"Atgofion y Rhyfel"
gan
Rachel Jones

 

Holi Nain, Mrs Rachel Ann Jones am ei hatgofion o’r Ail Ryfel Byd.- Elin Gwawr Morris.

**********

Ydych chi’n cofio pan ddechreuodd y Rhyfel?

Mi dorrod yr Ail Ryfel ar fore Sul 3ydd o Fedi 1939. Ar fore Sul tua un ar ddeg yn y bore mi ddaeth newyddion ar y Radio fod Hitler ddim wedi cydsynio a’r cynigion a ofynnwyd iddo felly ‘roedd y rhyfel wedi wedi cychwyn a pawb i gario ei Gas Mask efo nhw. ‘Roedd pawb i fynd i rhyw ganolfan penodol i’w nol – ac roedd cosb os y byddech yn mynd allan hebddo.

Pan fyddai’r seiren yn mynd ‘roedd pawb i adael,popeth a mynd dan gysgod. ‘Roedd yna air raid shelters fel y gelwyd hwy mewn gwahanol lefydd wedi eu hadeiladu ymlaen llaw achos mi roedd bygwth y rhyfel wedi bod ers tua blwyddyn yng nghynt. Eto mi ddaeth Mr Chameberlain; y Prif Weinidog ar y pryd yn 1938 yn ol o Germany a dweud y byddai heddwch yn ei amse (Peace in our time) Ond blwyddyn wnaeth yr heddwch barhau ac fel canlyniad fe ymddiswyddodd Neville Chamberlain a daeth Winston Churchill yn ei le.

Faint oedd eich oed?

Rhyw un ar bymtheng oed oeddwn pan dorrodd y rhyfel ac ‘roeddwn wedi mynd i Lundain at Gymry oedd yn cadw siop laeth. Doeddwn i ddim digon hen i fynd i nyrsio bryd hynny er mai dyna oedd fy mwriad.

Wedi mi gael fy nwy ar bymtheg mi ges i fy  nerbyn i St Luke’s Hospital Chelsea. ‘Roedd yn waith caled gyda dim ond un diwrnod o’r wythnos yn rhydd weithiau doedd dim amser rhydd o gwbwl os byddai’r bomiau wedi disgyn yn drwm. ‘Roedd yr ysbyty yn ymyl Chelsea Barracks, lle roedd cannoedd os nad miloedd o filwyr yn byw. Un noson ‘roeddynt yn ceisio bomio’r barracks ond bomio’r ysbyty ddaru nhw. ‘Roedd yn adeilad hir a’r wardiau pob pen i a choridor yn y canol lle ‘roedd ystafelloedd y meddygon a’r chwiorydd. ‘Roedd nyrsys mewn adeilad arwahan ond y noson honno cafodd y coridor yma ei fomio i’r llawr. ‘Roedd yn olygfa ofnadwy – y wardiau yn sefyll ond dim talcen iddynt, ond chafodd neb ei ladd – roedd pawb wedi gorfod mynd i weithio am fod gymaint o gleifion wedi dod i mewn. Pan ddaeth yn oleu dydd roedd rhaid cael lle i’r cleifion mewn gwahanol ysbytai a rhannu’r nyrsys hefyd. Mi roeddwn i’n un o’r rhai aeth i Lewisham Hospital. Rhyw chwe mis y buom ni yno. Cawsom ein symud i Dartford Kent wedyn lle o’r enw Joyce green. Hen ysbyty clefydau heintus oedd hon wedi bod rhyw dro ond doedd hynny ddim yn bod bellach. Felly, fe’i agorwyd yn ysbyty gyffredinol i dderbyn cleifion o ysbytai Llundain, gan fod gymaint wedi eu bomio roedd y rhai oedd yn medru, yn gorfod dringleddu a gwneud y goreu o eraill. Roedd gwydr yn gwneud llanast ofnadwy, roedd yn gweithio ei hun allan o’r corff a’i pennau hefyd ymhen diwrnodiau ac wedyn roeddynt yn gorfod mynd i’r theatr i’w gael allan a mi allasai hynny ddigwydd lawer gwaith i’r un person. Roedd Joyce Green yn nghanol caeau wrth ei fod wedi bod yn ysbyty heintus – ond ‘roedd Gwaith Nwy yn Dartford rhyw ddwy filltir i ffwrdd a baracs filltir yr ochr arall. Mi gafwyd bomiau o gwmpas ond dim ar yr ysbyty ei hun. Yn Llundain roedd llawer iawn o deuleuoedd heb fod yn eu cartref – mewn bunks yn y steision dan ddaear oedd ei noddfa – golygfa drist a thruenus oedd gweld plant bach yng nghanol y swn a’r llwch. Roedd yr ysbyty yn derbyn milwyr oedd wedi brifo yn Ffrainc a lle bynnag. Roedd rhai heb goes neu goesau a llawer o wahanol anafiadau ond er mor drist y sefyllfa ar adegau cafwyd llawer o hwyl a mi roedd pawb rhywsut yn cael nerth i gario ymlaen.

Oeddech chi yn gorfod gwneud heb bethau adeg rhyfel?

Roedd bwyd ar rations rhye 4oz o fargarin a rhywbeth yr un fath o siwgwr a chaws y caem bob wythnos. Dydw i ddim yn cofio’n iawn ond reoddech chi’n gorfod rhoi rhyw docynnau am fara hefyd tua dwy dorth yr wythnos gaem ni. Doedd hi ddim mor ddrwg yn y wlad, roedd ffermydd yn corddi a gwneud menyn ac yn ei werthu ar y slei. Fferm oedd gennym ni adref yn Ne Cymru a byddai mam yn gyrru parsel weithiau efo menyn ynddo. Roedd rhyw hanner dwsin ohonnom yn ffrindiau agos a byddwn yn mynd i’n stafell a bwyta’n wirion. Roedd y ffermwyr yn cael extra ar gyfer cynhaeaf gwair a chneifio, felly byddwn innau yn elwa ar yr amser yna. Roedd un ferch arall yn dod o’r wlad a fferm oedd ei chartref hithau hefyd, felly roeddem ni’n gwneud yn rhyfedd iawn, ond roedd yna adegau llwglyd weithiau. Dwi’n cofio un o’r genod wedi cael diwrnod rhydd a gymaint eisiaiu bwyd fe gafodd hyd i grystyn bara oedd mor sych fedra hi ddim cael ei dannedd iddo, nes ei roi mewn dwr i’w feddalu.

Roedd son fod y rhyfel am orffen a’r bomio wedi arafu tipyn erbyn hynny – felly penderfynnodd tair ohonnom symud yn ol yn nes i Lundain i Hillingdon yn ymyl Uxbridge. Dyma’r bomio’n dechrau wedyn a’r tro yma Doodle Bugs oedd ganddynt sef rhyw fath o awyren heb ddyn ynddi. Buan iawn y daethom i ddeall os oedd un uwchben a’r injian yn stopio y byddai’n syrthio a’n bomio. Cyn y Doodle Bugs roedd Molotov Baskets bom oedd yn chwalu i fod yn gannoedd o fomiau tan ac yn rhoi adeiladau ar dan. Erbyn hyn roeddwn wedi cyfarfod a taid (Emlyn) trwy un o fy ffrindiau, ac ym mis Medi 1945 cafodd ddod adref am saith diwrnod o’r Almaen, os cofiaf yn iawn, cyn iddo fynd i Affrica ac fel gwnaeth llawer yr adeg hynny, priodi a mynd i ffwrdd am bron flwyddyn arall.

Pan ddaeth y newydd fod y rhyfel wedi gorffen roedd yna lawenydd mawr a miri ym mhob man a te parti ym mhob stryd, pawb wedi rhoi beth oedd ganddynt yn fwyd – cacennau wedi eu gwneud efo powdwr wy a dim marjarin. Doedd dim llawer o flas ond roedd rhywbeth yn well na dim.

Ray a Emlyn, ar ôl y rhyfel

Yna fe aeth y ddwy olaf ohonnom i Oxford – lle reit braf a dim bomiau erbyn hyn, ond y rations yn dal i fod ac yn niwedd Awst 1946 mi ddaeth Taid adref wedi gorffen bod yn filwr, ond mi roeddwn i wedi dod rhyw fis o’i flaen o glywed ei fod ar ei ffordd adref. Braidd yn ansefydlog ac ansicr oedd hanes pawb am rai misoedd, ond wedi dechrau gweithio a mynd yn ol i’w trefi blaenorol mi setlodd pawb ond yn teimlo fod chwe mlynedd o’i ieuenctid wedi ei golli ac wrth sgwrs yn teimlo’n ffodus o fod wedi cael dod adref, lle collodd miloedd eu bywydau. Dim ond gobeithio na chawn ryfel eto – y fath wastraff ar bobl ifanc yn fechgyn a merched.

********

Diolch i Mrs E Morris, am y gwreiddiol

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com