|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr Sul 27 Dim capel yn Tan y Foel. Joseff Jones am 2 a 6. Llun 28 Turn codi fyny pnawn. Richard Baronhill yn mynd a fy nghardyn insurance i Edeyrn. Mawrth 29 Hanner bore. Gwn mawr pnawn. Mercher 30 Turn. Roberts wedi dod yn ol o Liverpool. Iau 31 Turn llwytho motor. Pau £2/19/6d Nol fy esgidiau o Penygroes.
Chwefror. Gwener 1 Turn llwytho motor. Sadwrn 2 Turn gollwng cerrig ir lon. Sul 3 - Yn Tan y Ffordd. Bachgem diarth yn lle Glyn Roberts. Llun 4 Turn yn gosod peipia i gael dwr allan yn y Nant. Tywydd braf sych. Mawrth 5 Turn yn y Nant. W Roberts yn y Nant am y tro olaf. Mercher 6 Marw William Roberts Mango dau or gloch bore heddiw. Turn Hugh Terfyn yn dod i fy nol or Nant. Iau 7 Turn. Gwener 8 Mynd ir gwaith y bore Harry Thomas yn dod a pery i mi fynd i angladd W Roberts. Sadwrn 9 Turn. Bwrrw bore. Sul 10 - Evans am 10. Yn Tan y Ffordd ar fy nhraed neithiwr. Llun 11 Turn cario peipiau ir ffordd ar Benallt. Mawrth 12 Lewis G Jones yn dechrau yn y Nant. Tywydd sych. Mercher 13 - Turn. Iau 14 Turn cario peipiau i lan y mor i gael dwr or Nant. Pau £2/14/8d. Ocsiwn Cae Crwth, Sal druan. Gwener 15 Turn yn gosod peipiau yn y lefel yn y Nant. Tywydd oer rhew caled. Sadwrn 16 Turn gosod peipiau yn y lefel. Dim glaw ers dyddie. Sul 17 Thomas BA Cricieth. Ar fy nhraed efo mam neithiwr. Tywydd sych a rhew caled. Llun 18 Turn rhoi peipiau yn y lefel. Mawrth 19 Turn rhoi peipiau yn y lefel. Bob yn y Blawdty. Dim glaw ers dyddiau. Mercher 20 - Turn rhoi peipiau wrth eu gilydd yn yr allt bore, trwsio ffordd or efail i gwt y boileri yn y Nant pnawn. Iau 21 Turn yn clirio ffordd i gael troli i nol pethau yr ingen oel or Groeslon, gosod grat yn yr office pnawn. Llythyr or South. Gwener 22 Turn yn trwsio yr hen efail yn yr iard Porth Ysgo Sadwrn 23 Turn yn Benallt yn codi fyny. Llythyr gan Williams o America. Tywydd sych. Dick yn darfod redig tyndir cae o dan ty Tan y Ffordd. Llosgi y mynydd mwg tew. Sul 24 - H Hughes am 2 a 6. Mam yn reit wael heddiw. Llun 25 Turn yn codi fyny yn Benallt. Tywydd sych. Llosgi y mynyddoedd. Mawrth 26 Turn yn codi fyny eto. Sych ac oer. Mercher 27 Turn. Rhew caled bora. Bwrrw tipyn o law pnawn. Marw Betw Tan y Garn. Iau 28 Turn Pau £2/19/8d. Rhew caled bore gwynt or gogledd. Gwener - 29 Turn. Gwynt oer. Tarw i fuwch Trewan.
Mawrth. Sadwrn 1 Turn. Bwrrw eira gydar nos. Sul 2 Bachgen o Pwllheli am 6. Yn Tan y Ffordd wedi bod ar fy nhraed nos sadwrn efo mam. Bwrrw eira pnawn. Llun 3 Turn. Motor yn nol llwyth wedi ni fynd adref. Angladd Betw Tan y Garn. John yn ennill 2/- am hen hwiad yn y gymdeithas (?) Mawrth 4 Turn. Dod adref 3 or gloch y bore o Eisteddfod Rhoshirwaen. Tywydd sych a rhew weithiau. Mercher 5 - Turn llwytho motor bore. Bwrrw eira bore, glaw mawr pnawn. Bob ar ei draed efo mam. Iau 6 Turn. Llythyr or South. Tedi ar ei draed efo mam. Gwener 7 Turn yn y Nant yn rhoi piston yn yr ingen oel. Thomas yn anfon cyiena i mam or South. Sadwrn 8 Marw mam hanner awr wedi saith bore heddiw. Catherine fy chwaer a Richard yn dod yma. Mynd ir fynwent efo John Davies Sul 9 Sul braf heddiw tywydd sych. Llun 10 Fi, Eliza a Tedi yn mynd ir dref efo motor Ismael i brynu dillad. Diwrnod poeth fel yn yr haf. Mawrth 11 Mynd i Botwnnog i nol llythyr claddu mam. Mercher 12 Thomas yn dod yma. Tywydd sych o hyd. Iau 13 Angladd fy mam. Talu am yr arch ar fflags £11/12/0d. Gwener 14 Mynd ir dref Tedi a fi i glywed yr ewyllys. Marw Richard Jones Ty Rhedyn. Sadwrn 15 Mynd i ffair newydd. Sul 16 Mynd ir eglwys am 10 fi Tedi a Eliza ( Sion yn cau codi oi wely). Hugh Hughes Tregarth am 2 a 6. Llun 17 Turn yn y lefel uwchben twll craen yn y Benallt. Mawrth 18 Turn. Pau £2/14/3d. Talu i John Davies am wneud bedd fy mam £1/0/0d Mercher 19 Turn. Tywydd sych o hyd. Iau 20 Turn yn y Nant. Angladd Richard Jones Ty Rhedyn. Gwener 21 Turn yn Benallt yn bore, yn y Nant yn dadlwytho bocsia. John yn rhychu yr ardd yn Tan y Ffordd. Sadwrn 22 Turn yn y Nant cario planciau fewn. Tipyn o niwl heddiw. Bwrrw glaw heno. Sul 23 T Glyn Roberts am 2 a 6. Glaw trwyr nos. Pendyn ar fy ngwddw. Llun 24 Turn yn Benallt. Mawrth 25 Turn yn y Nant yn newid y peipiau ar yr allt mor. Mercher 26 Marw William Jones Llawenan. Turn yn y Nant yn mynd a coed or ffordd ir iard. Pau £1/6/3d. Wythnos sych oer ar ol y glaw. Iau 27 Turn yn cael bocsia or ffordd i ymyl cwt yr ingen. Gwener 28 Turn efo bocsia eto. Sadwrn 29 Turn dadlwytho haearn o fotor Nant y Carw. Plannu tatws yng ngardd bach Tan y Ffordd. Dick a fi a J E yn dechrau rhychu darn isa cae dan ty. Sul 30 - T H Evans Pisgah am 2 a 6. Marw Griffith Jones Penmynydd Spyrgion. Llun 31 Turn yn y Nant. Angladd William Jones Llawenan.
Ebrill Mawrth 1 Turn yn y Nant. Tywydd oer dim glaw. Mercher 2 Mynd ir dre yng nghylch Tan y Ffordd. Iau 3 Turn yn Benallt gollwng cerrig ir lon yn ymyl Ty Croes yn bore, codi fyny pnawn. Gwener 4 Turn yn Benallt. Angladd Griffith Jones Spyrgon. Sadwrn 5 Turn yn Benallt. Gorffen plannu y forder yn Ael Bryn. Ingen ladd gwair yn dod i Carreg Lefain o Bolmynydd Llanbedrog. Sul 6 Llun 7 Turn yn Benallt. Sych ac oer. Mawrth 8 Turn yn Benallt. Mercher 9 Turn yn Nant Gorffen plannu tatws yn pen isa cae dan ty Tan y Ffordd. Iau 10 Turn yn Nant. £2/13/11d. Gwener 11 Turn. Bwrrw glaw heno a da ei gael. Sadwrn 12 Sul 13 John Evans Tyddyn am 6. Bwrrw eira a bwrrw glaw wedyn. Llun 14 - Turn yn y Nant gwneud lle ir pwmp. Glaw bore. Mawrth 15 Turn yn y Nant yn cael y bocsia i Borth Ysgo. Mercher 16 Turn yn y Benallt. Gorffen plannu clwt mawr yn Ael y Bryn. Iau 17 Turn yn Benallt. Gwener 18 Turn yn Benallt. Sadwrn 19 Turn. Sul 20 D H Thomas BA Cricieth. Llun 21 Yn Ael y Bryn yn gosod netin wier rhwng y ddwy ardd. Mawrth 22 Turn Mercher 23 Turn. Iau 24 Turn. Marw John Owen neu Sion Elis. Gwener 25 - Turn. Bob yn danfon y gwartheg efo Evan Jones Penponcyn ir dre Tedi yn mynd ar eu hola efo motor beic. Gwlyb heddiw. Sadwrn 26 Pau £2/17/8d. Sul 27 Aneurin LL Hughes. Glaw trwyr dydd. Llun 28 Turn. Mawrth 29 Turn. Mercher 30 Turn. Iau 31 Turn.
Mai. Iau 1 Turn. Gwener 2 Turn dechrau lefel fyc yn y Benallt. Sadwrn 3 Turn. Sul 4 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Mynd ir Erw i nol te a mynd or Erw i Tyn Llyn i edrych am fy ewythr Richard. Llun 5 Turn yn y Nant yn gosod y pwmp. Mawrth 6 Turn yn y Nant yn gosod pwmp. Mercher 7 Turn yn y Nant dan12 bore mynd lawr wedyn i bwmpio 4 dan 12 nos. Iau 8 - Turn 4 dan 12 . Tywydd gwlyb. Gwener 9 Turn 4 dan 12. Pau £2/12/8d. Sadwrn 10 Turn 4 dan 12. Angladd fy ewythr Ty Corn yn Nebo. Sul 11 - Glyn Roberts am 2 a 6. Tywydd gwlyb. Llun 12 Turn yn tynnu peipia or lefel. Mawrth 13 Mynd ir ffair. Mercher 14 Turn yn symud y pwmp. Iau 15 Turn yn y Nant bore mynd i Benallt pnawn. Bag o flawd £1/5/0d. Gwener 16 Turn yn Benallt. Sadwrn 17 Turn Benallt bore. Turn o 4 dan 12 yn lle John Terfyn yn pwmpio. Sul 18 T H Evans am 10. Fi, Hughes ac Osborne a Eliza A Barbera Meillionydd yn mynd efo motor Ismael i Aberdaron i ganu. Llun 19 Turn yn Benallt. Mawrth 20 Turn. Tywydd gwlyb. Mercher 21 Turn. Iau 22 Turn Pau £3/2/8d. Dick yn gwerthu y ferlan felyn yn y ffair. John yn cyflogi yn y ffair i Trygarn. Gwener 23 Turn. Marw Ellen Owen mam gwraig Bryn Awel. Sadwrn 24 Turn. Sul 25 John Evans Tyddyn 2 a 6. Llun 26 Mynd i Gymanfa i Cricieth. John wedi mynd i weini i Drygarn merlyn newydd yn Tan y Ffordd. Tywydd gweddol dyddiau yma. Mawrth 27 Turn. Hugh heb fod yn y gwaith. Mercher 28 Turn. Diwrnod braf. Cwrdd mawr Pisgah. Cyfarfod pregthu Angladd Ellen Bryntirion. Iau 29 Cwrdd mawr heddiw, Charles Jones a D R Thomas. Gwener 30 Turn. Sadwrn 31 Turn.
Mehefin. Sul 1 Cyfarfod gweddi am 6. Glaw neb yn capel bora na pnawn. Bwrrw trwy nos dan 4 pnawn Sul. Llun 2 Turn. Hugh wedi mynd ir Gymanfa i Gaernarfon. Mawrth 3 Turn. Mercher 4 Turn. Iau 5 Turn. Pau £2/7/8d Gwener 6 Turn. Sadwrn 7 Turn. Sul 8 Thomas G Ellis am 2 a 6. Llun 9 Gwneud y ferfa. Mawrth 10 Turn. Glaw. Mercher 11 Turn. Glaw. Iau 12 Turn Glaw. Gwener 13 Turn. Dechrau sychu. Cymanfa MC Tudweiliog. Sadwrn 14 Turn. Diwrnod braf. Sul 15 - D H Thomas Cricieth am 2 a 6. Llun 16 - Turn. Mawrth 17 Turn. Mercher 18 Turn. Cwrdd pregethu yn Nebo dechrau heno a fory, Thomas Coedpoeth a Williams Caergybi yn gwasanaethu. Iau 19 Turn. Angladd gwraig Frondywydd yn Nebo. Gwener 20 Turn. Sadwrn 21 - Pau £2/12/8d. Turn yn Benallt dan 12 mynd 4 i bwmpio yn lle Bob, yr ysgol nos wedi mynd i Fangor. Sul 22 - Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Sul braf. Llun 23 Turn y dydd. Mawrth 24 Turn. Mercher 25 Turn. Iau 26 Turn. Gwener 27 Turn. Marw Sion Owen y Waen. Sadwrn 28 Turn. Mynd ir ffair pnawn fi a Robert Syntyr Tedi yn dreifio motor Ismael. Sul 29 Glyn Roberts am 2 . Llun 30 Turn yn cael hyd ir graig haearn yn y lefel sydd yn mynd fel drifft yn y Benallt.
Gorffenaf Mawrth 1 Turn ar yr ore. Angladd Sion Waen. Tywydd gwan. Mercher 2 Turn eto. Tedi yn mynd i Cricieth efo motor Ismael. Iau 3 Turn fi a Robert Syntyr yn gwastadau gwaelod y lefel Hugh wedi mynd i angladd Evan Rowland. Gwener 4 Turn. Sadwrn 5 Turn Pau £3/2/8d. Glaw mawr pnawn. Sul 6 - Evans am 2 a 6 . Llun 7 Turn. Mawrth 8 Turn. Mercher 9 Turn. Iau 10 Turn. Gwener 11 Turn llwytho motor. Sadwrn 12 Turn. Bob yn mynd or Benallt i gario gwair Ty Croes. Hogia or Nant yn codi a gollwng cerrig ir lon. Sul 13 A Ll Hughes Nefyn. Mynd i Aberdaron nos TG Ellis yn pregethu. Llun 14 Turn. Mawrth 15 Turn.. Diwrnod da ar wair fi a Robert Syntyr yn Ty Croes yn cario gwair cae sgubor. Mercher 16 Turn. Tipyn o niwl. Iau 17 Turn. Glaw heddiw Pau £ 2 /17/8d. Gwener 18 Turn. Sadwrn 19 Turn. Cario 6 llwyth yn Ty Croes gydar nos. Sul 20 - Thomas BA Cricieth am 10 a 6. Glaw drwyr dydd. Llun 21 Turn. Glaw heddiw. Anfon fy ngherdyn i Sam Edern. Mawrth 22 Turn Parry a William Tangofer yn Benallt. Braf heddiw. Mercher 23 Turn Iau 24 Turn. Gwener 25 Turn. Glaw mawr. Sadwrn 26 Turn. Mynd i Pwyllgor Llangwnadl i ddewis siopwr.
( Tudalennau coll ).
Awst Sul 24 Joseff Jones Am 2. Evans am 6. Llun 25 Turn. Tom, John Parry a Evan Bodwyddog Bach yn torri cae Brynfran. Mawrth 26 Turn. Cario 2 lwyth efo Owen. Mercher 27 Turn yn cario peil or stage, cario 2 lwyth efo Owen. Iau 28 Turn ar y stage. Glaw gwynt i lawr. Gwener 29 Turn yn Y Benallt. Sadwrn 30 Turn Pau £2/12/8d. Paentio yr eil. Bwrrw glaw. Sul 31 Cyfarfod gweddi am 10. Bob Humphreys am 6.
Medi Llun 1 Turn yn y Nant. Mawrth 2 Turn curo 2 beil. Diwrnod braf. Mercher 3 Turn curo peil eto. Iau 4 Turn yn y Benallt. Gwener 5 Turn. Wythnos heb law. Sadwrn 6 Turn. Tynnu tas wair Brynfran pnawn. Eliza wedi mynd i edrych am Jini Penbryn Bach. Sul 7 Glyn Roberts am 2 a 6. Llun 8 Turn. Willie Clwt y Bont a Gwilym Portmadoc yn dod yma. Mawrth 9 Turn. Mercher 10 Turn. Iau 11 Turn. Gwener 12 Turn. Pau £2/18/11d. Talu am bapur newydd i Hughes. Sadwrn 13 Turn. Sul 14 Hugh Jones Cricieth am 10 a 6. Dim ond mynd ir ysgol dan annwyd. Llun 15 Turn. Mawrth 16 Turn. Mercher 17 Turn. Iau 18 Turn. Gwener 19 Turn. Llythyr oddiwrth Nell ac eisiau mecrill. Glaw heno. Sadwrn 20 Turn. Glaw pnawn. Sul 21 Troi y cloc yn ol gwneud sul nesa yn Pisgah. Cyfarfod gweddi am 10 a 6. Sychu yn dda heddiw. Teulu Llyshyfryd yn dod i Pisgah. Llun 22 Turn. Mawrth 23 Turn. Marw Robert Owen Brynffynnon. Robert Syntyr wedi mynd i angladd Ellen gwraig Evan ei frawd. Mercher 24 Turn. Bwrrw bob dydd pawb heb gael yr yd. Iau 25 Turn. Gwener 26 Turn. Pau £2/19/8d Sadwrn 27 Turn. Angladd Robert Owen. Sul 28 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Mynd i edrych am Jini i Penbryn Bach. Llun 29 Turn. Bwrrw glaw. Mawrth 30 Turn Bwrrw glaw.
Hydref Mercher 1 Turn. Sychu tipyn heddiw. Eliza wedi mynd i Ty Fair. Iau 2 Turn. Gwener 3 Gwn mawr. Sadwrn 4 Turn. Sul 5 - Ellis Lloyd o Bortmadoc. Llun 6 Turn. Mawrth 7 Turn. Mercher 8 Turn. Iau 9 Turn. Wedi bwrrw glaw bob dydd bron. Gwener 10 Turn. Sadwrn 11 Turn Pau £2/12/8d Cario yd yn Penarfynydd. Talu am y Gweliedydd. Sul 12 - Thomas BA Cricieth am 2 a 6. Diwrnod braf. Llun 13 Turn. Diwrnod braf cario yd yn Penarfynydd. Mawrth 14 Turn. Diwrnod braf. Mercher 15 - Turn. Robert Syntyr wedi mynd ir dref efor gwlan. Iau 16 Turn. Gwener 17 Turn. Tywydd da dim glaw ers dydd gwener y 10th Sadwrn 18 Turn. Dechrau rhoi concrit yn y cowt. Sul 19 Glyn Roberts am 10 a 6. Llun 20 Diolchgarwch. Mawrth 21 Turn. Miss Price a Rev Prichard yn yr ysgol. Mercher 22 Turn. Iau 23 Turn. Ingen Ty Fry yn dod i Penarfynydd o Hendre Ucha. Gwener 24 Turn Sadwrn 25 Turn. Sul 26 William Hugh Hughes tro cyntaf am 2 a6. Llun 27 Turn. R T Jones yn yr ysgol. Mawrth 28 Turn. Mercher 29 Diwrnod fotio. Iau 30 Turn. Gwener 31 Turn.
Tachwedd Sadwrn 1 Turn mynd a calch or Brynglo i Nant Gadwen i drwsio Ty Brec. Glaw pnawn. Sul 2 Thomas BA Cricieth. Am 10. Llun 3 Turn. Mawrth 4 Turn. Mercher 5 Turn yn y Nant. Iau 6 Turn.yn y Nant. Tywydd sych. Gwener 7 Turn.Pau £2/16/2d. Sadwrn 8 Turn yn y Nant. Sul 9 - Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 10 Turn yn gorffan cau Ty Brec yn y Nant. Mawrth 11 Mynd ir ffair tywydd braf. Mercher 12 Turn yn Benallt. Iau 13 Turn. Tywdd braf. Gwener 14 Turn. Sadwrn 15 Turn. Sul 16 Bob Humphreys Llanbedrog. Llun 17 Turn. Mawrth 18 Turn. Mercher 19 Turn dechrau llwythor SS Amy Summerfield 44 round dod at y pier 9 yn y bore. Iau 20 Turn gorffen llwytho 73 round. Gwener 21 Turn Pau £2/9/8d. Sadwrn 22 Turn. Sul 23 W H Hughes am 2 a 6. Llun 24 Turn. Mawrth 24 Turn. Mercher 25 Turn. Iau 26 Mynd ir cyfarfod pregethu i Lanbedrog. Marw John Murpoeth. Gwener 27 Turn. Sadwrn 28 Turn. Angladd John Murpoeth. Sul 30 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Rhagfyr Llun 1 Turn. Mawrth 2 Turn. Mercher 3- Turn. Iau 4 Turn. Gwener 5 Turn. Jini y Brynglo yma Eliza yn mynd efo hi i Penbryn Bach. Sadwrn 6 Turn. Pau £2/13/8d. Talu yn shop £2 am oel. Sul 7 - Glyn Roberts am 2 a 6. Llun 8 Turn. Mawrth 9 Turn. Mercher 10 Turn. Iau 11 Turn. Gwener 12 Turn. Sadwrn 13 Turn. Mynd or gwaith i osod pobty yn Bodwyydog Bach. Sul 14 Thomas BA Cricieth. Llun 15 Dwr yn ein hel or twll isa. Mawrth 16 Turn. Mercher 17 Turn. Niwl.. Iau 18 - Turn. Niwl eto heddiw.Pau £2/17/8d Gwener 19 Turn. Niwl bore. Sadwrn20 Turn niwl bore Sul 21 Evans am 6. Llun 22 Turn. Mawrth 23 Turn Mercher 24 Tywydd eithriadol o wlyb wythnos yma. Iau 25 Coed a lwynion y siafft fawr yn syrthio bore heddiw. Gwener 26 Bwrrw eto heddiw. Sadwrn 27 - Gwynt a glaw. Sul 28 W H Hughes am 2. Cyfarfod gweddi am 6 Elis Jones, W Jones Ty Croes, G Thomas, TH Evans, W Jones,Llyshyfryd y gwr a plant, E Hughes yn diweddu. Llun 29 Turn gollwng cerrig ir lon pob man wedi boddi yn Benallt. Mawrth 30 Hanner bore. Dod adref ganol dydd. Turn o 4 dan 12 yn y lefel fyc. Cael teligram tair blynedd i heddiw o Gaerdydd nad oedd dim cownt o long Isaac. Mercher 31 - Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |