|
|
"Atgofion Lizzie I"
"Lizzie yn 1910" Dwy
flynedd gafodd yr ugeinfed ganrif o flaen arnaf, a chofiaf yn dda bethau a
ddigwydddodd pan oeddwn yn bedair oed. Yn ystod
y gyda’r nos daeth bwgan acw ac agor y llidiart bach a arweiniai i’r cownt,
a dyna lle roedd twrrw mawr fel tasa tsaen yn cael ei llusgo. Rhedodd fy mam i
gloi y drws, wedyn diffodd y lamp a mynd i fyny’r grisiau yn ddistaw bach i
drio gweld y bwgan ac edrych tebyg i beth oedd o. Yr oedd yn noson dywyll fel y
fagddu a’r unig beth a welsant oedd rhywbeth gwyn mawr, a phasiwyd i sicrwydd
mai rhyw ysbryd oedd o. Ges i beidio mynd i ngwely, gan fod ofn arnaf ac aeth
pawb i lawr i swatio yn y gongol wrth y tan. Ymhen oriau daeth fy nhad adref ,
ac ar ol iddo glywed yr hanes aeth i’r ardd i gael golwg ar y bwgan, a be oedd
o ond hen fulas wen George Stoneman, wedi crwydro oddi cartref a charchar chain
arni, dyna be oedd yn cyfri am yr holl dwrrw. Bu raid i fy nhad ddanfon y ffrind
adref, gan gymaint ei hofn, er fod problem y bwgan wedi solfio. Dylwn egluro mai
sais oedd George Stoneman wedi dwad i weithio i’r gwaith fel saer coed o
ochrau Devon, adeiladodd byngalo iddo i hun a’i deulu a buont yn byw yno am
flynyddoedd. Cofiaf yn dda am y plant arferant fynd i’r ysgol efo mi, Leslie
yr hynaf, Don yr ail a Violet yr ieuengaf ac roeddent wedi dod yn Gymry glan.
Cyfarfu george Stoneman a damwain tra yn gweithio ar y stage yn Nant Gwythern a
drodd yn angeuol iddo, ar ol hynny aeth y teulu bach yn ol i Devon. Cofiaf yn
dda am lawer o enwau oedd yn gyfarwydd iawn i mi yr adeg honno fel Twm Sais,
Dafydd Caerlleon, Nafi Mawr a Mr Shaw Rheolwr y gwaith. Yr adeg
yma byddai llongau yn dwad i gario y cerrig haearn i ffwrdd ac yr oedd dwy stage
un Ym Mhorth Neigwl a’r llall Ym Mhorth Ysgo, a phleser mawr i mi
cyn dechrau mynd i’r ysgol erioed oedd cael mynd i ddanfon te i fy nhad
i Borth Ysgo ar ddiwrnod llwytho llong a chael brechdan o’r fasged a honno mor
flasus. Ni chofiaf ond enwau rhai o’r llongau,
fel ‘ Carlingford Loch, Maud , Jennie, Sara Anne, a’r Mabel’. Roedd dwy
arall a adnabwn yn dda wrth eu gweld yn y bae ‘Y Dora, a’r Rebecca cariai
rhain o Bwllheli. Diolch i Mr & Mrs R Williams, am eu cymorth. |
|
Copyright © Rhiw.com |