"Daniel Rowlands"

(1906)

Dymar ychydig hanes sydd gennym am y Rhiw. Yn weithafol, yr hyn a ddarganfuwyd yma fwyaf, ydyw y manganese ac yr oedd yma ychydig o weithio arno bron yn gyson, ers tua can mlynedd yn ol neu fwy, ond eu bod yn gweithio ar raddfa fechan. Y ffordd oedd ganddynt, oedd torri shafts i lawr ir ddaear ac yna gweithio trwy levels ohonni ai gario gyda bwcedi i enau y shaft, ac yna ei godi i fyny.Yr oeddynt yn gweithio mewn lleoedd bychain iawn ac yr oedd y cerrig haearn y pryd hynny yn hollol ddiwerth a felly yr oeddynt yn mynd trwy lefydd leoedd bychain iawn i ffendior mango ac yn storio cymaint ag y gallent or cerrig haearn i lawr yn y ddaear, gan eu bod mor drymion iw codi ac nad oeddynt i ddim pwrpas. Fe fyddant arfer a gweithio i mewn dan y ddaear yn ystod misoedd y gaeaf, a thua dechrau yr haf, fe fyddant yn golchi y mango, ac yn ei falu, ai gario i lawr i lan y mor i gael ei anfon i ffwrdd gyda llongau bychain fyddai yn dod ir glenydd gyda llwyth o lo neu galch. Y ffordd oedd ganddynt iw gario i lawr oedd gyda troliau,os oedd yn bosub mynd a throl i lan y mor, neu mi fyddent yn eu gario mewn bagiau bychain ar gefn mulod, neu farlod, ac fe fyddant yn ei gario felly o Nant y Gadwen i Borth Cadlan, ac fe fuont yn cario llawer felly hefyd i Abersoch.

Nid oedd manteision na chyfleusterau i wneud rhyw lawer o fasnach yma yn yr hen amser, yr amser honno fe fyddai pawb yn byw ar gynyrch y tir, ac nid oedd rhyw lawer o angen cael ond ychydig yma, gan mai pobl gyffredin oedd y rhai oedd yn byw yma.Nid oedd yma siopau ond rhyw ychydig bethau yn cael eu cadw mewn tai annedd.

Yn nechrau y 19fed ganrif nid oedd yma yr un addoldy gan yr ymneillduwyr, ond cynhelid gwasanaeth mewn tai annedd,ond tua y flwyddyn 1813 fe adeiladwyd capel gan yr annibynwyr ar ben y mynydd, ac heb fod ym mhell oddiwrth yr un adeg fe adeiladwyd dau arall, un gan y methodistiaid, ac un gan y wesleiaid.Nid oedd yma chwaith yr un math o le i gael addysg elfennol ir plant ond byddai ychydig o rieni oedd a modd ganddynt yn anfon eu plant i Aberdaron ir ysgol, ond tua hanner can mlynedd ynol fe fu rhai yn cynnal ysgol yng nghapel yr annibynwyr, ac fe fuGriffith Parry Tynlon un genedigol oddiyma yn cadw ysgol yn ysgubor Tynlon. (fel mae)Mewn cylch o tua milldir isgwar y mae yn bresenol tua cant o dai, tri capel, un ysgol elfenol, un dafarn, tri o fasnachdai "Grocer", dau o fasnachdai cryddion, un masnachdy teilwriad, un efail gof, nyghyd ag un masnachdy blawd a glo.Y mae yma ddau o gwmniau seisnig yn gweithio y gwaith manganeses, ac y mae yma un gwaith arall newydd ei agor. Y mae y hyn yn cael eu gweithio ar raddfa llawer iawn eangach nag yr oedd gweithio arnynt yn yr amser gynt.Maer cerrig haearn erbyn hyn wedi dod yn werth mewn marchnad ac am y rhai hyn y mae chwilio yn bresenol. Y mae tua saith neu wyth ugain o ddynion yn gweithio yn bresenol yn y gweithydd, ac y mae yma bump o agerbeirianau yn gweithio bob dydd, ac un arall ar fi n gael ei osod .Maent yn bresenol wedi clirio gwyneb y ddaear oddiarnynt ac yn codi y cerrig i fyny gyda "Steam Crane"ac agerbeirianau eraill yn eu codi ar hyd "Rails".Maent yn cael cannoedd o dunelli yn rhyddion yn y ddaear, y rhai y bu eu hynafiaid yn gweithio am amser mawr arnynt am ddim, a dyna ellir ddweud am hyn fel am bob peth arall mai "eraill a lafuriasant a chwithau a aethoch i mewn iw llafur hwynt"

Gweithwyr_Benallt_1907.jpg (119373 bytes)

         Benallt yn1907

Y ffordd iw cario i lan y mor yn bresenol yw gyda rheilffordd o un gwaith ar yr hon mae agerbeiriant yn gweithio, y mae y gwaith arall wedi gosod "Wire Rope" i fyny ar fath o bolion, ynghyd a bwcedi yn cario tua chwe chant o bwysi yr un arni ac y mae y lawn yn mynd lawr ar hyd un ochr ir "Wire, ar wag yn dod i fyny ar yr ochor arall.

Y mae yma hefyd lythyrdy ar "Telephone yn gweithio ynddo, ac mae llythyrgludydd yn myned trwodd yn ol a blaen or Sarn i Pencaerau bob dydd ond y sul. Mae llythyrgludydd hefyd yn mynd allan oddiyma bob dydd trwy yr ochr orllewinol ir mynydd,bob dydd llun, mercher, a gwener ar ochor ddwyreiniol y tri diwrnod arall.

Ysgol_rhiw_2.jpg (100400 bytes)

 Llythyrdy ac Ysgol Rhiw

Y mae cyfleusterau teithio oddiyma yn llawer gwell nag yr oedd, fe ellir cael myned oddiyma i Pwllheli bob dydd mercher, mae yma bedwar o gerbydau teithwyr yn myned ac y mae un myned bob dydd sadwrn.

Y flwyddyn ddiwethaf fe ymwelwyd ar ardal hon, fel bron bob un arall gan Ysbryd Duw mewn modd grymus ac fe ychwanegwyd llawer at yr eglwysi.Y mae yma ar ol hyny gyfarfod gweddi Undebol yn cael ei gynal bob nos lun yn y tri capel yn eu tro, mae hefyd gyfarfod gweddi bob nos fercher gan bobl ieuanc. Ers tua pedair mlynedd mae yma gyfarfod llenyddol yn cael ei gynal ym mis mai ac wedi troi yn llwyddiant, ac yn gwneud lles mawr gydar canu yn enwedig yn yr ardal.

Ers ychydig wythnosau fe ddechreuodd nifer o ddynion ieuanc yma ffurfio gydai gilydd i chwarae y bel droed, a gresyn yw clywed fod y rhai fu yn canu "Ar ei ben bur goron a Pen Calfaria nag aed hwnnw byth om cof", yn myned yn ol ac yn difyru eu hunain mewn cicio y beldroed a bod ym mysg y rhai sydd yn tyngu a rhegi ac yn cymeryd enw Duw yn ofer, ac yn wir rhai ohonynt wedi troi yn ol ac wedi dychwelyd fel ci yn ol at ei chwdfa, ond gobeithio y bydd hyn yn cael ei dynu yn ol yn fuan ac y ffurfir rhywbeth gwell i dreulio oriau hamdden.Y byddir yn prynu yr amser fel y dywedodd yr Apostol Paul wrth yr Effesiaid, ac nid yn ei dreulio fel gwerth yn nwylo ffyliaid.(Fel y dylai fod) Ni a gredwn y dylid sefydlu llyfrgell yma, ir nifer mawr o ddynion ieuanc sydd yma gael myned iddi i ddarllen yn bresenol nid oes yma ond cerdded yn ol a blaen ar hyd y ffyrdd neu ynte y dafarn iddynt i gael i fyned, gan fod amryw yn lletya yma nid ynt yn hoffi bod yn y llety gydar nos , ac fe ddylid cael lle iddynt i gael treulio eu horiau hamddenol. Fe ddylid hefyd sefydlu Cymdeithas Lenyddol yn wythnosol neu yn fisol yma yn ystod misoedd y gaeaf a cheisio rhoddi mwy o awydd yn ein ieuenctid i ddarllen, i siarad , ac i ganu yn gyhoeddus, y mae lle i ofni fod yma lawer yn yr un brofiad ag y bu Solomon unwaith sef bod darllen llawer yn flinder ir cnawd ac nad oes diben ar wneuthur llyfrau lawer. Ceisio sefydlu Cyfarfod Darllen i chwilio ac edrych i mewn i air Duw gan mai dyma a ddylaifod rheol bywyd pob dyn, ac wrth hwn fe fyddwn yn sicr i gael ein barnu. Cofus gennym glywed fod y diweddar Barchedig Stephen Tanymarian yn dweud fod bechgyn yn meddwl fod tri peth yn angenrheidiol cyn y byddent yn ddynion, sef cael mestas, ysmygu, a chanu bass, ond dyna oedd yn ei ddweud nad oedd hyny o angenrheidrwydd yn gwneud neb yn ddyn yng ngwir ystyr y gair, ond mai y ffordd oedd y Salmydd yn ddweud oedd mai erth ymgadw yn ol gair Duw yr oedd llanc yn glanhau ei lwybr ac yn dod yn ddyn.

Dyna a allwn ddweud am Rhiw fel y dylai fod yn ymgadw yn ol gair Duw, rhodio yn ei ddeddfau ai orchymynion yn fyfyrdod i ni beunydd fel y gallwn ddweud fel y Salmydd "Llusern yw dy air im traed, a llewyrch im llwybrau.

 

Map or Safle                Website Map

Copyright Rhiw.com