|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr
Gwener 1
Diwrnod yn porthi. Robert wedi mynd ar moch i Sarn Sadwrn 2
Bad Weather 11 am i 4 pm. Sul 3
Joseff Jones am 2 a 6. B W 12 i 5pm. Llun 4
Hanner yn codi wal yn yr Eifion. B W 1 i 6pm William Camdda Buarth yn Tan y Foel
yn pregethu Mawrth 5
Yn yr Eifion yn y bore. B W 2 i 7 pm. Mercher 6
Yn yr Eifion bore. B W 3 i 8 pm. Llythyr wedi dod or Berch yn dweud fod
Harry wedi marw. Iau 7
Yn yr Eifion. Gwener 8
Yn Trip yn gosod popty a cau simdde. Sadwrn 9
B W 8 pm i 1 am. Sul 10
Cyfarfod Gweddi am 2 a 6. Llun 11
Tyllu i roi speix(?) i ddal portigo y gegin yn Ael y Bryn. Mawrth 12
Yn y Trip heddiw. B W 9 pm i 2 am. Mercher 13
Gylhau yr ardd Ael Bryn. Iau 14
B W 3 i 8am. Gwener 15
B W 2 i 7pm. Sadwrn 16 -
Arian B W £1/8/1d. B W 8 pm i 1 am. Sul 17
Gwilym Roberts am 2 ar y Genhadaeth. Gwynfryn Evans am 6. B W 11 am 3 pm. John
Terfyn yn dechrau 4 awr. Llun 18
B W 7 i 12. Arian B W 5/7d. Niwl a glaw. Mawrth 19
Mynd i Pwllheli efo lori post i nol coed i shwr y gegin. Prynu pobty ir
stove. B W 6 i 11pm. Mercher 20
Iau 21
Yn y Post yn trwsio adan y siop. Ar fy nhraed efo Daniel yr heffar yn dod a llo. Gwener 22
B W 7 i 12 noon. Sadwrn 23
Sul 24
John Lewis i fod. Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 25
B W 4.30 i 8.30 am. Willie yr Eifion yn galw 11.30 pm. Arian B W £2/8/6d naw
tro yn glir. Yn Talafon yn gosod pobty. Mawrth 26
Palu o dan yr eil. Mynd i siop Pencaera i dalu am fy nhrowsus a dau drons. Mercher 27
Yn Trip heddiw. Iau 28
B W Thick fog 2 pm i 7 pm. Dod i fyn y i stopio Owen Owens y watch yn stopio
saith. Gwener 29
Sadwrn 30
Dechrau siwr y gegin Ael y Bryn. Sul 31
Arthur Morgan Aberdaron am 2 . Chwefror
Llun 1
Rhoi ffram y siwr wrth ddrws y gegin yn bore. Hanner yn Penarfynydd yn porthi a
rhiglo y gadlas. Mawrth 2
Diwrnod yn dyrnu y das geirch. Mercher 3
Porthi a dechrau toi y das wellt. Iau 4
Diwrnod dyrnu das haidd. Newydd am farw W Jones yr hen borthwr. Tywydd distaw ar
hyd yr wythnos yma. Gwener 5
Diwrnod hel eithin yn bore a rhaffu ar y das wellt haidd a dechrau toi.
Hynod o boeth heddiw. Sadwrn 6
Diwrnod toi gwellt haidd. Porthi Robert wedi mynd ar hwch at y baedd. Pwys o
fenyn 1/9d. Sul 7
Trefniant lleol am 2. G Thomas, Elis Jones,O Owens, am 2. O Owens, G Thomas, E
Hughes. Marw Griffith Williams Fron Oleu yn Llyshyfryd. Llun 8
Diwrnod porthi a gorffen toi y gwellt haidd. Poeth prynhawn heddiw eto. Mawrth 9
Hanner dan 2.30 pm ar cloc Penarfynydd. Drill y gwn dechrau 2 pm ar
yr amser. 5/-. Mercher 10
Hanner bore yn hel eithin. Angladd Griffith Williams Fron Oleu. Pwys o fenyn
1/-. B W 3.30 i 9.30pm arian 11/3d. Iau 11
Diwrnod yn teilo o flaen drws y beudy. Edmunds yn dangos lluniau efo lamp yn yr
ysgol. Gwener 12
Diwrnod yn mynd i nol yr olwynion i Refail Bach yn bore. Teilo yn pnawn. Sadwrn 13
Diwrnod yn teilo bore malu ar Borth yn pnawn. Pwys o fenyn 1/-. Sul 14
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 15
Diwrnod hel eithin bore. Teilo pnawn. Mawrth 16
Teilor sied bore. John Morris Ty Rhedyn efo mi pnawn yn gorffen y sied.
Talu 10/4d o dreth i Morris Negraig yn Penarfynydd. Mercher 17
Angladd Owen Roberts Glan gors. Gorffen teilo ir tatws a mangs. Teilo 10
llwyth hyd groen wyneb Cae Penrorosedd. Iau 18
Teilo. Pwys o fenyn 1/6d. John Evans yn gorffen palur ardd. Gwener 19
Porthi gylhau dan y moch. Robert wedi mynd ar hwch fawr i Sarn. Sadwrn 20
Porthi. Robert a Rolant yn cau rhycha yn Cae Pant. Y gaseg yn mynd yn sal
4pm marw hanner nos. Pwys o fenyn 1/6d. Sul 21-
John Emrys am 2 a 6. Yn Penarfynydd yn y bore yn cael y gaseg allan or stabal. Llun 22
Claddu y gaseg. Mawrth 23
Porthi a chwalu tail yn gwaelod dryll mawr. Cyfarfod trysdis yn Pisgah. B W
11.30 pm i 4.30 am. Mercher 24
Spring fawr mor teit. Porthi, gorffen redig cae pant. Rolant wedi mynd Ysgo
i ddyrnu. Pwys o fenyn 1/6d. Iau 25
Rolant yn dechrau dryll cefnus.Mynd ar heffar at y tarw, porthi, hel baich o
eithin. Mary y Cytiau yma, Jini Syntyr ddim adref. Gwener 26
Porthi, hel baich o eithin, toi tair gwana ar y gwellt ceirch. Sadwrn 27
Porthi, hel baich o eithin, toi dwy wana gwellt ceirch. Pwys o fenyn 1/6d.
Yn hynod o sych mis yma ar ei hyd. Sul 28
Evans fu yma yn lay agent o Amlwch. B W 11 pm i 4 am. Llun 29
Gwynt cryf or dwyrain. B w 7 pm i hanner nos. Mawrth Mawrth
1 - Adref yn gylhau yr ardd a trwsio cwt yr ieir. Mercher 2
Hanner llifo cyllill y felin. Pwys o fenyn 1/8d. Iau 3
Hel baich o eithin, toi gwellt, porthi. Robert yn gwerthur tarw. Gwener 4
Porthi, hel baich eithin. Robert wedi mynd i Bodwrdda i edrych am oen ir
ddafad gollodd ei oen. Sadwrn 5
Porthi, hel dau faich o eithin. Griffith Parry yn fy nol i Rolant i dynnu
oen yn y weirglodd. Pwys o fenyn 1/8d. Sul 6
Morgan Aberdaron. B W 1 i 6 am. Llun 7
Porthi, hel baich o eithin. Rolant yn nol oen bach ir ddafad o Ysgo. Arian B
W £1/2/6d. Mawrth 8
Porthi. Y fuwch fawr yn dod a llo yn bore. Dim menyn iw gael prynu yn
Post wythnos yma. Mercher 9
Hanner yn y bore. Nel a John yn mynd ir dre yn pnawn. Iau 10
Porthi, hel eithin. Rolant yn chwalu tail yn dryll mawr. Gwener 11
Porthi, hel eithin. John Cefn Coch yn trio prynu y fuwch goch. Sadwrn 12
Porthi. Robert wedi mynd ar tarw i ffwrdd. Sul 13
Gwynfryn Evans yr un sydd yn Pwllheli yn lle y gweinidog am 2. Gwneud casgliad
at gynrychiolwyr y cyfarfod ysgol 2/-. Llun 14
Anfon cyfrir ysgol sul i Gwilym Evans Idris Cafe Cricieth. Porthi, hel eithin.
Rolant wedi mynd i nol y fuwch o Meillionydd. Pwys o fenyn 1/8d. Mawrth 15
Porthi, hel eithin, toi tair gwana gwellt ceirch. £16/10/6 sydd yn ddyledus
ar Robert i mi ond tynnu ymenyn y flwyddyn yma or swm yna. Mercher 16
Porthi. Rolant a fi yn mynd a heffar i Bodwyddog at y tarw. Iau 17
Hanner bore. Dod adref i blannu tatws cynnar. Gwener 18
Porthi a mynd a dwy fuwch at y tarw. Rolant yn dyrnu yn Bodwyddog. Pwys o
fenyn 1/3d. Sadwrn 19
Porthi, hel dau faich o eithin. Tywydd sych. Sul 20
Joseff Jones am 2. Cyfarfod ysgol Aberdaron. Marw Kate Robert Owen Brynffynnon
yn yr Erw Llanbedrog. Dim glaw ar hyd Chwefror a Mawrth. Llun 21
Hel dau faich o eithin a porthi. Owen Ty hen a Walter yn lladd y fuwch goch. B W
11 pm i 4 am. Mawrth 22
Porthi symud y lloi ir beudy pwinto. Pwys o fenyn 1/8d. Mercher 23
Hel eithin, porthi ac efo Robert yn gorffen redig cae bryn caer wyn. Iau 24
Hel eithin, porthi. Robert yn dechrau ail droi cae crwth. Tywydd sych iawn Gwener 25
B W 4 am i 9. Daniel yn fy ngalw. Gorffen plannu tatws ond tair rhes ir
draenat bys. Sadwrn 26
B W 5 am i 10. Hanner pnawn yn porthi a malu. Pwys o fenyn 1/8d. Sul 27
Morgan Aberdaron am 2. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 28
Hel eithin a porthi. Mawrth 29
Bwrrw glaw mawr heddiw. Dechrau caur mynydd rhoi stanciau ar glawdd cae
sgubor. B W 8 pm i 1 am. Mercher 30
Hanner hel eithin a porthi dechrau 10.30 am dan 5 pm. Mynd i Ty rhyd i ail
osod y popty. Pwys o fenyn 1/8d. Iau 31
Diwrnod eto. Ebrill. Gwener
1 - Hel tri baich o eithin a porthi. Bwrrw glaw trwm amser te. B W 7.30 i 12.30
am. Sadwrn 2
Porthi. Pwys o fenyn 1/9d. Sul 3
Jones a fu yma yn lay agent am 2 a 6. Llun 4
Porthi a hel dau faich o eithin. Caur mynydd am spel pnawn. Cyngor plwy heno. Mawrth 5
Porthi hel dau faich o eithin. Dechrau rhychu cae crwth. Mercher 6
Porthi, gyrru i rychu bore. Mynd i Bytilith 5 pm ar gloc Penarfynydd. B W
4.30 i 9.30pm. Pwys o fenyn 1/9d. 1/4/5d ydi menyn hyd 6 Ebrill. Iau 7 B
W 7.30 am i noon. Tywydd oer gwynt gryf or north west. Gwener 8 -
Porthi yn y bore. Rolant adref. Yr heffar yn dod a llo. Dechrau teilo tatws yn
cae crwth. £17/15/0d sydd i mi wedi tynnu y menyn. Sadwrn 9 -
Daniel yn fy ngalw. Hanner yn malu a porthi. Robert wedi mynd i nol llo i
Tyddyn Morthwyl. Menyn or Post. Sul 10
G Thomas Roberts Botwnnog am 2. B w 5.30 i 9.30 am. John E Williams am 6. Llun 11
Porthi, hel eithin teilo pnawn. B W 6.30 i 11.30. Mawrth 12
Hel eithin, gorffen teilo tatws. Menyn or Post. Mercher 13
Plannu tatws. Daniel yn fy nol i fynd i Bytilith. B W 6 pm i 11 pm. Iau 14
Porthi a cau pen llasgwrn i lawr i borth iwrch. Gwener 15
Porthi a gorffen cau mynydd. Sadwrn 16
Porthi hel baich o eithin. Trwsio llidiart y borthwen isa. Hel defaid ir
mynydd. Pwys o fenyn 1/8d. Arian B w £3/3/0d yn glir. 57 o ddyddiau. Sul 17 -
B W 3 am i 3 am i 8 am. B w 1 pm i 6 pm. John Terfyn ddim adref. Gwynt
caled or E N E. Daniel yn sal. Llun 18
Porthi a dechrau heu cae pant. Mawrth 19
Heu plannu tatws Cadwgan yn yr ardd. Mercher 20
Porthi, plannu tatws Lon Las eto a nionod. Pwys o fenyn 1/8d. Iau 21
Porthi a heu cae pant. John Morris Ty Rhedyn yn nol hobed a hanner o geirch. Gwener 22
Porthi a gorffen hau cae pant. Sadwrn 23
Porthi a gorffen llyfnu cae pant. Sul 24
Gwynfryn Evans am 2 a 6.30. Mynd i Ty Fry efo Daniel. Daniel yn mynd i Deunant i
arwain canu. Llun 25
Porthi. Mynd i Llywenan i nol hobed o geirch dechrau dryll cefnenus. Mawrth 26 -
Marw Eliza Tyn Cae am 2 am. Gorffen heu ceirch yn dryll cefnenus. Dechrau
plannu tatws yn cae crwth. Mercher 27
Porthi a heu y darn nesa i Bytilith o cae crwth. Pwys o fenyn 1/8d. Iau 28
Porthi, llyfnu tir clas yn cae penrorsedd. Robert wedi mynd ir sel. Bwrrw
glaw trwyr nos. Gwener 29
Bwrrw glaw da neithiwr. Diwrnod porthi a llyfnu cae crwth. Torri garw yn y
cefn oedd wedi ei aredig. Hel gwraidd pnawn. Sadwrn 30
Porthi a gorffen hel gwraidd yn cae crwth. Dim mneyn 68 a hanner o ddyddiau. Mai
Sul 1
John Lewis Pwllheli am 2 a 6.30. Llun 2
Porthi a trwsio llidiart bryncaerwyn. Rolant wedi mynd ir dref pnawn. Mawrth 3
Gorffen heu ceirch yn cae crwth. Llyfnu
llwch yn dryll cefnenus. Mercher 4
Gorffen dryll cefnenus a dechrau llyfnu haidd un bryncaerwyn. Tywydd oer
gwynt or gogledd. Iau 5
Heu ceirch a haidd yng ngwaelod bryncaerwyn. Gwener 6
Gorffen heu haidd. Sadwrn 7
Bwrrw cenllysg heddiw. Heu had gwair yn gwastad bryncaerwyn. Robert wedi
mynd i ddanfon y ddau fustach i Byduan (Bodfean). 75 o ddyddiau heddiw. Arian B
W 11/3d Sul 8
John Emrys am 2 a 6.30. Bwrrw glaw. Llun 9
Gorffen had gwair a heu had gwair yn bryncaerwyn. Mawrth 10
Diwrnod heu had glofar yn gwastat bryncaerwyn a rowlio pnawn. Mercher 11
Diwrnod chwalu tail mangles ai claddu. B W 8 pm i 1 am. Iau 12
Glaw mawr heddiw a niwl, bwrrw am ddau ddiwrnod. B W 3 pm i 8 pm. Gwener 13
Glaw eto heddiw. Ffair glanmai. Yn Llywenan cael £/2/0d gan Griffith
Williams am drwsio Carreg Lefain Bach. Sadwrn 14
Drill y gwn 6/-. Diwrnod braf. Sul 15
Morgan Aberdaron am 2 a 6.30. B W 10 pm i 3 am. Llun 16 - |Adref
heddiw. Nol teils i Bodowen i lorio bwtri Bryn Difyr. Mawrth 17
Yn Bryn Difyr yn llorior bwtri. 8 basgedad o dywod i Bryn Difyr. Mercher 18
Nol dresal ar cadeiriau o Ty Newydd i Bryn Difyr. Nel wedi mynd ir
dref. Glaw trwm pnawn. Iau 19
B W 3 i 8 am. Yn Bryn Difyr yn gosod grat y parlwr. Gwener 20
BW 8 am i noon. Gorffen efor grat a plastro yn y llofft yn Bryn Difyr a
nol llwyth o ddodrefn o Ty Newydd. Sadwrn 21
Yn Bryn Difyr bore yn gosod y cloc.. Mynd i Sarn a Ty Fair yn pnawn. Sul 22
Elis O Lloyd Porthmadog am 2 a 6.30. Llun 23
Diwrnod yn Bryn Difyr yn cau pen y llofft uwch ben y gwlau. Mawrth 24
Trwsio cilia capel Pisgah. Arian B W £1/2/6d. Mercher 25
Hanner nol llwyth o Gorffwysfa i Bryn Difyr. Iau 26
Plannu ychydig o datws yn cae crwth yn pen wrth y moron. Darlith yn Pisgah. Gwener 27
Tegla Davies yn Pisgah. Finnau yn Tan y Ffordd yn ofni y gwaethaf. Sadwrn 28
Daniel yn talu 4/6d arian B W. Trwsior gadair ar ty bach. Sul 29 i 31 Mehefin. Mercher 1 i
17 Yn Tan y Ffordd. Sadwrn 18 -
Golchi y defaid yn trwynau. Tynnu tatws newydd Ael y Bryn. Sul 19
22 Iau 23
Y test olaf efo Lookout Bytilith. Gwener 24
Cneio yn Tan y Ffordd. Sadwrn 25 i
28 Mercher 29
Cael 10/- am y pedwar tro y bum yn yr LSA yn dysgu fflagia distress. Iau 30 Glaw trwy nos neithiwr heb fwrrw or blaen y mis yma. Thomas Berch yma heno. Gorffennaf Gwener 1
B W 12 to 5 am. Sadwrn 2
Sul 3 B
w 1 am i 5 am. Llun 4
B W 1 i 6 am. Drill y gwn, Wip drill 5/-. Mawrth 5
Arian B W 15/9d. Mercher 6
Dechrau torri gwair yn Conion heddiw. Iau 7 i 9
Sul 10
B W 8.30 am i 1.30 pm. Llun 11
Torri cae nesa i Gonion a cae heuwal. Mawrth 12
Chwalu gwair cae heuwal. Mercher 13
Dechrau hel yn cae o flaen Bodgrugyn Conion dod yn derfysg a glaw. Iau 14
Mynd i Aberdaron efo Thomas fy mrawd. Gwener
15 Cario dau gae yn Conion. Sadwrn 16
Glaw heddiw trwyr dydd. Thomas yn mynd adref ar ol te. Sul 17 i 22
Sadwrn 23
Cael y gwair yn Conion. Sul 24
Mynd i edrych am fy chwaer yn Llanbedrog. Llun 25 Mawrth 26
Torri y darn ucha cae dan ty Tan y Ffordd a cario y glofar o ben isar
capel. Mercher 27
B W 1 am i 5. Iau 28
Cario gwair allt cefn ty Tan y Ffordd. Gwener 29 -
Lora ar plant yma. Sadwrn 30
B W 1.30 i 6.30. Sul 31 Awst
Llun 1 i 2 Mercher 3
Mynd i Pwllheli pawb oddyma. Iau 4
Cael y gwair yn Tan y Ffordd. Rygeta Aberdaron. Gwener 5 i
6. Sul 7 B
w 12 nos sadwrn i 5 am. Llun 8 Mawrth 9
B W 3 am i 10. Mercher 10
Arian BW £1/9/0d Marw fy chwaer Catherine. Iau 11 i 12
Sadwrn 13
Angladd fy chwaer Catherine yn Llanbedrog yn 71 oed. Sul 14
Morgan Aberdaron am 2 a 6.30. Llun 15 i
16 Tywydd poeth a niwl. Mercher 17
B W fog 6 pm i 10 pm. Iau 18
Niwl a gwres. Cyfarfod pregethu Rhoshirwaen. Yn Penarfynydd dan naw yn cario cae
sgubor, cael £6 gan Robert Evans. Gwener 19
Mynd ir mownti ir dref. Sadwrn 20
Hanner yn Penarfynydd gorffan cael crybinion cae sgubor. Sul 21
John Emrys am 2 a 6.30. B w 4 i 8am niwl. Llun 22
Hanner hel mynydd ofn bod cynron. Mawrth 23
Hanner yn tipio. Mercher 24
Hanner yn tynnu y das wair. Dau ddyn yn dod yng nghylch y wireless. Iau 25
Hanner yn gorffen y das wair a mynd i Aberdaron ar ol te. RHT yma heno. Gwener 26
Tri chwarter dechrau torri yd yn bryncaerwyn. Mrs Mills yn dod yma. Sadwrn 27
Tri chwarter gorffen torri top
bryncaerwyn. 4 yn Penarfynydd. Sul 28
Joesff Jones am 10. Am 6.30 D Griffith Bethel yn Nebo. Llun 29
Tri chwarter yn dechrau torri ceirch yn dryll cefnenus. Bwrrw glaw heno. Mawrth 30
Tri chwarter yn gorffen dryll cefnenus. Glaw. Mercher 31 Tri chwarter yn torri cae pant. Medi Iau 1
Richard yn mynd ar fuwch goch at y tarw. Hanner gwneud rhaffa. Robert wedi
mynd ar heffar ir sel i Sarn. Gwener 2
B W 7 pm i 12. Sadwrn 3
Tri chwarter gorffen torri y darn isa o cae pant. Sul 4
Hugh Williams Caernarfon am 2 a 6.30. Richard yn mynd ar fuwch ddu at y tarw. Llun 5
Yn Tan Ffordd. Bwrrw glaw. Mawrth 6
Bwrrw glaw. Arian B w 14/7d. Mercher 7
Mynd ir dref writ swn Tyn y ffos. Iau 8 B
W 1 i 5 am. Gwener 9
Sadwrn 10
Yn Conion yn gwneud lle i ddal yr yd yn llofft sgubor. Sul 11
B W 9.30 i 2.30pm RHT. Llun 12
Cynnill darn cae isa cae dan ty Tan Ffordd. Hynod o wan efor yd. Mawrth 13
Yn Ty Lon Fawr yn trwsio ffram drws y gegin. Mercher 14
Yn Ty Lon eto. Iau 15 i17. Sul 18
Joseff Jones am 2 a 6.30. Llun 19
Gorffen cael yd Tan Ffordd. Mawrth 20
Tri chwarter yn Penarfynydd cynnill haidd a gorffen cae pant. Mercher 21
Tri chwarter eto yn cario haidd. Iau 22
Cario yd i Gonion dyrnu. Gwener 23
Dyrnu yn Conion a carior gwellt adref. Sadwrn 24
Diwrnod yn cario cae pant ar grybinion. Sul 25
G Thomas Roberts Botwnnog am 2. B W 4 am i 9. Llun 26
Dyrnu dechrau 4 pm dan 9. Mawrth 27
Gorffen dyrnu haidd a dyrnu yn Llawenan a Ty Rhedyn. Mercher 28
Yn dre heddiw cael fy ffeinio £1 heb drwydded wireless. Iau 29 i 30- Hydref Sadwrn 1
Sul 2
Hen wr o Bermo bore. Terwyn Jones Talsarnau am 6. B W 12 i 5pm. Llun 3
Yn gwneud pen y das geirch. Mawrth 4
Yn toi ochor y das geirch. Mercher 5
Mynd i Nefyn ir cyfarfod cyllidol. Diwrnod braf. Laura RHT yn dod yma. Iau 6
Toi yr ochor yma ir das ceirch. Ocsiwn Bryn. Bwrrw glaw. Gwener 7
B W 3am i 8am. Sadwrn 8
Sul 9 -
Gwyn Jones Aberdaron am y tro cyntaf. Llun 10
Hanner yn toi. Rolant yn Ysgo yn dyrnu. Mawrth 11
Hanner Robert a Rolant wedi mynd i nol y tarw i Pendre Aberdaron. Arian BW
15/9d. Mercher 12
Hanner gorffen toi y das geirch a das bach. Laura a RHT yn mynd yn ol Iau 13
Daniel yn galw B W 8 am i i pm. Gwener 14
Tarw ir fuwch froc. Yn Tyn Parc Sadwrn 15
B W 4 am i 9 am. Hanner yn gorffen y das geirch ar das wair ir
gwartheg a dechrau toi yr ochr ucha ir das wair. Sul 16
John Ellis Williams am 2 a 6. Llun 17
Diolch am y cynhaeaf. Angladd Catherine gwraig H W Bwlch. Mawrth 18
B W 12.30 i 5.30 am. Hanner yn dechrau rhaffu a toi y das wair. Mercher 19
Rhaffu a toi ochr ucha ir das wair.Bwrrw glaw ar ol te. Iau 20
B W 2 am i 7am. Drill y watchmen am 2 pm. Arian B W £1/8/1d. Gwener 21
Hanner yn cario gwellt oedd wedi gwlychu. Yd y gadlas ir sied.Bwrrw glaw
gwneud rhaffau ar y gwellt wedyn. Sadwrn 22
Gwneud presab ir heffar yn stol y ferlan yn Tan y Ffordd. Sul 23
Joseff Jones am 2. Llun 24
Chwarter yn Carreg Lefain Bach. Bwrrw glaw. Hanner pnawn yn Penarfynydd. Mawrth 25
Tri chwarter yn Carreg Lefain Bach yn gwneud beudy. Bwrrw glaw. Mercher 26
B W 1.30 am i 6.30 am. Diwrnod yn Carreg lefain bach. Iau 27
Tri chwarter yn Carreg Lefain Bach. Gwener 28
Diwrnod yn Carreg Lefain Bach. Anfon llythyr i Thomas fy mrawd. Sadwrn 29
Hannner yn Carreg lefain Bach. Bwrrw glaw pnawn. Arian B W a drill y watch
7/10d. Sul 30
B W 8 am i 1 pm. Annwyd trwm yn
cael pyliau o besychu. Llun 31
B W 4 am i 9 am. Hanner yn Carreg Lefain Bach. Tachwedd Mawrth 1
Tri chwarter yn Carreg Lefain Bach. Pesychu methu cysgu neithiwr. Marw John
Morfa Bach. Mercher 2 Iau 3
Chwarter yn Carreg Lefain Bach. Arian BW 11/3d talu yn cwt Bytilith. B W 12.30 i
5.30 pm. D R dod ir cwt i fy nol. Gwener 4
Trwsio cas y cloc i Miss Williams Brynmor. Angladd John Morfa Bach yn Nebo. Sadwrn 5
Yn Carreg Lefain Bach. Sul 6 -
Jones Rhostryfan am 2 a 6. Dim capel dan annwyd yn pesychu yn arw yn y
nos. Llun 7
Yn Carreg Lefain. Braf. Mawrth 8
Hanner yn hel tatws yn Penarfynydd. Mercher 9
Arian B W 5/7d. Thomas Berch yma neithiwr. Iau 10 Gwener 11
Mynd i ffair glangaeaf. Sadwrn 12 - Sul 13
Hugh Williams Caernarfon am 2 a 6. Llun 14
Drill gwn 5/- un y nos. Mawrth 15
Mercher 16
Efo daniel yn cymysgu calch pnawn. Iau 17
Yn Carreg Lefain yn coedio y beudy bach. Gwener 18
Yn Carreg Lefain Bach yn gorffen coedio y beudy a rhoi sinc ar yr ochrau.
William Rowlands yn darlithio yn Tan y Foel MC ar can mlynedd yn ol. Sadwrn 19
Yn Carreg Lefain gorffen efo sinc. Sul 20 -
John Emrys am 10. Llun 21
Yn Carreg Lefain bach rhoi cerrig mawr yn yr ochr isa a gwneud y ddor. Mawrth 22
Glaw mawr heddiw. Mercher 23
Yn plastro beudy gwellt yn Bwlch Garreg. Iau 24
Hanner yn Carreg Lefain. B W 12 i 5 pm Gwener 25
Yn Carreg Lefain Bach yn palmentu or drws ymlaen. Sadwrn 26
B W 3 am i 8 am. Yn Carreg Lefain Bach yn symentio tu mewn. Sul 27
John E Williams am 2 a 6. B W 4 am i 9. Llun 28
Yn Carreg Lefain Bach yn palmentu yr higol a cau o dan y sinc. Rev Edmunds yn yr
ysgol yn dangos lluniau efo lantern ir plant. Mawrth 29
Gosod car y fudda yn y Rhiwlas i Daniel. B W 1 pm i 6 pm. Angladd Mary Jones
Tyn y Muriau yn Nebo. Mercher 30 Yn Carreg lefain yn gorffen y palmantu. Rhagfyr Iau 1
Yn Carreg Lefain yn gorffen tu mewn. Gwener 2
B W 8 am i 1 pm. Daniel yn fy ngalw wrth fynd lawr yn y bore. Arian BW £1/8/1d.
Topio yn yr eil yn Rhiwlas. Sadwrn 3
Yn Tan y Ffordd yn dechrau malu heddiw ir gwartheg. Pwyso Edgar Morris
43lbs, Isaac Thomas 48lbs, Leila Mary 50lbs. B W 9pm i 2 am bore sul.Papur
newydd or enw Y Cymro yn dod allan am y tro cyntaf. Sul 4
Elis O Lloyd Porthmadog. Llun 5 i 6
Mercher 7
Efor pobty yn Bwlchgarreg 2/-. Iau 8 B
W Mynd i Proth Ysgo i wiliad y cwch oedd yn angori yn y bae. Gwener 9
Gosod grat yn Bodowen. Gwynt oer or dwyrain. Sadwrn 10
Gwynt oer or dwyrain. W J T yn gwrthod mynd ir B W am ei fod yn
glanhau y motor. Arian BW 15/9d. Sul 11
Gwyn Jones y gweinidog am 10. Tecwyn Evans ar y wireless. B W
1 am i 5 am. O.O yn mynd yn lle John Terfyn wedi mynd efor post i
Nefyn. Llun 12
B W 1 am i 6 am. Mawrth 13 i
14 Fy nglun yn ddrwg, brifo wrth gerdded, gwisgo esgid ddiwedd y flwyddyn a
honno yn gollwng dwr dynar achos. Iau 15
B W 11.30 pm i 4.30 am. Gwener 16
Un mlynedd ar ddeg i heddiw collodd Isaac druan, 16 ar ddydd gwener adeg
hynny. Sadwrn 17
B W 5.30 i 10.30 am. Sul 18
Joseff Jones am 2 a 6. B W 6.30 am i 11.30 am. Llun 19
B W 12.30 i 5.30 pm. Mawrth 20 i
21 Iau 22
B W 2 am i 7 am. Gwener 23
Yn gosod pobty yn Bryn Hyfryd 3/-. Sadwrn 24
B W 10.30 i 3.30 am. Cristmas card gan Williams or America. Berwi pwdin
yn Tan y Ffordd. Sul 25
John Emrys am 10. Pawb yn mynd i Tan Ffordd i gael cinio Nadolig heddiw. Llun 26 Mawrth 27
Yn corddi yn Tan Ffordd. Diwrnod gwlyb. Dod a ceiliog o Tan Ffordd. Mercher 28
Iau 29 - B
W 6.30 i 11.30 pm. Gwener 30 -
Arian B W £2/9/6d. Sadwrn 31
B W 2.30 am i 7.30 am January 1933. Gwynt mawr or de a glaw.
~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |