|
|
Dyddiadur
Ionawr, Iau 1
Turn yn y lefel chwarter cyntaf fi a EW a O J John yn colchi yr ingen hefo briga.
Codi cerrig am dri chwarter diwrnod i John. Gwener 2
Turn yn codi cerrig dan 12. Cael yr ingen bach or iard. Pnawn clirio i
gael y runners i W J wrth y jetty. Y diwrnod a chwarter wrth y dydd. Llythyr
oddiwrth Nel. Sadwrn 3
Turn yn lefel. Yn Tyn Gamfa pnawn yn teilo. Torri fy ngwallt yn Pwllmelyn yn
y nos. Sul 4
Mostyn Jones 2 a 6. Llun 5
Turn yn y lefel mynd ir lefel efo wagen, dwr wedi codi. Cyfarfod gweddi
ddechraur flwyddyn. Mawrth 6
Turn yn y lefel. Anfon parsel i Nel. Mercher 7
Turn chwarter yn y lefel a tri chwarter yn codi cerrig 20 rounds. Iau 8
Turn yn y lefel. Pau £ 1 11 10. Gwener 9
Turn yn y lefel bore yn codi cerrig pnawn 12 rounds. Sadwrn 10
Turn yn y lefel. Cael llythyr gan Nel. Yn Tyn Gamfa yn dechrau y wal yr adwy.
Thomas Ty Fry yma ar ei ffordd o Abersoch. Sul 11
Williams Rhiw. Cyfarfod gweddi am 6. Rhewi yn galed heno. Llun 12
Ellis W Davies yn yr ysgol. Turn nos. Mawrth 13
T L Williams yn Penebo am 2. Turn yn y nos. Mercher 14
Turn. Iau 15
Turn. Gwener 16
Bag Blawd wedi talu 17/6. Turn. Sadwrn 17
Yn Tyn Gamfa yn cau. Gwr Bryn Awel yn brifo ar lon newydd. Sul 18 -
Cyfarfod ysgol Horeb Uwchmynydd. Casgliad Pisgah am 2. Dim capel yn fy
ngwely trwyr dydd. Llun 19
Turn ar y lefel. Darllen papur ar ofal yr Eglwys Nebo. Mawrth 20
Turn ar y lefel. Mercher 21
Turn ar y lefel. Anfon llythyr i Nel. Iau 22
Turn yn y lefel. Pau £ 2 0 1. Gwener 23
Turn yn y lefel. Codi cerrig , Owen Jones a John yn llenwi 21 rounds. Sadwrn 24
Turn yn codi cerrig fi a Evan a Owen Jones ,
15 a hanner round. John Croesfryn yn sal. Trial y gwn yn Penarfynydd 2/6. Sul 25
Dim capel, Sul glawog. Llun 26
Gweithio nos ffeirio efo Owen Jones. Mawrth 27
Anfon llyhtyr i Clwt y Bont. Turn. Mercher 28
Turn. Iau 29
Mynd i angladd hogyn yr hen grydd. Cael llythyr oddiwrth Nel. Gwener 30
Turn yn y lefel. Anfon y blows lwyd i Nel. Sadwrn 31
Mynd i Tyn Gamfa i nol llaeth. Chwefror, Sul 1
Williams Rhiw. Llun 2
_Turn y dydd yn y lefel 5 yn gweithio, John Croesfryn yn sal. Mawrth 3
Turn yn y lefel. Codi deg round o gerrig hanner i hanner W Griffith. Mercher 4
Turn yn y lefel. Llythyr oddiwrth Nel. Iau 5
Turn yn y lefel. Pau £ 2 1 3. Gwener 6
Turn yn y lefel. Sadwrn 7
Turn yn y lefel yn codi cerrig fi a Evan a Owen Jones 23 a hanner round.
Gwneud y cwpwrdd yn y bwtri. Sul 8
Joseff Jones Neven. Llun 9
Turn. Mawrth 10
Turn. Mercher 11
Turn. Iau 12
Turn. Gwener 13
Turn yn codi cerrig 34 rounds. Sadwrn 14
Turn yn y lefel. Mynd i Tyn Gamfa. Glaw. Sul 15 -
Cyfarfod gweddi. Llun 16
Turn y fi a Evan yn mynd i godi coed i Borth yr Alm. Chwarter. Mawrth 17
Turn yn y lefel. Nel yn anfon te a fferins a brws siafio. Mercher 18
Turn yn y lefel yn bora , wier ir pwmp, fi a Evan yn codi cerrig pnawn 16
rounds. Iau 19
Turn yn y lefel Pau £2 5 1. Pwllmelyn ar Erw yn colli nos fercher. Gwener 20
Turn yn y lefel. Mynd ir ysgol, Danial Brynodol ar Bill Tir. Sadwrn 21
Turn yn y lefel. Plannu drain ar ben clawdd o dan y gegin. Anfon llythyr i
Nel. Sul 22
Gwynt mawr heddiw. Ysgol bora ychydig yn bresennol. Gwynt a glaw drwyr dydd.
Mostyn Jones am 2pm. Llun 23
Turn codi coed yn Porth Ysgo a Porth yr Alm bora, yn y lefel pnawn. Mawrth 24
Turn yn y lefel. Cael 8/- gan EW Tyn Gamfa. Mercher 25
Turn yn y lefel, William yr Erw wedi mynd ir dre. Llythyr or South.
Cael cig o Dyn Gamfa. Iau 26
Turn yn y lefel, agor box powdwr. Gwener 27
Turn yn y lefel.Yr Erw a Pwllmelyn yn llanw, mynd i fyny at Henry Thomas ar
gownt llwythi. Sadwrn 28
Turn yn y lefel mynd at yr hogia i glirio cerrig. Pwllmelyn ar Erw yn
llenwi. Drill y gwn yn Dryll Penarfynydd. W John yma yn cael te. Mawrth. Sul 1
Hugh Hughes Cricieth ar brawf. Llun 2
Turn yn y nos. Gweithiais dan 12. Llong dydd mawrth. Mawrth 3-
Turn, dim llong. Gweithio dan hanner dydd. Mercher 4
Turn. Marw Mary Brynfran. Iau 5
Turn dechra 5 . 16 rounds. Evan Williams isio mynd i dre efo John Griffith
Carreg Lefain. Gwener 6
Anfon llyhtyr ir South. Turn, Evan Williams yn dod heibio yma wedi bod yn
y dre. Sadwrn 7
Symud yr adwy yn Ty Croes Mawr. Pau £ 2 0- 7 Sul 8 R
Williams. Llun 9
Turn fi a Evan hannar i Pwllmelyn ar Erw o saith y nos dan 12. Hanes angladd
Mary Brynfran. Mawrth 10
Turn yn y lefel, y ddau yn gweithio heddiw, disgwyl llong. Mercher 11
Llwytho SS Anne 73 rounds. Iau 12
Turn chwarter yn y lefel codi y crud dan ginio, mynd ar ol cinio i Borth
Llywenan i lusgo runner ir allt. Codi cerrig dan 5, 20 rounds Gwener 13
Turn yn y lefel. Sadwrn 14-
Turn yn y lefel. Sul 15
Williams Rhiw 2 pm ysgol bora, Dechrau holi yr Allwedd EW. Llun 16
Turn yn y lefel. John Croesfryn wedi mynd i ffair newydd. Mawrth 17
Turn fi a Evan yn pasio o dan yr inglain wrth y mor, tri yn llenwi cerrig,
Croesfryn yn dechrau. Pregeth angladdol Williams i Mary Brynfran. Mercher 18
Turn fi a EW efo Thomas eto. Mellten yn lladd dafad Wil. Iau 19
Turn efo Thomas yn gorffen yr inglein a rhoid y wageni yn ei lle ar y cryd. Gwener 20
Turn ar y ffordd efo Thomas ffordd Bodwyddog. Paau £ 2 2 8. Llythyr
oddiwrth Nel yn dweud fod newyddion. Sadwrn 21
Turn yn gwneud y bont wrth yr efail yn y nant. Angladd Margaret Parc y
Brenin. Sul 22
Ysgol bora, mynd i weld hoel y fellten i ymyl Garth. Was yn dal gwningen ar ben
mynydd. Llun 23
Turn yn y lefel. Y mae defaid y Rhiw eleni yn £ 1- 12 0 i £ 1 15 0
y dafad yr un. Mawrth 24
Turn yn y lefel Siafft fawr yn rhedeg. Sam a Hugh a Robert Syntyr a Thomas Ffor yn dod in bargen ni ir
naw nos fawrth Mercher 25
Turn yn y lefel. Pwllmelyn wedi mynd ir dre efo papur ci. Anfon llythyr i
Nel. Iau 26
Turn yn y lefel. Gwener 27
Turn yn y lefel. Cael te gan Nel. Sadwrn 28
Turn yn y lefel. Drill y gwn yn Ty Croes 2/6. Anfon llythyr i Nel. Moch bach
i Dyn Gamfa. Sul 29
Joseff Jones Neven am 2 a 6. Llun 30
Llysiau yr ardd yn gorffen eto. Plannu drain Turn o 4 8. Mawrth 31
Niwl a glaw. Turn o 4 12 , 12 8 bora. Buwch Llawenan yn taflud ei
llestr. Ebrill, Mercher 1
Niwl eto. Dechrau palu lle ir penionod. Turn 4 12, 12 8 Iau 2
Plannu penionod 5 rhes o datws tair lleuad. Turn yn y lefel. Gwener 3
Turn yn y lefel Pau £ 2 0 7. Sadwrn 4
Turn yn y lefel. Croesfryn wedi colli. Sul 5 --Ysgol
bora dewis arolygwyr.Turn yn dechrau hanner nos rhaff y pwmp wedi torri. Llun 6
Gorffen plannu y forder a gorffen palu yr ardd. Cael cardyn Doctor o Gaernarfon.
Turn yn y lefel. Mawrth 7
Rhoid wyau Tyn Gamfa o dan yr iar. Turn yn y lefel, codi cerrig 26 rounds.
Cael y plan gan Nel. Mercher 8
Anfon 12 o wyau i Nel. Dechrau plan y clwt mawr. Turn yn y lefel. Iau 9
Turn yn y leflel rhoid rhaffau symud yn y pwmp. Gwener 10
Cael llythyr oddiwrth Nel yn dweud fod yr wyau wedi cyrraedd yn saff.
Gorffen plannu tatws, Eliza wedi mynd i Tan y Ffordd i osod. Turn yn y lefel. Sadwrn 11
Palu wrth y cwt glo Nel yn Gaer. Sul 12
Cyfarfod ysgol Tyddyn. William yn holi fi a Griffith Owen Meillionydd yn mynd
yno o Pisgah. Llun 13
Yn Tyngamfa yn plannu tatws, ac yn Pwllmelyn yn gwneud lle ir ieir a marcio
defaid. Mawrth 14
Turn y dydd o 8 dan 4 codi cerrig y bora, fi a Evan. Mercher 15
- Turn yn y lefel. Anfon brat i Nel. Iau 16
Yn y lefel dan 2pm. Llwytho SS Susanna dan wyth y nos. Gwener 17 -
Dechrau llwytho o 6 y bora dan 2 pm. Sadwrn 18
Turn yn y lefel dan 3 pm disgwyl llong dechrau y nos.Pau £ 1 15 9.
Eliza yn Tyn Llan yn gosod tatws. Sul 19
- Llun 20
Turn 4 12 . Yr hogiau yn madail i waith Carreg Plas Mawrth 21
Turn yn dechrau 5 dan 3 y bora. Tywydd poeth,. Ail osod y landar ffrynt. Mercher 22
Turn yn y lefel. Iau 23
Llwytho SS Kratta 73 rounds. Gwener 24
Turn yn y lefel. Sadwrn 25
Gorffen y wal o flaen y
ffenestr y llawr. Anfon postcard i Nel yn gylch y brat. Sul 26
Mostyn Jones Llun 27
Turn yn y lefel yn y dydd. Mawrth 28
Turn yn y lefel. Cael llythyr gan Nel yn dweud fod y brat wedi cyrraedd.
Cywion Tyn Gamfa yn deor. Mercher 29
Turn yn y lefel. Gwneud cerrig yn ben mynydd i roid ar ben wal y cowt Ael
Bryn. Iau 30
Turn yn y lefel., gwyr y nos yn llenwi cerrig, disgwyl llong. . Mai. Gwener 1
Llwytho SS Florence dechrau 10 dan 9 y nos. Marw Humphrey Ty Fwg Aberdaron Sadwrn 2
Turn yn y lefel. Dechrau rhoi capin ar wal o flaen ffenest y parlwr. Pau £1
14 2. Sul 3
Dim capel, Eliza yn sal, Bwrrw glaw dipyn heddiw. Llun 4
Anfon llythyr i Nel. Turn y nos. Pwllmelyn a E Williams yn cyfarfod dynion or
Cyngor Dosbarth yng nghylch y ffordd newydd. Mawrth 5
Turn eto. Aml gawod. Eliza yn papuro. Mercher 6
Hugh Jones Chwilog yn dod yma, finnau wedi mynd ir gwaith. Iau 7
Turn yn y lefel. Glaw heddiw. Gwener 8
Turn yn y lefel. Sadwrn 9
Gorffan rhoid capin ar wal y cowt, codi tyrchod efo EW Tyn Gamfa pnawn. Sul 10
Williams Rhiw. Llun 11
Turn y dydd. Mawrth 12
Turn y dydd. Mynd i ffair Aberdaron. Mercher 13
Fi a EW A Robert Pwllmelyn a John Croesfryn a Williams yr Erw yn mynd i
ffair Pwllheli. Iau 14
Turn Pau £ 2 1-6. Priddo tatws wrth y ty bach. Gwener 15
Turn. Pawb wedi mynd i ffair Sarn. Gwneud te fy hunan. Priddo tatws wrth gwt
yr ieir. Sadwrn 16
Turn. Sul 17
Casgliad at yr achos . Mostyn Jones. Llun 18
Turn y nos. Mawrth 19 -
Turn. Mercher 20
Turn. Iau 21
Turn. Gwener 22
Turn . Hel llymriad y bore. Sadwrn 23
Codi y gefnen, gwynt oer or gogledd. Sul 24
W L Brooks Harlech. Llun 25
Turn y dydd. Nol y ddafad o Dyn Gamfa. Mawrth 26
Turn y dydd. EW heb fod yn y gwaith. Mercher 27
Turn. Wedi mynd ir dre i nol coed at y gegin. Iau 28
Turn. Yr hesbin yn dod a oen. Gwener 29
Nturn. Pau £ 1 18- 6. Niwl heddiw. Sadwrn 30
Turn. Hau letis yn y llacia sydd yn y Duke of York o dan y cwch gwenyn. Sul 31
Joseff Jones Neven. Mehefin. Llun 1
Yn y Tyddyn yn bora efo Hugh, yn Ty Croes Bach pnawn yn tyllu pyst ty gwair. Mawrth 2
Turn. Mercher 3
Turn. Iau 4
Turn Sychwynt caled ( tri diwrnod). Gwener 5
Thomas fy mrawd yma. Sadwrn 6
Drill y gwn yn Ty Croes Mawr.2/6. Sul 7 J
H Williams am 10. Llun 8
Turn. Williams y Garth efo DJ Davies. Mawrth 9
Turn yn y lefel. Mercher 10
Turn yn lefel. D Jones Davies a Pwllmelyn wedi colli heddiw. Iau 11
Mynd ir Gymanfa hefor Motor Tocia. Gwener 12
Turn Pau £ 1 18 0. Sadwrn 13
Turn . Sul 14
Joseff Jones Neven. Cyfarfod gweddi am 6 hel arian trwy alw y llyfr at cyfarfod
pregethu. Llun 15-
Rhoid fframs y gwenyn. Turn y nos. Mawrth 16
Turn y nos. Mercher 17
Turn y nos. Iau 18
Cyfarfod pregethu., Roger Jones a Madog Roberts. Turn. Gwener 19-
Turn. Sadwrn
20 Cneifio efo Wil Ty Rhyd yn Penarfynydd. Bwrrw galw. Sul 21
Williams Rhiw. Llun 22
Turn Mawrth 23
Turn. Mercher 24
Turn. Iau 25
Turn Gwener 26
Turn. Sadwrn 27
Turn. Pau £ 1 14- -0. Mynd i Aberdaron yn gylch y cwch a gweld gwaith
Llanllawen. Gwenyn wedi codi. Sul 28 -
W G Hughes. Ysgol bora dim capel. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 29
Turn. Owen Cadwgan heb fod yn y gwaith. Mawrth 30
Turn. Gorffennaf. Mercher 1
Turn. Iau 2
Turn. Gwener 3
Turn Glaw mawr (tri diwrnod). Sadwrn 4
Gwneud Cwch Gwenyn. Mynd i Sarn i nol sgidia gwisgo i fi a Bob. Sul 5
Hugh Hughes Cricieth ar brawf am 2 a 6 . Glaw mawr heddiw, braf ar ol y glaw. Llun 6
Turn y dydd. Merlan Pwllmelyn yn lladd ei hun drwy redeg i wal. Gwenyn wedi codi. Mawrth 7
Turn y dydd, gorffan clirio 85 rounds. Mercher
8 Turn Iau 9
Turn. Gwener 10.
Turn dan 4 pm mynd adra i nol te a mynd yn ol i ddadlwythor llong lo drwyr
nos. Gwenyn yn codi o gwch Penarfynydd heddiw.Pau £ 1-17-4 Sadwrn 11 -
dadlwythor llong dan hanner wedi naw y bore y gwn mawr wedyn am 5,
2/6. Enw r llong y lo y Mary Gold wyrddin ( goldsworthy ?) Sul
12 Joseff Jones Neven. Llun 13
Turn y nos Mawrth 14
Turn . Mercher 15
Turn. Iau 16
Turn. Gwener 17
Cael llythyr o Chester. Turn Glaw mawr. Sadwrn 18
Nol y deryn or Garth. Glaw nos. Sul 19
Mostyn Jones am 2 a 6. Evan yn dechra. Glaw mawr. Llun 20
Turn y dydd Mawrth 21
Dafydd wedi colli.. W Griffith diwrnod llawn. Evan Williams wedi colli. Mercher 22
Dafydd wedi colli eto. Turn yn dadlwytho y Mary Goldsworthy. Owen Jones wedi
mynd i ddanfon Richard. Hugh a Dicw yma yn nol wyau a tatws. Iau 23
Turn. D J Davies heb fod yn y gwaith eto. Eliza wedi mynd i Dy Fair i nol Blawd
Ceirch. Gwener 24
Turn D J heb fod mewn. Pau £ 1 17 8. Sadwrn 25
Turn. Mynd ir dref i nol ffram gwenyn. Y lifin Office ar plisman ar
doctos efo Ann, pasio i fynd a hi ffwrdd bora llun. Sul 26
T G Ellis Aberdaron. Dim Capel. Dick mynd ir Sarn i bostio llythyr i Nel ac i
Lanbedrog. Llun 27
Eliza mynd a Ann i Ddinbych. Turn nos. Mawrth 28
Turn. Mercher 29
Hanner turn, mynd adra hanner nos, dod yn ol at bump y bora Iau i lwytho SS
Made. Iau 30
Llwytho tan ddau pnawn, diwrnod poeth, cario gwair yn Brynfran. Gwener 31
Thomas a fi, O Jones Cadwgan ac O Jones Brynteg pump yn bora. Awst
Sadwrn 1-
Glaw trwyr dydd Sul 2
Humphreys Llanbedrog. Llun 3
Turn ar y ffordd wrth Groeslon. Mawrth 4
Llwytho yr SS Kungay (?) Mercher 5
Turn ar y ffordd. Iau 6
Chwarter. Glaw. Gwener 7
Turn wrth y Groeslon. Tynnu mel or gwch uchaf. Pau £ 1 15 4. Sadwrn 8
Glaw mawr heddiw. Sul 9
Cyfarfod ysgol Aberdaron. Llun 10
Turn wrth y Groeslon. Mawrth 11
Turn. Y Gweliedydd cyntaf. Mercher 12
Turn. Tywydd poeth. Iau 13
Turn Tynnu mel o gwch Penarfynydd. Gwener 14
Turn yn Pwllmelyn hefo y gwenyn. Sadwrn 15
Gyrru gwenyn cwch canol. Turn. Sul 16
Yn Aberdaron yn y cyfarfod ysgol. Williams yn holi. Llun 17
Turn yn ffordd Groeslon, tywydd poeth. Mawrth 18
Turn, tywydd poeth. Mercher 19
Turn fi ar Erw yn mynd i Nant 2 or gloch i lenwi grafal. Iau 20
Turn yn y lefel. Gwener 21
Turn eto, yr ingen oil yn torri. Pau £ 117 4. Sadwrn 22
Turn eto, glaw yn pnanw. Sul 23
Joseff Jones Neven. Llun 24
Cyfarfod gweddi. Mawrth 25
Yn Tyn Gamfa. Mercher 26
Poen yn fy nghefn. Iau 27
Poen yn fy nghefn. Gwener 28
Pysgota efo cwch bach. Talafon dal un wrachan. Cael llythyr gan Nel. Sadwrn 29
Gosod y siwr yn Ael y Bryn. Sul 30
Pasio i ddechrau yr ysgol 9.30. Cyfarfod gweddi. Llun 31
Turn yn y lefel, RG a Dafydd heb ddod i fewn. Cyfarfod gweddi nos yn Pisgah. Medi, Mawrth 1
Turn yn y lefel eto. Mercher 2
Llwytho yr Agnes Ellen, 60 ond tair, diwrnod poeth.. Iau 3
Turn yn y lefel EW wrth y dydd yn y doman yn tipio. Gwener 4
Turn Pau £ 1-1 2. Sadwrn 5
Turn. Yn Tan y Ffordd yn trwsio ty gwair. Sul 6
Williams Rhiw, sul braf, ysgol Ellis Thomas yn dechrau. Llun 7
Llwytho SS Catherine, dechrau 5 y nos a gorffen am 12. Mawrth 8
Turn yn lefel nos. Mercher 9
Turn yn lefel. EW heb fod i fewn. Terfysg. Iau 10
Llwytho SS Anne 67 rounds dechrau 2 hyd 8. Gwener 11
Turn yn y lefel dechrau 7 hyd hanner 11. Eliza mynd efo mam i ddanfon moch. Sadwrn 12
Glaw mawr Llifio pren i wneud dau port siwr. Sul 13
Mostyn Jones, cyfarfod gweddi am 6. Llun 14
Turn yn lefel. Mawrth 15
Turn y fi a EW yn gwneud lle ir tanc yr ingen dyllu. Yr Erw heb fod i
fewn Mercher 16
Pwllmelyn heb fod i fewn. Iau 17
Turn Gwener 18
Turn Pwllmelyn colli chwarter. Pau £1 15 11. Sadwrn 19
Turn. Y gwn yn Ty Croes mawr 2/6. Sul 20
Cyfarfod gweddi am 2 a 6. Yn dechrau hanner nos. Llun 21
Hela fferet efo Pwllmelyn. Turn yn y nos. Mawrth 22
Turn. Mercher 23
Turn. Iau 24
Anfon llythyr ir South. Gwener 25
Turn John heb fod i mewn Sadwrn 26
Mam wedi mynd i Ddinbych. Anfon llythyr i Nel. Sul 27
WG Hugh. Cyfarfod gweddi am 6 Llun 28
Turn. Yr Erw wedi colli, Pwllmelyn wedi colli. Mawrth 29
Turn. Erw wedi colli. Mercher 30
Turn. Hydref, Iau 1
Turn yn lefel yn bora, llanw mewn. EW yn y doman. Erw wedi mynd i angladd. Marw
Ann. Gwener
2 Hanner turn Bob yn fy nol, Ann wedi marw yn Denbich, fi a Dick mynd
i Sarn Bach at Tomi. Sadwrn
3 Mynd ir dref efo mam. Sul 4
Williams Rhiw am 2 a 6.Mynd ir Berch fi a Thomas, yn cychwyn am Ddenbich,
cysgu yn ty Bob yn Bangor. LLun 5-
Cychwyn o Fangor am Ddenbich, cysgu yn Denbich. Mawrth 6
Cychwyn hefo corff 10 to 10 bora cyrraedd Pwllheli am 2 claddu gydar nos. Mercher 7
Bob Caer yn mynd i ffwrdd mam a Dick a fi yn mynd i ddanfon o a Thomas i
Bwllheli. Turn y nos. Iau8
Turn EW colli eto. Gwener 9 -
Turn EW wedi colli. Sadwrn10
Hela a nol dwr o gilgena. Sul 11-
Hugh Jones. Llun 12
Turn. Mawrth 13
Turn Mercher 14
Turn Croesfryn yn colli. Iau 15
Turn. Gwener 16
Turn Pau £ 1 7- 3. Sadwrn 17 Sul 18
Bachgen diarth Neven. Llun 19
Diolchgarwch. Mawrth 20
Turn nos. Hanner sachad ir ieir. Mercher 21
Turn Pwllmelyn wedi colli. Iau 22
Turn. Y ddafad yn cael myrharan. Gwener 23
Turn. Sadwrn 24
Cario rhedyn efo Dick. Sul 25
Williams Rhiw am 2. Ysgol bora, glaw mawr. Dyn diarth oedd efo Williams am 6. Llun 26
Turn Ew yn llenwi am chwarter. Mawrth 27
Turn Willyr Oerfa wedi colli
chwarter, Pwllmelyn yn llenwi dan naw, hel y stwff i lawr dan ddeuddeg. Te o
Gaer. Mercher 28
Turn. Pwllmelyn colli chwarter. Heffar i Tan y Ffordd. Iau 29
Turn . Gwener 30
Turn. Croesfryn wedi mynd i ocsiwn Pen y Bont. Sadwrn 31
Turn. Pau £ 1 - !5 0. Cau yr wal wrth hiwal Ty Croes mawr yn pnawn. Tachwedd, Sul 1
Mostyn Jones Pwllheli. Glaw, bora 8 yn yr ysgol. Mostyn yn pregethu ar y
genhadaeth.Turn EW a Croesfryn heb fod mewn. Llun 2
Turn. Croesfryn wedi mynd ir ffair. Mawrth 3
Turn. Mercher 4
Turn. Croesfryn wedi mynd adref yn sal. Bag o flawd o Seaview. Iau 5
Turn. Gwener 6
Turn. Gosod wires yn Bytilith dal 7. Sadwrn 7
Hela efo Dick a Pwllmelyn. Sul 8
WG Hugh Cricieth. Llun 9
Turn. Pwllmelyn heb fod mewn. Owen Bryteg wedi colli chwarter. Stopio hogia am
beidio gweithio nos sul. Mawrth 10
Turn. Yr Erw wedi colli chwarter. EW wedi bod tan 9 yn tipio. Mercher 11
Ffair gyflogi. Cael fy watch or dre. Turn yr Erw a Pwllmelyn wedi mynd
ir ffair. Iau 12
Turn Yr Erw wedi colli hanner. Arian cwnhingod 3/8. Gwener 13
Turn. Will a Parry wedi colli hanner. Pau £ 1 10 0. Glaw. Sadwrn 14
Turn
Bag o flawd i Tan y Ffordd. Gwneud stall y cyw yn Tan y Ffordd. Sul 15
Cyfarfod gweddi am 6. Llun 16
Turn. Mawrth 17
Turn. Eliza wedi mynd i Aberdaron. Mercher 18
Turn Pwllmelyn wedi colli. Iau 19
Turn O Parry wedi colli. Angladd Griffith Brynfwc.Yr Erw wedi colli hanner. Gwener 20
Turn yn llenwi myc a cerrig fi a E Williams. Sadwrn 21
Turn fi a EW yn llanw cerrig.Torri mieri yn cae Tyn Morthwyl. Sul 22
H Hughes bachgen o Cricieth. Llun 23
Turn. Nol y fudda o dy Griffith Saer, corddi mel. Mawrth 24
Turn. Gorffan corddi mel. Mercher 25
Turn. Iau 26
Turn yn llenwi myc bora a llenwi cerrig pnawn. EW heb fod i mewn WE wedi colli
chwarter. Gwener 26
Turn yn tyllu. Maggie hogan Richard fy mrawd yma. Sadwrn 27
Turn yn tyllu, llenwi 12 wagen or lle rwyf i ar Erw. Halltu y chwarter
mochyn. Sul
28-Humphreys Llanbedrog. Llun 29
Turn. Llythyr or South. Rhagfyr. Mawrth 1
Turn. Yn dechrau nos. Mercher 2
Turn. Gwynt mawr bob dydd. Iau 3
Turn Gwynt mawr. Gwener 4
Turn. EW wedi colli diwrnod. Sadwrn 5
Turn. Rhoid tin ar y cwch gwenyn rhag ofn iddo ollwng dwr. Sachad ir ieir. Sul 6 -
Williams Rhiw. Marw Isaac y Rhiwlas. Llun 7
Turn nos.. Mawrth 8
Turn Mercher 9
Turn. Iau 10
Angladd Isaac Rowlands. Turn. Jones y coperetyf. Gwener 11
Turn Pau £ 2- 15 0. Sadwrn 12
Yn yr Erw yn trwsio talcen y beudy. Dick yn colli fferet. Sul 13
Cyfarfod ysgol, Mostyn Jonea yn holi. Llun 14
Turn. Dau o hogia o Fangor yma yn gosod wire i ben mynydd. Mawrth 15
Turn. Mercher 16
Turn. Dechra 5 cwch gwenyn. Anfon mel i Nel. Tri o hogia yma heno yn
chwarter, cysgu. Iau 17 -
Cael postcard gan Nel.. Llythyr or South yng nghylch cardyn doctor.
Blawd wedi talu £ 1 2 0. Gwener 18
Hanner. Ocsiwn gwaith y mynydd. Sadwrn 19
turn. Mynd i Tan y Ffordd pnawn dechrau yn hiwal. Sul 20
Hughes Cricieth. Turn nos. Llun 21
Turn. Mawrth 22
Turn. Mercher 23
Turn. Iau 24
Yn Tan y Ffordd yn gwneud yr hiwal. Pau £ 3 1 2 . Gwener 25
Dim mynd oddyma. Porth Llywenan gydar nos. Sadwrn 26
Thomas o Liverpool. Richard Lon Las a Ben yn logio y Liverpool. ( lodgio) Sul 27
Casgliad yn yr ysgol. Cyfarfod gweddi am 6. Llun 28
Turn. Sam a Hugh yn dechrau cyfarfod gweddi nos, eira wrth ddod adra. Mawrth 29
Turn. Seiat. Eliza yn llosgi ei braich. Mercher 30
Turn. Parry wedi colli chwarter. Gwynt a glaw mawr Iau 31
Turn yn pigo myc or domen, fi EW, WE., a O Parry. ~~~~~~~~~~~~~~ Diolch
yn fawr i Mr E Morris. |
|
Copyright © Rhiw.com |