|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr
Sadrwn 1 -
Talu am flawd ir moch yn shop newydd £2/6/0d. Eithin or Parc dau
faich. Sul 2
Bachgen am 2. Llun 3
Mynd ar moch ir Sarn pwyso 16 16 y ddau fochyn yr un faint. Mawrth 4
Myfyr Machno yn Pisgah. Redig caeau Conion efo tranblow ( Plough ?? Mercher
5 Redig. Eithin or Parc dau faich. Iau 6
Gorffen redig . Gwener 7
Parry Bodwyddog yn prynu y llo. Un baich. Sadwrn 8
Cant o lo or post sachaid o fran 11/6d. Sul 9
John Roberts Penrhyn. Llun 10
Yn Llywenan yn gorffen y cafn ir moch. Bob yn nol dau sachaid o geirch o Ty
Canol. Mawrth 11
Isaac Thomas yn pwyso 14 a hanner pwys a Lila Mary yn 12 a hanner yn hanner
blwydd oed. Eithin or Parc dau faich. Mercher 12
Mynd i dre prynu moch bach or Rhandir am hanner punt yr un. Iau 13
Diwrnod oer bwrrw eira bore. Gwener 14
Angladd William Jones Tan y Garn marw yn Llyshyfryd. Sadwrn 15 -
Un baich. Sul 16
Bachgen yn lle Jones am 10. Llun 17 -
Un baich. Dechrau yr ail gowlas yn y ty gwair. Mawrth 18
Dau faich. Mercher 19
- Un baich. Pnawn poeth yn
eithriadol o boeth. Iau 20
Un baich. 20 o feichiau. Gwener 21
Sadwrn
22 Mynd i Drygarn i weld y gwartheg at John Evans. Cyfarfod y nos at Capel
Tyddyn yn Sarn. Sul
23 Joseff Jones am 10 . Jones y Rhiw yn capel bore. Mynd i Nebo ir
bregeth goffa i W Jones Llyshyfryd. Llun
24 - Dau faich or Parc. Mawrth
25 - Gwn mawr heddiw. Talu am india corn 13/-. Mercher
26 Gwynt mawr a glaw. Talu 7/- i Cowal am dynnu fy nanedd. Iau
Sadwrn 27 i 29 Gwynt mawr. Sul
30 Bob Humphreys am 2 a 6. Llun
31- Dau faich. Rhoi y das wair i
fewn heddiw. Chwefror Mawrth
1 Un baich. Diwrnod braf. Mercher
2 Un baich. Diwrnod braf yn boeth. Iau
3 Niwl gwlyb heddiw. Gwener
4 - Diwrnod braf. Teilo pen isa cae capel a dechrau cae big. Sadwrn
5 Cyfarfod te yn yr ysgol at gael neuadd. Sul
6 - Bachgen o Coedpoeth am 2 a 6. Llun
7 Un baich. Mawrth
8 Un baich. Ocsiwn Plas yn Rhiw. Gwerthu llo i Penarfynydd. Mercher
9 Tri baich. 10/- am fenyn. Rhew caled. Injen y ffordd yn groeslon Conion. Iau
10 Rhew caled. Robert Penarfynydd yn dod i nol y llo. Gwener
11 Rhew caled diwrnod braf. Un baich. Sadwrn
12 Gorffen teilo cae big. Sachaid o fran or post 11/6d. Sul
13 Berwyn Roberts am 2 a 6. Llun
14 Un baich. Chwalu tail cae capel. Mawrth
15 Un baich. Niwl. Mercher
16 Nell ar hogyn yn mynd ir Port yn barod at y tren 8 fory. 10/- am
fenyn. Iau
17 Chwalu Tail yn cae big. Gwener
18 Un baich. Sadwrn
19 Dau faich. Bwrrw glaw gydar nos. Llythyr oddiwrth Nell. Sul
20 Bachgen am 2 a 6. Llun
21 Anfon llythyr i Nell. Cael llythyr oddiwrth Maggie. Dau faich. Mawrth
22 Bwrrw glaw heddiw. Yn Ty Croes Bach yn gwneud llawr syment yn lle injen
oel. Mercher
23 Un baich. Menyn 16/-. Iau
24 Un baich. Yn y Syntyr pnawn yn trwsio pen y ty. Gwener
25 Un baich. Yn Rhiwlas yn gosod y bwrdd llechen. Sadwrn
26 Dau faich. Dod a naw o ddefaid adref or allt. Sul
27 - R M Williams cricieth am 10. Llun
28 Bwrrw glaw heddiw. Mawrth Mawrth
1 Y ddafad cyntaf yn dod ac oen. Glaw mawr. Mercher
2 Un baich. Yn y Nant yn dadlwytho coed. Iau
3 Dau faich Bob yn hel un yn Nant yn pnawn. Mynd i Aberdaron ir pwyllgor. Gwener
4 Un baich i Bob. Turn yn y Nant. Sadwrn
Llun 5 i 7 Mawrth
8 Mynd i nol Richard o Ddinbych Mercher
9 Efo Daniel pnawn fi a R H T yn mesur rhaffa gwn mawr. Iau
10 Un baich. Gwener
11 Un baich. Sadwrn
12 Un baich. Sul
Llun 13 i 14. Mawrth
15 Hel eithin yn y bore. Mercher
16 Un baich. Bran or post. Iau
17 Yn Penarfynydd yn torri tyllau i godi coed wrth polyn gwn mawr. Gwener
18 - Un baich. Yn gorffen torri tyllau. Sadwrn
19 Un baich. Sul
20 Evans am 6. Llun
21 Un baich. Richard yn plannu yr ardd bach. Mawrth
22 Un baich. Talu am cant o lo 3/- Mercher
23 Fi a Richard yn gosod y ddau bost yn Penarfynydd ir gwn mawr. Iau
24 Rhoi syment efor post au coal tario gorffen heddiw. Gwener
25 Yn Tyn Lon Fawr yn trwsio llawr. 4 cant o lo o Talafon wedi talu 13/-. Sadwrn
26 Y wensa arnaf yn fy ngwely dan hanner dydd. Tywydd gwlyb. Sul
27 Morris Cricieth. Llun
28 Iau 31 Ebrill Gwener
Sadwrn 1 i 2.- Sul
3 Berwyn Roberts. Llun
Mercher 4 i 6. Un faich. Iau
7 Hel eithin yn Ty Lon. Gwener
8 Nol y ferlan o Nefyn. Sadwrn
9 Gwynt oer dal y ferlan. Llythyr oddiwrth Nell. Sul
10 - Llun
11 Y gwn mawr heddiw. Mawrth
Mercher 12 i 13 Iau
14 Angladd Thomas Tyn Llan. Gwener
Sadwrn Sul 15 i 17 Llun
18 Mynd a gwartheg ir allt. Mawrth
19 Gorffen plannu tatws yn Ael y Bryn. Mercher
20 Redig darn uchaf cae dan ty iw hadu. Y school newydd yn dod yma. Iau
21 Redig eto. Gwener
Sadwrn 22 i 23 Sul
24 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun
gwener 25 i 29 Sadwrn
30 Ocsiwn Tyn Llan Llanfaerhys. Mai Sul
1 T Morris Cricieth am 2 a 6. Llun
2 Nol gwair o Tyn Llan Llanfaelrhys. Bwrrw glaw. Mawrth
3 Bwrrw glaw heddiw. Mercher
Sul 4 i 8 Llun
9 Turn ar y stage. Mawrth
10 Turn. Mercher
11 Turn. Iau
12 Turn. Angladd Thomas Talafon. Gwener
13 Turn. Sadwrn
14 Turn. Sul
15 Jones Rhiw am 10. Llun
16 i Iau 26 Turn. Pau Iau 20 £1/8/8d. Gwener
27 Turn. Richard yn mynd ar moch ir Sarn, moch or Rhandir. Sadwrn
Sul 28 i 29 Llun
Mawrth 30 i 31 Turn yn Benallt. Mehefin. Mercher
1 Moch bach or dre. Iau
2- Gwener
3 Pau £2/15/0d. Sadwrn
4 Turn. Sul
5 Hugh Hughes am 2 a 6. Llun
Mawrth 6 i 7. _ Turn yn Benallt. Mercher
8 Moch i Gonion. Iau
Gwener Sadwrn 9 i 11. Sul
12 T Morris Cricieth am 2 a 6. Llun
13 Marw Elin y Waen yn Liverpool. Yn Benallt. Mawrth
14 Yn Benallt. Tywydd sych craswynt. Mercher
15 Turn. Iau
16 Turn. Glaw mawr. Gwener
17 Turn. Pau £2/17/6d. Sadwrn
18 Turn. Glaw mawr pnawn. Cneifio Conion. Sul
19 Berwyn Roberts am 2 a 6.Llun Sadwrn 20 i 25 Turn. Tywydd oer
bwrrw glaw. Sul
26 R Jones Rhiw am 2 a 6. Llun
Mawrth 27 i 28 Turn. Mercher
29 Turn. Diffyg ar yr haul. Iau
30 Turn. Gorffennaf. Gwener
1 Turn Pau £2/16/0d. Sadwrn
2 Turn. Sul
3 Llun
Mercher 4 i 6 Turn. Iau
7 Turn. Marw Mary Anne Baronhill. Gwener
Sadwrn 8 i 9. Sul
10 Isaac yn mynd i ffwrdd am y tro diweddaf 6 mlynedd i heddiw. Llun
11 Angladd Mary Anne Baronhill. Llwythor SS Dayse ( daisey ?) 340 tons. Mawrth
12 Turn. Cario gwair cae heuwal Mercher
Iau 13 i 14 Turn. Gwener
15 Turn. Pau £2/18/8d. Cant o lo ir Benallt. Anfon fy ngharden i Sam
Jones 24 stamps. Sadwrn
16 Turn. Cario cae big a pen cae capel. Sul
17 Hugh Jones Cricieth am 2 a 6. Llun
18 Turn. Cael gwair Tan y Ffordd. Mawrth
19 Cychwyn i lwytho llong fy nghefn yn ddrwg mynd at y Dr i Botwnnog. Mercher
Sadwrn 20 i 23 Tywydd drwg efo gwair. Dim gwaith fy nghefn yn ddrwg. Sul
24 Fy nghefn yn brifo tipyn dyddiau yma. Llun
Mawrth 25 i 26 Turn. Mercher
27 Turn. Cael £1/4/6d am osod y ddau bosts gwn mawr. Iau
28 Turn. Pau £1/16/4d. Gwener
Sadwrn 29 i 30 Turn. Sul
31 Bob Humphreys am 2 a 6. Awst. Llun
Gwener 1 i 5. Turn. Sadwrn
6 Turn. Glaw dwr yn dod trwy ddrws cefn Tan y Ffordd. Sul
7 Hughes Bach fu yma yn was cylchdaith am 2 a 6. Llun
Mercher 8 i 10 Turn. Iau
11 Pau £2/17/8d Gwener
12 Turn. Sadwrn
13 Turn. Ffair Awst. Sul
14 Thomas Morris am 2 a 6. Llun
Sadwrn 15 i 20 Turn. Sul
21 Jones fu yma am 2 a 6. Llun
22 - Turn. R Jones Talsarn yn Tan y
Foel heno. Mawrth
23 Ras cwn yn Penarfynydd. Mercher
Iau 24 i 25 Turn. Gwener
26 Turn. Pau £2/17/8d. Sadwrn
27 Turn. Marw gwraig Shop Pencaerau. Drama Trem yn ol yn yr ysgol.
Bwrrw glaw. Sul
28 - Aneurin Lloyd Hughes am y tro
olaf symud o Nefyn i Fflint. Llun
29 Turn. Mawrth
30 Turn. Cant o gorn man o post 12/6d wedi talu. Mercher
31 Turn. Medi. Iau
Sadwrn 1 i 3 Turn. Sul
4 Llun
Mawrth 5 i 6 Turn. Mercher
7 Mynd a Lilia bach adref ir Birches Clun. Aros yno am bythefnos. Sul
18 Yn Cefneinion Clun am 2. Mercher
21 Dod adref o Clun. Iau
22 Gwener
23 Pau 8/4d. Sadwrn
24 Sul
25 Rev Hugh Hughes, am 2 gweddi ddirgel am 6 Gwynfydau. Llun
Iau 26 i 29 Gwener
30 Turn yn cael coed i lawr. Hydref. Sadwrn
1 Turn yn y Benallt. Bwrrw glaw mawr heddiw. Sul
2 Cyfarfod ysgol yn Pisgah. Llun
3 Turn ar y stage. Braf heddiw. Mawrth
4 Turn ar y stage . Mercher
5 Turn ar y stage. Llythyr oddiwrth Nell. Iau
6 Turn. Bob yn dechrau dyrnu yn Ty Mawr pnawn. Gwener
7 Turn. Yn Tyn Parc. Sadwrn
8 Turn. Pau £1/8/8d. Yn Penrallt. Wythnos braf. Sul
9 Thomas Morris Cricieth. Llun
Gwener 10 i 14 Turn. Tywydd braf. Sadwrn
15 Turn curo 6 o beils yn y stage yr wythnos yma. Heb fwrrw ers pythefnos. Sul
16 Joseff Jones am 2 a 6. Llun
17 Diolchgarwch Owen Jones , G Thomas, O Owen, E Williams a W Jones
lLyshyfryd. Mawrth
18 Turn cael balks (trwastiau) lawr. Gwn mawr 5 pm. Mercher
Iau 19 i 20 Turn ar y stage. Gwener
21 Turn. Pau £3/6/1d. Sadwrn
22 Turn. Glaw mawr. Sul
23 Rev Berwyn Roberts. Llun
24 Turn yn curo peil. Talu 2/4d am y Gweliedydd. Mawrth
25 Turn yn Benallt. Glaw. Mercher
26 Turn. Glaw mawr. Iau
27 Turn Gwener
28 Turn. Storm fawr gwynt mawr or mor taflu pot oddiar y corn
yn Ael y Bryn a Bryn Difyr a corn yr ysgol a torri yn Carreg Lefain. Sadwrn
29 Turn yn hel coed y stage a codi crud. Sul
30 Thomas Morris Cricieth am 10. Marw Ann y Pant bore. Llun
31 Turn yn cario coed y stage o Borth Alm i Borth Ysgo. Tachwedd. Mawrth
1 Turn yn Benallt. Bwrrw glaw Tedi yn gwlychu wrth ddadlwytho balks o foto
Nant y Carw. Anfon llythyr i Nell. Mercher
Iau Gwener 2 i 4. Turn yn Benallt. Pau £2/15/0d. Sadwrn
5- Turn codi crud a hel y coed o
Porth Ysgo. Anfon dau bapur i Nell. Sul
6 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun
7 Turn. Mawrth
8 Turn yn dechrau torri yn y lefel fyc. Pwyllgor hall heno. Mercher
9 - Turn. Iau
10 Turn yn Benallt bore. Mynd i Graig Ddu pnawn i dynnu morthwyl mawr i fyny. Gwener
11 Turn yn Graig Ddu. Tedi wedi mynd ir ffair. Sadwrn
12 Turn yn gorffen cael y morthwyl i fyny. Cath bach o Ty Fair. Sul
13 Ellis O Lloyd Porthmadog am 2 a 6. Llun
14 Turn yn Nant yn cario coed. Mawrth
15 Turn yn mynd i lwytho morthwyl mawr i Talafon Nant y Carw yn mynd a fo i
Pwllheli i fynd i Caernarfon i gael sling. Mercher
16 Turn yn llifio darnau o falks oedd wedi dod ir lan o Stage Porth Alm. Iau
17 Turn yn ei hollti ai cario ir allt. Gwener
18 Turn yn cario ir allt. Sadwrn
19 Turn yn cario ir iard. Glaw mawr pnawn. Pau £ £2/17/0d. Sul
20 Thomas Morris Cricieth. Llun
21 Turn yn cael coed ir iard bore mynd i Benallt pnawn .Mawrth
Iau 22 i 24 Turn. Gwener
25 Turn. Anfon llythyr i Nell i Birches, Clun, Shropshire. Sadwrn
26 Turn. Mynd i Rhoshirwaen i glywed y Cor Meibion Cymreig yn canu. Sul
27 Bob Humphreys Llanbedrog am 2 a 6. Llun
28 Turn yn Benallt. Mawrth
29 Turn yn Benallt. Mercher
30 Turn yn tyllu ar ben Mynydd Bodwyddog i gael clirio i Harri Thomas. Rhagfyr. Iau
1 Turn yn saethu cerrig yn chwarel i H Thomas fi a Hugh Jones Terfyn. Eliza
yn mynd i Ty Fair. Gwener
2 Turn yn Nant yn cael y balks at yr office i ben yr allt. Sadwrn
3 Turn yn cael peils i ben y stage R
W a fi rigio i ddechrau curo dydd llun. Talu arian y nyrs i Miss Jones Cadwgan
£2/7/4d. Talu am y glo yn Seaview. Sul
4 George E Williams o Glynnog am 2, cyfarfod gweddi am 6 Tom Hughes, Evan
Hughes a fi. Llun
5 - Turn mynd i fyny or Nant
ir Benallt,chwythu gormod i guro peils. John yn nol cant o lo ir Efail. Mawrth
Sadwrn 6 i 10 Turn. Sul
11 Berwyn Roberts am 2 a 6. Llun
12 Turn. Diwrnod oer. Eliza yn mynd i ty Fair. Mawrth
13 Turn yn curo peil yn y stage. Mercher
14 Turn mynd ir Nant bore. Bwrrw eira dod i fyny ir Benallt. Iau
15 Turn yn curo peil. Gwener
16 Turn yn cael coed ir iard o ymyl cwt yr injen. Ar gyfer chwe blynedd i
heddiw y daeth llythyr olaf Isaac druan ac yn colli nos wener 16 1921 yr un
noson yn 22 oed. Sadwrn
17 Turn yn Benallt. Pau £2/17/2d . Rhew caled heddiw trwy y dydd, tri
diwrnod oer. Tedi yn dod adref yn sal or Nant pnawn. Sul
18 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. W Jones Ty Croes, Elis Jones, W Jones
Llyshyfryd, Tom Hughes, Evan Hughes a finnau. Sul oer. Llun
19 Turn yn cael coed or iard. Gwynt oer or dwyrain. Mawrth
20 Turn yn Benallt. Gwynt oer a rhew caled y cletaf ers 33 mlynedd. Mercher
21 Turn . Eliza a Bob wedi mynd ir dref ir Farchnad Felys. Troi tywydd
dadmer trwyr dydd. Iau
22 Turn. Gwener
23 Turn. Tywydd oer. Anfon parsel Nadolig i Birches, Clun. Sadwrn
24 Turn. Mynd i ty Engan at Griffith Owen a mynd oddi yno i Ty Fair i nol
Eliza. Sul
25 Cyfarfod gweddi am 2 a 6 E Hughes, E Williams, W Jones, G Thomas, O
Owens, a W Jones Llyshyfryd. Llun
26 Nadolig dim gwaith. Mawrth
27 Turn yn curo peil. Diwrnod weddol braf. Mercher
28 Turn yn curo peil. Iau
29 Turn yn Benallt fi a Hugh Jones Terfyn. Gwener
30 Turn. Rhew caled bob dydd. Sadwrn
31 Turn Tedi a John Terfyn a Thomas yn Benallt heddiw, Thomas a Ty Croes yn
ffraeo. Bwrrw glaw. ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |