|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr. Llun 1 Turn mynd i lan y mor i nol y ddau haearn i fyny ir iard. Codi cerrig fyny pnawn. Mawrth 2 Turn hel cerrig ir lefel. John P Jones yn Pisgah. Mercher 3 Turn rhoid postyn i gynnal y top, codi fyny wedyn. John P Jones eto. Iau 4 Turn codi fyny yn y bore. Griffith Tyddyn yma. John P Jones eto. Gwener 5 Turn. Sadwrn 6 Turn. Mynd i Tan y Ffordd i drwsio pen y beudy. Sul 7 Cyfarfod gweddi am am 2. Griff Jones ddim wedi dod. Llun 8 Turn. Eliza yn y Tyddyn. William Llawenan yn Pisgah Cyfarfod Gweddi am 7. Mawrth 9 Turn. Gwynt oer or gorllewin. Mercher 10 Turn. Iau 11 Turn. Marw Anne Penebo Bach. Gwener 12 Turn. Sadwrn 13 Turn. Mynd ir Sarn ir Post ynglyn ac arian Isaac druan. Sul 14 D Th Thomas BA Cricieth. Mynd i Ty Croes Bach i gael te. Rhannu yr ordinhad heno. Llun 15 Turn. Eliza yn Tyddyn. Mawrth 16 Turn. Mercher 17 Hanner pnawn yn codi fyny. Gweuw yn fy mhen. Angladd Anne Penebo Bach. Lleuad newydd 2.41 B. Iau 18 Ocsiwn Tyddyn. Gwener 19 Turn. Cael llythyr or South yng nghylch mam. Sadwrn 20 Turn. Sul 21 R M Williams Cricieth am 10. Llun 22 Turn. Mawrth 23 Turn. Mercher 24 _ Turn. Iau 25- Turn. Gwener 26 Turn. Llyfr bank yn dod yn ol. Sadwrn 27 Turn. Anfon stifficiat fy machgen druan i Lundain. Yn y nos cael breuddwyd fy mod yn ei weld o wedi dod adref, ac yn edrych yn y ffenast. Sul 28 - T Glyn Roberts am 2 Gweinidog. Llun 29 Turn Pau £11/0/8d. Mawrth 30 Turn. Mercher 31 Turn.
Chwefror. Iau 1 Turn Nant yn pnawn yn symud y casgia. Lleuad llawn 3.53 N. Gwener 2 Turn Nant bore yn symud y casgia i Groeslon. Sadwrn 3 Turn. Gwn Mawr 5/-. Sul 4. A Ll Hughes Nefyn am 2 a 6. Llun 5 Turn. Mawrth 6 Turn. Gwynt mawr or de ddwyrain chwythu pen yr eil Tan y Ffordd. Mercher 7- Turn codi fyny pnawn. Iau 8 Turn codi fyny pnawn. Braf. Gwener 9 Turn yn codi fyny a gosod clo ar y cwt byta a symud pwmp yno. Bwrrw glaw drwyr nos. Sadwrn 10 Turn. Mynd ir Sarn fi a Robert Syntyr i wrando ar R T Jones AS. Bwrrw drwyr nos. Sul 11 Dim ysgol heddiw glaw mawr trwyr dydd. Llun 12 Turn. Mawrth 13 Turn. Eisteddfod Rhoshirwaun. Glaw mawr. Mercher 14 Turn. Diwrnod braf. Hugh Terfyn adre yn sal. Iau 15 Turn. Hugh adref. Gwener 16 Turn. Sadwrn 17 Turn llenwi dwy wagen ai gollwng ir lon. Sul 18 Evans am 10. Llun 19 Turn yn llenwi wagen ai gollwng ir lon. Mawrth 20 Turn. Mercher 21 Turn eto. Iau 22 Turn eto. Gwener 23 Turn eto. Sadwrn 24 Turn codi wagen i fyny ai gollwng ir lon. Sul 25 Cyfarfod gweddi am 2. Mynd ir Tyddyn y nos i wrando ar Hugh Hughes yn pregethu ar Abrahm yn aberthu Isaac. Llun 26 Turn. Hugh Terfyn wedi brifo ei droed dim yn y gwaith. Mawrth 27 Turn. Mercher 28 Turn yn hel y runners y stage wedi torri fi, a Bob a Robert Syntyr a John Terfyn.
Mawrth Iau 1 Turn. Gwener 2 Turn. Sadwrn 3 Turn. Mynd i Bodwyddog i osod pobty. Llun 4 D Th Thomas Cricieth am 2. Llun 5 Turn codi fyny pnawn a mynd ar wagen iw dadlwytho ir lon. Mawrth 6 Turn codi fyny a mynd ar wagen iw dadlwytho i lon Bodwyddog bore, dechrau lefel fyc pnawn. Mercher 7- Turn yn y lefel fyc. Iau 8 Yn llwytho y dracsion. Nant y Carw yn y lefel wedyn Gwener 9 Turn yn llwytho y dracsion, codi fyny. Sadwrn 10 Turn yn y lefel fyc. Cyfarfod llafur yn yr ysgol. Sul 11 T Glyn Roberts am 2 a 6. Llun 12 Turn yn y lefel fyc, llwytho y dracsion. Anfon dau bapur i Williams ( USA). Mawrth 13 Turn eto myc a llwytho tracsion. Mercher 14 Turn yn y lefel fyc, llwytho y dracsion yn y bore a pnawn dau lwyth heddiw. Iau 15 Mynd i ffair newydd. Gwener 16 Turn ar y myc, llwytho y tracsion. Sadwrn 17 Turn ar y myc. Sul 18 T H Evans am 10. Ysgol am 2 heddiw. Dewis swyddogion yn yr ysgol sul, Griffith Thomas yn Arolygwr, Sam Williams yn drysorydd a Miss L Owen yn ysgrifenyddes. Llun 19 Turn ar y myc, llwythor tracsion pnawn. Mawrth 20 Turn ar y myc. Hel arian at rigior capel, Williams Bryncroes yn ein cyfarfod yn y Capel. Mercher 21 Turn mynd i Borth Ysgo i lifio peil oedd wedi dod oddiwrth y stage, y dracsion yn dod pnawn. Plannu y fordor wrth gwt yr ieir. Iau 22 Turn ar y myc. Bob yn dyrnu yn Ysgo. Gwener 23 Adref yn sal.. Y dracsion yn nol llwyth. Sadwrn 24 Turn llwytho y dracsion. Bob yn dyrnu yn Blawdty. Dechrau palu y clwt mawr. Diwrnod braf. Telynor dall yn canu yn Aberdaron. Sul 25 - Y Sul cyntaf heb olau lamp. A Ll Hughes Nefyn am 2 a 6. Llun 26 Turn ar y myc. Mawrth 27 Turn ar y myc llwythor dracsion. Mercher 28 Turn ar y myc. Iau 29 Turn ar y myc, llwythor tracsion. Eliza wedi mynd i Aberdaron. Gwener 30 Turn ar y myc Pau £13/10/10d. Seilio pen y llofft ganol. Sadwrn 31 Turn ar y myc. Gorffen rhoi coed ym mhen y llofft ganol.
Ebrill Sul 1 - Talu £1/15/6d i ir ysgol Pisgah. J Morgan Williams fu yn Nefyn. Eliza yn Aberdaron dros y Sul. Llun 2 Gorffen rhoi coed ym mhen y llofft ganol. Eliza yn dod adref o Aberdaron. Tywydd braf. Mawrth 3 Turn ar y myc, llwythor tracsion. Rhychu y fordor o dan y ffenast parlwr. Mercher 4 Turn ar y myc, llwythor tracsion. Bwrrw glaw mawr pnawn. Iau 5 Turn ar y myc, llwythor tracsion. Gwener 6 Turn ar y myc, llwythor tracsion. Sadwrn 7 Gweithio dan hanner awr wedi naw, mynd ir cyfarfod chwarter wedyn yn Llanbedrog. Sul 8 Rev Hugh Hughes am 2 a 6. Llun 9 Turn yn gorffen gyrru y cerrig haearn ir lon a llwythor tracsion. Mawrth 10 Turn, dechrau ar y cerrig, llwythor tracsion. Mercher 11 Turn. Iau 12 Turn. Gwener 13 Turn. Torri twll yn nghanol yr ardd. Sadwrn 14 Turn. Gorffen torri y twll drwodd. Paentio pen y llofft. Eliza yn Tan y Ffordd. Sul 15 - Joseff Jones Nefyn gynt am 10. Llun 16 Turn yn dechrau torri top i fynd ar y cerrig sydd ar y bont. Mawrth 17 Turn. Llythyr cyntaf Isaac druan 17 Ebrill 1920 wedi mynd i ffwrdd ar y mor. Mercher 18 - Turn. Tywydd caled. Iau 19 Turn. Gwener 20 Turn codi wagenaid o gerrig. Sadwrn 21 Turn codi hanner wagenaid o gerrig. Mynd i Sarn i nol arian fy machgen druan £55/14/7d. Mynd ir Pwyllgor i Llangwnadl o Sarn. Gwynt oer or gogledd. Sul 22 T Glyn Roberts am 2 a 6. Marw Dafydd Jones Tyn Castell. Gwynt oer or gogledd. Gyrru y cloc. Llun 23 Turn gollwng wagenaid o gerrig ir lon. Clirio pridd wedyn. Mawrth 24 Turn clirio pridd a codi wagenaid o gerrig pnawn. Mercher 25 Turn, gollwng wagen o gerrig ir lon clirio pridd a dechrau codi cerrig wedyn. Iau 26 Turn. Gwener 27 Turn, gollwng wagen ir lon. Sadwrn 28 Turn dechrau 7 ar yr amser buan dan 12. Hel wagenaid o gerrig a gorffen eu llwytho or siafft. Gwynt oer or de heddiw. Sul 29 Evans am 10. Catherine a Nel Ty Fry yma a Richard, pobol o Pwllheli yma. Cyfarfod Canu Undebol yma. Llun 30 Bwrrw glaw bore heddiw. Turn gollwng wagenaid o gerrig ir lon, clirio pridd pnawn.
Mai Mawrth 1 Bore niwlog gwlyb. Turn llwythor tracsion. Mercher 2 Turn. Iau 3 Turn llwythor tracsion. Gwener 4 Turn llwythor tracsion dechrau codi cerrig y bont. Sadwrn 5 Turn. Eliza a Richard yn nol chwarter mochyn i Hebron. Sul 6 Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Rolant Jones Refail yn cynnal cyfarfod gweddi olaf iddo fo. Llun 7 Turn gollwng dwy wagen ir lon. Anfon y llyfra misol i Surrey i wraig Morris Evans Penarfynydd. Mawrth 8 Turn. Mercher 9 Turn yn gollwng dwy wagen ir lori. Bwrrw cenllysg a eira gydar nos. Iau 10 Turn yn clirio top. Gwener 11 Turn yn clirio pridd. Sadwrn 12 - Turn yn clirio pridd, llwythor tracsion. Bob yn mynd i nol Tedi efo moto beic ir dre. Wythnos oer ar ei hyd bwrrw eira. Sul 13 - D H Thomas Cricieth am 2 a 6. Marw Rolant Yr Efail Bwlch Clawdd yn 33 oed. Llun 14 Mynd ir ffair. Mawrth 15 Turn yn clirio pridd a llwythor tracsion. Mercher 16 Turn. Wythnos galed bwrrw cenllysg. Iau 17 Turn, dod adref awr yn gynt i fynd ir cyfarfod yn yr ysgol. Angladd Rolant Yr Efail. Gwener 18 Turn yn clirio pridd. Sadwrn 19 Turn yn gorffen clirio pridd. Yn Tan y Ffordd yn codi wal y cwt moch. Cyfarfod Robert Pen y Bont a Glyn Roberts yn y capel. Sul 20 Glyn Roberts am 2. Cyfarfod gweddi am 6.30. Llun 21 Yn Tan y Ffordd yn codi wal y cwt mochyn. Mawrth 22 Turn gollwng y wagen ir lon. Mercher 23 Turn gollwng wagen ir lon.Tywydd oer. Iau 24 Hanner gollwng wagen ir lon, mynd at y gwn mawr yn y pnawn. Gwener 25 Turn gollwng un wagen ar y lon. Sadwrn 26 Turn. Yn Tan y Ffordd yn gwneud cafn ir moch. Bob yn danfon Tedi at y tren 10.30 i fynd ir South.Rachel Baronhill yn dod or hospital. Sul 27 Sul gwag. Evans y pregethwr yn yr ysgol, pregeth angladd Rolant Refail. Hugh a Catherine fy chwaer yma. Llun 28 Mynd ir Gymanfa yn Llanbedrog, diwrnod oer. Yr hogiau yn gollwng wagen ir lon. Mawrth 29 Turn gollwng dwy wagen ir lon. Mercher 30 Robert Syntyr yn mynd i nol yr afr i Pwllheli. Turn. Eliza wedi mynd ir dref. Iau 31 Turn gollwng dwy wagen ir lon.
Mehefin Gwener 1 Turn. Sadwrn 2 Turn codi cerrig at y capel pnawn. Tywydd yn oer. Sul 3 Joseff Jones am 2 a 6. Llun 4 Turn gollwng wagen ir lon, llwythor tracsion. Mawrth 5 Turn wagen ir lon. Mercher 6 Turn llwythor tracsion. Iau 7 Fi a Eliza yn mynd ir Gyamnfa i Portmadoc. Ordeinio Farmer Elder yno. Gwener 8 Turn. Bwrrw tipyn pnawn a niwl. Sadwrn 9 Turn gollwng wagen ir lon, diwrnod niwlog. Jones y glo yn y gwaith. Sul 10 Evans am 10 . Cyfarfod gweddi olaf un ei .. E Hugh, G Thomas, Tom Hughes, Elis Jones yn diweddu y seiat. Llun 11 Turn yn gollwng wagen ir lon. Hugh wedi mynd ir Gymanfa i Portmadoc. Mawrth 12 Turn. Pau £5/2/8d Bwrrw glaw. Richard a Bob yn mynd i Clun at Morrise efo moto beic. Mercher 13 Turn. Iau 14 Turn. Gwener 15 Turn. Marw gwraig y Nant. Sadwrn 16 Turn. Gosod coed ym mhen y gegin. Sul 17 A. LL Hughes yn Nebo am 10. Marw Rachel Baronhill. Llun 18 Turn gollwng wagen ir lon. Mawrth 19 Turn. Angladd gwraig y Nant. Mercher 20 Turn. Iau 21 Turn. Angladdd Rachel Baron hill. Gwener 22 Turn. Sadwrn 23 Turn yn llwythor tracsion. Sul 24 Thomas Criceth am 6. Llun 25 Turn yn y Benallt. Mawrth 26 Turn yn cario cerrig i Allt Pwllmelyn i roi hyd ffordd Bodwyddog, llwythor tracsion. Mercher 27 - Turn ar y ffordd. Iau 28 Turn ar y ffordd, llwythor tracsion. Gwener 29 Turn ar y ffordd. Llwytho y tracsion. Thomas fy mrawd yma. Sadwrn 30 Turn ar y ffordd. Cneifio yn Tan y Ffordd. Cau camdda cae rhwng ddau dy Ty Croes Bach.
Gorffenaf Sul 1 Mynd ir cyfarfod ysgol i Lanbedrog, fi a Sam. Llun 2 Turn yn gorffen ar lon Bodwyddog. ( Ar y mor ddwy flynedd i heddiw mynd at yr ynysoedd fi a fy machgen druan a Tedi ) Mawrth 3 Turn yn y Benallt. Mercher 4 Turn. Bwrrw glaw. Iau 5 Turn. Gwener 6 Turn Pau £2/17.8d. Sadwrn 7 Turn. Trannau mawr yn taro capel Cilan. Sul 8 - Evans Pisgah am 2. Llun 9 Turn. Mynd i Llangwnadl ir pwyllgor. Mawrth 10 Turn. Cyfarfod trysdis yn Pisgah. Mercher 11 Turn. Dechrau yn cae Ty Croes Bach. Gwn mawr. Ty Croes Bach yn cario cae tu ucha ir lon. Iau 12 Turn. Ty Croes Bach yn torri cae sgubor. Gwener 13 Turn. Bob a John Parry yn dechrau cario gwair cae Pwllfadog Ty Croes. Sadwrn 14 Turn. William Ty Croes Bach yn cario cae sgubor. Sul 15 Dyn o Bortmadoc a Dyn o Nefyn. Bachgen o Bwllheli yn Tan y Foel am 2. Evans Hebron am 6 . Bwrrw glaw pnawn. Llun 16- Turn. Mawrth 17 Turn. Mercher 18 Turn. Iau 19 Turn. Eliza a Jini Syntyr wedi mynd i edrych am Ellen i Ddinbych. Gwener 20 Turn. Sadwrn 21 Turn. Pau £2/17/6d. Cario gwair cae nesa i Conion. Isaac Llnabedrog ar wraig yma ai chwaer ar teulu. Bob yn Bodwyddog heddiw. Sul 22 - Evans hebron am 10 a Glyn Roberts am 6. Llun 23 Turn. Mawrth 24 Turn. Mercher 25 Turn. Iau 26 Rigeta yn Aberdaron. Gosod y grat yn y llawr. Gwener 27 Turn. Sadwrn 28 Turn. Hel y gymdeithas gartrefol. Pobl ddiarth dod yma. Sul 29 Evans Pisgah am 10. Yn Tan y Foel W Evans Talsarnau. Cyfarfod gweddi Nebo am 6.30. Llun 30 Turn llwytho motor. Mawrth 31 Turn llwytho motor.
Awst. Mercher 1- Turn llwytho motor. Iau 2 Turn. Pau £2/12/8d. Gwener 3 Sadwrn 4 Sul 5 Fi a Hughes a Evan Williams yn mynd ir Tyddyn am 6. Llun 6 Turn. Mawrth 7 Turn. Mercher 8 Turn. Iau 9 Turn. Gwener 10 Adref crudcymalau yn fy nghlun. Sadwrn 11 Adref. Sul 12 Hen wr o Pentrefelin am 10 A Ll Hughes am 2 a 6. Llun 13 Turn. Mawrth 14 Turn. Mercher 15 Turn. Iau 16 Turn. Yn yr Eifion gydar nos yn rhoi syment ar y cyrn. Gwener 17 Turn. Yn yr Eifion gydar nos. Sadwrn 18 Turn. Yn Tyddyn Morthwyl pnawn yn rhoi syment ar y corn. Sul 19 Ysgol feistr or South am 10. Thomas Cricieth am 2. Llun 20 Turn codi fyny pnawn. Mawrth 21 Ras cwn yn Groeslon. Anfon llyfrau i Surrey. Mercher 22 Turn. Mynd ir Cyfarfod Pregethu i Rhoshirwaen. Iau 23 Turn glaw trwyr dydd. Gwener 24 Turn. Sadwrn 25 Turn. Glaw mawr. Trip Nebo ir Bermo. Sul 26 Williams Ty Mawr am 6, un yn perthyn i Thomas. Cyfarfod Gweddi am 10. Am 2 Tan y Foel mab Post Edeyrn. Llun 27 Turn. Mawrth 28 Turn. Mercher 29 Mynd i dref o flaen y Rotitor ( auditor ?) efo William Ty Rhyd. Iau 30 Turn. Gwener 31 Mownti yn dref, finnau yn yr Erw yn gosod y grat.
Medi. Sadwrn 1 Turn. Pau £2/12/8d. Te yn yr ysgol gan Tan y Foel MC. Sul 2 - Evans Nebo am 10. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 3 Turn. Mawrth 4 Turn. Mercher 5 Turn. Iau 6 Turn. Gwener 7 Turn. Sadwrn 8 Turn. Cario haidd yn Tan y Ffordd. Sul 9 Cyfarfod Gweddi am 10. Mynd i Uwchmynydd i wrando ar Hugh Hughes yn Salem am 6. Llun 10 - Turn. Yn Ty Croes Bach yn cario ceirch cae tu ucha ir ty. Mawrth 11 Turn. Mercher 12 Mynd i Llanbabo i angladd modryb Elin. ( 1921 symud ei long.) Iau 13 Turn ar yr inglein yn cae Ty Croes Bach. Gwener 14 Turn. Sadwrn 15 Turn. Mynd i Aberdaron am ro ir capel, y trolia wedi mynd yn rhy fuan ar y teit. Sul 16 Evans Nebo am 10. Llun 17 Turn. Mawrth 18 Turn. Mercher 19 Turn. Iau 20 Turn gollwng cerrig i lawr i Ty Croes Bach. Gwener 21 Turn gollwng eto. Sadwrn 22 Turn llwytho motor, codi fyny. Gorffen cael yr yd yn Tan y Ffordd. Sul 23 Evans Nebo am 10. Glaw mawr yn y bore amser mynd i capel. Llun 24 Turn llwytho motor. Mawrth 25 Gwynt mawr a glaw. Hanner turn yn llwytho motor, mynd or un Penrhyn, motor yn nol llwyth yn pnawn. Mercher 26 Turn. Iau 27 Turn. Gwener 28 Turn. Sadwrn 29 Turn. Yn Tyddyn Morthwyl yn symentio cefn y ty. Pobl Ty Fair yma. Ellin Bryn Difyr yn nol Hugh efo Ismael o Caernarfon. Sul 30 Evans Nebo am 10. Mervyn Owen o Glynnog am 6. Hydref Llun 1 Dyrnu yn Ty Croes Bach. Turn llwytho y motor. Mawrth 2 Turn Motor yn cau tanio magnito. Mercher 3 Turn 2 lwyth ir motor. Angladd Tom Plas yn Rhiw. Iau 4 Turn llwyth ir motor. Eliza a Martha Garreg Lefain wedi mynd i edrych am Sarah. Gwener 5 Turn llwyth. Sadwrn 6 Turn fi a Sam yn torri y draen wrth y capel.. Sul 7 - Myfyriwr o Glynnog am 6. Cyfarfod Gweddi am 10, M Thomas. Elis Jones, Thomas Williams Griff Thomas. Llun 8 Turn.2 lwyth motor. Bob yn y Sarn . Meri ar wraig yma. Mawrth 9 Turn 2 lwyth. Mercher 10 Turn 1 llwyth. Robert Syntyr yn mynd ai wlan ir dref. Iau 11 Turn 2 lwyth. Gwneud rhaffa ar y gwellt yn Tan y Ffordd. Teit 21 1 yn y bore. Gwener 12 Turn. Y cwmni yn y gwaith pnawn. Sadwrn 13 Turn yn gollwng 3 wagen i lawr gorffen, llwytho motor, codi fyny wedyn. Bodwyddog yn gorffen cael yr yd. Yn Tan y Ffordd yn gwneud sleusod (?) ir heffar yn yr eil. Sul 14 - Evans Nebo am 10. Thomas BA Cricieth am 2 a 6. Llun 15 Diolchgarwch. Mawrth 16 Turn llwyth motor. Penarfynydd yn cario haidd Cae Crwth. Mercher 17 Turn. Neli yn mynd at Morris. Jini Clwt y Bont yn dod yma Iau 18 Turn. Neli yn gadael Pwllheli. Gwener 19 Turn. Sadwrn 20 Turn. Mynd i ocsiwn Castellmarch Mawr. Llythyr o Surrey. Sul 21 Evans Pisgah am 10. Dim capel dan annwyd. Llun 22 Dim gwaith dan annwyd. Mawrth 23 Adref bore, hanner turn. R T Jones AS ynyr ysgol. Llanw 6.26. Mercher 24 Turn. Bob Bronheulog. Bodwyddog dyrnu. Iau 25 Turn. Harry Thomas yn dal cloman yn yr efail Nant. Robert Seaview yn priodi. Gwener 26 Turn Pau £2/12/8d. Sadwrn 27 Gwynt a glaw or de, terfysgu. Gwn mawr am 11 am. Sul 28 - Glyn Roberts am 2 a 6. Llun 29 Turn llwyth motor. Glaw. Mawrth 30 Turn. Glaw bore. Mercher 31 Turn 2 lwyth, motor wedi cau a tanio yn lon Ty Canol.
Tachwedd Iau 1 Turn. Gwener 2 Turn 1 llwyth. Sadwrn 3 Turn. Roberts a Harry yn mynd i Gaernarfon efo Ismael , Willie Clwt y Bont yn dod yma. John Evans yn dod yma ar gefn nos mam yn mygu. Sul 4 Aneurin Llanaelhaearn am 2 a 6. Llun 5 Turn. Diwrnod braf. Mawrth 6 Turn. Mercher 7 Turn. Iau 8 Turn. Lleuad newydd 3.27 pm. Gwener 9 Turn Pau £2/12/8d Sadwrn 10 - Turn. Gosod ffenast yn y llofft bach yn Ael y bryn. Sul 11 - Evans Hebron am 10 . Canu Cofian Gwlad Benllywydd Tirion wrth y gof golofn a rhoid rhith arni a dau funud o ddistawrwydd. Llun 12 Mynd ir ffair efo Ismael. Mawrth 13 Turn. Glaw trwyr dydd. Eliza yn mynd i Tan y Ffordd mam yn ei gwely. Mercher 14 Turn. Mam yn sal nol y Dr yn y nos Bob a Tedi efo moto beic. Iau 15 Dim gwaith wedi bod trwy y nos yn Tan y Ffordd mam yn sal. Gwener 16 Turn. Sadwrn 17 Turn. Marw Wmffra Rhydbengan. Sul 18 Joseff Jones Nefyn cynt am 2 Nebo. Yn Tan y Ffordd nos mam yn fyglyd, Eliza yno drwyr nos. Llun 19 Turn agor y bont o dan y lein yn ymyl Bodwyddog yn y bore. Eliza yn dod adref yn sal o Tan y Ffordd. Mawrth 20 Hanner. Eliza yn sal. Mercher 21 Turn dechrau ar y myc. Iau 22 Turn Pau £2/7/8d Gwener 23 Pnawn hanner. John Evans yn fy nol or gwaith mam yn sal. Rhew caled. Sadwrn 24 Turn. Rhew caled. Sul 25 Dim capel yn Tan y Ffordd. Llun 26 Turn yn lefel fyc. Dynion yn siarad dros R T Jones yn yr ysgol. Mawrth 27 Turn ar y lefel eto.Newydd fod gwraig Joni Siop wedi marw. Mercher 28 Turn. Eliza yn Tan y Ffordd bob dydd. Iau 29 Turn. Gwener 30 Turn fi a Harry Thomas yn mynd ir Nant i hwylio i osod y pwmp.
Rhagfyr. Sadwrn 1 Turn yn y Nant eto. RT Jones cyn AS yn yr ysgol. Sul 2 Bachgen o Glynnog. Eliza yn mynd i Tan y Ffordd yn y bore. Llun 3 Turn yn y Nant. Bob yn mynd ir dre i bostio i R T Jones. Mawrth 4 Turn yn y Nant. Bob yn mynd ir dref eto. Mercher 5 Turn. Iau 6 Turn. Diwrnod fotio. Gwener 7-Turn Pau £2/12/8d Sadwrn 8 Turn. Yn Tyddyn Morthwyl pnawn. Sul 9 Evans Hebron am 10 yn Nebo. Llun 10 Turn gollwng cerrig ir lon yn y bore, codi fyny yn y pnawn. Anfon llythyr am y llun i Newcastle. . Mawrth 11 Turn codi fyny bore motor yn nol llwyth pnawn. Marw gwraig Ty Rhedyn. Mercher 12 - Turn. Cael 4 cant o lo. Iau 13 Turn llwyth ir motor. Gwener 14 Turn. Sadwrn 15 Turn yn dechrau codi cerrig yn y lefel uwchben Twll craen. Dwy flynedd ir 16 or mis yma y collodd Isaac druan. Nid eith hwn ddim yn angof trar hyn ir bedd. Sul 16 Evans Pisgah am 6 yn Nebo. Llun 17 Turn. Mawrth 18 Turn llwythor motor pnawn. Mercher 19 Turn. Iau 20 Turn llwyth ir motor. Pau £2/17/8d. Anfon llythyr i Nel. Gwener 21 Eliza ar ei thraed efo mam. Turn. Mynd ir Pwyllgor i Llangwnadl. Sadwrn 22 Turn yn clirio pridd o flaen y capel pnawn efo Richard Sgubor Isa, ac Evan Jones Salfyr, mae y ddau yma efo trol Meillionydd. Sul 23 - Rev Glyn Roberts am 2 a 6. Thomas fy mrawd efo moto yn Tan y Ffordd. Llun 24 Dim gwaith. Mawrth 25 Buwch Trewan wedi dod a llo erbyn y bore. Neigwl ganol yn dod a llo 11 am. Mercher 26 Turn. Bwrrw nos. Iau 27 Turn. Gwener 28 Turn. Sadwrn 29 Dim gwaith wedi cael annwyd. Sul 30 Evans am 2 a 6. Llun 31 Turn. Llun Isaac yn dod yma o South Shields. Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |