|
|
"Cofion am Rhiw" Gan Gwilym Hughes
Ar y pedwerydd o Chwefror 1932 mewn bwthyn bach yng nghesail y mynydd Rhiw fe anwyd bachgen bach, y delaf welsoch erioed, medda mam. Dair blynedd yn ddiweddarach mi symudodd y teulu o Conion Ucha i Ty Rhos, fferm tua milltir i lawr am Bencaerau. Mam yn cadw ty i John Jones a nhad yn ffermio yn ei gartref yn Conion efo nain a’i chwaer. Mi roedd John yn arbenigwr efo ceffylau, y fo fydda yn jocio ceffylau ifanc Bodwyddog, sydd ar drefyn Ty Rhos. Mi gwelais i o yn dwad i’r iard efo dau o’r ceffylau ifanc a wedi tynhau eu penau nhw rhag ofn iddyn nhw redag.Doedd ganddo ddim ceffyl ei hun, mi fydda yn cael menthyg un ai ferlen Cadwgan neu ferlyn Daniel Rowlands Rhiwlas. Mi rydwi yn ei gofio yn trin y cae o flaen y ty efo ceffyl, a finnau yn hogyn bach yn cerdded wrth ei sowdwl ac yn dweud "Hen ferlan Dwgan hon" nage medda fynte, "merlyn Daniel ydio" mynd bwl wedyn a fina’n deud "Hen ferlan Dwgan Hon" "Nage merlyn Daniel ydio" a finnau eto yn ail adrodd "Hen ferlan dwgan hon". Y tro yma fe gododd ei lais a dweud "Sbia dan ‘i fol o diawl"!!!!!! "Ty Ucha, ar y dde" Yn y flwyddyn 1939 ar ol marw’r hen John symudon i fyw i Ty Ucha, bwthyn bach ar ben y Rhiw, mi on yn nes i’r ysgol ac im ffrindiau. Yr adeg honno roedd yno tua hanner cant o blant yn Ysgol y Rhiw, rhai yn dod o fannau eithaf pell fel y Galltraeth, Pencaerau a Pen Porth Neigwl a pawb yn cerdded i’r ysgol, doedd dim son am fws neu gar. Roedd y prifathro yn arbenigwr ymhob pwnc ella chi feddwl amdano, yn gerddor, arlunydd, mathemategydd ac yn saer reit dda. Roedd yn yr ysgol fainc saer a llond cwpwrdd o arfau, mi oeddan ni hogiau wrth ein bodd yn gwneud gwaith coed,tra roedd y merched yn cael gwersi coginio gan Miss Hughes. Doedd fawr o neb yn methu scholarship o dan ei arweiniad ac fe’n cyflwynodd i waith beirdd a llenorion a’n hysgogi i ddarllen mwy o farddoniaeth R Williams Parry, Eifion Wyn, Crwys, T Gwyn Jones ac eraill. Felly y dechreuodd fy niddordeb mewn barddoniaeth a barddoni, llunio ambell bennill bach syml a hyd yn oed englyn yn fy meddwl i ( heb ddim math o gynghanedd ar ei chyfyl!) "Ysgol Rhiw 1938" Mi oedd gan yr Hen Sgwl fel ei gelwid gryn ddiddordeb mewn garddio ac roedd gardd go fawr yn Nhy’r Ysgol ac roedd gynnon ni’r hogiau hynaf blot yno yn tyfu bob math o lysiau. Yr adeg honno mi fydda na lot o dail hyd y lon, pob tyddyn yn cadw buwch neu ddwy a rheini yn amal yn pori ar ochr y lon ac yn cael eu tywys gartref amser godro, os gwelai’r hen sgwl dail ar y lon yna mi yrrai ni fechgyn efo berfa i’w nol. Fesul dau yr aem ac wrth reswm pwy bynnag oedd ar y gorchwyl fe gymerai dipyn mwy o amser nag a ddyliai, ffordd dda i osgoi gwersi!!! Eurwyn Trip a minnau gath yr orchwyl un prynhawn, gan ein bod di gweld tail ar lon Llan medda ni wrth yr Hen Sgwl, ffwrdd a ni efo’r ferfa, esgus dda am brynhawn rhydd o’r ysgol. Mi gerddon hyd lon y Llan heb olwg am dail a dechrau poeni am gael ein dal allan wrth ddychwelyd efo’r ferfa yn wag a’r diwedd fu i ni fynd i dy fy nain yn Conion i nol llwyth dail a doedd neb blaw Eurwyn a finnau gallach!!!!!!!!! Diwrnod mawr yn ein hanes ni’r plant oedd "Diwrnod y Gwn Mawr", diwrnod ymarfer Gwylwyr y Glannau, ychydig o blant fyddai yn yr ysgol y prynhawn hwnnw Daniel Rowlands Rhiwlas oedd yn gyfrifol am y criw yn tanio’r "maroon",( rhyw fath o roced o flaen y cwt offer) i alw pawb ynghyd. A dyna chi olygfa. Dau o geffylau Penarfynydd yn cyrraedd ac yn cael eu bachu mewn wagon pedair olwyn a honno yn werth ei gweld yn sgleinio fel swllt o liw nefi blw a coch a llythrenau aur, a’r offer achub wedi eu llwytho yn daclus yni hi. Cychwyn wedyn am Benarfynydd i gae yn terfynu a’r mynydd, ac yn y gongol ucha mi roedd mast oedd i fod yn long mewn trafferthion. Wedi cyrraedd y cae pawb a’i job, bachu rhaff wrth roced (sef y gwn mawr) a’i gyrru dros y llong, clymu y rhaff yn y mast a rhoi Owen Owens Bryn y Fran un o griw y llong mewn gwregus achub ai dynnu i lawr i waelod y cae lle roedd criw y lan. Rhoi Owen Owens ar ei fol ar lawr a throi ei ben i un ochr, un o’r criw wedyn yar ei benglinniau a’i ddwy law ar ei ysgyfaint yn pwyso ac yn codi bob yn ail i dynnu dwr ohonnyn nhw wrth ei fod wedi bod yn y mor. Os oedden ni yn colli gwersi ysgol mi ddysgon ni sut i wneud "Artificial Respiration" y ffordd arbennig honno o dynnu dwr o’r ysgyfaint. "Daniel Rowlands" Byddem yn chawrae llawer, efo cylch, chwip a thop, barcud papur, melin wynt a ffliwt, bellach does dim son am y chwaraeon yma. Roedd y gwaith manganese yn creu rhyw fywyd yma pan on yn blentyn a dynion o bob cwr o’r wlad yn dwad yma i weithio, llawer ohonnynt o Gernyw, rhai oedd wedi arfer gweithio yn y gwaith tin yno. Roedd llawer o hogiau yn gadael ysgol yn cael gwaith yno hefyd a dyna oedd hanes llawer o’r tyddynwyr gan nad oedd ganddynt ddigon o dir i’w cynnal a’u cadw adref, roedd cyflog y gwaith yn gwneud bywyd yn well. Mi roedd yno filwyr o Ganada, peirianwyr yn drilio i lawr i’r ddaear mewn gwahanol lefydd i ddarganfod y manganese. Roedd y Canadians yn byw mewn camp ar dir y gwaith a ninnau blant wrth ein boddau yn eu cwmni yn cael crwydro efo nhw mewn loriau a chael llond ein boliau yn y "cookhouse" Lawer gwaith y bu i mi aros yno yn hwyr a nhad yn fy nol a chic yn din am adref!! Mi on i wedi gwneud ffrindiau efo mab un o’r clercod, teulu o Gernyw oedd yn byw yn Conion Ganol. Rhyw ffordd neu i gilydd mi lwyddodd ei dad gael caniatad i dri ohonnom ni lanciau gael colli’r ysgol am rai wythnosau a mynd i weithio i’r gwaith. Tua unarddeg oeddan ni ar y pryd ein gwaith oedd cario offer lefelu, offer mesur ac yn y blaen i ryw arbenigwyr o beirianwyr oedd yn cynllunio’r gwaith a sut i’w weithio. Mi oeddan wrth ein boddau colli’r ysgol a chael punt o gyflog, mi oedd punt yn llawer yr adeg honno. Weithiau caem fynd lawr yn caets i berfeddion y ddaear, wedi cyrraedd gwaelod y siafft roedd yno lefelau yn arwain i bob cyfeiriad a rheiliau ar eu hyd i gludo’r wagenni. Defnyddid y wagenni i gludo’r cerrig i’r wyneb o le y’i cludid efo lori i steision Pwllheli. O Bwllheli ai efo tren i Frymbo i’r ffwrnais yno. O’r Rhiw es i Ysgol Botwnnog ond doedd pethau ddim yr un fath, y gwaith di cau a pawb di mynd ei ffordd ei hun a rhyw ddigon undonog fu fy nghyfnod yna er doeddwn i ddim yn drwg leicio’r lle, ac yn bymtheng mlwydd oed mi adewais a dechrau prentisiaeth saer coed efo Humphrey Williams Delfryn Uwchmynydd. Dwi yn cofio cymeriadau o mhlentyndod, llawer ohonnyn nhw yn ffraeth a gwreiddiol ac yn hoff o dynnu coes. Cymeriadau fel Evan Jones Llwynfor oedd yn cau bwlch cerrig yn ymyl Capel Tan y Foel ac yn gweld Daniel Rowlands Rhiwlas yn dod amdano, ac yn gwybod y basa ganddo rywbeth i ddweud am y bwlch. I achub y blaen mi fynnodd i Daniel "Sa well mi roi polyn yn ei erbyn dwad?" a’r ateb gath o "Rhoi cwrlid drosto fo faswn i rhag i neb i weld o!!!" Yn rhychu tatws oedd Moses Nebo Fawr a William Tyddyn Meirion, Moses yn twsu’r ceffyl a William efo’r gwydd a Tomos Rhiwlas yn sbio arnyn nhw a’r rhesi yn gam a medda fynta " Mae’r Moses ma fel Moses yn yr hen destament yn arwain yr hen genedl i bob man" Wrth yr un orchwyl oedd Daniel a Tomos Rhiwlas, tad a mab. Y tad yn twsu a’r mab wrth yr wydd a’r mab Yn gweiddi "Daliwch atoch nhad, daliwch draw nhad, atoch nhad, draw nhad" Mi flinodd yr hen Domos ar hyn a meddai wrth ei fab "Mi ai ar fy union a dos dithau lle fynno chdi!!!!!" Ar eira mawr yng nghanol gaeaf gofynnodd Rolant Bryn Goleu i rywun yrru am y meddyg i Fotwnnog ato fo. Daeth Dr Jones neu Dr Bobi fel y’i gelwid cerddodd i fyny o Bengroeslon ac wedi llawer o drafferth mi gyrraeddodd dy y claf yr hwn oedd yn eistedd wrth y tan yn ei got (felly bydda fo ha neu aeaf waeth be fo’r tywydd yn ei dop coat yn cwyno fod rhyw ias ynddi!!). Gofynnodd Dr Jones iddo "Wel be di’r mater ta" ac atebodd Rolant "Dim ond isio gwybod on i taswn i yn wael fedrach chi ddod!!!!" wrth reswm aeth y Dr yn gandryll a pwy a’i beiau!!! "Rolant Bryn Goleu" Byddai llawer ers talwm yn cyfarch eu gilydd wrth rigwm a chlywais son am gymeriad o Rhosirwaun a arferai wneud hyn Rhisiart Owen Brynbadell. Gwneud ysgubau grug fydda fo a mynd o gwmpas y wlad efo’i ful yn eu gwerthu. Mi ofynnodd rhywun iddo sut na fywi di fel dyn arall ac atebodd yntau, " Sut y medrai yn fy myw wedi priodi Mari Bet Huw" Pan oedd yn torri bwyd i’r mul ar ochr y ffordd daeth Dic Plas a’i ferlyn heibio a deud. "Rhisiart Owen a’i gryman cul wrthi’n torri bwyd i’r mul" A’r ateb gafodd Dic "Dic y Plas a’i ferlyn tenau ddim llawer gwell na’r mul sgin innau" Pan welodd Rhisiart Owen Dafydd Jones Geufron a William Pencae yn eistedd ar y clawdd yn sgwrsio fe’i cyfarchodd, " Wel Dafydd Jones o’r Geufron A William o Ben y Cae Os nad ych chwi am weithio Well chi aros yn eich gwlau Mae llawer iawn yn meddwl Bod gweithio yn beth hawdd Nath neb erioed ei ffortiwn Wrth ‘ista’n nhin y clawdd" ~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~ Mi oedd Mr Evans, ail weinidog efo’r Wesla wedi ymddeol (Evans Fawr fydda pawb yn ei alw fo) ac wedi cymeryd ei gartref efo Lydia Owen yn Bodowen. Mi roedd yn bur fain ar Mr Evans ac mi gai ambell datan neu rwdan gan hwn a’r llall ac mi fydda yn hel gwichiaid. Un tro aeth i’r siop ble roedd ganddynt benwaig coch ar werth, dau am geiniog a dime neu un am geiniog. Cymerodd rhywun un am geiniog a meddai Mr Evans "Gymerai’r llall am ddime" ond chath o monni. Dro arall dychwelodd Lydia Owen o angladd a brolio’r gweinidog a gymerodd ran a dweud pa mor dda oedd o ac atebodd Mr Evans "Wel welais innau neb yn codi ar fy ol innau chwaith" Aeth Owen Owen Brynfran i’r siop a gofyn am "Fab y Ddamnedigaeth" pot o Damson jam oedd o eisiau mewn gwirionedd!!!!! Roedd Daniel Rhiwlas y teiliwr ac Evan Hughes Pen y Groes y crydd yn tasu yn Bwlch Garreg pan basiodd Ifan Llwynfor a dweud "Mae’r das yma ‘n siwr o ddal. "Bwlch Garreg" Mae cwyr melyn a cwyr crydd ynddi hi"Un rhyfedd iawn oedd Ifan y crydd roedd yn hen lanc a’i weithdy yn y ty rhwng y palis a’r simndde fawr, roedd y tan ar lawr a gallech weld allan drwy’r corn, mi gadwai’r glo o dan y gwely. Fydda fo ddim yr un dymer pob amser ac mi fydde ni blant ei ofn. Dwi yn cofio mynd a megin nain yno i’w thrwsio ac yn gofyn mor foneddigaidd a phosib "Nain yn gofyn newch chi drwsio’r fegin plis" Dyma fo yn gafael yn y fegin a’i lluchio allan drwy’r drws a finnau yn fy nychryndod yn rhedeg ar ei hol gafael ynddi a mynd at nain i ddweud yr hanes. Gyda mod i wedi gorffen y stori, pwy ddaeth i’r ty ond Ifan Hughes i nol y fegin fel tasa dim di digwydd a neb yn cymeryd arno ddim byd, ond un felly oedd Ifan y crydd. ********* Dyna atgofion Gwilym Hughes am fro ei febyd, a diolch yn fawr iawn.
|
|
Copyright © Rhiw.com |