rhedyn. BW 4pm i 8. Iau 8 Pensiwn £2. Corn ir ieir yn Gimla. BW 12 i 4pm. Gwener 9 Gwynt a glaw or SSE. BW 12 i 4pm. Sadwrn 10 BW 4am i 1o. Angladd Ellis Ty Rhyd. Sul 11 E O Lloyd Porthmadog. BW 12 i 4am. Llun 12 Talu £4/12/2d o dreth i Morris Roberts. BW 8pm i 12. Mawrth 13 Glaw a gwynt trwm. BW 8pm i 12. Mercher 14 Sychu heddiw. BW 8pm i 12. Iau 15 Gwynt a glaw trwm trwyr dydd. BW 4pm i 8. Gwener 16 BW 12 i 4pm. Derbyn 10/- gan John Pritchard am weithio yn Penbwlch. Sadwrn 17 Fi a Edgar yn Pwllheli. Sul 18 W J Jones y gweinidog. Gwynt oer. Llun 19 Anfon arian y llyfrau misol. BW 4 am i 8. Bore oer rhew wynt.BW 8 pm i 12. Mawrth 20 BW 4pm i 8. Mercher 21 BW 8am i 12. Dydd byrraf. DR wedi mynd i dre efor gwyddau. Isaac druan yn mynd allan o Blyth y tro olaf Rhagfyr 1921. Iau 22 Ici yn nol y clagwydd i Tyn Llyn. BW 6pm i 12. Gwener 23 Dadmer heddiw.. Fawr o wynt heno. BW 8pm i 12. Sadwrn 24 Sul 25 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 26 Owen Owens yn stopio am 8 finnau yn ail ddechrau 10pm. BW 10pm i 2am. Mawrth 27 Anfon 5/10 am y llyfrau misol. Talu Owen Williams Fantol am wneud pobty Bryngoleu Bach £1/7/0d. Mercher 28 Talu yr Eifion am gorn ir ieir £1/16/6d. Bag o gorn i Ael Bryn. Iau 29 Anfon ariam y blwch £2/2/9d. Gwener 30 Hogyn Bach gan Jini Ty Capel. Sadwrn 31 Efo Keatings yn Plas. Dechrau watch 2 y bore.
~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |