|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr Iau 1
Bad weather 3 am i 8. Gwener 2
Unemployed Sadwrn 3
Arian unemployed 11/4d. Sul 4 R
Von Owen am 2. Llun 5 Mawrth 6
Evans y Ley agent yn pregethu yn Pisgah am tro cyntaf. Mercher 7
Marw Mary Griffith Penbwlch Bach. Iau 8
Fi a O Owens yn mynd i angladd gwraig Efail y Rhos Aberdaron. Gwener 9
Sadwrn 10 -
Angladd Mary Penbwlch Bach yn Nebo. Sul 11
Evans Ley agent. Llun -
Gwener 12 i 16 Unemployed. Sadwrn 17
Arian unemployed 14/2d Sul 18
Bad weather 3 i 8 am. Llun 19
Bad weather 10 pm i 3 am. Mawrth
Sadwrn 20 i 24 Unemployed. Sul 25
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Bad weather 5 i 10 pm. Llun 26
Unemployed. Arian bad weather 5/7d. Mawrth 27
Corn ir ieir cant am 6/8d or Eifion. Bad weather 8 pm i 1 am. Mercher 28
Unemployed. Bag o beilliad or Eifion am 15/-. Iau 29
Bad weather 3 i 9 am. Gwener 30
Unemployed. Sadwrn 31
Bad weather 9.30 am i 2.30 pm. Arian unemployed 8/8d. Chwefror Sul 1
James Elder am 2 a 6. Llun 2
Unemployed. Mawrth 3
Bad weather 1 i 5 am. Dyrnu yn Penarfynydd. Mercher 4
Unemployed. Iau 5
Diwrnod yn Penarfynydd yn toi y gwellt. Gwener 6
Unemployed. Arian bad weather £1/2/6d. Sadwrn 7
Diwrnod yn Penarfynydd yn toi y gwellt. Cael £1 gan Robert Evans 11/-
eto.Arian unemployed 8/6d. Sul 8
Bad weather 12.30 i 4.30 am. Neb ond fi a E Williams a Jenat Bwlch. Evans i fod
i bregethu. Glaw mawr. Llun 9
Bad weather 12.30 i 5.30 am. Mawrth 10
Unemployed. Mercher 11
Bad weather 3 i 8 am. Bad weather 5 pm i 10pm. Iau 12
Unemployed. Gwener 13
Bad weather 8 i 8 am. Arian bad weather 10/1d Arian unemployed 8/6d. Sadwrn 14
Unemployed. Sul 15
Joseff Jones am 2 a 6. Bad weather 2.30 am i 6.30 am. Llun 16
Llythyr gan RHT yn dweud fod Anne Owen wedi marw. Bad weather 1 i 6 pm. Mawrth 17
Drill y gwn mawr. Bad weather 2 i 7 pm. Mercher 18
Unemployed. Iau 19
Unemployed. Angladd Ann Owen yn Dyneio Pwllheli. Gwener 20
Bad weather 4 i 9 am. Sadwrn 21
Unemployed. Arian unemployed 8/6d. Sul 22
Cyfarfod gweddi am 2. Roberts yn dechrau pregethu y bachgen sydd yn aros efo
Evans Llwynfor. Llun 23
Diwrnod yn Penarfynydd yn rhaffu y gwellt. Mawrth 24
Hanner yn Penarfynydd. Bad weather 11 pm i 4 am. Mercher 25
Llythyr oddiwrth John Pritchard Safn Pant yn gofyn wnawn ni roi llawr yn
siambr Penbwlch. Iau 26
Arian bad weather £2/3/10d. Anfon llythyr i John Pritchard. Gwener 27
Glanhau y wagon ar ol y drill. Sadwrn 28
Arian unemployed 8/6d. Mawrth Sul
1 - Evans y Layagent. Bad weather 4.30 i 9.30. Llun Mawrth
2 i 3 Unemployed. Mercher 4
Yn y Glwyd yn gwneud palis yn y sgubor. 2/6d gan Daniel am lanhau y rhaffau. Iau 5
Yn Carreglefain Bach decharu a nol tywod i Aberdaron. Gwener 6
Bad weather 5 i 10 am. Hanner yn Carreglefain Bach. Sadwrn 7
Bad weather 6 i 10 am. Arian unemployed 8/6d. Arian bad weather 5/7d. Sul 8
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Adref gweuw yn fy mhen. Llun 9
Diwrnod yn Carreglefain Bach yn rhoi darn yn ffram y drws. Mawrth 10
Diwrnod eto efor drws. Mercher 11
Hanner yn Carreglefain Bach yn cau o gwmpas y drws ac o bob tu o dan ffenest
y siambr. Iau 12
Hanner yn Carreglefain Bach yn gorffen rhoi y got gyntaf o syment. Gwener 13
Hanner eto yn cau. Glaw mawr. Arian bad weather 10/1d a arian unemployed
12/6d. Sadwrn 14
Anfon arian am y llyfrau misol £1/1/9d. Mynd i Aberdaron i Penbryn Bach, Ty
Fry a cae Mur. Sul 15
R Von Owen am 2 a 6.Mynd i Llawenan i gael te ac wedyn i capel Pencaerau
gydar nos. Llun 16
Diwrnod yn gorffen palu yr ardd yn Penarfynydd. Pawb dan annwyd yma. Mawrth 17
Hanner yn Penarfynydd yn torri drain yn pen isar ardd. Mercher 18
Unemployed. Tywydd caled gwynt or dwyrain. Iau 19
Cau yr ieir i fewn. Plannu tatws cynnar yn y clwt o dan ffenast y parlwr. Gwener 20
Yn fy ngwely efo wensa. Sadwrn
Mawrth 21 i 24 Yn fy ngwely. Mercher 25
Wedi codi dim yn dda. Anfon llythyr i RHT. Pawb yn ei wely heddiw. Iau 26
Unemployed. Gwener 27
Gorffen plannu tatws cynnar a nionod. Arian unemployed 8/6d. Sadwrn 28
Unemployed. Sul 29
Bad weather 12 i 5 am. Llun 30
Unemployed. Pawb yn wael yma heddiw. Mawrth 31
Bad weather 5 i 10 pm. Ebrill Mercher 1
Arian bad weather 11/3d. Bad weather 6 i 11pm. Iau 2
Arian bad weather 6/7d. Diwrnod yn Penbwlch yn gwneud llawr siamber. Gwener 3
Bad weather 3 i 8 am. Sadwrn 4
Yn Carreglefain bach yn symentio. Arian unemployed 8/6d. Sul 5
Joseff Jones am 6. Llun 6
Unemployed. Mawrth 7
Bad weather 4 i 8 am. Hanner yn Carreglefain Bach yn symentio. Mercher 8
Diwrnod yn Penarfynydd yn cau y mynydd. Arian bad weather 10/1d. Bad weather
12 i 4 am. Iau 9
Bad weather 2 i 5 pm. Bag o flawd or Eifion 15/-. Gwener 10
Diwrnod yn Penarfynydd yn cau cae pant. RHT yn gosod y wireless yma. Sadwrn 11
Arian bad weather 9/-. Plannu rhes o datws Bryngoleu. Sul 12
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 13
Bad weather 3 i 7am. Hanner yn Penarfynydd yn tynnu y weiar yn y borthwen. Mawrth 14
Hanner eto yn prigio cae parciau, yr hogiau yn cario llwch. Mercher 15
Unemployed. Iau 16
Diwrnod yn Penarfynydd gorffen rhoi weiar netin yn cae pant. Gwener 17
Hanner yn Penarfynydd yn rhychu yr arad. Arian bad weather 4/6d. Gwynt caled
or gogledd. Arian unemployed 14/2d. Sadwrn 18 -
Bad weather 12 i 5 am. Yn yr Erw efor pobty. John Evans yn ymadael o
Neigwl Ganol i weithio yn Carreg Llam. Sul 19
Bad weather 11 am i 4pm. Gwasanaeth Gymraeg ar y wireless o Llanelli. Llun 20
Diwrnod yn Penarfynydd yn pigo tatws a decharu plannu yr ardd. Mynd ir Erw i
orffen efor pobty. Mawrth 21
Hanner yn Penarfynydd gorffen plannu y clwt mawr a helpu efo plannu yn y
caeu. Oer gwynt caled. Mercher 22
Hanner eto yn heu ceirch yn dryllcefnenpo..(?) Iau 23
Bwrrw tipyn neithiwr. Diwrnod eto yn heu dryllcefnenpo a gorffen plannu clwt
wrth y ty. Gwener 24
Bad weather 4 i 9 am. Hanner yn rhoi oel lypa(?) ar lwyn yr wyn a rigio lamp
yr ingen oel. Sadwrn 25
Hanner yn symud yr oga ir cae crwth torri drain wrth y goeden falau. Glaw
mawr. Arian unemployed 8/6d. Sul 26
Cyfarfod am 2 a 6.30. Bad weather 6 am i 11am. Llun 27
Diwrnod yn Carreglefain yn cario cerrig i wneud y llawr. Nol tywod i Aberdaron. Mawrth 28
Diwrnod yn rhoi y syment. Mercher 29
Diwrnod yn Penarfynydd decharu heu cae crwth. Heu dau hobad or Hendy. Iau 30
Diwrnod eto heu ceirch Penarfynydd. Arian bad weather 11/3d. Mai Gwener 1 -
Diwrnod eto yn dragio wrth yr afon bryn caer wyn ai heu. 2/10
unemployed. Sadwrn 2
Hanner yn Penarfynydd hel baich o eithin a dechrau heu haidd yn cae
penrorsedd. Mynd i Llawenan pnawn a rhoi syment ar y corn. Sul 3
Pregethwr diarth o Fangor am 2. Llun 4
Diwrnod yn Penarfynydd hel baich o eithin o cae borthwen a heu hobad yn cae
penrorsedd. Mawrth 5
Bad weather 6 i 10 am. Hanner yn Penarfynydd. Robert a Rolant wedi mynd i
ddanfon yr heffar. Mercher 6
Diwrnod yn Penarfynydd hel baich o eithin a heu hobed. Teilo y pys ar ffa
yn yr ardd. Iau 7
Hanner . Heu hobad a malu. Daniel yn fy ngalw ir bad weather 12 i 4 pm. Gwener 8
Gwn mawr 5/-. Motor Seaview yn mynd ar tacla i drill. Sadwrn 9
Diwrnod yn hel baich eithin a heu had gwair yn cae penrorsedd. Sul 10
Bad weather 2 i 7 am. Mynd i odro i Rhiwlas. Daniel ddim yn dda. Llun 11
Bad weather 3 am i 8 am. Mynd i odro i Daniel o Bytilith. Hanner yn Penarfynydd
a heu had clofar. Mawrth 12
Bad weather 8 am i 12. Hanner yn gorffen heu had clofar a gorffen yn yr ardd. Mercher 13
Mynd ir ffair. Bad weather 11 pm i 4 am. Iau 14
Hanner yn Penarfynydd yn malu a gosod lledar newydd ir pwmp. Gwener 15
Bad weather 12 i 5 am. Niwl a glaw heddiw. Hanner yn Penarfynydd yn malu a
cau yn borthwen. Cael £5 gan Robert Evans. Sadwrn 16
Diwrnod yn Penarfynydd hel eithin a malu a rigio y pwmp. Mynd ar ol te 5 pm
ir cyfarfod ir ysgol. Sul 17
Evans Pen y Groes sydd yn aros yn Moelwyn am 10. Llun 18
Diwrnod yn Penarfynydd symud y defaid i Bytlilith a rowlio tatws. Mawrth 19
Efo Daniel yn y Rocket house yn rhoi y rhaffau ar ol y drill. Arian bad
weather £2/1/1d. Hanner yn Penarfynydd brigo rhag ir defaid ddod o Bytilith. Mercher 20
Diwrnod eto yn rowlio tatws. Wedi codi yn foreu heddiw drysur awr. Iau 21
Diwrnod eto nol yr og i lyfnu tir rwdins a mynd i Lawenan i fesur telaid i haidd. Gwener 22
Diwrnod yn dechrau cafn moch bach a hel cerrig pnawn yn cae Pwllfadog fi a
Lewis Bwlch. Sadwrn 23
Diwrnod yn hel mynydd yn bore. Caseg newydd yn dod o Ysgo. R Evans wedi talu
yr oll i 16 Mai. Sul 24
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 25
Diwrnod yn Penarfynydd nol haidd a heu o dan glwt y swej. Mawrth 26
Diwrnod eto yn hel gwraidd. Mercher 27
Diwrnod eto hel gwraidd mynd a llwch yn barod, meddwl rhychu y mangles. Iau 28
Diwrnod yn gorffen cafn y moch bach. Glaw. Bad weather 8 pm i 12. Gwener 29
Yn Tyn Lon Fawr yn gosod lander. Sadwrn 30
Diwrnod yn seilio pen Carreglefain Bach. Sul 31
Bachgen yn lle Von Owen am 2. Mehefin. Llun
1 - Diwrnod yn cau cae pant a nol y defaid o Bytilith. Mawrth 2
Diwrnod hel mynydd cario gwraidd yn pnawn. Mercher 3
Mynd i Botwnnog i nol ffisig i Leila. Bad weather 2 i 6 pm. Iau 4
Diwrnod cario gwraidd, drilio mangles a swej ar ol te. Gwener 5 -
Diwrnod cario gwraidd. Drilio mangles. Glaw pnawn. Rhoi calch oedd ar
ol Dafydd Murmelyn yn llofft stabal. Sadwrn 6
Glaw bore. Arian bad weather 9/- 2/6d am lanhau y wagen. Sul 7 -
Bad weather 1 i 5 am. Daeargryn am 2 am amryw oedd yn ei gwlau wedi
glywed, cyrn wedi disgyn mewn llefydd oddyma. Llun 8
Diwrnod hel y mynydd a gorffen hel cerrig. Mawrth 9
Niwl a glaw bore. Bad weather 4.30 i 9.30 pm. Mercher 10
Niwl a glaw heddiw tywydd eithriadol o wlyb dim modd gwneud dim bron. Bad
weather 10.30 i 3.30 am. Iau 11
Niwl wedi clirio 3 am. Hanner dechrau chwnu tatws. Gwener 12
Arian bad weather 15/9d. Bag o flawd or Eifion. Sadwrn 13
Diwrnod chwnu tatws a rhoi gro yn ffrynt y ty. Cymanfa MC yn Aberdaron. Sul 14 -
Sul heb bregethwr, Evans yn sal. Bad weather 10 am i 2 pm niwl. Glaw nid
oes neb yn cofio tywydd mor wlyb erioed. Llun 15
Diwrnod hel mynydd i dorri ar yr wyn. Rhoi draggar Llawenan trwy y tatws pnawn.
Bad weather 9 pm i 2 am. Mawrth 16
Niwl a glaw eto tywydd eithriadol o wlyb. Hanner yn tynnu tafols yn cae
cocrwth. Mynd i Pant efo Mrs Jones i gael gweld beth oedd isio symentio.Caseg
Ysgo efo merlyn. Bwrrw glaw o hyd. Mercher 17
Diwrnod yn agor y draen yn cefn yr heuwal a syfflio tatws pnawn. Iau 18
Diwrnod yn chwnu tatws. Robert yn mynd i Managers Meeting. Bad weather 9.30 i
2.30 am. Gwener 19
Hanner pnawn yn chwnu tatws. Morris ar wraig yn Penarfynydd. Sychu yn dda
gwynt or gogledd. Sadwrn 20
Diwrnod yn chwnu. Sychu yn dda heddiw. Sul 21
Thomas Ellis MC Pwllheli am 2. Sul braf niwl weithiau. Llun 22
Diwrnod heu llwch a curo rhesi. Mawrth 23
Diwrnod curo rhesi a heu swej. Mercher 24
Diwrnod yn cneio yn Bodwyddog. Iau 25
Diwrnod yn golchi defaid a culhau yr heuwal. Tywydd da yr wythnos yma. Gwener 26
Yn Bwlchgarreg yn papuro. Sadwrn 27
Diwrnod yn gwneud corlan a chwynu tatws. Arian bad weather 15/9d. Sul 28
Bad weather 2 i 5 am niwl tew. James Elder am 2. Roberts sydd yn aros yn moelwyn
am 6.30. Llun 29
Diwrnod cneio. Mawrth 30
Diwrnod yn mynd ar olwynion i Refail Bach. Chwnu pnawn. Gorffennaf
Mercher 1
Hanner yn gorffen chwnu tatws. Yn Llawenan pnawn yn rhoi lliw ir ty. Iau 2
Diwrnod yn tyneuo clwt wrth ymyl cefnydd. Gwener 3
Arian bad weather 5/7d. Hanner yn gorffen priddo tatws. Drill gwn 2 pm 5/-.
Bad weather 7 pm i 12 niwl a glaw. Sadwrn 4
Mynd i Angladd Modryb Sarah i Llanrug. Sul 5
Rev Thomas Griffith Ellis Aberdaron am 2 a 6.30. Llun 6
Diwrnod teneuo swej a dechrau torri cae pwllfadog. Mawrth 7
Diwrnod gorffen cae pwllfadog a torri pen ucha cae sgubor. Mercher 8
Diwrnod torri eithin dan y das yn bore torri gwair cae sgubor pnawn. Bwrrw
cawodydd heddiw. Iau 9
Diwrnod torri rownd cae sgubor. Yr ingen yn torri, y rod di torri, dan naw. Gwener 10
Isaac yn mynd i ffwrdd y tro olaf ar 10 o orffennaf 1921. Diwrnod dechrau
torri y dryll cario 4 llwyth o bwllfadog dan naw. Sadwrn 11 -
Diwrnod yn torri clawdd lon y dryll mawr. Gorffen cario pallfadog dau
lwyth a hanner. Glaw gydar nos. Sul 12
Evans Moelwyn View am 2 a 6. Bad weather
3 am i 8 am. Llun 13
Diwrnod torri yr ail dro yn dryll mawr. Troi cae sgubor cario 5 llwyth o
pwllfadog. Mawrth 14
Diwrnod torri yn dryll mawr a torri cae sgubor a troi pen ucha y dryll a
cario 4 llwyth o cae sgubor dan naw. Mercher 15
Diwrnod yn torri drill mawr a cario 5 llwyth or pen uchaf dan 8.15. Iau 16
Diwrnod yn torri yn y dryll mawr a torri gydar ffos. Nol llwyth o grybinion
or Trip a troi. Bwrrw glaw dechrau 8 pm. Gwener 17
Isaac yn cael pen ei flwydd mi fasa yn 32 pe ar dir y byw. Diwrnod yn gwneud
matiau. Glaw. Arian bad weather 11/8d. Sadwrn 18
Diwrnod hel mynydd i fynd ar wyn i cae pant. Cario 3 llwyth or dryll mawr.
Parry Bodwyddog yn prynur wyn. Sul 19
R Von Owen y gweinidog am 2 a 6. Llun 20
Diwrnod mynd ar wyn i gyfarfod Parry Bodwyddog i Tyn y Mynydd. Cario 6 llwyth
or dryll mawr. Mawrth 21
Diwrnod torri dryll dan ty cario tri llwyth or dryll mawr. Bad weather 9
pm i 2 am. Mercher 22
Diwrnod tynnu gwellt i wneud rhaffau yn Ty Croes Bach. Troi gwaelod y dryll
ar ol te. Iau 23
Diwrnod torri yr ail dro yn y dryll dan ty. Cario saith llwyth or dryll dan
lon. John Morris yma efor drol. Gwener 24
Diwrnod troi y trydydd tro yn dryll. Mynd at John Morris i grybinio trio yn
y dryll dan de, cae draen yn cefn yr heuwal ar ol te. Sadwrn 25
Bad weather 3 am i 8 am. Sul 26
Griffith Thomas Roberts am 2 a 6. Llun 27
Diwrnod troi gwaelod y dryll. Cario 6 llwyth dan 9. Mawrth 28
Diwrnod yn torri allt y dryll. Gwneud gwely y das y sed. Mercher 29
Blwyddyn i heddiw! Hanner yn nol y crybinion or dryll mawr, dechrau
mydylu dryll dan ty. Mynd i Ty Croes Bach at y pobty. Bad weather 9 pm i 2 am. Iau 30
Adref yn rhoi lliw yn llawr y gegin. Gwener 31
Diwrnod yn tynnu weiar o cae pant i gael cyfri i Ras cwn. Hel mynydd wedyn a
torri gwellt yr ardd. Awst
Sadwrn 1
Diwrnod yn chwalu mydylau a cario 6 llwyth. Sul 2
Richard Jones Pwllheli am 6.30. Llun 3
Diwrnod yn troi a cario 10 llwyth or darn isa ir dryll wrth y ffordd. Mawrth 4
Diwrnod torri allt y dryll gwair tew ei dorri un ffordd. Arian bad weather
16/10d. Mercher 5
Hanner yn bore glaw pnawn. Fantol yr ingen yn torri Nel yn mynd ir dre. Iau 6
Diwrnod yn gorffen troi y dryll dan y ty. Gwener 7
Diwrnod yn troi a cario 6 llwyth o top allt y dryll. Sadwrn 8
Diwrnod glaw dechrau gwneud rhaffau. Torri rhedyn yn top y gadlas. Glaw mawr
gydar nos. Sul 9
Bad weather 3 i 8 am. Ellis Owen Lloyd am 10. Llun 10
Diwrnod yn gwneud rhaffa bore a cau yn pentrwyn a gorffen troi gydar ffos yn
y dryll. Mawrth 11
Ras cwn cynta yn Blawdty. Mercher 12
Niwl a glaw heddiw. Iau 13
Diwrnod yn chwalu gwair yn y darn isa o allt y dryll. Tipio r defaid dan
10 pm. Gwener 14
Diwrnod gwneud rhaffa bore torri tafol o dan y ty yn dryll, decharu tynnu
mangels. Richard yn talu £5 yr arian oedd wedi gael yn fenthyg. Sadwrn 15
Diwrnod rhoi weiar yn pentrwyn rhag y defaid ddechrau tynny y das wair. Sul 16 -
Bad weather 11 pm i 6 am. Llun 17
Diwrnod yn chwnu mangels yn bore. Troi gwair yng ngwaelod allt y dryll. Rolant
wedi mynd at plisman i nol papur i fynd ar wyn i ffwrdd. Mawrth 18 -
Bad weather 2 i 5 am. Diwrnod mynd o bytilith i Penarfynydd yn y bore
gorffen cario allt y dryll. Mercher 19
Diwrnod gwneud mat dros y gwair. Rolant a Robert wedi mynd i Gyfarfod
Pregethu Rhoshirwaen. Nel ar plant wedi mynd ir dre. Iau 20
Bad weather 7.30 am i 11 am. Arian bad weather 16/10d. Gwener 21
Diwrnod. Rolant a Robert wedi mynd ar tarw ir sel. Sadwrn 22
Flower Show yn Rhiw. Sul 23
Roberts ar Brawd fu yn Moelwyn View am 6.30. Llun 24
Diwrnod tipio yn bore cau adwy cae pwllfadog ir lloiau. Mawrth 25
Bad weather 2.30 i 7.30. Diwrnod yn tynnur das wair y sied a rhoi rhaffau
arni yn barod iw thoi. Mercher 26
Diwrnod yn tynnu das wair Nel yn mynd ir dre i fod yn barod am y tren
cyntaf i fynd i Clun i roi carreg fedd ar Reg Morris. Iau 27
Tri chwarter torri baich ar tan a gwneud rhaffau a rhoi rhaffau ar y das. Gwener 28
Tri chwarter yn cneio yr wyn. Sadwrn 29
Fi a Edgar Morris yn mynd am drip i Gaernarfon. Sul 30
Thomas Ellis Pwllheli am 2 a 6.30. Llun 31
Tri chwarter yn tori rownd cae penrorosedd a hel defaid i Emyr Bodwrdda. Medi. Mawrth 1
Tri chwarter dechrau torri yr haidd yn cae penrorsedd gwneud rhaffau bach ar
ol cinio. Glaw Edgar Morris efo mi. Mercher 2
Adref heddiw Nel yn dod adref. Iau 3
Diwrnod yn gwneud rhaffau fi a Rolant Robert wedi mynd ir sel. Gwener 4
Hanner y bore gwneud rhaffau. Mynd an bad weather pnawn. Arian bad weather
£1/2/6d. Sadwrn 5
Bad weather 3 i 8 pm. Sul 6
Evans Cricieth fu yn Rhiw yn aros am 2. Llun 7
Diwrnod yn torri rownd dryll cefnenus a torri haidd yn cae penrorsedd. Mawrth 8
Diwrnod yn gorffen torri haidd yn cae penrorsedd tywydd da. Mercher 9
Diwrnod yn torri dryll cefnenus. Nel a Edgar Morris wedi mynd i dre. Iau 10
Diwrnod torri rownd cae crwth a troi yr haidd tywydd da. Gwener 11 -
Diwrnod yn torri cae crwth. Bwrrw glaw heno fi a Rolant tn mattio y gwair. Sadwrn 12
Glaw mawr bore heddiw. Bad weather 12 i 4 pm. Yn Tyddyn Morthwyl yn llawr
ir cwt malu. Sul 13
Cyfarfod ysgol Richard Jones Pwllheli yn holi. Llun 14
Diwrnod torri bore cae crwth, glaw. Lladd oen ar ol cinio. Bad weather 11 pm i 4
am. Mawrth 15
Tri chwarter carthu cwt yr ieir a torri efor pladuriau yn pnawn. Mercher 16
Diwrnod yn gorffen torri ceirch yn cae crwth. Iau 17
Yn Pant yn gosod landers. Gwener 18
Diwrnod yn troi yr haidd a dechrau cynnill yn cae cefnenus. Sadwrn 19
Diwrnod torri hesg yn y Borthwen. Sul 20
W G Williams un o dan y Pwyllgor Cenhadol.. Wedi rhoi hwn ar y Sul cyntaf o
Dachwedd mewn camgymeriad. Llun 21
Diwrnod troi ceirch a cynnill yr haidd yn cae penrorsedd. Mawrth 22
Cario haidd cae penrorsedd.. Pwys o fenyn 1/5d. Mercher 23
Cario haidd y das isa i ddyrnu yn y gaeaf. Cynnill dryll cefnenus. Iau 24
Gorffen cynnill cefnenus ei gario dan 10. Gwener 25
Rhwymo dalar cefnenus a nol sgloffion. Sadwrn 26
Diwrnod yn dyrnu yn Penarfynydd a Ty Rhedyn. Diffyg ar y lleuad heno. Sul 27
Bad weather 3 am i 8 am. Evans Cricieth am 2 a 6. Llun 28
Diwrnod yn cynnill cae crwth. Robert yn dyrnu yn Llawenan. Mawrth 29
Diwrnod yn cario cae crwth. Pwys o fenyn o Penarfynydd 1/2d. Mercher 30
Bwrrw glaw. Gwneud rhaffau. Carcharur defaid efo carchar gwellt. Talu am
goed i lawr y parlwr 10/-. Hydref
Iau 1
Diwrnod yn barbio das geirch a gwneud rhaffau. Cyfarfod Chwarter yn Pisgah. Bad
weather 11pm i 4 am. Gwener 2
Arian bad weather 15/9d. Elin trip wedi talu 10/-. Sadwrn 3
Bad weather 3 am i 8 am. Tri chwarter yn hel sglaffion i bendas geirch. Pwys
o fenyn 1/2d. Sul 4
Gweinidog newydd yn Aberdaron D Arthur Morgan am y tro cyntaf. Bad weather am 7
i 12pm. Llun 5
Diwrnod yn tynnu barb weiar o dir y Llan a rhoi hi yn gwaelod dryll mawr a
gwneud rhaffau a dechrau troi y gwellt ceirch. Mawrth 6 -
Diwrnod cario hesg a torri brwyn torri dan dri. Drill gwn mawr nos 5/-.
Pwys o fenyn 1/3d. Bad weather 10 pm i 3 am. Mercher 7
Arian bad weather £1/2/6d. Hanner hel to yn Ysgo. Nel a Edgar Morris yn
mynd ir dre. Iau 8
Diwrnod gorffen toi y gwellt haidd toi un ochr i das wair y sied. Gwener 9
Bad weather 2 am i 7 am. Hanner yn gorffen toi das y sied a nol llwyth o do
Ysgo. Sadwrn 10
Diwrnod nol too (?) buarth gwlyb. Hel mynydd i gael yr wyn ir tir.
Dechrau toi das wair buchod. Pwys o fenyn 1/3d. Sul 11
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 12
Diwrnod yn toi a rhaffu y das wair. Bad weather 10 pm i 3 am. Mawrth 13
Tri chwarter yn toi a rhaffu. Pwys o fenyn 1/3d. Mercher 14
Diwrnod yn toi a nol to o Ysgo gwneud pen y das geirch. Iau 15
Diwrnod yn gorffen toi a rhaffu y das wair. Dechrau toi a rhaffu y das geirch. Gwener 16
Diwrnod yn toi a rhaffu y das geirch. Robert yn Ysgo yn dyrnu. Sadwrn 17
Diwrnod yn toi a rhaffu y das geirch. Daniel yn torri ar y lloiau. Pwys o
fenyn 1/3d. 103 a ddyddie. Sul 18
Morgan y gweinidog am 2. Llun 19
Diolch am y cynhaeaf. Morgan gweinidog am 2. Arian bad weather 11/3d. Mawrth 20
Diwrnod yn gorffen rhaffu y das geirch. Dechrau tynnu tatws pnawn. Mercher 21
Diwrnod yn tynnu tatws. Pwys o fenyn 1/3d. Iau 22
Diwrnod yn tynnu tatws. Gwener 23
Diwrnod yn tynnu tatws. Cyfarfod Rhyddfrydol yn yr ysgol am 7 pm. Angladd
Jini Bwlchffordd. Sadwrn 24
Diwrnod yn tynnu tatws. Pwys o fenyn 1/4d. Sul 25
Cyfarfod gweddi am 10 a 6. Joseff Jones ddim yn dod. Llun 26
Diwrnod yn gorffen tynnu tatws. Mawrth 27
Diwrnod yn dragio a llyfnu gorffan hel. Lecsiwn. Pwys o fenyn 1/4d. Mercher 28
Diwrnod yn torri rhedyn. Iau 29
Diwrnod yn torri rhedyn glaw yn ein drysu iw gario. Golchi yr ingen oil. Gwener 30
Hanner yn cario rhedyn. Robert Evans wedi mynd ir ocswin. Sadwrn 31
Diwrnod fi a Robert yn rhoi barb weiar yng ngwaelod y dryll. Mynd i osod
pobty i Lon Las ar ol te. Pwys o fenyn 1/4d. Tachwedd. Sul 1
Bad weather 3 i 8.30 pm. Cyfarfod Gweddi am 2 a 6. LLun 2
Diwrnod yn dal y cyw (ceffyl) a dechrau teilo sied. Mawrth 3
Bad weather 2.30 i 7.30 am. Pwys o fenyn 1/4d. Mercher 4
Diwrnod yn carthu beudy bach bore. Teilo sied pnawn. Bad weather 6.30 i 11
.30 pm. Iau 5
Diwrnod glanhau rings yn ..(?) . Robert Evans yn ei wely dan annwyd. Gwener 6
Diwrnod efor gwartheg a carthu beudy. Pwintio i roi y fuwch goch. Robert
a Jane Catrin yn sal. Sadwrn 7
Diwrnod efor gwartheg. Rolant wedi mynd i Aberdaron i nol baw. Pwys o
fenyn 1/4d. Sul 8 J
H Jones fu yma yn lay agent am 6. Bad weather 1 i 5 am. Llun 9
Diwrnod efor gwartheg a malu. Rhoi gwair i fewn. Robert wedi codi gydar
nos. Arian bad weather £1/7/6d. Mawrth 10
Diwrnod eto. Pwys o fenyn 1/4d. Mercher 11-
Bad weather 2.20 i 7.30 am. Mynd i ffair glangaeaf. Iau 12
Diwrnod efor anifeiliaid. Robert heb godi. Bad weather 10 pm i 3 am. Gwener 13
Diwrnod eto. Pwys o fenyn 1/8d. Bad weather 10 pm i 3 am. Sadwrn 14 -
Diwrnod eto. Glaw trwy dydd a hwnnw yn eithriadol welais i erioed fwy o
li. Bad weather 11pm i 3 am. Sul 15
Morgan Aberdaron am 2 a 6. Yn Penarfynydd heddiw efor anifeiliaid. Llun 16
Diwrnod efor anifeiliaid. Hel eithin a malu. Rolant yn dechrau ei dymor. Mawrth 17
Diwrnod eto rhwymor dynewaid. Arian bad weather £1/2/6d. Mercher 18
Bad weather 3 i 8 am. Pwys o fenyn 1/5d Yr Arddangosfa Genhadol yn
Aberdaron. Iau 19
Diwrnod hel mynydd i nodi wyn. Gwener 20
Diwrnod hel dau faich o eithin a porthi. Bad weather 6 i 11 pm. Sadwrn 21
Hanner torrir ddafad a porthi. Pwys o fenyn 1/5d. Sul 22
Joseff Jones am 10. Bad weather 6 i 11 pm. Llun 23
Diwrnod porthi. Derbyn £8 gan R Evans. Bad weather 12 i 5 am. Mawrth 24
Mynd i Rhos i nol clocsia. Mercher 25
Diwrnod tynnu rwdins a porthi. Pwys o fenyn 1/6d. Iau 26
Bad weather 3.30 i 8.30 am. Gwener 27
Marw William Hughes Hendy Pencaerau. Sadwrn 28
Hanner yn dechrau redig yn cae crwth. Pwys o fenyn 1/6d. Sul 29
Gwynfryn Evans sydd yn lle gweinidog Pwllheli am 2. Llun 30
Diwrnod tynnu swej yn bore hel eithin a porthi. Angladd William Hughes Hendy.
Arian bad weather £1/10/9d. Rhagfyr. Mawrth 1
Gwneud stol rhwng y gwartheg yn Ty Croes Bach. Mercher 2
Yn Pant yn gosod y llidiart. Bad weather 8 pm i 1 am. Iau 3
Pwys o fenyn 1/5d. Gwener 4
Bad weather 2 i 7 am. Sadwrn 5
Diwrnod hel eithin bore trwsio llidiart dryll mawr. Bad weather 8 pm i 1 am. Sul 6
Cyfarfod ysgol Tan y Foel. Neb yn Pisgah bore na pnawn. Llun 7
Diwrnod mynd ar gwydd bach i cae crwth nol llwyth a baich. Porthi a hel 3 baich o eithin Robert yn eu nol efo
Lewis. Mawrth 8
Bad weather 5 am i 9 am. Mynd i Aberdaron i osod carreg ar fedd fy annwyl
briod. Mercher 9
Diwrnod porthi hel eithin a mynd ar heffar lwyd i Bodwyddog at y tarw.
Hanner o fenyn 8d. Iau 10
Diwrnod porthi a pwyso 340 o wlan. Rolant yn mynd a fo i Talafon. Pwys o fenyn
1/5d. Gwener 11
Diwrnod hel eithin porthi mynd ar heffar nesa ir drws ond un at y tarw. Sadwrn 12
Diwrnod yn porthi a hel eithin. Sul 13
Elli O Lloyd am 2 a 6. Yn yr ysgol bore fi a Evan Williams yn mynd ir
cyfarfod ysgol i Carmel am 2 a 6. Owen Griffith yn mynd a ni efo motor. Llun 14
Diwrnod Penarfynydd. Pwys o fenyn 16d. Mawrth 15
Diwrnod fi a Robert yn brigo terfyn yn borthwen isa. Arian bad weather £1/1/4d. Mercher 16
Diwrnod hel y mynydd a marcior defaid a porthi. Iau 17
Diwrnod porthi hel eithin fi a Rolant yn gorffen yn borthwen a tynnu swej. Gwener 18
Fiwrnod yn dechrau redig tyndir yn pen isa cae pant. Sadwrn 19
Diwrnod porthi a hel eithin yn cefnenus bore malu a porthi wedyn. Robert a
Rolant wedi mynd i Aberdaron i wrando Brodyr Francis.. Heffar Tyn Fron yn taflu
ei llestar, fi a Daniel a G Jones, Willie a R Jones Lon Las a John Bryngola yn
ei chladdu gydar nos. Sul 20
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 21
Diwrnod porthi a clirio swej a maip o bryncaerwyn. Mawrth 22
Diwrnod hel eithin yn bore a porthi. Y fuwch nes ir .. yn dod a llo. Bad
weather 7 i 12 . Mercher 23
Pawb yn mynd ir dre ir mercher melys ( marchnad). Arian bad
weather5/7d. Iau 24
Bad weather 1 i 6 pm. Mynd o Bytilith i nol pwys o fenyn pot i Penarfynydd 1/5d. Gwener 25
Bad weather. Sadwrn 26
Sul 27
Bachgen Ellis Cwmci perthynas i Evan y crydd Rhoshirwaun. Llun 28
Yn Trip yn lledu y drws cefn. Bad weather 8 pm i 1 am. Mawrth 29
Yn Trip pnawn. Arian bad weather 16/10d. Mercher 30
Bad weather 7 i 11am arian 4/6d. Yn Trip yn pnawn. Iau 31 Diwrnod yn Penarfynydd malu a porthi a rhoi gwair i fewn. ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
Copyright © Rhiw.com |