|
|
Atgofion Lizzie II Gwrthrych
y testun heno yw G E Jones, hen ysgol feistr y Rhiw. Daeth yma mi gredaf tua’r
flwyddyn 1906, ac iddo ef yr adeiladwyd Ty’r Ysgol yn y flwyddyn 1908. Ni
fynnai ef ei alw yn Ty’r Ysgol ond Talfarrach, a meddyliai y byd o’r enw. Ysgol Rhiw yn 1910 Credaf
mai brodor o’r Felinheli ydoedd, ond o Nant Peris y daeth yma, a thra bu yno
bu yn arweinydd y seindorf ac enilliodd lawer o wobrau. Yr oedd yn fardd ac yn
gerddor gwych ac adnabyddid ef wrth y ffugenw ‘Ifan Efrais’. Yr oedd yn
athro da a chanddo gryn ddylanwad ar y plant hyd nes yr aeth Penponcyn a’i
holl fryd a’i amser wedyn aeth i’w grogi ac ni faliai am ddim ond am gwrrw. Yr oedd yn athro Ysgol Sul tan gamp, ac ef oedd cyfeiliydd cyntaf Tan y Foel. Byddai hefyd yn cyfeilio mewn cymanfaoedd, ac yn arwain hefyd, a mewn cyfarfodydd llenyddol a gynhelid yn y Rhiw yr adeg hynny ef fyddai yr arweinydd bron bob amser. Yr oedd yn alluog eithriadol a chanddo ystor o lyfrau a chaneuon a cherddi, ond roedd ganddo llyfr arbennig iawn, a galwai hwn y ‘llyfr du’, a dywedid fod yn hwn bob math o bethau, a balch fuaswn o wybod beth yw hanes y ‘ llyfr du’. Capel Tan y Foel Yn
wleidyddol, Rhyddfrydwr selog ydoedd, a phan oedd D P Williams yn ymgeisydd dros
Llanberis aeth yr holl ffordd oddiyma i roi ‘vote’ iddo, ac wir cryn benyd
oedd teithio o Rhiw i Lanberis yr
adeg hynny. ‘Dewyrth
fyddai yn galw ei hun, wn i ddim pam, a dyna fyddai pawb yn ei alw. Unwaith
roedd John Evans Bootle yn Nhanfoel, a phan ddaeth i lawr o’r pwlpud dyma
ysgwyd llaw efo ‘Dewyrth oedd yn hen gyfaill iddo, “ Sut hwyl John Evans
?” meddai “ Drwg iawn” meddai
yntau “Wedi cael profedigaeth fawr, newydd gladdu’r wraig” “Wel, wel”
meddai yntau “Mae ‘Dewyrth. Wedi claddu dwy”!!!!! ‘Dewyrth
wedi mynd i ras gwn Betws Garmon efo rhai eraill o’r Rhiw yam ac wedi cael
o’r mwya i yfed yno, ac yn cyfarfod Rhys Lewis gweinidog Betws Garmon ac wrth
ysgwyd llaw, ‘Dewyrth yn toi draw, rhag i Rhys Lewis glywed ogla diod arno. Cymerai ddiddordeb neilltuol mewn corau ac ni bu yn ormod ganddo gerdded am Tudweiliog neu Dinas fel ‘ditectif’ os gwyddai y byddai cor yn ymarfer yno. Unwaith roedd un o gorau mawr y Rhiw yn ymarfer a ‘Dewyrth yn cyfeilio iddynt a dyma fo yn dweud yn sydyn, “Do mi fum yn caru saesnes”, a’r cor yn canu’r cydgan ‘Hob y Deri Dando, a disgwyl wedyn i ‘Dewyrth fynd ymlaen, ‘Hen globan fawr anghynnes’, ond dyma ‘Dewyrth yn deud “Ond mi priodais i hi a dyna dorri ar y sbort”!!, dro arall dyma fo yn dweud “ Mi fasa ‘Dewyrth yn sbio ar bob eglwys yn mynd ar dan,” ond bod o yn mynd yno ambell dro am fod wedi gaddo wrth Lil. Arferai
gael llefrith a llaeth yn Nhyddyn Meirion, a phan yn dwad i fyny Lon Las, dyma
Isaac Ael Bryn yn dwad i lawr ar gefn rhyw fath o feic just ffram a dwy olwyn
dim tyres wrth sgwrs, ac yn sgrialu heibio ‘Dewyrth, a dyma be ddywedodd
“Grym annwyl beth welwn i yn dwad ond Isaac ar gefn angau”. Corddi
yn Tyddyn Meirion Dro
arall un o’r plant yn dod i’r ysgol yn hwyr, a ‘Dewyrth yn gofyn “ Where
been skeets?”, dyna i ffordd o ofyn
bob amser, “Hel wyau cornchwiglod syr” meddai Dafydd, “Lle ma nhw?” “
Mhoced i syr” meddai Dafydd, wedyn dyma leinio ei bocedi nes roedd y wyau yn
llifo yn felyn hyd y llawr. Dro arall dyma Dafydd yn dod i’r ysgol dipyn yn
hwyr, tan ddrymio ei draed, er mwyn cael sylw mae’n debyg, ac wedi torri ei
wallt i gyd Q P & all, a dyma ‘Dewyrth yn sbio dros ei sbectola gofyn
“Grym annwyl o lle daeth y feipen benoeth”!!! hyn er mawr ddifyrrwch i ni
gyd. Roedd y
llong lo mewn bri mawr pan oedd ef yma, ac amryw o’r bechgyn mwyaf wedi dianc
i lawr i’r Huol i’w gweld un tro, a dod i’r ysgol yn hwyr a drymio eu
traed wrth farchio yn un rhes i fewn, a’r unig beth ddywedodd o oedd “Wel
dyma’r colliers wedi cyrraedd”. Dwn ni ddim fasa hi yn pasio mor ddiseremoni
a hynna heddiw. Adeg
claddu ei wraig yn Aberdaron roedd wedi bod yn slotian reit ddel trwy y bore, ac
wrth gychwyn, dyma fo yn deud wrth William Hughes Conion, yr hwn gludai yr arch
yn y car a’r ceffyl,”Pan weli di ‘Dewyrth yn codi ar ei draed, chwip arni”,
hynny wrth sgwrs i ddangos nad oedd ddim rhy fuan i gyrraedd, ac yn nhro Tyn Lon
duma ‘Dewyrth ar ei draed a dyma chwip. Pan
fyddai yn mynd i Penponcyn byddai yn mynd ar ei liniau ar lawr er mwyn cael y
ffroth i gyd oddiar wyneb y peint, “Fel na choller dim” meddai. Yr oedd
ganddo un hobi, a dyna oedd garddio, byddai gardd Talfarach yn werth ei gweld o
bob math o flodau ac ni weldwyd hi byth wedyn yr un fath. Byddai yn mynd o
gwmpas gyda’r nos i hel tail ceffylau ego shovel a rhyw ferfa bach, a’i
gario i gyd i’r ardd. Dylaswn
fod wedi deud mai ei hoff gan oedd ‘De Campden races are five miles long, Do
Da Do Da Day., dyna fyddai yn ei ganu yn yr ysgol ac oddiyno. Ers
llawer blwyddyn bellach mae yntau yn huno ei hun olaf ym Mynwent Aberdaron, ond
bydd ei ddywediadau ffraeth ar gof a chadw yn hir yn ardal y Rhiw. Diolch
i Mr & Mrs R Williams, am eu cymorth.
|
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |