|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr
Gwener 1-
Marw Griffith Tyn Cae. Sadwrn 2 -
£1/3/0d. Sul 3 W
Jones Pwllheli am 5 . Glaw mawr bore dim mynd ir ysgol. Llun 4
Fi Ty Croes a Llyshyfryd yn mynd ir cyfarfod chwarter yn Pwllheli. Mawrth 5
Williams Rhoshirwaen yn Pisgah. Angladd Griffith Tyn Cae. Mercher 6- Iau 7 Gwener 8
Sadwrn 9 -
Unemployed £1/3/0d. Sul 10
A Lloyd Hughes am 10. Llun 11
Unemployed yn dod heddiw wedi mynd i Aberdaron dydd sadwrn yn lle Rhiw. Anfon y
garden insurance i Tedi. Niwl coch bore heddiw. Mawrth 12
Hanner yn Pwllmelyn. Mercher 13
Iau 14
Arian diwaith £1/3/0d Gwener 15
Bwrrw eira. Cael llythyr oddiwrth Nell a Tedi. Sadwrn 16
Mynd ir Sarn ir Post cael arian ( war loan ) oedd gan Isaac fy machgen
a gollodd yn y North Sea Dec 16 1921. Sul 17
Bwrrw eira heddiw wedi cau dim mynd ir capel. Llun 18
Dadmar heddiw. Mawrth 19
Sychu yn dda heddiw. Sam Jones yn nol fy ngharden insurance. Mercher 20
Turn dechrau yn New Shop cau ffenast talcen y gegin. Tedi yma y llong yn y
garej ( dry dock ) Iau 21
Turn New Shop yn cau y ffenestr nesa ir ysgol. Gwener 22
Turn yn cau y ffenestr nesa ir siop. Sadwrn 23
Turn yn gorffen cau y ffenestr. Derbyn £1/0/0d gan Hughes. Unemployed £1/3/0d. Sul 24
Berwyn Roberts am 2 a 6. Llun 25
Turn yn dechrau r simdda a cau drws y talcen. Mawrth 26
Mercher 27
Iau 28 -
Tri diwrnod diwaethaf yn gwneud simdde yn y talcen nesa ir ffordd. Gwener 29
Turn. Ocsiwn ar bethaur diweddar Humphrey Jones Tyddyn. Sadwrn 30
Turn. Pau £ 1/10/0d. Sul 31 -
I Morris Cricieth am 10. Chwefror
Llun 1 Mawrth 2
Mercher 3
Iau 4 Gwener 5 -
Yr wythnos yma yn gweithio ar wneud drws a ffenestr. Sadwrn 6
Glaw heddiw. Pau £1/5/0d. Sul 7
Jones Rhiw am y tro cyntaf. Llun 8
Turn yn gwneud ffenestr yn y llofft. Mawrth 9
Turn yn gorffen cau ffenestr talcen nesa ir gegin a gwneud ffenast yn y
talcen nesa ir ffordd. Mercher 10
Turn Iau 11
Turn. Gwener 12
Turn. Sadwrn 13
Turn yn cau drws ar ffenast. Pau £1/10/0d Gosod pobty yn Meillionydd. Sul 14
Joseff Jones am 6. Glaw trwyr dydd. Llun 15 i
Gwener 19 Turn. Sadwrn 20
Turn Pau £1/10/0d. Sul 21
A Ll Hughes am 2 a 6. Cyfarfod ysgol yn Pwllheli fi a W Jones Llyshyfryd yn mynd
yno yn y bore efo motor Eifion. Llun 22
Turn yn dechrau toi fi a John mab John Brongadair yn gorffen y corn. Mawrth 23
Anfon llythyr i Nell. Turn cau ffenast y talcen a toi wedyn fi a William
plastrwr Llyshyfryd. Mercher 24
Gorffen toi heddiw. Tywydd niwl. Iau 25
Dechrau plastro. Niwl. Gwener 26
Plastro. Sadwrn 27
Plastro. Drama Marir forwyn yn Rhoshirwaen. Sul 28 -
T Morris Cricieth am 10. Mawrth
Llun 1
Turn yn rhoi cribteils ar pen y ty. Mawrth 2
Turn yn rendro gegin. Mercher 3
Turn. R H T yn cael teligram o Bristol oddiwrth Tedi eisiau iddo fynd ato. Iau 4
Turn. R H T yn cychwyn efo tren 8 am at Tedi. Teligram yn dod ei fod wedi
cyrraedd Bristol. Gwener 5
Turn yn dechrau symentio talcen y gegin. Sadwrn 6
Turn a hanner pnawn yn gorffen y talcen. Pau £1/12/0d Sul 7
Bachgen Pentra Dwr o Glynnog am 10. Llun 8
Turn yn gorffen talcen y gegin. Mawrth 9
Turn yn symentio darn uchaf y gwyneb. Mercher 10
Turn gorffen rhoi got gyntaf ir gwyneb. Iau 11
Turn rhoi ffilar ar aden y ty. Gwener 12
Turn yn symentio y ffenast. R H T yn dod adra oddiar y mor. Sadwrn 13
Turn. Pau £1/110d. Sul 14
Berwyn Roberts am 2 a 6. Fi a William Jones yn mynd i Horeb a Salem Aberdaron. Llun 15
Turn. Mawrth 16
Turn yn chwipio y ffenast. Mercher 17
Turn yn chwipio. Iau 18
Turn yn chwipio talcen y ffordd. Gwener 19
Turn yn gosod grat yn y llofft a symentio. Sadwrn 20
Turn yn symentio talcen y gegin. Pau £1/11/0d. Eliza a Bob yn mynd i Clun,
mynd i Port i gysgu nos wener. Tywydd sych wythnos yma. Sul 21
Jones Rhiw am 10. Yn Aberdaron am 6 yn gwrando ar Hugh Hughes. Llin 22
Turn. Mawrth 23
Tedi yn dod adref o Bristol. Turn plastro parlwr. Mercher 24
Derbyn llythyr o Clun. Turn gosod grat yn y parlwr. Anfon llythyr i Eliza i
Clun ( Shropshire ) Iau 25
Turn gosod grat yn llawr, gorffen y ty heno. Gwener 26
Turn rhoi yr ail got i dalcen y gegin. Tywydd sych wythnos yma. Sadwrn 27
Turn eto. Sul 28
R M Williams Cricieth am 2. Llun 29
Turn yn symentio llofft y gegin. Tedi yn rhychu yr ardd. Mawrth 30
Turn symentio eto a dechrau lawr. Tedi yn plannu y tatws. Mercher 31
Turn yn gorffen symentio dechrau ail roi y teils yn y llawr. Llythyr o Clun
gan Eliza. Bwrrw heddiw. Ebrill. Iau 1
Turn yn ail roi teils ar lawr y gegin a gosod y pobty. Anfon llythyr i John
Williams ir America. Gwener 2
Turn yn chwipio talcen y gegin. Sadwrn 3 -
Turn yn gorffen rhoi syment wrth corn nes ir ffordd. Pau £1/10/0d. Sul 4
Bob Humphreys Llanbedrog am 2 a 6. Sul braf. Llun 5 Mawrth 6
Turn yn clirio lle ir WC. Anfon llythyr i Eliza i Clun. Mercher 7
Yn Pwllmelyn yn gorffen y siamber. Iau 8
Adref yn plastror llofft ganol a rhoi coed wrth bentan yn Bryn a phapuro. Gwener 9
Turn yn dechrau wal ffrynt Moelwyn View. Sadwrn 10
Turn yn walio. Pau 15/-. Sul 11 -
T Morris Cricieth am 2 a 6. Llun 12
Turn yn walio. Mawrth 13
Turn. Llythyr gan Eliza o Clun. Mercher 14
Hanner. Glaw. Anfon llythyr i Eliza. Iau 15
Turn. Gwener 16
Turn. Sadwrn 17
Turn. Pau £1/7/6d. Sul 18 -
R H Jones Rhiw am 2 a 6. Llun 10
Turn yn walio. Mawrth 20
Turn y walio. Mercher 21
a Iau 22 Turn. Gwener 23
Turn dechrau Ty Bach. Sadwrn 24
Turn. Pau £1/5/0d. Sul 25
A Lloyd Hughes Nefyn am 2 a 6. Llun 26
Turn. Mawrth 27
Turn. Mercher 28
Yn yr ocsiwn yn dre ar dir John Williams Llawrdre. Eliza yn dod o Clun. Iau 29
Wyau dan yr ieir. Turn. Gwener 30
Turn. Tywydd oer. Mai Sadwrn
1- Turn. Pau £1/5/0d. Gwaith yn stopio eto bwrrw glaw mawr. Sul 2
Jones Rhiw am 10. Llun 3
Turn. Streic y glo. Tywydd oer. Mawrth 4
Streic y railway. Tywydd oer. Mercher 5
Turn. Iau 6
Fi a Eliza yn mynd i Cricieth ir cyfarfod taleithiol. Gwener 7
Turn. Tywydd oer eira hyd mynyddoedd Eifionydd. Sadwrn 8
Sul 9 -
Hugh Hughes yn Pisgah. Llun 10 i
Gwener 14 Turn. Sadwrn 15
Turn. Pau £1/7/6d. Fi a Eliza yn Tan y Ffordd drwy nos efo Dick. Sul 16
Sul blin helynt mawr efo Dick. Llun 17
Mynd a Dick i ffwrdd. Mawrth 18
Hanner yn shop newydd. Mercher 19
Iau 20
Mynd ar fuwch gigio ir ocsiwn ir Sarn, gwerthu am £18/11/0d Gwener 21
Turn yn gwneud y cil wrth y ffordd yn shop newydd. Sadwrn 22
Hanner pau 10/-. Hel cerrig cae dan ty pnawn. Sul 23 -
Sul braf. Yn Tan y Ffordd. Llun 24
Diwrnod hel cerrig cae dan ty. Llythyr oddiwrth Rev J Ll Hughes. Mawrth 25
Diwrnod hel cerrig a cario rhai oedd wedi ei crybinio yn dociau. Mercher 26
Hel cerrig a heu moron. Bwrrw glaw. Iau 27
Glaw. Gorffen hel cerrig. Y Gymanfa. Gwener 28
Llythyr oddiwrth Nell. Gwneud pwll yn cae Tyddyn Morthwyl i gael dwr ir
allt . Sadwrn 29
Gorffen priddo yr ardd. Symud y gwartheg ir allt. Sul 30
Yn Tan y Ffordd. Niwl a gwynt heddiw bwrrw neithiwr. Llun 31
Mynd a moch ir Sarn. Mehefin. Mawrth
1- Diwrnod yn Bwlchgarreg yn rhoi syment yn llawr y cwt mochyn. Mercher 2
Diwrnod yn Bwlch Garreg. Cael Postcard gan Dick. Iau 3
Llythyr oddiwrth Dick eisiau baco. Anfon baco a dwy bibell a 2/-. Hel y defaid. Gwener 4
Glanhau cwt moch. Cario dwr ir allt. Sadwrn 5
Golchir drol torri eithin cario dwr ir allt. Sul 6 -
Yn Tan y Ffordd. Llun 7 -
Chwynu tatws bore. Hanner yn shop newydd. Bwrrw glaw heno Griffith Neigwl
yma heno. Mawrth 8
Turn yn shop newydd. Mercher 9
Turn yn shop newydd. Bwrrw glaw mawr. Iau 10 -
Brigo yn y Parc yn bore ofni fod y ddynewad froc yn piso ei gwaed. Gwener 11
Anfon pibell a baco i Dick. Sadwrn 12 -
Torri eithin a chwynu tatws pnawn. Sul 13
Yn Tan y Ffordd. Llun 14
Chwynu y tatws. Llythyr oddiwrth Dick. Mawrth 15
Chwynu bore. Gwn mawr pnawn. Mercher 16
Chwynu bore shop newydd pnawn. Bob yn hel chwyn. Llythyr i Nell. Iau 17
Turn yn shop newydd gosod pobty.. Bwrrw glaw pnawn. Bob yn cael llythyr oddiwrth
Dick. Gwener 18
Clirio rhesi tatws priddo wedyn a redig y dalar. Sadwrn 19
Torri eithin. Cneifior hyspin. Sul 20 -
Yn Tan y Ffordd. Sul niwlog. Fi a Eliza yn mynd i edrych am Mary Tyn
Gamfa. Llun 21
Yn Brynfran yn ail osod y pobty. Llythyr oddiwrth Nell. Mawrth 22
Trwsio tyllau yn y to yn ffrynt y beudy. Mercher 23
Pylmantu cwt moch golchi defaid yn pnawn. Anfon brat i Nell a baco i Dick. Iau 24
Gosod pobty yn Bodwyddog. Gwener 25
Cneifio yn Tan y Ffordd. Evan Hughes yn cael llythyr oddiwrth Dick. Sadwrn 26
Sul 27
Morris Cricieth am 2 a 6. Llun 28
Mynd i dref i dalu am y llwch esgyrn. Cario gwair
yn Ty Croes Bach.Tywydd poeth. Mawrth 29
Chwynu rwdins. Mercher 30
Tynnuo rwdins. Gorffenaf. Iau 1
Hanner yn Bwlch Garreg yn gorffen y cafn moch, gorffen palmanty y cwt yn Tan Y
Ffordd. Eliza yn mynd i Ty Fair. Gwener 2
Tynnuo rwdins a phaentio dwy olwyn y drol. Sadwrn 3
Sul 4 Llun 5
Rhychur dalar. Mawrth 6
Heu llwch yn y dalar, claddu llwch. Glaw. Mercher 7
Mynd ir dref i brynu moch bach o Penrhyn Mawr Cilan. Iau 8 -
Rhoid y rhaw drwy rhychau Richard. Gorffen claddu llwch yn y dalar. Gwener 9
Transplantio yn y dalar. Wythnos wlyb. Sadwrn 10
Gorffen y dalar. Glaw pnawn. Sul 11
Yn fy ngwely yn sal heddiw. Llun 12
Codi heddiw dim mynd allan. Mawrth 13
Dim llawer gwell. Rhoi leins yn cloc Tan y Ffordd. Llythyr oddiwrth Nell.
Tywydd poeth. Mercher 14
- Torri darn isa cae dan ty. Tywydd
poeth Iau 15 -
Chwalu cae dan ty. Torri cae nesa i Gonion. Gwener 16
Gorffen cael gwair Conion, cario 4 llwyth cae dan ty. Sadwrn 17
Torri cae heuwal a hanner cae big, 3 llwyth o cae nes i Conion. Heffar froc
yn dod a llo. Sul 18 -
Jones am 10 . Terfysg bore heddiw, terfysg mawr. Gwr Jane Meillionydd yn
Tan y Foel. Llun 19
i Mercher 21 Tywydd gwan. Iau 22
Agor ir dwr yn talcen y ty ac ar hyd y cefn. Gwener 23
Niwl heddiw eto. Bob yn mynd at Nell. Sadwrn 24
Gwneud mat tros y gwair. Niwl a glaw heddiw. Sul 25
Joseff Jones am 2 a 6. Llun 26
Cario cae heuwal a hanner isa cae big. Mawrth 27
Torri eithin. Mercher 28
Torri gyda ffos cae big a chwalu darn ucha cae capel. Iau 29
Llythyr oddiwrth Nell. Pysgota efo Griff John. Niwl a glaw. Gwener 30
Niwl eto chwalu cae big codi yn braf pnawn. Anfon llythyr i Nell. Sadwrn 31
Cario cae big a darn uchaf cae capel. Diwrnod poeth. Awst Sul 1
Jones Rhiw am 2 a 6. Llun 2
Rhoi fy ngarden i Sam Jones 24 o stampiau. Mawrth 3 Mercher 4
Mynd ir dref o flaen guardians. Gorffen cael y gwair. Iau 5 Gwener 6
Sadwrn 7
Tynnu das wair a hel gwair hyd y ffordd. Sul 8 i
Mawrth 10 Mercher 11
Yn Trip pnawn. Iau 12
Torri Baronhill. Gwener 13
Gorffen torri Baronhill. Sadwrn 14
Nol gwair Baronhill. Sul 15
Ellis Lloyd. Bwrrw glaw niwl drwyr dydd. Llun 16
Mawrth 17
Tarw ir heffar goch. Mercher 18
- Yn Trip pnawn. Iau 19
Nol deth i fuwch ganol yn Penygroeslon 5/-. Gwener 20
Niwl a glaw drwyr dydd. Llythyr oddiwrth dyn o Ddinbych. Sadwrn 21
Sul 22 Berwyn am 6.30. Llun 23
Mawrth 24
. Mercher 25
- Yn tynu wier yn cae ras cwn
Penarfynydd. Iau 26
Menyn 10/- Gwener 27
Nol llwyth o redyn i Gonion. Sadwrn 28
Gwneud pen y das yn Conion. Miri at yr Hall yn cae Tyn Mynydd. Sul 29
Hugh Jones Cricieth am 2 a 6.30. Mynd ar heffar froc at y tarw. Fi a Evan
Williams yn mynd ir Tyddyn. Llun 30
Cario 3 baich o eithin o mynydd Bodwyddog. Nol to o Dreheli i Conion. Bwrrw heno. Mawrth 31
-. Medi
Mercher 1
Pysgota. Iau 2-
Pysgota Menyn10/-. Gwener 3
Pysgota. Cant o gorn ir ieir. Sadwrn 4
Anfon yr Herald i Dick. Sul 5
Morris Cricieth. Llun 6
Torri rhedyn bore, dechrau tynnu ardd. Mawrth 7
Mercher 8
Ir dre. Iau 9-
Menyn 8/-. Gwener
10 Yn Ty Croes Bach yn cynill Sadwrn 11
Sul 12
Hugh Hughes am 2 a 6. Llun 13
i Gwener 17 Wythnos wlyb. Sadwrn 18 -
Yn Trip. Menyn 6/ Llythyr yn dweud fod Nell ar plant yn dod yma dydd
mercher. Sul 19
Bob Humphreys am 2 a 6. Llun 20 Mawrth 21
Mercher 22
Nell yn dod yma. 4 pwys 1/9d. Iau 23 Gwener 24
Anfon 2/- ffein i Sarn i Jones. Sadwrn 25 -
Robert Syntyr yn benthyg yr oen. Sul 26 Llun 27
Trwsio pen y beudy Tan Y Ffordd. Mawrth 28
Hel rhedyn yn yr allt. Mercher 29
Hel rhedyn. 3 pwys 1/9d. Iau 30
Gorffen torri rhedyn, mynd ar heffar froc at y tarw. Hydref. Gwener 1 -
Llythyr oddiwrth Rev John Lloyd Hughes o Ddinbych. Sadwrn 2
John E Williams yn y Rhos. Sul 3. Llun 4
Rhoi peth coch ar frest y myharen. Mawrth 5
Tynnu tatws. Mercher 6
Tair dafad wedi cymeryd y myharen ar ddydd llun. John Nant yn brifo efor
motor beic. Iau a
Gwener 7 a 8 Tynnu tatws. Sadwrn 9
Gwynt or gorllewin. 6 dafad wedi cymeryd myharen. Sul - 10 Llun a
Mawrth 11 a 12 Tynnu tatws. Mercher 13
- Yn Meillionydd yn ail osod y
pobty. Iau 14
Gwneud concrit o flaen y Rocet house. Gwener 15 -
Rhoi concrit o flaen y Rocet house. Sadwrn 16 -
Yn Ty Canol Pencaerau yn trwsio pen y beudy o 10 dan 5. 10 o ddefaid. Sul 17
Morris Cricieth. Llun 18
Diolchgarwch. Mawrth 19
Yn Ty Canol pnawn. Bob a W Jones yn mynd i Ddinbych. Mercher 20
- Gorffen yn Ty Canol. Gwn Mawr.
6/- Iau 21
Cario rhedyn or allt. Gwener 22
Yn Ty Canol pnawn. Sadwrn 23
Sul 24 -
Bwrrw glaw trwm heddiw. Llun
Iau - 25 i 28 Gwener 29
Yn Glwyd yn gosod pobty. Sadwrn 30
Gorffen yn Glwyd. Sul 31
Jones am 10 a 6. Tachwedd Llun ,
Mawrth 1 i 2 Mercher 3
Ty Canol pnawn. Menyn 6/-. Iau, Gwener
4 i 5 Sadwrn 6
Griffith Neigwl yma heno. Sul
Mercher 7 i 11 Defaid di cael
myharen 7. Iau 12
Mynd i dref i dalu am y Parc ar Allt. Gwener
Sadwrn 12 i 13 Sul 14
E Hughes o Llangollen am 10. Llun 15
Gwynt a glaw heddiw. Mawrth 16
Yn Ty Canol pnawn yn gorffen
rhoi syment ar y cyrn. Bwrrw glaw nos. Mercher 17
Glaw drwyr nos. Cau y bwlch yn cae nesa i Conion. Iau 18 -
Rhoi goreu i roi blawd ir fuwch trwy fod llo ynddi. Gwener 19
Sadwrn 20
Dyrnu yn Cadwgan. Sul 21 -
Joseff Jones am 10. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 22
Dyrnu yn Tyn Fron. Bwrrw glaw gydar nos. Mawrth 23
Tynnu rwdins. Mercher 24
Efo Daniel yn golchi wagen y gwn mawr. Iau
Sadwrn 25 i 27. Sul 28
T Morris Cricieth. Llun 29
Mawrth 30
Cario eithin ar yr allt 9 baich. Rhagfyr
Mercher 1
Yn Rhiwlas pnawn. Iau 2
Yn hel coed hyd y stage. Gwener
Sadwrn 3 i 4. Sul 5
Berwyn am 10. Llun 6
Torri rhedyn yn y Parc o dan yr Allt. Diwrnod braf. Mawrth 7
Talu 13/- i Robert Hughes Penygroeslon. Mercher 8
Iau 9 -
Torri rhedyn yn Parc isa, fi Tom a Bob. Gwener 10
Torri rhedyn pnawn fi a Tom
Tangraig. Sadwrn 11
Nol glo a cant o corn man a sachad o fran or coparetyf. Sul 12
A Lloyd Hughes am 2 a 6. Llun 13
Mawrth 14
Yn Llywenan am spel pnawn rhoi fyny rhy oer. Mercher 15
Yn Llywenan pnawn. Iau 16
Hel baich o eithin. Gwener
Sadwrn 17 i 18 . Sul 19
Berwyn Roberts am 2 a 6. Llun 20
Mynd a defaid or allt. Mawrth 21 Mercher 22
Mynd i Gyfynus. Iau 23
Hel eithin yn Parc Meillionydd. 3 buwch adref cael cant o indian corn o new
shop. Gwener 24 -
Card oddiwrth Williams o Cincinatti. Fuwch Neigwl Ganol yn dod a llo bore
ma, heb fwrrw ei brych heno. Sadwrn 25 -
2 faich i eithin or Parc. Tynnu brych or fuwch ffariar Sarn. Sul 26 Llun 27
Y fuwch ddu heb ddod a llo. Mawrth 28
Mynd i ofyn am fenthyg y transblow (?) i Meillionydd Bach. Mercher 29
Iau 30
Yn Llywenan pnawn. 1 fuwch or Parc. Gwener 31
Yn Llywenan pnawn. ~~~~~~~ Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |