|
|
"Trem yn ôl ar ardal y Rhiw" gan Aled Williams Byddai Ben fy nhad yn hoff o adrodd rhyw hanesyn i
mi o bryd i’w gilydd fyddai’n deillio o adeg ei blentyndod yn Tan yr Ardd ar
ddechrau’r ganrif ddiweddaf. Byddai enwau pobl a llefydd yn byrlymu i fyny yn
ogystal, ond, yn anffodus, mae llawer wedi pylu o’m côf erbyn hyn. Dylswn fod
wedi eu hysgrifennu i lawr, ond efallai y gall rhywun lenwi bylchau neu gywiro. Nid oes dim bwriad cythruddo na brifo neb gyda’r
hanesion hyn! ‘Anwyliaid oeddynt i gyd’ Enwau
Betsan
‘Dwgan (Elizabeth
drigai yn Cadwgan) Jane
Ty’n y Morthwyl Un
goes allan ‘fel llafn pladur’. Jane
Pisgah Byddai’n
cadw llefrith mewn disgl ar garreg yng nghefn y ty. Dywedodd wrth blant oedd yn
mynd heibio i chware i’r Creigiau un diwrnod ‘ Mae ‘na ryw hen ast wedi
dwad a llempian fy llefrith i i gyd’. ‘Dewyrth Mae
hanes da am y prifathro hwn eisoes ar y safle Rhiw.com. Cofiaf glywed hyn yn
ogystal:- Daeth
bachgen i iard yr ysgol ar gefn beic heb deiars gan greu mwstwr (tebyg i
“Isaac ar angau”) . Meddai ‘Dewyrth wrtho :’ Dos a’r esgyrn yna o’
nglyw i!’ Dywedai
ei bod yn haws tynnu llinell syth tra fo’r pensil yn symyd oddiwrth y llygad. Hoffai
ddweud ‘ Nid da lle gellir gwell’ Owen
Waun – O’r teulu Owen (Bryn Ffynnon) oedd fy nain (Eliza). Morwyr oedd
llawer o’r teulu ac mae cloc Americannaidd acw (sy’n dal i gadw amser) yn
dyst o hynny. Ann
Tan y Garn – yn ddiweddarach Gydros,
Eifionydd. Nelli
(Ty ‘n Parc?) Byddai
tlodi mawr mewn rhai cartrefi a felly y trigai brawd a chwaer mewn tyddyn ger
Tan yr Ardd. Gofynnodd fy nain i’r brawd un prynhawn os oedd wedi bwyta y
diwrnod hwnnw ac meddai ‘na - ond mi wnaeth mam dorth gri bach i mi a Nelli’. Cadi
Salfur Neidiodd y greadures yma mewn dychryn i ben clawdd
pan welodd gerbyd ‘moto’ am y tro cyntaf yn dod i fyny Allt y Rhiw.
Meddyliodd fod y diafol wedi dod i’w chyrchu. (Arferai hi ymarllwys ar ei thraed a thebyg i’r
peth ddigwydd y pryd hynny) Diolch i Mr Aled Williams. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |