"Yn y 50au"

gan

Aled Williams

Difyr yw edrych yn ôl i’r cyfnod yma pan ffermiai Anti Sian (chwaer fy nhad) ac Yncl Ifan yn Ty Croes Bach a chawswn fynd yno i aros yn yr Haf, cael cyfarfod Huw a Sam (fy nghefndryd ac arwyr i mi ar y pryd!), chware’n ddifyr gyda Meirion a Morwenna a phrofi traeth nefolaidd Aberdaron.

Yn Ty Croes Bach ddysgais gyntaf am driciau tanio a thrin  ‘Ffordan Bach’, saethu Rifle .22, am ddiben arswydys y Radar a phwysau angyffredin y cerrig Manganese. Oddi yma hefyd buom yn hel gwichiad,dal gwrachod oddi ar y creigiau a mynd a’r llaeth i’r lôn.

Difyr oedd y Rasus Cwn yn Ty Croes Mawr a’r cefndir o olygfa anhygoel –ambell dro perthnasau fel Alan Jones (Alan Fron) a Wil Bwlch yn cael hwyl arni - neu fynd yn gandryll!. Cyfarfod eraill fel hogiau Graig Ewig – y tywydd fel arfer yn chwilboeth a’r pryfaid llwyd yn pigo. Byddai’r chwibiannu, y ‘Way here’ a’r ‘Cwm Bai’ yn diasbedain drwy’r ardal.

Gwaith caled oedd byd fy Modryb yn ôl anian ei theulu a difyr oedd gwrando ar Yncl Ifan a’i hanesion yn hwylio fel morwr i lefydd fel St. Helena. ‘Roedd yn ystoriwr heb ei ail ac arhosai i bendronni weithiau nes byddai’r syrup a hoffai yn ffrydiau dros y bwrdd.

Cofiaf iddo bwyntio ffon i fyny at y gorwel y tu ôl i Ty Croes Bach a dweud wrthyf ‘ mae adfail yn fanna o’r enw Bwth’ ac wedyn i gyfeiriad arall ‘ ac yn fancw mae Baron Hill’.  Yn wir, maent i’w gweld ar hen fapiau.

Dywedodd unwaith iddo weld twll cwningen newydd (cyn y pla) mewn congl cae. Bob dydd aeth y twll yn fwy a mwy. Yn y diwedd canfuwyd mai hen lefel i’r gwaith Manganese oedd yno. Cafwyd amryw o’r rhain dros y blynyddoedd.

Adeg anterth y pla cwningod, byddai hogiau Meillionydd yn mynd o amgylch y caeau bob bore gyda thractor a threlar i godi’r cyrff gyda picwyrch.

Profiad anhygoel ddaeth a iâs i lawr fy nghefn (yn fachgen 7 oed) oedd bod yn Ty Croes Bach un noson pan oedd nifer o’r teulu yno yn cynnwys fy rhieni. ‘Roedd canu yn elfen naturiol ar ein haelwydydd erioed ond, y tro hwnnw, pan ar ganol sgwrs fel y tybiwn i, torrodd pawb allan i ganu ‘O Iesu’r Meddyg Da’ ar y dôn Wirksworth. ‘Roedd y cynghanedd SATB yn berffaith a phwerus a digwyddodd ar amrantiad. Dilynnwyd wedyn gydag ‘ Yn y dyfroedd . .’ ar Ebenezer (Neu Tôn y Botel) wrth gwrs – wedyn aeth y sgwrs yn ei blaen yn ddifyr a neb yn ddwys o gwbl! (Byddwn yn meddwl, pan yn blentyn mai ym Mhorth Ysgo y daeth y botel honno i’r lan.)

Diolch i Mr Aled Williams.

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com