|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr
Sul 1
Joseff Jones am 2 a 6. BW 2.30 to 7.30 am. Llun 2
Williams Chwilog yn Nebo 6.30 pm. BW 10 pm i 3 am. Mawrth 3
Gwyn Jones y gweinidog yn pregethu am 7. Mercher 4
BW 4 am i 9 am. Tefysg mawr bore torri y telephone. Bora mawr i mi yn
Bytilith. Iau 5
BW 10 am i 2 pm. Mynd i Congol i roi yr yd i fewn. Cyfarfod Gweddi yn
Pisgah. Gwener 6
Hanner yn Carreg Lefain Bach yn gorffen pen isar beudy. Cyfarfod Gweddi
yn Pisgah. Sadwrn 7 -
Yn Tan Ffordd yn malu at y sul. Sul 8 -
Griffith Thomas Roberts Botwnnog. Llun 9
Tri chwarter yn Carreg Lefain Bach. Diwrnod braf. Mawth 10
BW 8 pm i 12. Buwch Daniel yn dod a llo. Mercher 11
Mynd ir dre at Butterbell yng nghylch y copertyf. Iau 12
Newydd am farw Margaret Williams Ty Croes Mawr or hosbitol. Gwener 13
Dod a corff Margaret adref o Fangor. Sadwrn 14
Mynd i Tyn Llan heno. Talu 10d am y Cymro. Sul 15 -
RH Jones Rhostryfan am 2 a 6 BW 9 am i noon. Llun 16
Tri chwarter yn gorffen yn Carreg Lefain Bach. Mawrth 17
Angladd Margaret Williams Ty Croes oed 64
yn Nebo. T Gwyn Jones gweinidog yn gwasanaethu. Mecher 18
Iau 19
Mynd i Tyn Llan at y pobty. Gwener 20
Efo Daniel yn malu yn Congol. Drill y watchers yn cwt Mynydd Bach. Arian BW
4/6d a 2/6d y drill, 1/3d am falu. Sadwrn 21
Yn Tan Ffordd yn malu. Diwrnod oer. Sul 22
Gwyn Jones y gweinidog am 2 a 6. Llun 23 i
24 Rhew caled. Mercher 25
BW 3 am i 8. Golau St Tudwals wedi diffodd. Iau 26 -
Dan annwyd trwm. Rhew caled eto heddiw. Gwener 27
Sadwrn 28
Yn Tan Ffordd yn malu. Rhew caled. Wythnos galed dros ben. Sul 29
John Emrys Roberts Pwllheli am 2 a 6. Llun 30
Yn Tyn Llan yn gosod y pobty. Mawrth 31 Yn dre heddiw yng nghylch y copertyf. Arian BW 5/7d Chwefror
Mercher 1
BW 8 am i 1 pm. Iau 2
Efo Daniel yn tendio y fuwch yn dod a llo 6.30 bore heddiw. Corddi yn Tan Ffordd.
Richard yn mynd a chwech dafad i Coch moel. Gwener 3
BW 5 pm i 10 pm. Sadwrn 4
BW 6 pm i 11. Eisiau gwneud y balance sheet i Owen Griffith. Sul 5
John Ellis Williams y gweinidog. BW 7 pm i hanner nos. Ar fy nhraed yn Rhiwlas
wedyn. Llun 6
Yn Tan Ffordd yr injen oil ddim yn troi. Marw Evan Refail gynt yn Mynytho nawr. Mawrth 7
Talu 6d i Hugh am y Cymro. Gwneud yr injen oil fynd heddiw. Cyfarfod trysdis
yn Pisgah Gwyn Jones yn arwain. Mercher 8
BW 2.30 am i 8.30. Iau 9
BW 4.30 i 9.30. Talu 17/- am fag blawd yn yr Eifion dim newid gan Willie talu yn
y lookout talu ir wraig a Willie yn cwyno heb godi am osod ffram y drws. Yn
Congol yn pnawn. Gwener 10
Cysgu neithiwr yn y Rhiwlas. Malu a porthi yn Bwlchgarreg a Congol. BW 10 pm
i 3 am. Sadwrn 11
Un Cymro heb ei gael. Sul 12
Joseff Jones am 2 . Llun 13
Yn Rhiwlas, Daniel wedi nol y drol i Bodfean. Mawrth 14
Teilo yn Tan Ffordd i cae capel hyd y croen. Mercher 15
Hanner yn Cadwgan. Teilo yn pnawn yn Tan Ffordd. Arian BW £2/5/6d. Iau 16
Diwrnod yn Cadwgan porthi yn bore teilo un llwyth wedyn ir llain yn pnawn. Gwener 17
Diwrnod yn Cadwgan porthi bore a teilo llwyth ir llain yn pnawn. Sadwrn 18
Diwrnod yn Cadwgan porthi a malu a dechrau chwalu tail. Sul 19
John Emrys am 2 a 6. Yn Cadwgan bore. BW 12 i 5 pm. Mynd i Cadwgan i odro a
syperu gwartheg. Llun 20 -
Diwrnod yn Cadwgan yn porthi a teilo 5 llwyth ir cae sydd wth Tangraig. Mawrth 21
Tri chwarter yn Cadwgan porthi a teilo tri llwyth eto. BW 5 pm i 10 pm. Mercher 22
- Tri chwarter yn Cadwgan. BW 6 pm
i 11 pm. Iau 23
Hanner yn Cadwgan. Eira pnawn dim porthi. Gwener 24
Eira mawr methu mynd dim pellach na Tyn Fron wrth drio mynd i Cadwgan.
Defaid wedi eu claddu. BW 6 i 11 pm. Sadwrn 25
Diwrnod yn Cadwgan yn porthi a chwilio am y defaid efo R Owen Waen. BW 7 pm
i 12. Sul 26
Eira wedi cau y ffordd neb yn y capelydd. Llun 27
Diwrnod yn Cadwgan yn porthi a clirio eira. BW 8 pm i 1 am. Mawrth 28 Diwrnod yn Cadwgan porthi, chwalu tail a chwilio am y defaid. Mawrth Mercher 1
Hanner yn Cadwgan mynd i Bytilith 3 pm BW 4 pm i 9 pm. Iau 2
Diwrnod yn Cadwgan porthi a chwalu tail. Gwener 3
BW 3 am i 8 am. John Evans yn mynd i Cadwgan yn bore. Hanner yn Cadwgan yn
porthi. Bwrrw glaw. Sadwrn 4
BW 5.30 i 9.30 am. Daniel yn galw 1.30 am. John Evans yn Cadwgan yn bore. Fi
yno yn pnawn. Derbyn £3/16 s am wneud beudy Carreg Lefain. Sul 5 -
Gwyn Jones gweinidog am 2 a 6. Yn Cadwgan. Llun 6
Hanner yn Cadwgan BW 11 am i 3 pm. Drill gwn mawr am 3 pm. Mawrth 7 -
Hanner yn Cadwgan a Ociswn Ty Croes Mawr. Mercher 8
Diwrnod yn Cadwgan. Dechrau redig tyndir. Iau 9
Diwrnod yn Cadwgan porthi a carcharu defaid. Gorffen chwalu tail yn y llain.
Angladd gwraig Tyn Lon yn y Rhiw. Gwener 10
Diwrnod yn Cadwgan porthi a redig efo R Jones yn cae crwn. Sadwrn 11
Diwrnod yn Cadwgan porthi. Mynd i edrych ddoi R Jones i redig. Mynd a
strapiau tinbren i Llyshyfryd a tacluso redig efo rhaw dan de. Sul 12
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 13
Diwrnos yn Cadwgan yn porthi. Teilo cae pella hyd y croen. Fog weather 8 pm i
midnight. Mawrth 14
Diwrnod yn Cadwgan porthi redig tyndir yn cae crwn pnawn. BW 8 pm i
midnight. Fi yn chwilio am TJ (?) i fynd ar watch. Mercher 15
Hanner yn Cadwgan porthi. BW 2 pm i 7. Lladd llwdn efo Daniel. Arian BW 6
turn £1/13/9d. Iau 16 -
Hanner yn Cadwgan dan dri. BW 3 pm i 8 pm. Gwener 17
Diwrnod yn Cadwgan porthi bore. Redig pnawn. Mynd ar fuwch fach i Bodwyddog. Sadwrn 18
Diwrnod yn Cadwgan. Redig bore porthi pnawn. Sul 19
Gwyn Jones y gweinidog am 10. Glaw mawr heddiw. BW 1 am i 5 am. Llun 20
Diwrnod yn Cadwgan. Porthi a chwalu tail cae pella. Talu y dreth i Morris yn
Cadwgan 18/4d. Mawrth 21
Diwrnod yn Cadwgan, porthi teilo cae canol. Dim yn dda yn Tan Ffordd Nell yn
dod i Cadwgan. BW 12 to 4am. Mercher 22
Hanner yn Cadwgan. Fi a Edgar Morris yn dre heddiw. Arian BW £2/0/6d wedi
talu ir 17 Mawrth. Iau 23
Hanner yn Cadwgan porthi dechrau chwalu tail cae canol. BW 1 pm i 6 pm. Gwener 24
Diwrnod yn Cadwgan porthi a gorffen chwalu tail cae canol. Dechrau brigor
ardd. Sadwrn 25
Hanner yn Cadwgan. Redig yn Tan Ffordd pnawn. Sul 26
Ellis O lloyd Poerthamdog am 2 a 6. Llun 27
Diwrnod yn Cadwgan porthi a palur ardd. Pwyllgor hosbitol Bangor yn yr ysgol
heno am 7 pm. Anfon arian am y llyfrau i Fangor. Mawrth 28
Hanner bore yn hel eithin yn cae newydd Bodwyddog. Diwrnod poeth. Redig yn
Tan Ffordd pnawn. Mercher 29
Diwrnod yn Cadwgan brigor ardd a rhychu a plannu nionod. Iau 30
Mynd i angladd Griffith Jones Minffordd Llangwnadl yn Bryncroes. Talu 1/- am y
Cymro. Gwener 31 Dowrnod yn Cadwgan yn plannu rardd. Ebrill
Sadwrn 1
BW 3 am i 9. Bore distaw mynd i Cadwgan i falu. Plannu tatws Ael Bryn heddiw.
Wedi talu am y Cymro hyd heno. Sul 2 -
Griffith Thomas Roberts Botwnnog am 10 - . Llun 3
Diwrnod yn Cadwgan hel eithin yn cae newydd, llyfnu tir tatws pnawn. Hugh yn
mynd ar defaid i Bodgaeaf yn pnawn. Mawrth 4
Diwrnod yn Cadwgan yn codi tatws. Mercher 5
Diwrnod yn Cadwgan codi tatws. Redig lle tatws pnawn. Mynd ar fuwch bach
at y tarw nos fi a Hugh Jones. Iau 6
Hanner yn Cadwgan redig lle or tatws. Mynd i rychu i Tan Ffordd pnawn efo
ceffyl Daniel. Redig gydar nos yn Cadwgan. Gwener 7
Diwrnod yn Cadwgan. Rhychu tatws. Wedi gwneud wythnos eithriadol o sych. Sadwrn 8
Hanner yn Cadwgan teilo saith llwyth ir tatws. Redig yn caer big Tan
Ffordd. Sul 9
Gwyn Jones y gweinidog am 2 a 6. Cyfarfod Gweddi am 6. Glaw heddiw heb fwrrw ers
tair wythnos. Llun 10 - B
W fog 2 am i 8. Hanner yn Cadwgan teilo tatws. Mawrth
Hanner yn Cadwgan teilor tatws. BW fog 1 pm i 6. Mercher 12
BW 9 am . Hanner yn Cadwgan yn gorffen teilo a chwalu pedair rhes dail.
Arian BW £1/1/6d. Wedi talu hyd ddiwedd mawrth. Iau 13
Yn Cadwgan yn plannu tatws. Gwener 14
Dowrnod yn Cadwgan yn redig gwaelod cae Griffith Williams. Sadwrn 15
Yn Cadwgan yn gorffen redig cae GW. Sul 16
J Ellis Williams y gweinidog am 2 a 6.30. Tywydd eithriadol o sych. Llun 17
Plannu yn gwaelod cae dan ty Tan Ffordd. Mawrth 18
Hanner yn Cadwgan redig lle roedd
dalerydd swej. Mynd i Tan y Ffordd at y defaid. Mercher 19
Owen Hughes yn redig cae big Tan Ffordd. Iau 20
Redig yn bore cae big yn Tan Ffordd. Heu llwch i Hugh Jones pnawn. Gwener 21
Teilo cae big efo trol Evan Williams. Heu pnawn, Owen Hughes yn gorffen
llyfnu cae big a cae dan ty Tan Ffordd. Sadwrn 22
Drill y watchers. Sul 23
Joesff Jones am 10. Bwrrw glaw heddiw da iawn wrho hynod o sych. Llun 24
BW fog 5 am i 10. Bwrrw glaw heddiw. Glanhau stof Ael Bryn. Mawrth 25
Yn Tan Ffordd mynd i chwilio am had gwair i Ty Rhedyn. Mercher 26
BW 8 am i 1 pm. Arian BW £1/1/4d wedi talu hyd y 12 i Ebrill. Iau 27
Yn Rhiwlas ar fy nhraed neithiwr. Gogrwn sachad o had gwair yn Ty Croes Bach. Yn
llyfnu tir glas cae capel. R Jones wedi colli ei dwrn yn cyfarfod plant yr Urdd.
Richard troi y gwartheg ir allt a allan yn nos, dim gwair. Gwener 28
Hanner yn Cadwgan yn redig y dalar. Sadwrn 29
Hadu cae big Tan Ffordd. Ar fy nhraed yn Rhiwlas. Sul 30 John Emrys Roberts. Mai
Llun 1
Mynd ir Trwynau Bach i dorri priciau pys. Mawrth 2
BW 4 pm i 9. Arian BW £1/2/6d. Mercher 3
Yn Penrogo yn rhoi bacha newydd i ddal y landars. Iau 4
Yn Penrogo yn paentio a rhoi syment yn y ty. Bwrrw glaw. Gwener 5
Danfon y ddau ddynewad i Ystol helig Bach. Sadwrn 6
Glaw mawr bore heddiw. Sul 7
Cyfarfod Gweddi am 2 a 6.30. Llun 8 -
Yn Penrogo. Mawrth 9
Mynd i Penrogo ar ol te derbyn 11/- gan Mrs Keating. Mercher 10
BW 3 am i 8. Hanner yn rhychu swej yn Cadwgan. Arian gan Hugh Jones £5. Mercher 11
Rhychu bore yn Bwlchgarreg. Rhychu yn gwaelod cae dan ty Tan Ffordd pnawn.
RHT a Bet yma wedi bod yn danfon brics yn y Glyn. Gwener 12
Gorffen palu tatw Ael Bryn. Sadwrn 13
Pawb yn mynd ir ffair heddiw. Arian BW 5/7d Glaw heddiw, bwrrw yn dyner.
6d am y Cymro. Sul 14 -
Joesff Jones am 10. Llun 15 Mawrth 16
Rhychu mangels a claddu tail. Mercher 17
Heu mangles a swej a gorffen rhychu. Tywydd tyfu da. Iau 18
Teilo a gorffen claddu. 5 cant o lo gan Redant 13/- Gwener 19
Claddu tail swej yn Tan Ffordd a redig ar y tatws.. Sadwrn 20
- Heu swej yn Bwlchgarreg a
tynnu pridd oddiar y tatws. Nel wedi mynd i ocsiwn ddodrefn ir Sarn. Bwrrw
tipyn pnawn heddiw. Sul 21
J E Williams gweinidog am 2 a 6.30. Pregeth Coffa Parch H Hughes. Llun 22
Adref yn symud palis i wneud parlwr yn fwy. Arain am weithio i Daniel 10/-.
Bwrrw glaw or gogledd heno. Mawrth 23
Gosod y cwpwrdd yn y bwtri a gorffan y palis. Cant o lo gan John Talafon.
Robert Evans y Syntyr yn mudo i Bronfoel Uwchmynydd. Mercher 24
BW 3 am i 8. Yn Rhiwlas corddi dan ginio. Mynd i Congol i rychu swej pnnawn. Iau 25
Yn Congol pnawn yn chwalu tail a heu mangels. Gwener 26
Rhoi syment yn llawr parlwr. Sadwrn 27
Rhoi lliw ir bwtri ar gegin Sul 28
Cyfarfod yn ysgol Tyddyn. E Williams a O Owens wedi mynd yno. Gweinidog Bwlch yn
Tan Foel am 2. Llun 29
Diwrnod yn cau siafft yn y Benallt y siafft lle syrthiodd ebolas Ty Croes.
Cyngor plwy yn dewis School Managers. Mawrth 30
Diwrnod eto yn Benallt yn cau siafft. Mercher 31 Diwrnod yn gorffen cau y siafft a rhoi wier pigog. Mehefin. Iau 1
Pawb yn mynd ir Gymanfa i Llanbedrog heddiw. Gwener 2
Glaw mawr heddiwr bore. Sadwrn 3
Rhoi paent dwr yn top y gegin. Arian BW 5/7d. 9 Cymro. Sul 4
John Emrys Roberts am 6.30 yn lle Richard Jones Pwllheli. Llun 5
Priddo tatws a glanhau yr ardd. Mawrth 6
BW fog 1 am i 5. Mynd i Pencaerau i nol paent. Mercher 7
Iau 8
Deugain wythnos ar y fuwch goch. Gwener 9
Sadwrn 10
Yn 61 oed heddiw. Mynd ir Ty Isa Aberdaron yng nghylch y fuwch froc. Marw
Anne Bodlondeb 1.30 am. Sul 11
John Emrys Roberts am 2. Llun 12
Tynnu tatws y tro cyntaf wedi plannu ers y cyntaf o Ebrill. Mawrth 13
Adref yn peintio. Mercher 14
Peintio. Iau 15
Peintio. Gwener 16
Bwrrw tipyn. BW 11 pm i 4 am. Sadwrn 17
Bwrrw ychydig bore. Tri o hogiau Tir Dyrys yn boddi wrth fynd i godi cewyll
yn Porth Fesig o dan dir Trefgraig. Sul 18
BW 5 am i 10. Llun 19
BW 6 am i 10. Cneifio Mynydd Graig. Mawrth 20
Golchi defaid Tan Ffordd. Griffith John Llyshyfryd yn rhedeg efo moto beic i
lori yn ymyl Tyn Lon, dim brifo llawer Tudwal dipyn ond mi lasa fod yn waeth. Mercher 21
Angladd tri brawd a fu foddi o dan dir Trefgraig yn Hebron, y mwyaf a welwyd
eto. Iau 22
Cneifio yn Tan Ffordd. Bag o flawd or Eifion. Gwener 23
Mynd i nol paent gwyn i beintio ffenestri. Bwrrw dechrau am 6pm. Sadwrn 24
Sul 25 -
John Emrys Roberts am 6.30. Llun 26
Drill gwn 5/-. Pwyllgor ras cwn. Mawrth 27
Marw Gaynor Roberts Tyn Llidiart. Priddo tatws yn Tan Ffordd. Mercher 28
Arian BW £1.0/3d.. Iau 29 Gwener 30 Angladd Gaynor Roberts yn Eglwys Rhiw. Gorffennaf. Sadwrn 1-
Pawb wedi mynd i Aberdaron efo Laura ar plant. Sul 2
Bob Humphries Llanbedrog am 2 a 6.30. Llun 3
Torri gwair yn cae dan ty Tan Ffordd a torri pen ucha cae capel. Cario efo
Daniel. Mawrth 4 - Mercher
5 Cario tri llwyth o cae dan ty. Iau 6 -
Drill y watchers am 10 am. Gwener
7 Llwyth o pen ucha cae capela llwyth o cae dan ty. Lladd oen yn
Penarfynydd. Sadwrn 8
Gorffen torri cae capel yn Tan Ffordd. Ladd oen yn Penarfynydd. Sul 9
Griffith Thomas Congl Meinciau am 2 a 6.30. Glaw mawr dechrau 6 pm. Llun 10
Dechrau torri gwair yn Penarfynydd. Mawrth 11
BW 6 am i 9. Mercher
BW 3 pm i 8. Arian BW a drill watchers 13/6d. Am gario gwair yn Bodwyddog 5 /-. Iau 13 i
15- Sul 16
John E Williams y Gweinidog am 10. Jubilee Young ar y wireless. Llun 17
Wip drill 2.15 pm 5/-. Mawrth 18 i
19 Iau 20 -
Owen Hughes yn torri cae nesa i Gonion. Gwener 21
Deugain ar y fuwch froc. Cael y gwair yn Tan Ffordd. Thomas fy mrawd yma. Sadwrn 22
Yn Penarfynydd yn torri pen ucha cae sgubor. Cario 10 llwyth pnawn dan 11
pm. Sul 23 -
Ellis o Lloyd am 10. Thomas fy mrawd yma am ddeg. Llun 24
Diwrnod yn Penarfynydd dechrau 6 am. Torri cae pwllfadog gorffen cario cae
sgubor 10 pm. Thomas fy mrawd yn mynd adref heddiw. Mawrth 25
Hanner yn Penarfynydd torri
bryncarwyn. Mynd i BW 5 pm i 10. Arian BW 11/3d. Mercher 26
Diwrnod yn Penarfynydd torri pen ucha dryll dan ty hel bryncaerwyn at ei
gilydd a troi cae pwllfadog. Iau 27
Diwrnod cario cae pwllfadog, hogiau Tyn y Fron efor drol yn rhoi help.
Dechrau torri 6 am yn dryll. Gwener 28
Dechrau 5.40 am yn Penarfynydd dechrau troi yr acer isa ond un troed Lewis
yn mynd i fedd caseg Ysgo (?). Lladd oen, glaw heddiw. Sadwrn 29
Diwrnod yn Penarfynydd yn troi yng ngwaelod y dryll dan ty, yna crybinio cae
pwllfadog a cario. Crybinio bryncaerwyn a pwllfadog. Sul 30
Edward Thomas Aberdaron. Llun 31 Amser codi licence wireless yn Tan Ffordd. Ffynnon yn cae Conion wedi sychu. Awst
Mawrth 1
BW 5 i 10 am. Diwrnod oll dan 10 y nos yn cario 10 llwyth o dop y dryll. Mercher 2
Diwrnod nol y cribinion or dryll mawr. Torri yn dryll dan ty. Iau 3
Diwrnod yn torri bore cario 4 llwyth a torri gydar nos. Hoelen yn mynd i
droed Tai (?). Gwenere 4
Gorffen torri allt y dryll cario 11 llwyth. R Jones yn helpu. Sadwrn 5
Diwrnod yn Penarfynydd gorffen cael y gwair ar cribinion o dryll dan ty
cario 4 llwyth. Sul 6 N
P Roberts am 2 a 6.30. Llun 7
Hynod o sych. Mawrth 8
Ras cwn yn Ty Croes yn pnawn. Mercher 9
Hanner yn Penarfynydd. Dechrau gwneud rhaffau. Iau 10
Rigeta Aberdaron. Gwenere 11
Diwrnod yn Penarfynydd, cneifio yr wyn. Sadwrn 12
Diwrnod yn Penarfynydd tynnu y das wair. Sul 13 -
Thomas H Evans Bryn Difyr. Bwrrw ychydig o law 8 pm. Llun 14
Diwwrnod yn Penarfynydd. Tipio
defaid 5.30 am a rhoi rhedyn ym mhen y das wair. Mawrth 15
Hanner yn Penarfynydd gwneud rhaffau dan de. Torri rownd dryll cefnenus
wedyn. Mercher 16
Diwrnod yn Penarfynydd, torri dryll cefnenus. Cyfarfod pregethu Rhoshirwaen
yn dechrau. Iau 17
Glaw bore. Diwrnod rigio y ddwy bladur ai llifo. Rolant yn mynd i Gyfarfod y
Rhos. Gwener 18
BW 2 am i 7. Diwrnod yn Penarfynydd torri rownd cae pant a torri efo injen
pnawn. Sadwrn 19
Diwrnod gorffen torri gwaelod cae pant Un deg naw a hanner o ddyddiau. Sul 20 -
Gwyn Jones am 6.30. BW 10 am i 3 pm. Llun 21
Diwrnod yn gorffen torri cae pant. Blawd or Eifion a peillion a corn ir
ieir. Mawrth 22
Diwrnod yn torri rownd cae crwth torri efor injen ar ol cinio dan de.
Gwlyb rhoi y gwellt fewn i dynu a toi y gwair. Mercher 23
Diwrnod yn gwneud rhaffau yn y bore a gorffen torri caecrwth yn pnawn. Iau 24
Diwrnod yn tipior defaid bore a dechrau cynnill cae cefnenus pnawn. Gwener 25
Hanner yn gorffen cynnil dryll
cefnenus a dechrau pen isa cae pant. Mynd ar ol cinio i gario yd Tan Ffordd.. Sadwrn 26
Diwrnod yn gorffen cynnill haidd caecrwth a cynnill top cae pant. Watch cael
fy ngalw 10.30 pm Motor boat W Owen Bryn Badell ar goll dod o hyd iddo wedi
rhedeg allan o betrol yn Porth Neigwl. Sul 27 -
GT Roberts Botwnnog am 2. Llun 28
Diwrnod yn gwneud rhaffau. Glaw trwm drwyr dydd. BW 7.30 pm i 12.30. Mawrth 29
Adref heddiw dechrau rhoi landar ar Brynawel. Mercher 30
Diwrnod yn troi cae pant a brigo yn pemtrwyn rhag y defaid. Iau 31 Diwrnod toi bore a lladd oen. Cynnill cae pant pnawn. Robert yn mynd a hwch i Meillionydd ac oddi yno ir sale. Arian BW £1/1/4d. Medi
Gwener 1
Diwrnod yn gwneud rhaffau bach bore a tynnu to pnawn, cau pen trwyn ar ol te. Sadwrn 2
Diwrnod yn toi y das wair. Sul 3 -
John Emrys Roberts am 2. Marw Thomas y Rhiwlas am 8 am. BW fog 6.30 i
10.30.04 Llun 4
Diwrnod yn cario haidd o cae crwth. Mawrth 5
Diwrnod yn hel mynydd. Robert yn mynd a defaid ir sale. Cynnill cae pant
pnawn. Mercher 6
Diwrnod angladd Thomas Rhiwlas. Cario llwyth o dryll cefnenus. Dyrnu Conion
a Carreg Lefain. Iau 7
Diwrnod cario 18 o lwythi o cae pant. Dyrnu Tyn Fron a Tyn llidiart. Gwener 8
Diwrnod yn dyrnu. Dwr wedi sychu yn Conion. Tywydd eithriadol o sych. Sadwrn 9
Diwrnod yn dyrnu yn Llawenan. Sul 10
Joseff Jones am 2. Llun 11
Hanner yn gorffen cario ceirch yn cae pant. Richard yn dechrau cario dwr o
ffynnon Pant. Mawrth 12
Diwrnod yn barbio das geirch, toi 6 gwana das wair. Robert a Rolant ddim yma
heddiw. Emlyn yn nol Rolant. Mercher 13
Diwrnod yn gorffen cael y sgloffion cae pant a dryll cefnenus. Rolant adref. Iau 14
Diwrnod yn cychwyn yr heffrod efo Robert ir sale. Gwneud pen y das wellt.
Gorffen toi y das wair. Gwener 15
Hanner yn dechrau toi y das geirch. Mynd ir Sasiwn yn Pwllheli yn pnawn. Sadwrn 16
Diwrnod yn toi a rhaffu. Wythnos hynod sycb. Dim golwg am law heno. Dwr yn
darfod ym mhob man bron. Talu 7/6d Griffith John am ledar. Sul 17
J E Williams gweinidog am 2 a 6.30. BW 7 pm i 12. Llun 18
Diwrnod yn gwneud rhaffau ir das wair yn y sied. Hel defaid i cae penrorsedd
a cau . Robert yn mynd ar meherin i Aberdaron. Mawrth 19
Diwrnod yn gwneud pen gwellt haidd. Dechrau toi y das wair sied. Arian BW
10/-. Mercher 20
BW 5 am i 10 am.Hanner BW 5/9d. Hanner yn toi y das wair. Bwrrw glaw
gydar nos. Iau 21
Diwrnod yn cau terfyn Tyn Thedyn rhag y defaid. Rolant yn Ysgo yn dyrnu. Gorffen
toi das wair y sied. Gwener 22
Yn Penrogo heddiw. Sadwrn 23
Diwrnod yn gwneud rhaffau, dechrau rhaffu y das wair. Glaw bore. Sul 24
John Emrys am 2. BW 8 pm i 12. Llun 25 -
Diwrnod yn gwneud rhaffau. Rolant yn dechrau rhaffu yr ochr yma i das y
sied. BW 3 am i 8. Mawrth 26
Rhaffu das wair ochr isa. Mercher 27
Dan annwyd. Rhaffu rownd y talcen a rhaffu gwana ochr isa. Iau 28
Arian BW 10/-. Hanner yn gorffen rhaffu y das wair. Gwener 29
Mynd i angladd Elisabeth gwriag Bryn Chwilog yn Aberdaron. Sadwrn 30 Diwrnod yn gorffen toi y das geirch. Hydref. Sul 1
RH Jones Rhostryfan am 2. Llun 2
Dechrau tynnu tatws. Mawrth 3
Tynnu tatws. Mercher 4
Diwrnod yn tynnu tatws. Rolant adref yn tynnu tatws. Iau 5
Claddu y fuwch seren wen bore ma tynnu tatws pnawn 93 o fagiau. Gwener 6
Diwrnod tynnu dechrau y cer pinc. Sadwrn 7
Diwrnod yn tynnu gwlydd a hel 5 bagiad. Robert wedi mynd i ocsiwn Tyddyn....(?).
Glaw trwm gydar nos. Thomas Ellis yn darlithio ar Eifion Wyn yn Pisgah Owens
ficer Bryncroes yn gadeirydd. Corn ir ieir 7 dydd. Sul 8
Thomas G Ellis am 2 a 6. Llun 9
Diwrnod yn tynnu gwlydd a rhoi to cwt y moch yn sownd. Mawrth 10
Hanner hel bagiad. BW 12 i 5 pm. Glaw pnawn. Mercher 11
Iau 12
Diwrnod yn hel 28. Gwener 13
Diwrnod yn hel tatws G Jones Ty Canol yn hel yma heddiw. Hel 37 bag. Sadwrn 14
Diwrnod yn tynnu gwlydd. Fi a Robert yn hel 12 bagiad yn pnawn. Rolant yn
corddi. Berwi y foelar. Sul 15 -
J Ellis Williams gweinidog am 10. RHT yma heddiw. BW 5 pm i 9pm. Llun 16
BW 1 pm i 5. Diolch am y cynhaeaf heddiw. Mawrth 17
Diwrnod mynd i cilgena i chwilio am y meherin, dal y ddau a tynnu carcharau.
Hel 12 bagiad o datws pnawn. Mercher 18
Hanner yn claddu yr heffar. BW 1pm i 6pm. Rolant a Robert yn hel 24 bag. Iau 19
BW 2 i 7 pm. Drill nos y gwn mawr. Arian BW £1/11/6d. Gwener 20-
BW 10 am i 3 pm. Ocsiwn Hendy. Talu £1/5/0d am lo i John Talafon.
Sadwrn 21
Hel 24 o fagiau. Sul 22
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 23
Diwrnod hel 24 o fagiau. John Talafon yn dod a hanner tunnell o lo yma. Mawrth 24
Yn Bwlchgarreg yn gwneud yr higol yn y beudy. Mercher 25
BW 9 am i 2 pm. Mynd i Bwlchgarreg i ddechrau cau twll i ddal dwr y gwartheg. Iau 26
Yn Bwlchgarreg yn gorffen y twll yn y bore. BW 3 pm i 8. Gwener 27
Yn Congol yn rhoi stol rhwng y ddwy fuwch yn sownd a cau tylla efo syment.
BW 9pm i 2 am tywydd mawr mellt. Sadwrn 28
Sul 29
Gwyn Jones am 2 a 6. BW 1 pm i 6 pm. Llun 30
Diwrnod yn mynd ar cwnhingod i gyfarfod y lori ir Groeslon. Hel 10 bagiad o
datws. Robert wedi mynd i ocsiwn Morfa Bach. Mawrth 31 BW 8.30 am. Gwneud dor ar y twll dwr gwartheg Bwlchgarreg. Tachwedd Mercher 1
DR a Catherine wedi mynd ir dre. BW 2.30 i 7.30. Iau 2
Diwrnod yn dragio a gorffen efor tatws. BW 8.30 i 1.30 am. Gwener 3
Sadwrn 4
BW 2.30 i 7.30 am. Sul 5
Evans Bryndifyr am 2 a 6. Llun 6
Gwneud llawr yn Bwlchgarreg yn pnawn. Mawrth 7 -
Corddi yn Tan Ffordd. Mercher 8
Diwrnod cychwyn yr heffar ir sale efo Robert. Iau 9
Teilo sied. Gwener 10
Hanner teilo sied Owen Hughes yma efor drol. Sadwrn 11
Arian BW 5/7d. 67 a hanner diwrnod yn Penarfynydd. Sul 12 -
John Emrys am 2. Llun 13 i
14 Yn Tan Ffordd. Mercher 15
BW 3 am i 8. Arian BW £2/5/0d wedi talu i Hydref 4. Iau 16
Yn Tan Ffordd. Gwener 17
Yn Tan Ffordd. Cig or Rhiwlas 1/-BW 5.30 9.30 pm. Sadwrn 18
Yn Tan Ffordd. Sul 19 i 20
Mawrth 21
BW 12.30 pm i 5.30. Mercher 22
Drill watchers 1 pm i 3 pm. 10/- gan Catherine Bryn Awel. Iau 23 Gwener 24
Hanner yn Congol. Sadwrn 25
Arian BW 18/-. Cael 10/- gan Daniel am weithio. Sul 26
Ellis Williams gweinidog am 2 a 6. Llun 27
Mawrth 28
Hanner yn Congol yn cario rwdins. Mercher 29 i 30 Rhagfyr. Gwener 1
Sadwrn 2
BW 5 am i 10. Sul 3
John Emrys am 2. BW 6pm i 11pm. Llun 4
BW 12 midnight i 5 am. Mawrth 5
Corddi yn Tan Ffordd. Mercher 6
Rhoi fy nghyfri am weithio i Robert Evans Penarfynydd. Iau 7 i 8
Tywydd rhew caled. Sadwrn 9
Arian BW 16/10d. Sul 10
Gwyn Jones am 2. Llun 11 i
12- Mercher 13
BW 8 am i 1 pm. Iau 14 i
16. Sul 17
Cyfarfod Gweddi am 2 a 6. Llun 18
Mawrth 19
BW 8 pm i 1. Mercher 20
Pawb oddyma yn dre heddiw. Iau 21
8/- am wydd yn Ty Croes Bach. Gwener 22
BW 8 pm i 12. Russel yn dod hanner nos. Sadwrn 23
Arian BW 15/9d. Sul 24 -
G Thomas Roberts am 2. Llun 25
BW 3pm i 8. Mawrth
26 Mercher 27
Anfon 12/6d am y llyfrau. Hanner efo Daniel. Iau 28
BW 2 am i 6. Hanner mynd i ddyrnu i Congol. Gwener 29
BW 2 am i 6. Diwrnod efo Daniel tynnu swej pnawn. Sadwrn 30
Arian BW 14/7d. Cael 5/- gan Daniel am gario swej. Sul 31 -. ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |