|
|
Dyddiadur
~~~~~~~~~~~~~~~ Ionawr. Sul 2
Turn 8 dan 4. Llun 3
Turn. Mawrth 4
Turn. Mercher 5
Turn a hanner yn symud y pwmp. Iau 6
Turn. Gwener 7
Turn. Pregeth yn Tan y Foel. Sadwrn 8
Hanner turn. Fi a Owen Carreglefain yn mynd i Talafon i nol negas or
coperetyf. Sul 9 -
Jones Rhiw am 2. Turn 12 dan 8. Llun 10
Stilo cyllill y felin Tan y Ffordd. Mawrth 11
Isaac yn mynd i ffwrdd i Swansea at yr SS Afon Lledi. Turn. Mercher 12
- Glaw mawr bore heddiw. Turn. Iau 13 -
Rhewi neithiwr. Turn. Pau £6/14/11d Gwener 14
Turn. Llythyr oddiwrth Isaac o swansea. Sadwrn 15 -
Anfon strap i Isaac i Swansea. Sul 16 -
John Lewis Pwllheli, turn 4 dan 12. Llun 17
Gwynt a glaw heddiw. Turn. Mawrth 18
Gwynt mawr or north west. Turn. Mercher 19
Turn. Iau 20
Turn. Gwener 21
Turn. Sadwrn 22 -
Turn mynd hanner nos ingactior (?) wedi drysu gan Thomas. Sul 23 -
WR Jones Cricieth. Llun 24
Turn y dydd. Llythyr gan Isaac o Bordeaux Ffrainc. Angladd Henry Ty Newydd
Rhydlios. Mawrth 25
Turn. Angladd Wil Tynllan. Mercher 26
- Turn. Eliza a mam wedi mynd ir
dre efo car Tan y Ffordd. Iau 27
Turn. Pau £6/4/6d Gwener 28
Turn. Anfon llythyr at Isaac. Sadwrn 29
Sul 30
TH Evans am 2 a 6. Turn am 12 dan 8. Llun 31 -
Yn Min y Don efo Evan Jones yn gosod y giatiau. Turn Chwefror. Mawrth 1 -
Yn Tan y Graig efo O Parry yn gosod popty. Turn. Mercher 2
Llythyr oddiwrth Isaac o Llanelly. Turn. Ty bach. Iau 3
Turn. Gwener 4
Turn. Sdawrn 5
Sul 6
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Turn dan 12. Llun 7
Rhybudd y cyflog yn mynd o 10/6d i 8/8d yn Nant. Hel eithin yn parc Meillionydd. Mawrth 8
Turn. Eisteddfod Rhos. Mercher 9
Turn. Isaac yn dod adref yn sal o Llanelly. Iau 10
Turn Tywydd sych. Gwener 11
Turn. Tywydd sych. Pau £6/8/8d Sadwrn 12 -
Diwrnod braf. Dick yn gorffen redig tyndir pen ucha cae capal, Isaac yn
anfon y papur cyntaf i Sam Jones. Sul 13 -
Gwilym Roberts am 2 Cyfarfod gweddi am 6. Turn y dydd. Llun 14
Llwytho y Briarfield. Mawrth 15
Turn. Gorffan llwytho y Briairfield 86 rounds 500 tons. Mercher 16
Turn Dechray llwytho yr SS Silverfield. Iau 17
Turn gorffan llwytho y 4 round. Diwrnod braf. Gwener 18
Diwrnod braf. Turn. Fi a Bob yn gorffan palu y fordor dan y gegin. Isaac yn
anfon 2 bapur i Sam Jones. Sadwrn 19
Hanner bora. Hel llwyth o eithin yn parc pnawn. Yn tan y Ffordd nos. Sul 20 -
Bob Humphreys Llanbedrog am 2. Turn 12 dan 8. Llun 21
Llwytho y Mayflower. Plannu tatws a penanionod yn y fordor wrth gwt yr ieir.
Turn mynd i lawr 10 dan 8. Mawrth 22
Gorffan llwytho. Turn a hanner yn pwmpio 8 dan 8 bora mercher. Llythyr or
South. Mercher 23
Turn. Iau 24
Pau £6/1.3d. Gwener 25
Turn. Sadwrn 26
Turn 4 dan 12 yn lle Thomas yn llwytho SS Jane Summerfield. Sul 27 -
Evans Rhiw am 2 a 6. Turn 12 dan 8 yn lle Thomas. Llun 28 -
Gorffan llwytho SS Jane Summerfield. Mawrth. Mawrth 1
Turn 4 dan 12. Mercher 2
Turn. Iau 3
Turn. Gwener 4
Turn. Sadwrn 5
Hel eithin yn y parc. Sul 6 -
EW lloyd porthmadog. Evans wedi ffeirio efo gweinidog Batys Rhoshirwaun.
Turn y dydd. Llun 7
Turn. Mawrth 8
Turn. John Pugh Jones yn darlithio yn Pisgah. Mercher 9
Turn. Isaac heb gael papur doctor yr wythnos yma. Iau 10
Turn. Gwener 11
Turn. Pau £5/11/11d. Sadwrn 12
Hanner. Llythyr or South yn dweud fod John Pritchard Sir Fon wedi marw. Sul 13
Bachgen yn lle Jones Cricieth am 2 a 6. Gwn mawr Hugh Jones yn taflud bella.
Hugh Talalfon yn cael yr arian a Hugh Jones y tro or blaen. Llun 14
Turn. Mawrth 15
Turn. Mercher 16
Turn. Iau 17
Turn. Gwener 18
Turn. Sadwrn 19
Torri gwiail i wneud cewyll yn cae dan pwll isa Ty Croes. Glaw mawr heddiw.
Cyfarfod gan y plant yn yr ysgol. Sul 20
Evans am 2 Turn 4 dan 12. Llun 21
Sam yn talu arian insurance Isaac. Turn. Mawrth 22
Turn. Mercher 23
Turn. Iau 24
Pau £5/1/7d. Turn. Nol sinc or coperetyf. Gwener 25
Turn. Sadwrn 26
Thomas a Lewis yn rhoi ingector newydd ir foilar. Sul 27 -
Bob Humphreys Llanbedrog am 2 a 6. Turn 8 dan 4. Llun 28
Turn. Mawrth 29
Turn. Mercher 30
- Turn. Williams Portdinorwig yn y
Nant. Iau 31
Turn. Tywydd braf. Ebrill. Gwener 1
Turn. Isaac yn gorffan plannu y fordor dan y gegin. Sadwrn 2
Sul 3
Evans am 10. Turn. Llun 4
Turn. Mawrth 5
Turn. Mercher 6
Turn. Iau 7
Turn. Pau £5/1/7d Gwener 8
Turn. Sadwrn 9
Gorffan plannu tatws yn y clwt mawr Ael y Bryn. Sul 10
Ellis O lloyd. Thomas yn Tan y Ffordd. Turn 4 dan 12. Llun 11
Gorffan plannu yn Tan y Ffordd pen isa cae capel. Turn. Streic fawr y glo. Mawrth 12
Pwmp ar ingector newydd wedi drysu gan Thomas, neb yn gweithio heddiw. Turn. Mercher 13
Yn gorffan rhoi y landar yn Pen yr Ogo. Iau 14
Oer iawn heddiw.Turn. Gwener 15
Bwrrw Cenllysg, eira. Turn. Sadwrn 16 -
Cnwd o eira heddiw. Sul 17 -
Gwilym Roberts. Turn 8 dan 4. Llun 18
Turn. Mawrth 19
Turn. Mercher 20
Turn. Iau 21
Turn. Pau £5/3/7d. Gwener 22
Turn. Sadwrn 23
Hanner Sul 24 -
Bachgen yn lle Jones Cricieth am 2. Turn 12 dan 8. Llun 25
Turn. Mawrth
26 Turn a turn hanner. Mercher 27
- Codi y pwmp. Glo wedi darfod
oherwydd y streic. Tywydd bach yn oer. Iau 28 -
Rhoi paent dwr yn Ael Bryn. Gwener 29
Mynd i angladd Maggie hogan Griffith Elis Teiliwr. Mynd i Rhoshirwaun heno. Sadwrn 30 - Yn Penr Ogo yn tyllu i roid landars yn y ffrynt. Mai. Sul 1
Jones Gorffwysfa Rhiw. Llun 2
Hanner. Yn Penr Ogo yn pigo y calch i osod landeri. Mawrth 3
Gosod landars yn Syntyr. Bwrrw glaw yn y nos. Mercher 4 -
Codi cerrig a papuro room fawr. Iau 5
Gorffan gosod landars yn Pen r Ogo. Gwener 6
Pau £4/9/8d dan arian 10 i fod.. Mynd i Rhoshirwaun Sadwrn 7 -
Codi cerrig at y gegin Ael Bryn. Mae fy mrawd yn Tan y Ffordd heno. Sul 8 -
WR Jones Cricieth am 2. Llun 9
Mynd i Uwchmynydd efo y car. Mawth 10
Palu tatws. Evans yn mynd i angladd gwraig John Gwthrian Aberdaron. Mercher 11
Bob a Dick yn mynd i Glwt y Bont. Iau 12 -
Angladd Elin y Fryndol, gwraig Sion William Fachan Aberdaron. Glaw or
dwyrain heddiw. Gwener 13
Ffair Pwllheli. Diwrnod braf. Mynd i Rhoshirwaun dim arian yno punt a deg
swllt i fod. Sadwrn 14
Bwrrw bore heddiw a pnawn. Sul 15
Rev Gwilym Roberts Gweinidog. Llun 16
Tynnu y wier bigog yn y parc. Mawrth 17
Codi tyfod (?) tywod. Mercher 18
- Mynd at y doctor i Botwnnog drwg
yn fy nghefn. William Roberts yma yn talu 8/8d. Gweinidog Enlli yma. Iau 19 Gwener 20
Mynd i Rhoshirwaun i nol arian allan o waith at Caradog Jones £1/15/0d.
Tywydd sych. Sadwrn 21
Petaswn ni yn cael yr arian i gyd mi fasa ni yn cael £2/17/6d. Sul 22 -
JH Evans am 2 a 6 Llun 23
Eliza a fi yn mynd ir ffair efo ferlan fach a car Tan y Ffordd. Mawrth 24
Mynd at y doctor fy nghefn yn ddrwg. Jerri yn rhoi coed yn y cwch. Tywydd
sych. Mercher 25
Fy nghefn yn ddrwg iawn heddiw. Iau 26
Adra fy nghefn yn ddrwg. Gwener 27
Mynd i Rhoshirwaun i nol arian £1/1/3d. Bwrrw dipin yn nos. Sadwrn 28
Mynd i ocsiwn Talafon Llangwnadl. Bwrrw yn y nos. Sul 29
Hugh Jones Cricieth. Gwynt oer or
de a golwg glaw. Llun 30
Dick yn paentio y cychod, fy nghefn yn well dyddie yma. Mawrth 31
Mehefin. Mercher 1
Iau 2 -
Williams i fod yn Rhoshirwaun. Mynd i Rhoshirwaun at Williams
Portdinorwic. Pysgota gwrachod dal dwy. Gwener 3
Derbyn llyfra misol bil £1/9/4d.
Dim mynd i Rhos heno. Sacdwrn 4
Y gwn mawr heddiw. Hugh Jones yn cael y pres am daflyd 5/-. Sul 5 -
Ellis Owen Lloyd Porthmadog. Llun 6
Tywydd sych. Mawrth 7
Mercher 8
Tywydd sych. Iau 9
Mynd ir gymanfa i Bwllheli. Gwener 10
Tarw ir heffar. Tywydd sych. Derbyn dwy bunt yn siop newydd o arian
diwaith. Sadwrn 11
Priddo tatws yn Tan y Ffordd darn isa cae heuwal a darn isa cae capel. Sul 12
WR Jones Cricieth. Llun 13
Bwrrw ychydig bora heddiw. Mawrth 14
O Enlli angladd Catherine, gwraig Robert Grepach. Mercher 15
Tywydd sych. Iau 16
Tywydd sych. Gwener 17
Sadwrn 18
Derbyn punt gan Lewis yn y Siop newydd a llenwir fform. Sul 19
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Marw Eliza Tai Refail. Llun 20
Yn Meillionydd yn rhoi fframs ir gwenyn. Mawrth 21
Nel a Dick yn sal. Rhoid calch wrth ffenast Elin Wmffra. Mercher 22
Tywydd sych. Iau 23
Angladd Eliza Tai Refail. Golchi defaid yn Tan y Ffordd. Gwener 24
Cael punt gan Lewis yn Siop Newydd. Talu 3/- arian undeb i Lewis, Bob 1/6d. Sadwrn 25
Sul 26
Evans am 10 ysgol am 2. Talu am y set yn y capel i Owen Griffith 2/6d. Llun 27
Anfon am fil o envelopes ac am ac un llyfr ..(?) 2/6d. Mawrth 28
Tywydd poeth sych. Mercher 29
Cario gwair yn Tan y Ffordd. Iau 30
Cario gwair yn Ty Croes. Gorffennaf. Gwener 1
Cael punt gan Lewis yn Siop Newydd. Sadwrn 2 -
Fi, Isaac a Tedi yn mynd i bysgota mecryll, mynd at ynysoedd efo cwch
melyn. Sul 3
Bob Humphreys Llanbedrog am 2 a 6. Tywydd poeth a sych. Llun 4 -
Cario gwair yn Tan y Ffordd darn isa cae nesa i Conion a hanner cae dan
ty. Mawrth 5
Mercher 6
Gorffan cael y gwair yn tan y Ffordd. Decharu cyfarfod Nebo. Iau 7 -
Mynd i Dyffryn Botwnnog i nol gwely plu am £3/5/0d.
Cyfarfod Nebo pregethu ar gau Penbwlch. Gwener 8
Bob yn cael dim ond 5/- yn lle 10/-. Gan Lewis. Cael £1 gan Lewis. Sadwrn 9
Sul 10
Hugh Hughes Cricieth am 2 a 6.Isaac yn mynd ffwrdd at yr Afon Lledi i South Dick
yn ei ddanfon i Fangor. Llun 11
Griffith y Ffor yn mynd at Isaac. Diwrnod poeth paentio y siwr. Bob yn gorffan
cario gwair efo John Parry. Mawrth 12
Mercher 13
Paentio ffenestri Ael y Bryn. Iau 14
Torri gwair yn Baron Hill. Gwener 15
Dim arian i Bob. Cario gwair baron Hill. Bwrrw glaw a trana. Cael 15/- gan
Lewis G Jones yn Siop newydd. Dim arian i Bob. Sadwrn 16
Bwrrw glaw heddiw. Un swllt ar ddeg a chwech i fod i Bob. Coron yn fyr y tro
or blaen a 7/6d yr wythnos yma. Sul 17 -
Gwilym Roberts am 10. Cyfarfod ysgol yn y Tyddyn. Dim gwasanaeth yn
Pisgah. Llun 18
Clirio lle y gegin. Mawrth 19
Clirio lle ir gegin. Mercher 20
Dechra codi y gegin. Iau 21
Etto. Gwener 22
Etto. Cael arian gan Lewis 15/-, dim i Bob 19/- i fod. Sadwrn 23
Etto. Sul 24
Rev Thomas Elis Aberdaron. Llun 25
Codi y gegin. Mawrth 26
Codi y gegin. Mercher 27
Eliza a Nell yn mynd ir dre. Codi y gegin. Cael llythyr gan Isaac o
Swansea. Iau 28
Gweithio yn y gegin. Rigeta Aberdaron. Terfysg mawr a glaw. Gwener 29
Ar y gegin. Cael arian gan Lewis 15/-. Dim i Bob. Sadwrn 30
Mynd i Berch i fwrrwr Sul. Sul 31
Yn y Berch heddiw. Glaw drwyr dydd. Awst. Llun 1
Dod adra o Berch. Bwrrw glaw. Mawrth 2
Ar y gegin. Bwrrw bora. Mercher 3
Nell yn priodi. Fi, Bob a Richard yn dre. Iau 4
Ar y gegin. Bwrrw bora. Bwrrw glaw. Tynnu y cychod i fynyr ardd. Gwener 5
Bwrrw glaw trwyr dydd. Sadwrn 6
Ar y gegin. Mynd i Frondeg i nol 15/-, dim i Bob. Sul 7 -
Gwilym Roberts am 10. Glaw mawr. Llun 8
Ar y gegin. Mawrth 9
Ar y gegin yn gosod y cwpwl sprysus (?) Mercher 10
Ar y gegin. Iau 11
Bwrrw glaw. Gwener 12
Ar y gegin. Pysgota efo Elis Jones. Arian gin Lewis 15/-. Sadwrn 13
Ar y gegin. Sul 14
G Lloyd yn lle WR Jones. Llun 15
Gorffan y corn. Mawrth 16
Glaw. Mercher 17
Yn dre yn chwilio am lechi i doi y gegin. Iau 18
Ras cwn Ty Canol. Gwener 19
Ar y gegin yn rhoid lintar wrth y drws. Baco oddiwrth Isaac. Arian gan Lewis
15/-. Bob £2/10/0d. Sadwrn 20
Gorffan llefelu ar y lintar traws ar ffenast, a rhoid lintar yn barod i
dorri drws.. Sul 21
Jones Rhiw am 2 a 6 y tro olaf cyn mynd i Sir Fon. Llun 22
Ar y gegin. Mawrth 23
Ar y gegin Mercher 24
Ar y gegin. Iau 25
Ar y gegin. Gwener 26 -
Clirio llawr yr eil. Arian gan Lewis 15/-. Bob 7/6d. Sadwrn 27 -
Codi wal y lon ir eil. Sul 28 -
Evans Rhiw am 2. Cyfarfod gweddi am 6.30. Marw William Thomas Tyn Llan. Llun 29
Codi wal yr eil. Mawrth 30
Codi wal yr eil. Mercher 31
Yn dre yn chwilio am lechi i doi y gegin. Medi. Iau 1
Angladd William Thomas Tyn Llan. Gwener 2
Gorffan walio yr eil. Cael 15/- gan Lewis. Bob 3/9d. Sadwrn 3
Hel y mynydd efo William Ty Rhyd. Pysgota dal un ar hugain ar bymtheg + 5. Sul 4
Evans mynd i Nevin am 2 a 5. Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 5
Pysgota. Mawrth 6
Pysgota. Mercher 7 -
Mynd i Porthmadog i chwilio am lechi. Iau 8
Cael gair oddiwrth Williams or dre fod llechi yno. Gwneud dor y gegin. Gwener 9
Gosod y ddor gegin. Cael arian gan Lewis Jones yn Siop newydd 15/-. Sadwrn 10
Y gwn mawr 5/-. Sul 11
Evans am 2 a 6. Llun 12
Mynd i dre i nol llechi i doi y gegin. Evans Fawr yn symud i Tyn Mynydd. Mawrth 13 -
Coedio y gegin. Arian oddiwrth Isaac £10. Symud ir SS Stevenstone
London. Mercher 14
Dechra toi y gegin. Iau 15
Toi etto. Gwener 16
Gorffan toi. Arian gan Lewis 15/-. Sadwrn 17 -
Gwneud ffram drws a drws ar yr eil yn cefn y ty. Sul 18
Bob Humphreys Llanbedrog. Hel yr arian misol heno. Llun 19
Gwneud yr eil yn barod iw thoi. Mawrth 20
Etto. Mercher 21
Toi yr eil. Iau 22
Mynd i Aberdaron i ofyn am foto i fynd i Nevin. Gwener 23
Cael resipt am y llyfra. Rhoid syment ar ben y gegin. Arian gan Lewis 15/-. Sadwrn 24
Trwsio coed sydd ar dalcen y ty ai peintio. Cael llyhtyr gan Isaac o
Antwerp. Sul 25
WR Jones Cricieth am 2. Pasio i gymeryd moto Tocia i fynd i Nevin. Llun 26
Gwneud ffenast yr eil. Pysgota, mecryll mawr. Mawrth 27
Mercher 28
Anfon llythyr i Isaac i Caerdydd. Iau 29
Ocsiwn Hendy. Gwener 30
-. Tynnu y cwch ir ardd. Arian gan Lewis Jones 15/-. Hydref. Sadwrn 1
Pysgota gwrachod. Sul 2
Sul y cyfarfod cyllidol. Yn sal heb fod yn y capel. Llun 3
Yn fy ngwely yn sal heddiw. Mawrth 4
Yn fy ngwely dan gydar nos, dipin yn well. Bwrrw glaw. Mercher 5 -
Mam yn prynu moch bach yn dre. Sal, codi gydar nos. Iau 6
Bob a Nell a Morris yn mynd i cyfarfod cyllidol Nevin. Codi yn y bore heddiw. Gwener 7
Arian gan Lewis Jones 15/-, yr oll yn £16/11/8d. Sadwrn 8
Gorffan ffenast yr eil. Sul 9
Joseff Jones Nevin gynt am 2. Ei destun oedd y darn arian. Llun 10
Cau a rhoid carreg ar ben y cil wrth y gegin. Mawrth 11
Eliza wedi mynd i Aberdaron, Jini yn wael. Mercher 12
Tynnu y cwt glo a dechrau y gegin fach. Iau 13
Gwneud gegin bach wrth gwt y mochyn. Gwener 14
Ocsiwn goed yn Sarn. Arian gan Lewis Jones 7/6d. Sadwrn 15 Sul 16
Evans am 2 a 6. Am 2 yn Tan y Foel yn gwrando ar Tomi Pistill Yr
Arglwydd yw fy Mugail. Am 6 yn Pisgah. Llun 17
Dydd diolch am y cynhaeaf. Mawrth 18
Anfon llythyr i Isaac. Eliza yn mynd i Ty Fair. Mercher 19
Yn Meillionydd yn tynnu mel a gweld y chwarel i godi cerrig at Plas Newydd. Iau 20
Arian oddiwrth Isaac £6 punt. Gwener 21 -
Y traxion yn dod i Ty Croes Mawr. Yn yr ysgol yn disgwyl John Thomas Tal
y Sarn ynglyn arian or gwaith. Sadwrn
22 - Bwrrw glaw heddiw. Sul 23
Cyfarfod ysgol. Parch J Gwilym Roberts yn holi. Casgliad nos 3/4d Llun 24
Dyrnu yn Ty Croes Mawr. Mawrth 25
Yn Meillionydd yn gosod y popty. Mercher 26
Pysgota gwrachod. Bore poeth. Iau 27
Yn Ty Croes Bach yn trwsio pen y stabal. Gwener 28
Yn Groeslon yn gwneud stolion ir gwartheg. Llythyr oddiwrth Isaac. Sadwrn 29
Yn Groeslon etto. Anfon llythyr i Isaac i Dieppe Ffrainc. Sul 30
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Sul braf. Llun 31
Yn ffair. Ocsiwn Nant y Carw, dod adra heibio Ty Fair. Tachwedd. Mawrth 1 -
Rhoid syment yn yr eil ar gegin. Mercher 2
Glaw heddiw. Iau 3 Gwener 4
Sadwrn 5
Sul 6
WR Jones Cricieth am 2 a 6. Sul oer gwynt or gogledd. Llun 7 Mawrth 8
Cael postcard oddiwrth Isaac o Newport, hwylio ddoe am Bordeaux. Mercher 9
Anfon llythyr ir South. Yn y Groeslon yn gosod cledrenni yn y beudy. Iau 10
Yn y Groeslon yn rhoi syment yn y preseb. Gwener 11
Adra, ffair. Dim arian gan Lewis. Sadwrn 12
Pysgota gwrachod. Sul 13
Joseff Jones am 2 a 6. Ysgol am 10 Casgliad yn 1/6d. Llun 14
Bwrrw glaw trwyr dydd. Dechra gwneud y ferfa. Mawrth 15 -
Yn Meillionydd yn ail osod y popty. Mercher 16
Yn y dre yn chwilio am gylch. Llythyr oddiwrth Isaac o Bordeaux. Iau 17
Gwneud ty bach Ty Croes Bach. Gwener 18
Dim arian gan Lewis G Jones. Gosod clo newydd ar ddrws y Groeslon. Sadwrn 19
Adra yn gwneud set ty bach Ty Croes Bach. Sul 20
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 21
Bwrrw glaw. Mawrth 22
Yn Ty Croes Bach yn pnawn. Mercher 23
Isaac yn anfon £8 adref. Iau 24 Gwener 25
Derbyn £1/10/0d gan Lewis G Jones y tal cyntaf. Bob 13/9d. Sadwrn 26
Eliza yn mynd i Aberdaron i fwrrwr Sul ac i wrando ar Richard Jones BA yn
Horeb. Sul 27
Evans am 2. Richard Jones BA yn Horeb dan nos fawrth. Llun 28
Mawrth 29 -
Anfon yr advance 2/- i Sam Jones Edeyrn. Mercher 30
Anfon llythyr i Isaac. Rhagfyr. Iau 1 Gwener 2
Yn Carreg Lefain yn gwneud drws y lle corddi. Arian gan Lewis G Jones 15/-,
Bob 7/6d. Sadwrn 3
Yn Careg Lefain etto. Marw John Griffith Shop Pencaerau. Sul 4 -
John Lewis Pwllheli am 2 a 6. Llun 5
Bwrrw glaw. Cwrdd plwy ar gownt Siafft Tyn Fron. Mawrth 6
Llythyr gan Isaac o Gaerdydd. Mercher 7
Eliza yn mynd ir dre i newid ei sgidia. Iau 8
Mam yn cwyno gan ei chefn. Angladd John Griffith, Siop Pencaerau.. Gwener 9 -
Llythyr gan Isaac. Arian gan Lewis G jones 15/-, Bob 7/6d. Sadwrn 10
Sul 11
WR Jones Cricieth. Talu am set i O Griffith 2/6d. Llun 12
Hefo Owen Carreg Lefain yn torri drws cefn. Mawrth 13 -
Pawb o flaen y Treibiwnal yn y dre. Mercher 14
- Anfon llythyr at Isaac. Anfon
11/4d am y llyfrau misol ar ordor lyfrau am y flwyddyn 1922, 6 Eurgrawn, 13
Winllan, 12 Dyddiadur. Iau 15 -
Yn Ysgo yn ail osod y popty. Gwener 16
Fi a Robert Syntyr yn mynd ir Sarn i newid y postal order 15/-. Derbyn
gan Lewis G Jones 15/-. Bob 7/6d. Baco oddiwrth Isaac o Blyth. Sadwrn 17
Y gwn mawr heddiw, dyn newydd ( Ofni mai yn nos Sadwrn yma neu nos Sul y
collwyd Isaac druan ) Sul 18 -
T Gwilym Roberts gweinidog. ( Ofni mai o bobty y Sul yma y collodd Isaac
bach yn North Sea hefo yr SS Stevenstone ) Llun 19
Yn Tan y Ffordd yn gwneud stol rhwng y fuwch Trewan a fuwch sal. Mawrth 20
Darlith yn Pencaerau i Thomas Tyn Llan. Gwynt cryf drwyr wythnos yma. Mercher 21
Llythyr or South. Gwynt. Tedi a Gruff Pwllmelyn a Bob bach a Ianto dew yn
derbyn 5/- diwaith. Iau 22
Nol cant o lo o Seaview. Gwener 23
Anfon pwdin i Isaac i Gaerdydd. Nol yr wydd o Meillionydd. Derbyn gan Lewis
Jones 15/-. Sadwrn 24
Yn gosod y sein wrth ben y drws yn Siop Newydd. Prynu hannar sachad ir
ieir yn Seaview. Sul 25
Post yn rhannu llythyrau heddiw. Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Llun 26
Mawrth 27
Disgwyl llythyr heddiw gan Isaac. Mercher 28
- Dim llythyr heddiw, mewn ofna. Iau 29 -
Gweld hanes llong Isaac yn y papur ar ol ei hamser, anfon teligram yn ei
chylch i Gaerdydd. Gwener 30
Teligram heddiw yn dweud nad oedd dim oi hanes ar ol iddi hwylio 16 or mis
yma. Sadwrn 31
Nos sadwrn olar flwyddyn ac yn nos Sadwrn du digalon. Richard Ty Fry Yma.
Diolch yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |