|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr
Sul 1
Rev Thomas Morris am 2 a 6. Llun 2
Turn yn Benallt. Williams Chwilog yn Nebo. Mawrth 3
Turn eto. Williams yn Nebo heno eto. Mercher Iau
4 i 5. Turn. Gwener 6
Adref heddiw dan annwyd. Sadrwn 7
Turn. Sul 8
Joseff Jones Pwllheli am 2 a 6. Llun
Mercher 9 to 11 Turn. Iau 12
Turn. Angladd Elin Felin Nant mam Richard Ty Fair, dod a hi or Abererch i
Aberdaron. Gwener 13
Turn. Pau £2.8/8d. Sadwrn 14
Turn. Sul 15
Jones Caernarfon am 10. Llun 16
Turn Sam Jones yn cael fy ngharden insurance yn y Terfyn 25 stamp. Mawrth 17
Diwrnod braf haul poeth. Turn dan ddaear yn bore, yn chwarel Roland Jones yn
pnawn yn codi cerrig i Harri Thomas. Eliza wedi mynd i ty Fair a finnau yn mynd
ir Glwyd iw chyfarfod. Mercher 18
- Turn. Glaw heddiw. Harry Thomas
yn gwneud ni ddod i fyny ofn ir lle gau. Iau Gwener
19 i 20 Turn. Sadwrn 21
Turn glaw trwyr dydd. Sul 22 -
Cyfarfod gweddi am 2 a 6 Hughes, Llyshyfryd, O Owen, Tom a Evan Williams. Llun Mawrth
23 i 24 Mercher 25
Bob yn dyrnu yn Meillionydd. Llythyr o Clun. Turn yn y lefel bore a chwarel
Rolant Jones pnawn. Pau £2/17/8d. Iau 26
Marw gwraig Penarfynydd. Marw William Trefaes. Yn fy ngwely heddiw, gwayw yn fy
mhen drwyr nos. Gwener 27
Turn yn chwarel Rolant Jones yn codi cerrig i Harri Thomas. Sadwrn 28
Turn yn y lefel. Bwrrw glaw trwyr dydd. Sul 29
Bachgen o Coleg Bangor ( Batys ) yn lle Berwyn Roberts. Glaw mawr trwyr dydd
yn hynod o wlyb. Llun 30
Turn yn rhoi sinc ar ben yr efail yn Benallt. Mawrth 31
Turn. Angladd gwraig Penarfynydd a William Trefaes. Glaw trwyr dydd. Chwefror Mercher
Gwener 1 i 3 Turn. Sadwrn 4
Turn. Partir Bryn yn Rhoshirwaun. Glaw trwyr dydd. Sul 5 -
Cyfarfod gweddi. Dim capel dim yn dda. Llun Mawrth
6 i 7 Turn. Mercher 8
Turn. Marw William Ty Canol Rhiw. Iau 9
Turn. Anfon llythyr i Nell. Gwener 10
Turn. Pau £2/12/4d. Gwynt mawr yn chwalu tas wellt Carreg Lefain a tas Tan
y Foel E Jones Sadwrn 11
Turn. Yn Tan y Ffordd pen y beudy wedi torri. Cyfarfod trysdis yn capel Rev
Berwyn Roberts,. Owen Griffith, Evan williams, W Jones Ty croes, Griffith
Thomas. Sul 12
Rev Berwyn Roberts am 2 a 6 Llun 13
Dim gwaith, dim powdwr. Yn Tan Ffordd yn codi wal cwt yr ieir. Rev Berwyn
Roberts yma yn cael te heddiw. Mawrth 14
Turn. Angladd William Thomas Ty Canol yn Llanfaelrhys. Mercher Iau
15 i 16 Turn. Tywydd gwlyb. Gwener 17
Turn. Yn sychu yn dda heddiw. Sadwrn 18
Turn. John Brynawel yn priodi. Diwrnod sychu da. Sul 19
Bob humphreys Llanbedrog am 10. Llun 20
Turn yn curo peil. Marw William Griffith Erw yn ty Ann ei ferch yn Pwllheli. Mawrth
Mercher 21 i 22 Turn yn curo
peil. Iau 23
Turn yn curo peil.Pau £2/12/4d. Pwyllgor neuadd heno. Wythnos sych. Gwener 24
Turn yn curo peil. Angladd Griffith yr Erw yn Nebo. Sadwrn 25
Turn. Yn Terfyn yn gwneud llawr i sied motor beic Hugh. Sul 26
T Morris Cricieth am 2. Sul braf. Llun 27
Mawrth 27 i 28 Turn yn curo peil. Mercher 29
Turn yn Benallt. Bwrrw glaw. Llythyr o Clun. Mawrth
Iau 1
Turn yn Benallt eto. Y tafleisydd enwog o Talysarn yn Aberdaron fi a Eliza yn
mynd yno. Gwener 2
Turn yn curo peil. William Ty Croes yn dod a chwarter or mochyn yma. Sadwrn 3
Turn ar y stage. Rhychur nionod a rhychu clwt wrth gwt yr ieir. Diwrnod
poeth heddiw. Sul 4
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 5
Turn yn curo peil. Dyddiau braf. Mawrth 6
Turn yn curo peil. Hel arian at Gymdeithas Beiblau Ty Mawr. Mercher 7
Turn yn gorffen curo peils. Eliza yn sal dan annwyd. Iau 8
Turn yn cael y morthwyl o ben y stage i fyny. Gwener 9
Turn Pau £3/2/4d. Sadwrn 10
Turn. Dewis aelodau ar y cyngor plwy. RJones Pwllmelyn, J Davies Tyn Mynydd,
Ellis Jones, Griffith Tyn Lon, G Thomas, W Jones Llyshyfryd, H W Jones Terfyn. Sul 11
Bachgen Cefn Hirwaen am 2 a 6. Sul oer caled. Eliza yn ei gwely Bob yn mynd i
Seaview i ddweud wrth y Doctor am ddod yma. Llun 12
Adref heddiw Eliza yn sal. Diwrnod oer. Anfon llythyr i Birches Clun. Mawrth 13
Turn yn gosod powltia yn y stage. Eira bore heddiw. Mercher 14
Turn yn gosod powltiau. Diwrnod oer. Llythyr gan Nell. Iau 15
Turn yn gosod powltiau. Ffair newydd heddiw. Eliza wedi codi. Gwener 16
Turn. Anfon llythyr i Nell. Sadwrn 17
Turn yn Benallt. W O Jones Bangor yn darlithio yn Pisgah ar Taw a thewi. Sul 18 -
W O Jones Aber Bangor. Llun 19
Marw Hugh Williams Treheli. Turn yn Benallt. Mawrth 20
Turn yn Benallt. Glaw heddiw. Mercher 21
Turn yn Benallt. Iau 22
Turn yn Benallt bore. Mynd ir traeth at y stage yno dan 5 yn gosod dau o
falks wrth yr hen beil. Anfon i Nell. Gwener 23
Turn ar y stage a gosod darn o reil wrth yr hen wedi iddi dreio dan chwarter
i 6. Pau £ 2/12/4d. Sadwrn 24
Yn y Benallt. Sul 25
Mynd ir Cyfarfod Ysgol yn Cricieth fi W
Jones Llyshyfryd. Llun 26
Turn ar y stage. Plannur nionod heddiw. Mawrth 27
Turn. Eliza yn ei gwely heddiw yn pesychu yn drwm. Mercher 28
Turn ar y stage. Llythyr oddiwrth Nell a papur newydd. Sam Prydderch yma.
Eliza yn ei gwely yn pesychu. Iau 29
Adref heddiw. Eliza yn ei gwely. Anfon y watch ar menig i Clun. Gwener 30
Turn yn Benallt. Sadwrn 31
Turn yn Benallt. Llythyr o Clun yn dweud fod y watch di cyrraedd. Ebrill
Sul 1 T
Morris Cricieth am 2 a 6. Yr Ordinhad heno. Llun 2
Turn ar y stage. Plannu tatws yn y clwt nesa i gwt yr ieir. Mawrth 3 -
Turn yn y Benallt. Mercher 4
Turn ar y stage. Gorffen plannu y forder dan ffenast y parlwr. Iau 5
Turn ar y stage. Anfon llythyr i Nell. Gwener 6
Turn eto. Pau £2/17/4d. Dyddiau heb lawio. Sadwrn 7
Turn ar y stage. Gorffen rhychu yr ardd pnawn. Sul 8
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 9
Dim gwaith. Mawrth 10
Turn yn Benallt. Mynd i ardd Ty Coch i nol caets i ddal pys. Taro fy ewin 10
yn ymyl calch brwd (?). Mercher 11
Turn ar y stage. Heu hadau sibols. Iau 12
Turn. Drill gwn mawr am 3. Hau pys yn ymyl ty bach. Gwener 13
Turn ar y stage. Llythyr oddiwrth Nell. Sadwrn 14
Turn ar y stage. Bore oer gwynt caled or dwyrain. Plannu 27 o resi tatws
yn cae nesa i Conion yn Tan y Ffordd. Sul 15
T Morris o Cricieth am 10. Marw Owen Jones Cadwgan. Sul oer gwynt or dwyrain. Llun 16
Turn ar y stage. Gorffen plannu tatws. Mawrth 17
Turn ar y stage. Tywydd oer. Mercher 18
Turn ar y stage. Iau 19
Turn eto. Angladd Owen Jones. Gwener 20
Turn. Anfon llythyr i Nell. Pau £2/12/4d. Sadwrn 21
Turn. Wythnos oer. Sul 22
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 23
Turn yn Benallt. Mawrth 24
Turn. Mercher 25
Mynd i r dref i nol esgidiau. Iau 26
Turn. Cael ceiliog o Clun. Gwener 27
Hanner. Mynd i ocsiwn Penrallt Griffith Roberts. Sadwrn 28 -
Turn. Sul 29
Berwyn Roberts am 2 a 6. Llun 30
Turn. Mai
Mawth
Iau 1 i 3. Turn. Gwener 4
Turn. Glaw yn y bore am awr. Sadwrn 5
Turn. Pau £2/9/0d. Sul 6 -
Joseff Jones am 10. Llun 7
Turn ar y stage. Yn trwsio Bryngoleu gydar nos. Mawrth 8
Turn ar y stage. Yn trwsio Bryngoleu Bach gydar nos. Mercher 9
Turn eto. Yn Llywenan yn cau y simdda gydar nos. Iau 10
Turn ar y stage. Yn Llywenan eto. Gwener 11
Turn. Yn Llywenan eto. Bob yn mynd at William Murmelyn. Sadwrn 12
Turn. Gorffen palu tatws. Sul 13
Bachgen or Coleg am 10. Llun 14
Turn. yn Llywenan o 4 dan 8. Mawrth 15
Turn yn Llywenan. Mercher 16
Turn yn Llywenan o 4 dan 8. Iau 17
Mai yn y flwyddyn 1917 yr oedd Isaac druan yn mynd i Meillionydd. Turn yn
Llywenan. Bwrrw glaw. Gwener 18
Turn. Pau £2/17/4d. Cyfarfod y neuadd yn yr ysgol. Sadwrn 19
Turn. Priddo tatws dan yr eil. Sul 20
John Huws Pwllheli am 6. Llun 21
John Evans yn mynd i Neigwl ganol. Mawrth 22
Turn. Mercher 23
Turn yn Llywenan 4 dan 9.30. Iau 24
Turn yn Llywenan. Sadwrn 25
Turn. Yn Llywenan o 12 dan 5. Bwrrw glaw. Sul 27 T
Morris am 6.30. Llun 28
Dim gwaith. Paentio distiau llofft. Mawrth 29
Turn. Yn Llywenan 4 dan 7. Tywydd poeth. Anfon llythyr i Nell. Mercher
30 -Turn diwrnod poeth yn Llywenan
4 dan 9.30. Iau 31
Turn yn malu cerrig yn chwarel mynydd i Harri Thomas. Mehefin Gwener 1
Turn eto. Sadwrn 2
Turn. Sychwynt or dwyrain bob dydd. Pau £2/17/4d. Sul 3
Joseff Jones am 2 a 6.30. Fi a William Jones Llyshyfryd yn cyfarfod ysgol yn
Pwllheli. Llun 4
Turn ar y stage. Yn Llywenan o 4 dan 7. Mawrth 5
Turn. Yn Llywenan 4 dan 7. Mercher 6
Turn cau adwy Mynydd Bodwyddog bore ar
y stage pnawn. Iau 7
Turn. Nol priciau i ddal pys o Garth Gae. Gwener 8
Turn. Yn Llywenan 4 dan 9. Sadwrn 9
Turn. Llythyr oddiwrth Nell. Bwrrw glaw neithiwr. Sul 10
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Glaw mawr neithiwr. Cael fy mhenblwydd yn 56 heddiw. Llun 11
Turn ar y stage. Mawrth 12
Turn eto. Glaw mawr dechrau 4pm. Mercher 13
Turn. Yn Llywenan yn gwastatau yn y cowt wrth ffenest y parlwr. Iau 14
Dim gwaith glaw. Gwener 15
Turn. Pau £2/12/4d. Sadwrn 16
Turn. Yn Llywenan 12 dan 7 yn rhoi syment ar y cowt. Sul 17
Berwyn Roberts am 2 a 6. Llun 18
Turn. Yn Llywenan o 4 dan 7. Anfon llythyr i Nell. Mawrth 19
Turn. Mercher 20
Turn. Mynd i Rhoshirwaun i Pwyllgor Nyrs. Iau 21
Glaw heddiw. Gwener 22
Turn. Sadwrn 23
Eisteddfod y Rhos. Sul 24
Bob Humphreys. Llun 25
Powlio yr hen ddarn peil yn Porth Ysgo. Glaw heddiw. Mawrth 26
Glaw heddiw eto dim gwaith. Mercher 27
Turn. Iau 28
Chwarter bore gywnt a glaw dod fyny ar ol bwyta. Gwener 29
Glaw trwyr dydd. Angladd gwraig Glan Gors. Sadwrn 30
Dim gwaith. Gorffennaf
Sul 1
Thomas Morris Cricieth am 2 a 6.30. Llun
Iau 2 i 5 Turn. Gwener 6
Turn. Yn Llywenan yn gosod llechi i blannu coed yn ffrynt. Sadwrn 7
Turn. Yn Llywenan 12 dan 6.30 yn rhoi concrit y y ffrynt. Sul 8
Hugh Jones Cricieth am 2 a 6.30. Llun 9
Turn. Yn Llywenan yn rhoi syment ar ben siwr. Mawrth 10
Turn. Mercher 11
Dim mynd ir gwaith rhywbeth
yn fy llygaid. Mynd ir dre pnawn. Llythyr oddiwrth Nell. Iau 12
Turn. Pau £1/13/8d. Gwener 13
Turn. Yn Llywenan o 4 dan 9. Sadwrn 14
Marw Jessie Tyn Lon Fawr. Turn. Mynd a fy ngharden insurance i Terfyn Hugh
am ei gyrru i S Jones dydd llun 26 stamp. Sul 15
Joseff Jones am 2 a 6.30. Llun
16 - Turn y Llywenan o 4 dan 9. Mawrth 17
Cael y gwair yn Tan y Ffordd. Turn yn Llywenan 4 dan 9. Mercher 18
Turn yn Llywenan yn cario gwair o 4 dan 8. Iau 19
Turn. Hugh Terfyn yn fy nanfon i dref efo motor beic. Cysgu yn y Port. Gwener 20
Cychwyn efo tren 8.40 bore i Clun. Cyrraedd Montgomery am 12 .30. Cychwyn o
Bishops Castle ( cyrraedd 2pm) efo motor bach talu 9/- cyrraedd y Birches
5pm. Sadwrn 21
Yn y Birches. Sul 22
Sul braf dim yn Cefneinion heddiw. Llun Mawrth
23 i 24. Mercher 25
Torri y weirglodd. Iau 26
Torri gydar ffosydd yn y weirglodd. Gwener 27
Mynd i Clun. Anfon slippers i Eliza. Sadwrn 28
Gorffen chwalu y weirglodd. Sul 29
Yn Y Capel Mardy Shropshire nos. Llun 30-
Glaw mawr heddiw. Mawrth 31
Glaw. Awst Mercher 1-
Glaw. Iau 2
Troi y weirglodd. Gwener
Sadwrn 3 i 5.- Sul 5
Yn capel Mardy. Llun
Gwener 6 i 10 Sadwrn 11
Gorffen cael gwair. Cychwyn am Clun am 6 pm. Sul 12
Dim capel heddiw. Sul braf . Williams y Landlord ai wraig yn Birches. Llun
Iau 13 i 16. Gwener 17
Mynd i Bishops Castle efo y plant. Diwrnod braf. Sadwrn 18
Rhoi to sinc ar y gwair. Sul 19
Sul braf. Ysgrifennu hwn yn ymyl y capel yn Mardy. Llun
Gwener 20 i 24. Sadwrn 25
Mynd i Clun 5 yn pnawn. Sul
Mawrth 26 i 28. Mercher 29
Fi a Reg yn mynd i Lupodwood (?) Iau 30
Cychwyn 8 y bore or Birches am adref. Diwrnod braf. Gwener 31
Medi
Sadwrn 1
Pysar ( bazaar ) yn Rhoshirwaun gan y coparetyf. Sul 2 -
Cyfarfod ysgol yn Pisgah. Cambrensis Williams yn holi Luc 11. Sul braf. Llun 3
Cario eithin a rhedyn or allt. Mawrth 4
Cario rhedyn or allt. Willie, Jini a Cwellyn Port yn dod yma. Mercher 5
Tynnu tatws cynnar. Glaw pnawn. Iau 6
Pysgota gwrachod yn y bore fi a Tedi, John Terfyn, Willie Clwt y Bont a Cwellyn
Port dal 8. Tynnu tatws. Anfon llythyr i Nell. Gwener 7
Gorffen tynnu tatws. Diwrnod poeth. Sadwrn 8
Glaw heddiw. Trio am wrachen gormod o for. Sul 9 -
Bachgen Cefnhirwaen am 10/ Ty Croes wedi talu 1/-. Llun 10
Yn Penarfynydd efor pwmp. Mawrth 11
Yn Llywenan yn plastro wal y cowt. Mercher 12
Yn Llywenan yn gorffen y cowt. Cael punt gan Ffani. Iau
Sadwrn 13 i 15 Sul 16
Evans am 6 .Llun
Mercher 17 i 19 - Iau 20
Angladd Jenn Pwllciw a Eliza Post Sarn. Gwener
Sadwrn 21 i 22 Sul 23
James Elder y tro cyntaf. Am 2 a 6. Llun 24
Yn rhoi pot ar gorn Bryn Difyr. Eliza wedi mynd i ffair gwyl grug (?) Mawrth 25
Pysgota efo Hugh Ty Corn. Mercher 26
Yn Tan y Ffordd yn gosod trael i gorddi yn y bwtri. Iau 27
Yn Ysgo yn cau o gylch drws y dairy. Gwener 28
Dyrnu yn Ty Croes. Yn Tan y Ffordd yn tynnu yr ochr i fewn i roi y drael. Sadwrn 29 -
Nol cychod i fyny or traeth. Sul 30
- Gwas cylchdaith ddim yn dod. Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Hydref Llun
Sadwrn 1 i 6 Trwsio pen y beudy yn Tan y Ffordd. Tywydd braf, Sul 7
Cyfarfod gweddi . Llun 8
Yn Ty Rhyd yn trwsio pen y ty ai bwintio. Mawrth 9
Yn Ty Rhyd. Bwrrw trwyr dydd. Mercher 10
- Gorffen yn Ty Rhyd heddiw wedi
cael 10/-. Iau 11 -
Tarw yn ymosod ar Evan Rice Ysgo bore heddiw. Cael 5/- yn Llywenan. Gwener
Sadwrn 12 i 13. Sul 14
Rev Von Owen gweinidog. Llun 15
Diolchgarwch Bob Humphreys am 10. Mawrth
Mercher 16 i 17 Iau 18
Yn Ysgo yn gorffen plastro drws y deri. Llun .. BA a Isaac Thomas yn dod yma. Gwener
Sadwrn 18 i 20 Sul 21
John Evans Nefyn am 10. Llun 22
Dyrnu yn Ty Croes. Mawrth 23 -
Yn trwsio pen y gegin dod yn law mawr tynnu y pobty. Mercher 24
Yn Ty Lon yn trwsior pobty ai osod. Gwynt a glaw heddiw. Iau Gwener
25 i 26 Sadwrn 27
Yn Rhoshirwaun Sosial Nyrs. Sul 28
John Lewis Pwllheli am 2 a 6. Llun
Mercher 29 i 31 Tachwedd Iau 1 Gwener 2
Yn Cadlan Isa yn gosod y pobty. Sadwrn 3
Yn Ty Lon Fawr yn pwintio pen y gegin. Sul 4
James Elder Cricieth am 2 and 6. Llun Mawrth
5 i 6 Yn Ty Lon Mercher 7
Yn rhoi syment yn y drws yn Ael bryn. Iau 8
Yn gosod y felin eithin yn Tan y Ffordd. Gwn mawr 7 y nos. Gwener 9
Anfon llythyr i Nell. Yn Carreg Lefain Bach yn trwsio pen y ty. Eliza a mam
yn troi y car yn ymyl Graig Ewig 1917. Sadwrn 10
Bwrrw glaw. Malu eithin y tro cyntaf eleni yn Tan y Ffordd. Sul 11
Yn yr ysgol bore. Glaw mawr a gwynt. Rhoi fy nghrys uchaf newydd hogan o
Pwllheli yma efo R H T. Llun 12
Diffyg ar yr haul. Glaw trwyr dydd. Ffair annifyr. Mawrth 13
Hanner yn Carreg Lefain. Lladd mochyn yn Tan Ffordd. Mercher 14
Hanner yn Carreg Lefain Bach yn codi wal. Glaw pnawn. Iau 15
Diwrnod yn codir wal yn Carreg Lefain Bach. Gwener 16
Glaw heddiw. Cyfarfod at y neuadd yn yr ysgol. Sadwrn 17
Hanner yn gorffen y wal yn Carreg Lefain Bach. Sul 18
Roger Ty Mawr am 2 a 6. Llun 19
John Evans yn mynd iw le yn Neigwl Ganol. Mawrth Iau
20 i 22 Gwener 23
Awel fawr heddiw. Sadwrn 24
Sul 25
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Neb ond fi a Hughes a O Owens am 2 , fi a Hughes a
Ellis Jones am 6. Llun 26
Yn shop newydd yn rhoi coliod i ddal dorau y garage. Mawrth 27
Diffyg ar y lleuad. Gorffen efor dorau a cau y crac rhwng y ty ar
gegin Moelwyn View. Mercher 28
Hanner yn codi cilbost . Wedi bod yn tendio llong neithiwr Owen a fi a
Daniel. Iau 29 Gwener 30
Yn shop newydd yn gorffen plastro y wal wrth llidiart bach Moelwyn View. Rhagfyr
Sadwrn 1
Yn Ty Croes Bach yn trwsio cefn y ty. Eliza a Mary Carreglefain yn mynd
ir cyfarfod sydd gan capel Tyddyn yn Sarn. Sul 2 R
Von Owen am 2 a 6. Hogyn Ellis Congol Meinciau yn pregethu oi flaen am 6. Llun 3
Yn Carreg Lefain Bach yn toi. Mawrth 4
Yn Carreg Lefain Bach. Mercher 5
Fi a Eliza yn mynd i weld Ynysoedd Waenfawr. Diwrnod braf. Iau 6 Gwener 7
Llythyr o Minafon Llangwnadl yn dweud fod cyfarfod nos wener 14 ar dynnu y
coparetyf i ben. Sadwrn 8
Hugh Owen yn gorffen symud o Bryn Difyr i Tyddyn Mawr Llanrug. Sul 9 -
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 10
Tywydd oer. Mawth 11
Oer eto heddiw gwynt or dwyrain. Mercher 12
Yn dre yn tynnu fy naint heddiw. Iau 13
Yn Ty Ruttan yn trwsio i Gwen Griffith Meillionydd Bach. Gwener 14
Yn Tan y Ffordd yn gwneud llawr ir bwtri. P_E_N_ Sadwrn 15
Sul 16
Joseff Jones am 2. Llun 17
Gwraig Brynfran yn wael. Mawrth 18
Yn Ty Ruttan. Mercher 19
Eliza yn cychwyn am Clun mynd ir Port at Ann heno. Yn y Trip yn ail osod
pobty a grat. Iau 20
Cristmas tree yn yr ysgol. Gwener 21
Tynnu y felin yn Tan y Ffordd i fynd ar echel ir efail. Sadwrn 22
Llythyr oddiwrth Eliza yn Birches Clun yn dweud fod gan Nell hogyn bach er
fore Iau 20 o Ragfyr. Cawsom card
oddiwrth Williams America a Kitins Pen yr Ogo. Sul 23
James Elder Crcieth. Llun Mawrth
24 i 25 Mercher 26
Yn Tan y Ffordd yn symud cyllill y felin. Iau 27
yn Ty Ruttan heddiw. Gwener
Sadwrn 28 i 29. Sul 30
R Humphreys Llanbedrog. Sul oer bwrrw eira. Eliza yn Birches Clun. Llun 31
Yma fy hunan heno y wireless yn shop newydd ydir cwbwl heno, canais dipyn ar
y gordial fy hunan. ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |