|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr ar goll. Chwefror. Llun 1
Hanner yn Congol yn cau stol y ceffyl. Arian watchiad 13/6d. Cysgu heno yn Tan
Ffordd. Robert yn Tan Ffordd heddiw. Talafon yn sal. Mawrth 2
BW 2 am i 6. Mercher 3
Angladd Catherine Jones yr Efail ond yn byw yn Mynytho yn ddiweddar. BW 10
pm i 2 am. Iau 4
BW 6 pm i 10. Gwener 5
Drill y nos 5.20 pm 5/-. Sadwrn 6 -
Yn Rocket House yn glanhau y ger ar ol y drill. Nol sgidia i Isaac a
Edgar Morris or Rhos. Sul 7
Joseff Jones an 2. BW 2 pm i 6. Llun 8
BW 6 am i 10.Glaw or dwyrain. Cant o gorn. Mawrth 9
BW 5 am i 9. Mercher 10
BW 5 am i 9. Nol gro ir ieir i Borth Llawenan. Pwyllgor Ras Gwn yn Ty
Capel. Iau 11
BW 5 am i 9. Gwener 12
Barrug a rhew bore ma, gwynt a glaw pnawn. Sadwrn 13
BW 12 i 4 am. Talu am 2 cant ir ieir a bag bach o flawd 16/-. Cant ir
ieir heddiw. Sul 14 -
Hugh Rhiw am 2 a 6. BW 4 am i 8. Efo Daniel y fuwch froc yn dod a llo
11.30 pm. Llun 15
BW 12 i 4 am. Glaw a niwl heddiw. BW 8 pm i 12. Mawrth 16 -
Arian watch £2/0/6d. BW 8 pm i 12. Mercher 17
Angladd Hugh Griffith Sarn Fawr. BW 4 pm i 8. Iau 18
Glaw bore. Gwener 19
BW 2.30 am i 6.30. Sadwrn 20
BW 6.30 i 10.30. Fi a Edgar Morris yn Llanbedrog yn edrych am Hugh Newport a
wedyn mynd ir dre. Sul 21
WJ Jones y gweinidog. BW 6.30 am i 10.30. Llun 22
BW 2.30 i 6.30. Bwrrw glaw trwyr nos. Yn Tan Ffordd. Ann yn dechrau yn
Talafon, Elin wedi mynd adref. Mawrth 23
BW 2.30 i 6.30 am. Marw Hugh Hughes Newport yn Llanbedrog fy mrawd yng
nghyfraith. Mercher 24
Glaw heddiw or dwyrain. BW 9 pm i 1 am. Iau 25
Gwynt heddiw eto or dwyrain, bwrrw glaw gwynt yn symud ir gorllewin hanner
dydd, glaw trwm iawn. BW 5 pm i 9. Gwener 26
BW 1 pm i 5. Oen bach yn Tan Ffordd. Sadwrn 27
BW 5 am i 9. Glaw bore. Angladd Hugh Hughes Newport heddiw. Bwrrw eira heno.
Wedi derbyn am watiad y ddau fis yma £3/11/6d. Sul 28 -
Bwrrw eira gwynt oer. BW 9 am i 1 pm. Gwynt mawr neithiwr wedi malu
weiars teliffon a cytiau sinc a torri coed. Mawrth Llun 1
BW 1 am i 5. Yn rhoi sinc ar yr eil yn Rhiwlas y gwynt wedi ei daro. BW 9 pm i 1
am. Mawrth 2
Mercher 3
Yn Ty Croes bach yn trwsio pen y stabal. Pwys o fenyn 1/6d. Iau 4
Efo Lewis Jones yn Bryn Teg yn ail osod y pobty. Arian watch. £3/7/6d. Gwener 5
Newydd am farw Tomos Williams Bethesda. Hanner ar ben sgubor Congol. Sadwrn 6
Pwll Melyn yn trwsio pen y beudy. D Rowlands wedi mynd i angladd Tomos
Williams Bethesda. Lecsiwn Cyngor Shire, Evans Madryn yn colli. Sul 7
BW 9 pm i 1 am. Eira heddiw. Llun 8
Yn Tan Ffordd. Mawrth 9
Tywydd caled. Mercher 10
- Y wyau yn y farchnad yn 1d yr un,
menyn yn 1/5d. Iau 11
BW 12.30 i 4.30 am. Bwrrw eira bore ma, gwynt oer iawn or dwyrain. BW 8.30 pm
i 12.30. Gwener 12
Yn Tan Ffordd bore. Rhoi llechi ar aden Brynmor Lydia. BW 8.30 i 12.30. Sadwrn 13
Arian watiad £1/2/6d. Sul 14
Davies Pwllheli am 2. Llun 15
Cau y defaid yn Tan Ffordd. BW 3 pm i 7. Mawrth 16
Mercher 17
BW 1 am to 5. Iau 18
BW 1 am i 5. Derbyn £1/10/0d gan Catherine Williams Bryn Awel sef y rhent
hanner blwyddyn. Gwener 19
BW 1 am i 5. Drill y watchers. 2 gant o gorn ir ieir. Sadwrn 20
Brigio yn Tan Ffordd. Sul 21
Hughes Rhiw am 2. Llun 22
Tipyn o eira bore ma, diwrnod oer. Talu am net wier yn Siop Newydd 4/3d. Derbyn
arian drill bach 2/-. Mawrth 23
BW 4 am i 8. Eira a rhew wynt or gogledd. Mercher 24
Talu am 3 gant o gorn yn yr Eifion 15/-. Iau 25 -
Yn Meillionydd bach yn trwsior beudai. Gwener 26
Sadwrn 27
Yn Meillionydd yn trwsior beudai. Sul 28 -
E O Lloyd Porthmadog am 2 a 6. Llun 29
Plannu tatws cynnar yn Tan Ffordd. Wyau o dan iar Tan Ffordd. Mawrth 30
Yn Cadwgan 11 am dan 7. Gorffen glanhau yr ardd. Cyngor Plwy olaf. BW 12 i 4
am. Mercher 31
Plannu tatws cynnar yn Ael Bryn. BW 12 i 4am. Ebrill Iau 1
Plannu yng ngardd Tan Ffordd. Gwener 2
BW 4 am i 8. Bwrrw glaw or dwyrain. Wyau o Ael Bryn o dan iar Tan y
Ffordd. Sadwrn 3
Gorffen palu y clwt mawr yn Ael Bryn. Sul 4
Hopwood am 2. Llun 5
11 am i 7 pm yn Cadwgan yn rhychur ardd a plannu nionod. Air Force yn dechrau
heddiw. Mawrth 6
Wyau o dan iar 6 o Ael Bryn. Arian watiad a mesur y rhaffau £1/0/6d. BW 9pm
i 1 am. Mercher 7
BW 1 pm i 5. Iau 8
BW 9 am i 1 pm. Gwener 9
BW 1 am i 5. W J Thomas yn stopio 9 am a Daniel yn dechrau wedyn. Herwyn
Rees Eifion yn brifo efo beic. BW 11 pm i 3am. Sadwrn 10
Hanner yn Congol ar ben y sgubor. Mynd ar fuwch froc i Meillionydd at y
tarw. Sul 11
Y Gweinidog am 2 a 6. Llun 12
Diwrnod yn Cadwgan gorffen plannu yr ardd. Mawrth 13
Yn Cadwgan yn codi tatws. Mercher 14
Mynd ir dre heddiw i gael fy oed (?) Iau 15
Yn Cadwgan yn teilo tatws cae pant. Newydd am farw Griffith y Ffor yn Llanheuar.
Y fo oedd yr olaf or Rhiw i weld Isaac druan yn 1921. Gwener 16
BW 4 am i 8. Yn Bwlchgarreg yn cau tylla yn y llofft. Bwrrw glaw heddiw. Sadwrn 17
BW 4 am i 8. Drill y gwn 5/-. Marw Dick druan am 10 pm yn 42 oed. Sul 18 Llun 19
Mynd at y Doctor i Abersoch, dim papur claddu iw gael Doctor Evans ddim adref. Mawrth 20
Siarad or Post efo Thomas Berch. Mercher 21
Mynd ir dre at y crwner. Talu am y seston £3/7/6d. Iau 22
Mynd ir Efail Bach talu am yr arch £6/17/0d. Siarad efo Thomas or Post yn
dweud fod yr angladd fory. Gwener 23
Angladd Dick druan yn Nebo. Diwrnod braf. Sadwrn 24
Gorffen plannu gardd Tan Ffordd. Rhychu y clwt mawr yn Ael Bryn yn pnawn.
Talu am y bedd a claddu £3/5/0d. Sul 25
Hughes Rhiw am 2. Llun 26
Anfon am esboniad i Hughes. Efo Daniel yn y Rocket House. Nol llwyth o dail i
Llwynfor. Mawrth 27
Iar i ddeor 6 o wyau Ael Bryn. Hanner yn Bwlchgarreg. BW 3 pm i 7 y gyntaf
ar ol claddu Dick druan. Mercher 28
Diwrnod yn Bwlchgarreg. Iau 29
Yn Penarfynydd yn heu cae sgubor 2/6d paid. Gwener 30
Diwrnod yn Bwlchgarreg. Talu am 2 gant o gorn un heddiw a un oedd ar aros. Mai. Sadwrn 1
Yn Penarfynydd yn bore yn heu
hanner nesa i cae pwllfadog. Sul 2 E
O Lloyd Porthmadog. Llun 3
Gorffen plannu Ael y Bryn. Efo Evan Williams yn Tyn Gamfa yn tynnnu injen oil yr
Erw oddiwrth ei gilydd. Mawrth 4
Motor Talafon yn nol yr injen oil or Erw i Tyn Gamfa. Hanner bore yn
Bwlchgarreg yn chwalu tail tatws Pwll Melyn pnawn. Mercher 5
BW 6 am i 10. Iau 6
Nol ffioled o geirch o Ty Croes Bach am 3/-. Redig yn Tan Ffordd pnawn. Gwener 7
BW 6 am i 10. Sadwrn 8
Mynd i Bryn Teg at 4 pm. Plannu tatws yn cae pant Penarfynydd. Sul 9
Adref heddiw fy llygaid yn ddrwg. Llun 10
Heu haidd yn cae pwllfadog a pen isa cae pant. Cael 5/- gan R Evans. Mawrth 11
Diwrnod yn Ty Ucha i Mrs Keating, derbyn £3/6/0d gan Mrs Keating wedi talu
at heddiw. Bwrrw glaw or NE. Mercher 12
BW 4 to 8am. Coroni y Brenin. Arian watiad £1/0/6d. Plannu tatws yn Gimla. Iau 13
Yn Ffair heddiw. Talu 10/- yn Siop Pwlldefaid heddiw dros Dick druan. Gwener 14
Sadwrn 15
Drill y watchers am 2. Sul 16
Hopwood am 2 a 6. At fynd ar plant ir Gymanfa 11/4d. RHT a Laura yma. Llun 17
Yn Pisgah yn gwneud cwt ir ieir. Mawrth 18
Diwrnod yn Bwlchgarreg. Talu am gant o gorn 8/6d a talu am gant oedd Dick
druan wedi ei gael 8/-. Mercher 19
Yn Pwllheli heddiw. Edrych am Thomas y Berch. Bwrrw cawod o law gydar
nos. Iau 20
Yn Ty Croes yn trwsio pen y sgubor. Pwys o fenyn 1/3d. RHT yn dod a llwyth o
goed o Pen y Berth £1/10/0d. Gwener 21
Yn Cadwgan heddiw yn rhoi syment ar y ty. Sadwrn 22
Yn Cadwgan am sbel yn bore. Bwrrw glaw mynd adref i wneud llawr y parlwr. Sul 23
WJ y gweinidog am 10. Llun 24
Gorffen llawr y parlwr yn Ael Bryn. BW 6 to 10pm. Mawrth 25
BW 10 am to 2 pm. Mercher 26
Rhoi y wier ar y clawdd lon yn yr allt cefn ty. Iau 27
Diwrnod yn Cadwgan gorffen efo syment. Derbyn £1 yn Cadwgan am weithio. Dwy iar
i ori. Gwener 28
BW 3 i 8 am. Rhoi paent dwr i ben Capel Pisgah. Gwerthu 5 oen a dwy hespin i
Evan J Williams Edeyrn am £9 gini. Sadwrn 29 -
Hanner yn Tyddyn Morthwyl. Llond pwced o syment a talu 8/6d am gorn ir
ieir. Sul 30
Thomas Ellis Pwllheli am 2 a 6. Llun 31
Gosod pobty yn Rhiwlas. John talafon yn nol yr wyn. Talu am ddod ar seston
ar syment a mynd ar wyn 12/-. Mehefin. Mawrth 1
Diwrnod yn Tyddyn Meirion efor pwmp. Mercher 2
Hanner efor pwmp. Iau 3
Cymanfa yn Aberdaron. Bwrrw glaw. Dyn yn saethu ei hun yn Edeyrn, cigydd wrth ei
alwedigaeth. Gwener 4
Niwl a glaw. BW 2 am i 6. Llwynog yn lladd ieir yn Congol. Sadwrn 5
BW 2 i 6am. Wyau o Ael Bryn dan iar Tan Ffordd. Bwrrw glaw a niwl. BW 10 p
mi 2 am. Sul 6
Cyfarfod Ysgol Tan y Foel. Niwl a glaw. BW 10 am i 2 pm R Jones yn y Cyfarfod
Ysgol. Llun 7
BW 2 i 6am. Arian watiad 13/6d. Talu am hanner tunnell o lo i John Williams
Talafon £1/5/0d. Talu i Richard ar y mynydd. Mawrth 8 -
BW 8 am i 12. Derbyn carden siwrans o Caerdydd. Mercher 9
BW 4 i 8 am. Yn Rhiwlas yn y cefn ar y gegin. Iau 10
Pen fy mlwydd yn 65 pensiwn cyntaf. Pwyntio pen Ty Ucha i Keating o 11 i 6. Gwener 11
Gosod grat yn Seaview. Sadwrn 12
Golchi defaid Tan Ffordd. Sul 13
Bob Humphreys am 2 a 6. Llun 14
Fox yn nol y gwaith malu. Cneifio yn Tan Ffordd. Talu am 2 gant o split corn
17/-. Mawrth 15 -
11 dan 7 yn Ty Ucha. Mercher 16
Gosod dor ar gegin Cadwgan 4/-. Nel wedi mynd ir dref. Iau 17
Deor. Rhoi paent dwr yn Ael Bryn. Gwener 18
Torri gwair yn Ty Ucha efo EW Williams 2/6d. Sadwrn 19
12 dan 7 yn Ty Ucha gorffen pen y ty. Sul 20
Hugh Rhiw am 2 a 6. Llun 21
Y plant yn mynd am drip i Colwyn Bay a Llandudno. Arian watiad £1/11/6d. Mawrth 22
Yn Congol yn pwyntio pen y beudy o 9 dan 6. 1/6d am y ddor gan William yr
Eifion. Mercher 23
Yn Ty Croes Bach yn rhoi lliw ir parlwr. Dau gant o gorn ir ieir 17/-. Iau 24
Mynd ir Cyfarfod Chwarter yn Cricieth. Pensiwn £1. Gwener 25
Yn Penarfynydd yn rhoi dau bletyn ar y gribyn lusgo. Adref pnawn yn
glanhaur ardd. Sadwrn 26
Diwrnod yn Rhiwlas cario gwair y cae o flaen yr Eifion a llain ganol
Penponcyn. Sul 27
Joseff Jones am 2. Llun 28
Hanner bore yn Rhiwlas, torri gardd Penponcyn i DR. Dechrau watch 2 pm. Mawrth 29
BW 2 am i 6. Diwrnod yn Rhiwlas yn cario llain bella Penponcyn a llain
bengul Bwlchgarreg. BW 6 pm i 10. Mercher 30
Bwrrw bore niwl wedyn. Gorffennaf. Iau 1
Hanner yn Rhiwlas cribinio llain Penponcyn a papuro. Arian watiad 9/-. Gwener 2
BW 5.30 i 9.30. Sadwrn 3
Adref yn paentio ffenestri. Kate merch Thomas y Bwth gynt yma or South. Sul 4 -
WJ Jones y gweinidog am 2 a 6. Talu 2/6d am y set wrth lidiart y capel. Llun 5
Bwrrw glaw. BW 6 pm i 10. Mawrth 6
BW 1 pm i 5. Mercher 7
Hanner yn gorffen cael y gwair yn Bwlchgarreg. Iau 8
Pensiwn £1. Gwener 9 i
10 Paentio adref. Sul 11
Hopwood am 2. R Von Owen ar y wireless. BW 2 pm i 6. Llun 12
Niwl eto heddiw. 2 gant o gorn ir ieir, wedi talu yn y garage 16/-. Mawrth 13
BW 2 am i 6. Mercher 14
BW 5 am i 9. Arian watiad £1/2/6d. Iau 15 -
Angladd Ellis Jones. Y Brenin yn Caernarfon. Gwener 16
Hanner yn Bwlchgarreg tynnu y das wair. Sadwrn 17
Mi fasa Isaac druan yn 38 mlwydd oed heddiw. Sul 18
GT Roberts Botwnnog am 10. Llun 19 i
20 Paentio adref. Mercher 21
Gwerthu coed i EW 2/6d. Yn Tyddyn Meirion yn codi y pwmp 4 awr. Iau 22
BW 2.30 i 6.30 am. Pensiwn £1. Yn Tyddyn Meirion o 10 i 5pm efor pwmp.
Gadael y rhaffa yn Tyddyn Meirion. Gwener 23 i
24 Sul 25
Neb, Hughes i fod. Llun 26 -
Cael gwair yn Congol o 1pm i 9. Mawrth 27
Adref heddiw. Mercher 28
Yn Tan Ffordd EW yn torri gwair pen isa cae dan ty. Iau 29 i 31
Awst. Sul 1 -
Hopwood y tro olaf. Llun 2 -
Yn Penponcyn yn trwsio llawr y garage. Mawrth 3
Gosod landeri yn yr Eifion. Mercher 4
Yn Ty Croes Bach yn weitwashior bwtri. 2 bwys o fenyn. Iau 5
Mynd i Lithfaen. Mrs Mills yn mynd i ffwrdd. Gwener 6
Drill watchers, niwl y dyddiau yma. Sadwrn 7
Am osod y landers yn yr Eifion 6/-. Talu am 2 gant o gorn 16/-. Sul 8
Hughes am 2. Llun 9
Derbyn 6/6d yn Tyddyn Meirion am fod efor wpmp. Mawrth 10
Ras gwn yn weirglodd Bodwyddog. Marw Richard Owen y Waen yn Liverpool. Mercher 11
BW 10 pm i 2. Iau 12
Hugh Jones Cadwgan yn cael y gwair i gyd heddiw. Gwener 13
Yn yr Erw yn trwsio pen y beudy. Angladd R O Waen yn Nebo. Sadwrn 14
Band yn mynd i ffwrdd (?) Arian gan DR am watiad a gweithio £2/15/3d. Lewis
a Mills dau fachgen o Manchester yn dod i Ael Bryn. Sul 15 Llun 16 i
21 BW. Sul 22
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 23
Yn Ty Croes Mawr yn codi wal yr heuwal. Mawrth 24 -
Yn Ty Croes Mawr. Mercher 25
- Hanner yn Ty Croes Bach. Iau 26
Hanner bore yn Ty Croes Bach ac yn pnawn Ty croes Mawr. Gwener 27
Yn Ty Croes Mawr. Sadwrn 28
Mynd am dro i Cricieth efor plant, E Williams, Finnau, Mrs Thomas
Meillionydd a Nel. Sul 29 -
Mynd i Tyddyn ir Cyfarfod Ysgol. Hwyl dda a Sul braf. Llun 30
Yn Ty Croes Mawr. Mawrth 31
Hanner yn Ty croes Mawr. Derbyn £4/10/0d gan Harry Jones am cae big a cae
dan ty. Medi. Mercher 1
BW 6 am i 10. Torri yd yn y darn sydd wedi ei hadu yng nghanol cae dan ty.
Nel ar plant wedi mynd i Clwt y Bont. Iau 2
BW 2 pm i 6. Gwener 3
BW 6 am i 10. Arain watiad £1.7/0d. Hanner yn Ty Croes. Sadwrn 4
BW 6 am i 11. Bob Jones yn gyrru i stop 10 a wedyn gyrru i gario mlaen. Sul 5
BW 6 am i 10. Thomas Ellis am 2 a 6. Llun 6
BW 6 am i 10. Mawrth 7 -
BW 6 i 10 am. Angladd Abram Penrhyn Canol yn Aberdaron. Torri yn Congol
pnawn. Mercher 8
BW 4 am i 8. Hanner yn Ty Croes Mawr. Iau 9
BW 10 pm i 2 am. Lisi Lon Las yn cael ei tharo yn wael. Gwener 10
Hanner yn Ty Croes Mawr. BW 6 pm i 10. Sadwrn 11
Hanner yn Ty Croes Mawr. Sul 12 -
WJ Jones y gweinidog am 2 a 6. Llun 13
Bwrrw yn y bore. Talu am gant o gorn ir ieir 16/6d. BW 6 pm i 10. Mawrth 14
Bore braf. Yn Ty Croes mawr. BW 8 pm i 12. Mercher 15
Glaw trwm bore. BW 4 pm i 8. Iau 16
BW 8 am i 12. Daniel yn anfon y defaid ir Sarn. Gwener 17 i
18 - Adref efo fy mhenglin. Sul 19
Yr ail weinidog newydd y tro cyntaf. Heb fod yn capel yn fy ngwely efo fy
mhenglin. Llun 20
Arian watiad £2/9/6d. Mawrth 21
Yn Ty Croes mawr. Mercher 22
BW 6 am i 10. Daniel yn ei wely yn sal. Dyrnu yn Tyn Fron. Talu 3/6d i Ianto
am wadnu i Isaac. Iau 23
Troi yr haidd yn Congol. Yn cysgu yn Rhiwlas. Gwener 24
BW 8 am i 12. Niwl a glaw heddiw. Sadwrn 25
BW 12 i 4 am. Diwrnod braf eto heddiw. Sul 26 Llun 27
RHT yn anfon ir Post yn gofyn i mi fynd i Bangor yng nghylch torri braich
Thomas. Mawrth 28 -
Rigio i fynd i Bangor. RHT ddim yn dod i fy nol gair eisiau nhw fynd yn
foreu. Derbyn £13 ma yr injen oil. Mercher 29
Dyrnu yn Llawenan. Iau 30 Hydref. Gwener 1
Yn Rhiwlas. Glaw trwm heddiw. BW 4.30pm i 8.30. Sadwrn 2
Hanner yn Ty Croes Mawr. Sul 3 Llun 4
Ocsiwn y Waen. Mawrth 5
Diwrnod yn Ty Croes Mawr. Marw sydyn Griffith Ellis Deunant. Mercher 6
Tri chwarter yn Ty Croes mawr. Drill y gwn 6 pm Iau 7
Yn Ty Croes Mawr. Gwener 8 -
Yn Ty Croes Mawr, cau y ffenestri pnawn . Robert Pant yn talu am y drol
£4/10/0d. Sadwrn 9
Yn Ty Croes Mawr. Sul 10
Glanfab Jones Bangor am 2 a 6. Llun 11
Yn Ty Croes Mawr. Mawrth 12
Yn Tyn Graig yn trwsio pen y sgubor. Mercher 13
Yn Tyn Griag efo dor yr heuwal. Iau 14
Yn Tyn Graig cau o gwmpas y drysa. Ocsiwn Felin Ucha. Gwener 15
Yn Tyn Graig pwyntio talcen y stabal ar pen. Sadwrn 16
Yn Tyn Graig cau o gwmpas top y corn. Sul 17 Llun 18
Dydd Diolchgarwch. Mawrth 19
Gosod pobty yn yr Eifion. Mercher 20
Dafad yn cymeryd myharen. Yn Berch heddiw. Iau 21 -
Diwrnod yn Tyn Graig. Hynod o sych. Arian watiad £1/2/6d. Gwener 22
Yn Tyn Graig. Glaw trwm heddiw. Nol y myharen o Congol. BW 6 pm i 10. Sadwrn 23
Bwrrw glaw trwy y dydd. BW 2 pm i 6. Sul 24
R Hughes am 2. BW 6 am i 10. Llun 25
BW 2 am i 6. Mynd ar fuwch ddu Bwlchgarreg
at darw Bodwyddog. BW 6 pm i 10. Mawrth 26
Angladd Mary Owens Bodowen yn 80 oed. BW 6 pm i 10. Mercher 27
Talu am 4 gant o gorn i W Thomas Eifion £1/12/6d. Am osod pobty Eifion
4/6d.BW 10 am i 4. Iau 28
BW 4 i 8 am. Hanner yn Ty Croes Mawr cau dan y ffenest. Gwener 29
Yn Tyn Graig bore. Glaw pnawn. Sadwrn 30
Glaw eto heddiw. Mynd ar ddwy heffar at y tarw o Congol i Meillionydd.
Hanner yn Tyn Graig. Sul 31
W J Jones y gweinidog. Tachwedd Llun 1 i 2
Yn Tyn Graig. Mercher 3
Yn Tyn Graig ar ben yr heuwal. Gwerthu un ar ddeg o geiliogod i John Morris
am 2/6d yr un £1/7/6d. Iau 4
Yn Tyn Graig ar gefn yr heuwal ar eil. BW 12 i 4 am. Gwener 5
Hanner yn Tyn Graig ar yr eil cefn y beudy. Miss Rowlands wedi mynd am dro i
Benygroes efo Miss Hughes. Sadwrn 6
Yn Tyn Graig yn gorffen yr eil. Arian watiad 18/-. Sul 7
Griffith Thomas Roberts Botwnnog am 2. Llun 8
Efo Owen Hughes yn trwsio Ty Bach. Sgidiau i Isaac o Rhos. Mawrth 9
Yn Ty Croes Mawr. Cant ir ieir. Mercher 10
Yn Ty Croes. BW 10 pm i 2 am. Iau 11
Hanner yn Ty Croes. Gwener 12
Hanner yn Ty Croes. Drill watchers 2 pm. Ocsiwn ur Erw. Sadwrn 13
Yn Ty Croes Mawr. Nel ar plant wedi mynd ir Berch. Sul 14
W J Jones gweinidog am 2. Llun 15
Yn Ty Croes Mawr. Talu i W Thomas Eifion am 4 bag syment a 2 fag o galch £1/4/0d
am y tywod 13/- i John Talafon. Mawrth 16
Yn Ty Croes Mawr. BW 12 i 4. Mercher 17
Gwynt oer. BW 8 pm i 12. Iau 18
Marw Miriam Griffith Bryn Hyfryd yn 94 oed. BW 4 pm i 8. Gwener 19
Bore braf ar ol glaw neithiwr. Hanner yn Ty Croes. Sadwrn 20
Gorffen yn Ty Croes Mawr. Sul 21
Y Parch Alun Roberts Cricieth am 2 a 6. Llun 22
Rhoi llechen ar portigo Penponcyn. Angladd Miriam Griffith Penponcyn. Gwaed yn
torri ym mrest Mary Tyn fron. Mawrth 23
BW 8 am i 12. Derbyn siec o £7/17/6d oddiwrth Rev Owen Williams am weithio
yn Ty Croes Mawr. Mercher 24
BW 4 am i 8. Iau 25
Trwsio aden ty Tan y Capel. Gwener 26
Gorffen yn Tan Capel, derbyn 5/- gan Harry Jones. Talu i Owen Owens am
weithio Ty Croes a tynnu tatws 12/-. Sadwrn 27
Ar ben ty Pisgah heddiw. Marw Catherine Jones Pig y Parc. Sul 28
W J Jones y gweinidog am 2. Llun 29
BW 6 am i 10. Niwl a glaw. BW 1o pm i 2 am. Mawrth 30
BW 10 am i 2 pm. Glaw a gwynt. Angladd Catherine Jones Pig Parc yn Nebo. Rhagfyr Mercher 1
BW 2 am i 6. Iau 2- BW 6
pm i 10. Gwener 3
BW 6 am i 10. Mynd lawr i Congol i roi gwair i fewn. BW 10 pm i 2 am. Sadwrn 4
Newydd am farw Elin gwraig Charles yn Dinbych. BW 2pm i 6. Sul 5
BW 6 pm i 10. Llun 6
Talu am 9 cant o lo £1/2/6d. Nel yn mynd i Ty Brics i fynd i angladd Elin
gwraig Charles i Ddinbych. Mawrth 7
BW 9.30 i 1.30 pm. Rhew caled yn y bore. Mercher 8
Marw Isaac Bryn Gwynt yn Pisgah yn pnawn. Iau 9
Hel arian hosbitol £1/4/0d. Talu 2/6d am y set. Arian watiad £2/14/0d. Gwener 10
Bwrrw glaw. Sadwrn 11
BW 3 am i 7. Damwain ar y line o Dundee i Glasgow, eira wedi sropio tren
ar express yn rhedeg iddi a lladd 24. Sul 12
Jones Cricieth. Llun 13
BW 6 am i 10. Glaw trwm yn y bore. Mawrth 14
BW 2 am i 6. Yn Tyn Gamfa yn cau o gylch strapiau yr injen oil. BW 10 pm i
2am. Mercher 15
BW 6 am i 10. Iau 16
BW 2 pm i 6. Hysbin yn cael myharen. Gwener 17
BW 6 am i 10. Sadwrn 18
Sul 19 Llun 20
BW 12 i 4 am Mawrth 21
BW 8 pm i 12. Mercher 22
- Wyau ir siop 4/7d. DR wedi
mynd ir dref. Talu am gorn ir ieir £1.10/0d. BW 8 pm i 12. Iau 23
Llythyr gan John Williams America. Arian watiad £1/7/0d. Gwener 24
BW 12 i 4 am. Yn Berch yn edrych am Thomas. BW 8 pm i 12. Sadwrn 25
Sul 26
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 27
Anfon am y llyfrau misol. Mawrth 28
Papurau llenwi i fod i fewn heddiw. Angladd Robert Williams Tyn Llidiart. Mercher 29
i 30 Gwener 31
Derbyn llyfrau misol ar dyddiaduron heddiw. Palu y fordor isa yn Ael
Bryn. Cant ir ieir yma a Tan Ffordd.
~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |