|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr. Mawrth 1
– Tywydd caled rhewi. Mercher 2
– Rhewi. Llythyr oddiwrth Eliza o Clun. Iau 3 –
Rhewi. Efo Owen yn llifo cyllill y felin. Gwener 4
– Efo Owen yn gorffen efo’r felin. Rhew caled. Anfon llythyr i Eliza. Sadwrn 5
– Yn Pwllmelyn yn symud y felin eithin. Sul 6 –
John Elias Pwllheli am 2 a 6. Llun 7 -
Cael llythyr oddiwrth Nel yn dweud fod ei mam o dan y crudcymalau. RHT yn
anfon potelad o ffisig o Fotwnnog. Mawrth 8 -
Yn Pwllmelyn pnawn yn tynnu’r hen bren oedd yn dal y droell yn y gwaith
malu. Yn Nebo am 7 yn gwrando ar Reidol Roberts. Mercher 9
– Cael llythyr eisiau i mi fynd i Clun. Cychwyn am y Port. Iau 10 –
Cychwyn efo tren gyntaf o’r Port. Cyrraedd y Birches am 4 pm. Gwener 11
– Eliza fawr gwell. Anfon llythyr i RHT. Sadwrn 12
– Oer wedi rhewi. Sul 13 –
Sul annifir. Llun 14 –
Anfon llythyr i Carreg Lefain a Jini Pisgah. Mawrth 15 -
Anfon llythyr i Bob a Tedi. Mercher 16
- Postcard oddiwrth RHT yn
dweud ei fod yn mynd i Aberystwyth. Iau 17 -
Oer iawn heddiw. Eliza yn reit ddrwg gweuw yn ei braich dde. Gwener 18
– Anfon llythyr i Ann Port ac un i Tedi i Ael y Bryn. Gweuw yn llaw dde Eliza
heddiw. Sadwrn 19 -
Cwyno efo’r ddwy law heddiw, ar fy nhraed dan 2 heno. Sul 20 –
Sul annifyr. Ei chefn yn ddrwg heddiw. Llun 21 –
Cael llythyr oddiwrth Jini Pisgah. Mawrth 22
– Cael llythyr oddiwrth RHT o Pwllheli. Eliza yn well heddiw. Anfon llythyr at
RHT i’r dre. Mercher 23
– Iau 24 –
Anfon llythyr at Jini Pisgah a’r llun Dick a ..?. Llythyr o Garreg Lefain. Gwener 25
– Llythyr oddiwrth Tedi yn dweud hanes y lamp yn mynd ar dan yn Capel Pisgah. Sadwrn 26
– Eliza wedi codi am ychydig heddiw. Sul 27 –
Oer heddiw. Bwrrw eira. Sul annifyr. Llun 28 –
Eliza yn codi. Mawrth 29 -
Dim baco heddiw. Llythyr oddiwrth Jini Pisgah yn dweud fod y gwn mawr
heddiw. Mercher 30
– Anfon Llythyr i Brynfran. Iau 31 –
Derbyn yr Herald a owns o faco o Tan y Ffordd. Chwefror
Gwener 1
– Anfon llythyr i Tedi eisiau iddo fynd a fy ngarden insurance i’r Terfyn. Sadwrn 2
– Glaw mawr heddiw. Eliza yn well o lawer. Sul 3 –
Eliza wedi cael gweuw neithiwr yn ei braich chwith am y trydydd tro yn ddim fel
y dde, ddim yn dda heddiw, annifyr iawn. Llun 4 –
Tywydd meddal. Mawrth 5
– Llythyr oddiwrth RHT yn dweud fod ei bartner wedi brifo. Anfon llythyr i
Carreg Lefain a Tan y Ffordd. Mercher
6 – Diwrnod braf. Eliza ddim yn dda. Reg yn mynd i Row i chwilio am le
i’r gwartheg. Iau 7 –
Eliza yn well heddiw yn ei braich dde am y pedwerydd tro. Mynd i Clun i nol bara. Gwener 8
– Eliza yn well. Sadwrn 9
– Y gweuw wedi darfod. Reg yn mynd i Carno i weld fferm o’r enw Cennig, lle
sal gwlyb. Sul 10 –
Eliza wedi cael Sul heb weuw. Diwrnod braf, ond ei bod yn annifyr yma. Llun 11 –
Llythyr oddiwrth William Ty Croes. Eira mawr heddiw. Eliza wedi codi. Mawrth 12
– Oer ac eira heddiw. Anfon llythyr i Llywenan. Eliza wedi codi. Mercher 13
– Llythyr o Tan y Ffordd. Diwrnod oer rhew. Anfon llythyr i Tan y Ffordd. Iau 14 –
Diwrnod oer rhew mawr. Yr eira ddim yn darfod dim. Eliza wedi dod i lawr. Gwener 15
– Oer iawn. Bwrrw eira. Sadwrn 16
– Llythyr oddiwrth Tedi o Ael y Bryn yn dweud fod eira mawr yn Rhiw claddu
motors, eira nad oes neb yn gofio cymaint. Sul 17 –
Diwrnod caled, rhewi eira yn dal run fath. Llun 18 –
Diwrnod caled yr eira ddim yn symud, rhewi. Eira mawr yn Rhiw. Mawrth 19
– Cael llythyr oddiwrth Tedi a Jini Pisgah yn dweud fod Mary Ty Croes Bach yn
cael ei chladdu heddiw 12 o ddynion yn clirio yr eira i fynd a hi i Eglwys y
Rhiw. Mercher 20
- Diwrnod caled, dechrau dadmer
pnawn. Iau 21 –
Dadmer yn ara heddiw. Reg yn nol llwyth o wellt o Colsty. Gwener 22
– Derbyn fy nghrysa o Rhiw. Sadwrn 23
– Diwrnod ffeind, dadmer yn dda. Reg yn lladd mochyn i Lysyard. Sul Llun 24
i 25 – Mawrth 26
– Bwrrw eira heddiw. Eliza yn ei gwely. Mercher 27
– Eliza wedi cael annwyd ar ei brest. Iau 28 –
Llythyr oddiwrth Ann y Port. Mawrth Gwener 1
– Eliza ar ei thraed heddiw wrth y tan yn y llofft. Sadwrn 2
– Gweuw un dechrau yn ei llaw chwith y ddwy yn ddrwg heno. Fi yn mynd i Clun
i’r siop. Ei dwy law yn ddrwg ol i mi ddod yn ol. Anfon llythyr i Tan y Ffordd
i Richard. Nos sadwrn annifyr dim golwg am gapel fory. Sul 3 –
Sul annifyr. Eliza yn ei gwely anwyd a crudcymalau yn ei dwy law. Anfon llythyr
i Port. Llun 4 –
Reg yn mynd at y doctor i gael potelad iddi. Mawrth 5
– Ar fy nhraed trwy’ nos neithiwr, Eliza yn pesychu bob munud. Llythyr
oddiwrth RHT. Fi a Reg yn nol llwyth o goed tan. Mercher 6
– Iau 7 –
Anfon llythyr i RHT. Fi yn mynd i Clun. Gwener 8
– Eliza yn ei gwely crudcymalau yn ei choes dde. Sadwrn 9
– Derbyn Herald a baco o Tan y Ffordd. Sul 10 –
Sul braf ond annifyr fel hyn, Eliza yn ei gwely. Llun 11 –
Mawrth 12
– Anfon llythyr i Tedi ac un i Tan y Ffordd yn dweud ein bod yn dod adra dydd
gwener. Mercher 13
– Diwrnod braf. Iau 14 –
Diwrnod braf. Eliza wedi codi. Reg yn nol llwyth o wair i Colsty. Gwener 15 -
Nol peswyn o Colsty. Mynd i Clun. Anfon llythyr i RHT Sadwrn 16
– Nos sadwrn annifyr gweuw yn troed chwith Eliza. Claddu gwraig Brynfran. Sul 17 –
Eliza yn ei gwely ei throed chwith yn ddrwg. Annifyr. Llun 18 –
Ei throed chwith yn ddrwg heddiw. Mawrth 19
– Methu codi ar ei heistedd yn ei gwely heddi yn bore, ond gwella at y pnawn. Mercher 20
– Llythyr oddiwrth Tedi yn dweud fod gwraig Brynfran wedi ei chladdu dydd
sadwrn. Iau 21 –
Bwrrw glaw heddiw bron drwy’r dydd. Gwener 22
– Sadwrn 23
Nol peswyn o Colsty. Sul 24 –
Eliza yn reit dda heddiw ond heb godi. Llun 25 –
Tywydd poeth. Mawrth 26
– Llythyr oddiwrth RHT ac un o Tan y Ffordd. Mynd i Clun i chwilio am fotor i
fynd a ni i Montgomery fory. Mercher 27
Yn ymyl y Byrlo yn disgwyl y fan fara. Bore poeth. Dod adref o Clun. Iau 28 –
Rhychu tatws cynnar. Gwener 29
– Plannu tatws. Poeth tynny at y crys. Sadwrn 30
– Gorffen plannu y tatws cynnar. Tywydd hynod o braf. Sul 31 – Ebrill Llun 1 – Mawrth 2
– Anfon arian am y llyfrau misol £1. Mercher 3
– Yn dre heddiw efo John Tyn Ffos. Mynd a Griffith Brynawel i Fangor. Iau 4 –
Bwrrw glaw heddiw. Eliza heb godi. Marw Griffith Brynawel yn Bangor. Gwener 5
– Sadwrn 6
– Ismael yn nol corff Griffith Brynawel i Fangor. Sul 7 – Llun 8 –
Tywydd oer. Mawrth 9
– Angladd Brynawel. Oer heddiw. Mercher 10
– Bore oer gwynt o’r dwyrain. Teilo tatws yn cae heuwal Tan y Ffordd. Iau 11 –
Plannu 24 o resi. Llythyr oddiwrth Nel. Gwynt oer o’r gogledd. Gwener 12
– Rhewi neithiwr. Gorffen plannu yn Tan y Ffordd. Sadwrn 13
– Sul 14 –
Ellis O Lloyd o Portmadoc. Laura Penbryn Bach a’r gwr yma. Llun 15 –
Anfon llythyr i Nel. Gwynt oer o’r dwyrain. Mawrth 16
– Nol gwair Pen y Bwlch. Mercher 17
– Bwrrw ychydig a niwl, gwynt i lawr heddiw. Iau 18 –
Niwl ac yn tampio tipyn. Gwener 19
– Diwrnod braf. Sadwrn 20
– Rowlio cae capel a tatws cae heuwal yn Tan y Ffordd. Gwynt oer eto heddiw.
Tywydd hynod o galed. Sul 21 –
James Elder am 2 a 6. Llun 22 –
Yn Ty Ruttan. Bwrrw chydig bore. Mawrth 23
– Oer heddiw. Mercher 24
– Oer rhew yn y bore. Gwn mawr heddiw. Iau 25 –
Bore oer eto heddiw. Gwynt i lawr yn pnawn. Gwener 26
– Bwrrw tipyn neithiwr oer a gwynt o’r gogledd. Bwrrw glaw gyda’r nos. Sadwrn 27
– Gwynt i fyny heb fod mor oer. Sul 28 -
George E Williams Clynnog am 10. Bwrrw yn dda neithiwr. Bwrrw eto heno. Llun 29 –
Yn Pen yr Ogo yn trwsio y drws. Oer iawn eto heno. Mawrth 30
– Eliza yn ddrwg bore heddiw gweuw yn ei choes. Diwrnod oer. Mai Mercher 1
– Barrug bore heddiw. T TH, E O. Iau 2 –
Bore braf rhoi rwdins yn cae heuwal Tan Ffordd. Gwener 3 Sadwrn 4
– Bwrrw tipin bore heddiw. Bad weather watch yn Bytilith heno o 11 dan 3 fore
Sul. Bwrrw yn dda yn y nos. Sul 5 –
Tair pregeth heddiw. Sul Cyfarfod Taleithiol yn Pwllheli. Llun 6 –
Glaw mawr a cenllysg bras bore heddiw. Mawrth 7
– Yn Bytilith o 12 dan 4 y bore. Glaw mawr yn y bore. Mercher Iau
8 i 9 – Bwrrw digon o law. Gwener 10
– Yn Bytilith o 12 dan 4. Sadwrn 11
– Daniel yn talu 13/6d. Diwrnod tyfu da. Sul 12 –
Yn Bytilith 4 dan 8 bore. Llun 13 –
Yn Bytilith o 11.30 pm dan 3.30 am. Mawrth 14
– Daniel yn talu 13/6d. Drama yn yr ysgol. Mercher 15
– Yn Bytilith o 3.30 i 7.30 am. Iau 16 –
Cael 4/6d gan Daniel. Diwrnod braf. Gwener 17
– Efo John Brynawel yn Carreglefain Bach 2/-. Sadwrn 18
– Yn Pwllmelyn yn rhoi ffram y gwaith malu. 3/-. Sul 19 –
Cefn Hirwaun am 2 a 6. Sul braf. Llun 20 –
Dechrau y seston yn Tyn Castell. Mawrth 21
– Yn Tyn Castell. Llythyr o Clun heddiw. Mercher 22
– Yn Tyn Casell. Bwrrw tipyn heddiw. Bad weather watch heddiw. Iau 23 –
Yn Bytilith o ddeg neithiwr dan 2 heddiw. Glaw yn dda heddiw. Gwener 24
– Yn Tyn Castell. Anfon llythyr i Clun. Sadwrn 25
– Yn Tyn Castell. Sul 26 –
Tecwyn Jones Talysarn. Llun –
Gwener 27 i 31 – Yn Tyn Castell. Mehefin. Sadwrn 1
– Yn Tyn Castell. Bad weather watch 12 – 4 am. Sul 2 –
Joseff Jones am 2. Bwrrw digon, glaw bendithiol. Llun 3 –
Bad weather watch o 4 dan 8 am. 9/- gan Daniel. Hanner yn Tyn Castell. Mawrth 4
– Diwrnod yn Tyn Castell. Mercher 5
– Hanner yn Tyn Castell. Bwrrw pnawn. Llythyr o Clun. Iau 6 – Tri
chwarter yn Tyn Castell dan 2. Glaw. Gwener 7
– Diwrnod yn Tyn Castell. Richard y gwas wedi mynd a’i wraig i Caernarfon. Sadwrn 8
– Diwrnod yn Tyn Castell. Gorffen priddo tatws yn Ael Bryn. Sul 9 -
Eliza yn cwyno. Llun 10 –
Pen fy mlwydd heddiw yn 57. Mawrth 11
– Diwrnod yn Tyn Castell. Dr Jones yma. Mercher 12
– Adref Eliza yn ei gwely. Glaw tyner o’r dwyrain pnawn. Iau 13 –
Hanner yn Tyn Castell. Mynd i gau o gwmpas y drws yn Trip. Gwener 14
– Cychwyn am y Trip Owen Hughes dod i fy nol at Dick. Sadwrn 15
– Yn Tan y Ffordd y doctor yn dod. Sul 16 - Yn
Tan y Ffordd. Llun 17 –
Dick mynd i ffwrdd. Mawrth
Mercher 18 i 19 – Yn Tan y Ffordd. Iau 20 –
Golchi defaid. Mynd a’r wyn i Meillionydd £6/15/0d. Gwener 21
– Yn Tan y Ffordd yn teneuo swej. Sadwrn 22
– Yn Tan y Ffordd. Sul 23 -
R Von Owen am 2 a 6.30. Llun 24 –
Anfon llythyr i Nel. Mawrth –
Sul 25 i 30 – Yn Tan y Ffordd. Gorffennaf
Llun –
Gwener 1 i 5 – Yn Tan y Ffordd. Sadwrn 6
– Cario cae big dau lwyth, cario cae dan ty chwe llwyth. Sul 7 –
James Elder am 2 a 6. Llun –
Gwener 8 i 12 – Yn Tan y Ffordd. Sadwrn 13
– Tarw i’r fuwch goch. Sul 14 – Llun 15 –
Tarw i’r fuwch froc. Mawrth 16
– Cario cae capel. Mercher –
Sadwrn 17 i 20 – Sul 21 –
Joseff Jones am 2. G T Roberts Botwnnog am 6. Llun 22 –
Glaw mawr. Mawrth –
Mercher 23 i 24. Iau 25 –
Am y menyn 6/4d. Torri gwair Bryngoleu. Cant o gorn bras 3/- wedi talu. Gwener 26
– Llythyr oddiwrth Nel. Derbyn 10/1d gan Daniel am fod yn y cwt Bytilith. Sadwrn 27
– Drill y gwn mawr. Cario gwair Bryn Goleu. Pnawn poeth. Talu 2/- i W Owen am
help. Sul 28 –
Bwrrw glaw heddiw. Llun 29 –
Bad weather watch 2 i 9 am. Glaw heddiw. Derbyn gan Daniel 5/7d. Anfon llythyr i
Nel. Mawrth 30
– Torri gwair yn ardd Ty Isa. Talu 1/- i R H Griffith am helpu. Mercher
31 – Bad weather watch 11 i 4 pm. Derbyn 4/7d. Awst. Iau 1 –
Cant y gorn man 13/-. Robert Roberts Argraig yn Ael y Bryn fi yn seinio am 7/6d. Gwener 2
– Bad weather watch 11.30 am i 4.30 pm. Sadwrn 3
– R H Thomas yn priodi. Nel di priodi wyth mlynedd i heddiw. Llun 4 –
Glaw mawr heddiw. Dwr yn dod i’r ty yn Tan y Ffordd. Llun 5 –
Arian gan Daniel 11/3d. Bad weather watch 1 dan 5. Mawrth 6
– Niwl a glaw heddiw. Tynnu chwyn mawr o’r swej. Anfon fy ngharden i Sam
Jones 25 stamps. Mercher 7
– Am fenyn 5/-. Tipio y tro cyntaf. Iau 8 –
Robert Hwmphrah Griffith yn torri rhedyn a torri gwair Terfyn Isa. Gwener 9
– R H Griffith yn torri rhedyn. Bad weather watch o 3 bore dan 8. Angladd John
mab William saer. Sadwrn 10
– Nol gwair o Terfyn Isa Rowland Griffith Tyddyn Morthwyl efo trol
Penarfynydd. Diwrnod clos a niwl. Sul 11 –
Elli Owen Lloyd Portmadoc am 2 a 6.30. Llun 12 –
R H Griffith yn torri rhedyn. Cael y record card yn ol oddiwrth Sam Jones. Mawrth 13
– Arian gan Daniel 5/7d. Yn ffair awst yn gorffen tynnu fy nanedd. Mercher 14
– R H Griffith yn torri rhedyn. Llythyr oddiwrth Nel. 3/8d am fenyn. Tipio am
y tro olaf. Iau 15 –
RH Griffith yn torri rhedyn. Gwener 16
– Hanner R H Griffith. Glaw pnawn. Talu 13/6d am gorn man i Hughes. Sadwrn 17
– Bad weather watch 3 i 7 am. Bad weather watch 6 i 10 pm. Talu punt i R H
Griffith am dorri rhedyn. Sul 18 –
Sul braf. Llun 19 –
Dechrau ras cwn am 5. Mawrth 20
– Ras cwn yn dechrau 9 am. Glaw am 3pm. Mercher 21
– Diwrnod braf sychu fawr. Iau 22 –
Am fenyn 5/6d. Gwener 23
– Bad weather watch 3 to 8 am. Niwl tew trwy’r dydd. Sadwrn 24
– Niwl a glaw mawr bore heddiw. Dernyn 9/- gan Daniel. Sul 25 –
Rev James Elder am 2 a 6.30. Llun 26 -
R H Griffith yma pnawn yn cario rhedyn nol 3 llwyth. Mawrth 27
– R H Griffith diwrnod yn hel rhedyn cario un llwyth. Glaw pnawn talu am dipio
5/-. Mercher 28
– R H Griffith diwrnod tynnu tatws yn yr ardd. Gorffen cario rhedyn yn pnawn 3
llwyth. Bad weather watch 10 pm – 3 am. Iau 29 -
5/- gan Daniel. Yn Tyddyn Morthwyl yn trwsio. Bad weather watch 11pm i 4 am. Am
fenyn 7/-. Gwener 30
– Dechrau torri yd yn cae nesa i Gonion. Sadwrn 31
-. Medi. Sul 1 –
Jones Fflint 10 a 6.30. Llun 2 –
Yn Tyn Castell. Richard Pwllmelyn yn torri yd cae nesa i Gonion. Mawrth 3
– Yn Tyn Castell. Richard Pwllmelyn yn torri yd y darn. Mercher 4
– Yn Tyn Castell eto. Niwl tew heddiw eto. Am fenyn 2/-. Iau 5 –
Yn Tyn Castell. Niwl tew eto heddiw. Gwener 6
– Richard Pwllmelyn yn gorffen torri cae capel. Diwrnod poeth. Sadwrn 7
– Hynod o sych. Sul 8 –
Joseff Jones am 2 a 6.30. Llun 9 –
Yn Tyn Castell. Mawrth 10
– Cario yd Conion. Mercher 11
– Gorffen cael yr yd yn Conion. Nel dod yma. Iau 12 –
Gorffen cael yd Tan y Ffordd Richard yn pnawn. Gwener 13
– Hynod o sych. Sadwrn 14
– Am corn man a bran yn y post 10/-. Bad weather watch 9 i 2 am. Sul 15 –
Sul gwag. Llun 16 –
Derbyn gan Daniel 5/7d. Mawrth 17
– R H Griffith yma yn tynnu tatws. Mercher 18
– Yn Tyn Castell. Hynod o sych. Iau 19 –
Bad weather watch 7 i 11pm. Gwener 20
– Pawb yn cael yd yn fuan eleni. Sadwrn 21
– Arian gan Daniel. Bad weather watch 9 i 2 am. Sul 22 –
Cyfarfod ysgol Pisgah Von Owen yn holi cyfarfod da. Llun 23 –
Richard pwllmelyn yn toi y das geirch. Arian gan Daniel 15/7d. Mawrth 24
– Mercher 25
– Hynod o sych. Iau 26 -
Yn Conion Ganol yn gosod pobty. Gwener 27
– Gorffen yn Conion Ganol. Sadwrn 28
– Bad weather watch 9 i 2 am. Glaw mawr heno. Sul 29 –
John Evans o Nefyn am 10. Llun 30 -. Hydref Mawrth 1 -
Arian gan Daniel 5/7d. Bad weather warch 9 i 2 am. Mercher 2
– Hanner yn Tyn Castell. Bad weather watch 10 i 3 am. Iau 3 –
Yn Tyn Castell hanner. Bad weather watch 12 i 5 am. Gwener 4
– Arian gan Daniel 16/10d. Sadwrn 5
– Mynd a’r defaid i caeau Pwllhin. Sul 6 – G
Thomas Roberts Botwnnog am 2 a 6. Llun 7 –
Arian gan Daniel 4/6d. Y gwn mawr heno 5/-. Mawrth 8
– Gwneud lle y gwartheg yn barod yn beudy. Talu tair punt yn y Bwlch am caeau
Pwllhin. Mercher 9
– Hanner yn Tyn Castell yn rhoi syment ar dop y waliau y seston. Iau 10 –
Bad weather watch 10 i 3 am. Gwener 11
– Sadwrn 12
– Arian gan Daniel 5/7d. Sul 13 –
James Elder am 10. Llun Mawrth
14 i 15 – Mercher 16
– Harry Conion Ganol yma yn tynnu tatw. Bad weather watch 7 i 12 pm. Iau Gwener
17 i 18 – Sadwrn 19
– Talu 12/6d am gorn man yn y post. Sul 20 –
Ellis Lloyd Portmadoc am 2 a 6. Llun 21 –
Diolch am y cynhaeaf. Mawrth 22
– R H Griffith yn tynnu tatws. Rhoi y ddwy fuwch i fewn yn nos. Mercher 23
– R H Griffith yn gorffen tynnu tatws. Bad weather watch 2 i 7pm. Iau 24 -
Bwrrw llawer heddiw. Rhoi y bustach coch a’r heffar froc i fewn yn nos.
Rhoi y bustach yn lle y ferlen. Gwener
Sadwrn 25 i 26 – Sul 27 –
John Jones Nefyn. Llun 28 –
Bad weather watch 11 am i 3 pm. Mawrth 29
– Arian gan Daniel 4/6d. Mercher 30
– Yn dre yn tynnu bonyn dant. Iau 31 – Tachwedd. Gwener 1
– Troi y doman. Sadwrn 2
– Sul 3 –
John Emrys Roberts yn dechrau am 2. Llun 4 –
Bad weather 12 i 5 am. Gan Daniel 5/7d. Mawrth 5
– Ganwyd merch i R H T Betty Thomas. Mercher 6
– Iau 7 –
Bad weather 10 i 3 am. Gwener
Sadwrn 8 i 9 – Sul 10 –
Von Owen gweinidog am 2 a 6. Llun 11 –
Yn dre. Helynt R Griffith a finnau efo coperetyf. Bad weather watch 12 i 5 am. Mawrth 12
– Arian gan Daniel 5 /7d. Mercher 13
– Yn y dre. Iau 14 – Gwener 15
– Fi a Robert y Felin yn galw heibio i Sion Tyn Ffos. Sadwrn Sul
16 i 17. Llun 18 -
Bad weather watch 12 i 5am. Mawrth 19
– Bad weather 1 am i 6am. Mercher 20
– Arian gan Daniel 11/3d. Fi a Eliza yn dre. Talu £5 i livin officer. Iau 21 –
Talu £7 o rent i Griffith Jones. Gwener 22
– Bad weather 12 i 4 am. Sadwrn 23
– Bad weather 11 i 4 am. Sul 24 – Llun 25 –
Arian gan Daniel 10/-. Bad weather 7.30 i 12. Talu degwm 11/4d. Mawrth 26
– Arian gan Daniel 5/-. Dod a’r defaid adref. Nel Anne a Jini wedi mynd i
Rhos i nol esgidiau. Mercher 27
– Daniel yn Tan y Ffordd eisiau mi ddechrau 12 heno. Bad weather 12 i 4 am. Iau 28 –
Arian gan Daniel 4/6d. Gwener
Sadwrn 29 i 30. Rhagfyr
Sul 1 –
James Elder am 2 a 6. Llun 2 –
Bad weather watch 11 i 4 am. Mawrth 3
– Arian gan Daniel 5/7d. Mercher 4
– Yn y dre. Bad weather watch 11 i 4 am. Iau 5 –
Anfon £9/10/0d am y llyfrau canu. Gwener 6
– Arian gan Daniel 5/7d. Bad weather watch 7 i 12 pm. Sadwrn 7
– Wythnos o wynt mawr, llawer o longau wedi eu colli. 2/3d am frws beudy. Sul 8 –
Bad weather 1 dan 6 y bore. Llun 9 –
Arian gan Daniel 11/3d.Bad weather 7 i 12 pm. Mawrth 10
– Mynd a’r bustach coch i Plasnewydd i Robert Llidiardau. Mercher 11
– Arian gan Daniel 5/7d Bad weather watch 7 i 12 pm. Iau 12 –
Arian watch 11/3d. Gwener 13
– Bad weather watch 8 pm i 1 am. Sadwrn 14
– Arian gan Daniel 5/7d. Sul 15 –
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun Mawrth
16 i 17 – Mercher 18
– Bad weather 12 i 4 am. Iau 19 – Gwener 20
– Bad weather 11 i 4 am. Cwrdd Plwy sylw i ffordd Penrallt. Sadwrn 21
– Arian gan Daniel 10/-. Angladd Griffith Owen Meillionydd. Sul 22 -
E O Lloyd 2 a 6. Llun 23 –
Talu punt i R H G am dynnu tatws. Mawrth 24
– Diwrnod braf. Claddu Charles tad Jane Syntyr. Bad weather 12 i 4 am. Mercher 25
– Gwynt mawr. Bad weather watch 6 i 11 pm. Iau 26 –
Arian gan Daniel 10/-. Eliza wedi bod yn Meillionydd heddiw. Gwener 27
– Sadwrn 28
– Bad weather 10 pm i 3 am. Sul 29 –
R Von Owen am 10. Marw Martha Carreg Lefain. Bad weather 11pm i 4 am. Llun 30 –
Arian y bad weather watch 11/3d. Yr oll ar glangaeaf £4/14/6d. Mawrth 31 - ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |