|
|
"Tafodiaith a Iaith y Brain"GanAled WilliamsNid
wyf yn honni bod yn arbennigwr yn y maes yma, ond efallai y dylwn gofnodi y
pethau a etifeddais ac a ‘ddysgais gan fy nhad’. O’r Rhiw y daeth hyn a
chymwys i rhiw.com feddu hynny a gofiaf i. Nid oes geirfa gyflawn yma na rhestr
rheolau – nid fu rhai ysgrifenedig erioed. Ar
ganol yr ugeinfed ganrif, hawdd fyddai enwi pertref magwraeth siaradwr (Cymraeg)
o Lyn. Fel engrhaifft, gwawdiwyd fi yn ysgol Llithfaen am ddweud ‘nage’ (fel
fy nhad) yn lle naci fel y pentrefwyr yno. Er mai gwahaniaeth bychan sydd yma,
dengys ymwybyddiaeth gref plant Llyn o dafodiaith Cymraeg (o leiaf yn yr adeg
honno). Perygl eu bod ceisio efelychu parabl chwithig unffurf allanol erbyn hyn
– fel ‘ lle ma bag fi?’. Byddai
cryn fathu a datblygu geiriau ymysg cartrefi ac ardaloedd yn yr hen amser (cyn
cyfryngau a moduron). Ar aelwydydd
y cychwynai hyn – weithiau rhieni yn siarad i anwylo plant – neu hyd yn oed
anifeiliaid (anwes neu stoc). Byddai’r geirfa a’r acennu yn aml yn newid ar
gyfer y gwrthrych. Byddai rhai o’r geiriau hyn yn aros ac yn cael eu
mabwysiadu yn y gymuned leol - yn y ffermydd a’r gweithfeydd. ‘Roeddynt yn
cynrhychioli teyrngarwch neu
frawdoliaeth yn aml – fel math o gwlwm dywediadau. Byddai tynnu coes yn
gyfrwng tyfiant a defnydd o’r datblygiad yma ar iaith hefyd. Cafwyd
enghreifftiau eisoes o Guto Ty’n y Muriau a’i ‘strybibo’ a’r wreigan
a’i ‘changchwch’ – llall a
‘ ngenadd i’. – hefyd Bom Oel. Weithiau
defnyddid addasiad o ansoddair fel ffugenw i rywun. Llips am lipryn (llipa)
di-enaid. Dro
arall rhoddid geiriau y tu ôl ymlaen fel ‘methu byw’ yn troi’n bwmoffwy. Byddai
cwtogi ar eiriau hefyd fel “be sydd arnat ti (wedi dwad i ti)?” yn troi’n
“ bestiti” a “stiti”, fy ngwirionedd yn mynd yn ngenadd. Cyfuniad
o ddau neu fwy o eiriau esgorai ar eraill, yn ogystal, fel stremp a pibo a
welwyd eisoes. Clywais
sôn am Twm Sgwt. Sgetyn y gelwid cath yn aml a byddai gan Twm nifer ohonynt. Barashag
oedd yr enw am belen o faco a arferid ei gnoi. Defnyddid
darnau o farddoniaeth neu eiriau o lyfr (yn cynnwys Y Beibl) a’u plethu mewn
geiriau eraill. ‘Surdoes y Phariseaid’ sydd yn enghraifft yma, ‘Duwadd’
hefyd. Byddai
enwau llefydd yn cael eu defnyddio hefyd fel ‘mi rown ni Dunbar iddo fo’ –
clec iddo (sef gorffen y gwaith). Bygythiad
– ‘tisio taran, was?’ a dirmyg ‘fain’d’oed ti?’ (faint ydy dy oed
ti?) Byddai
gwawdio ar hysbysebion Seisnig hefyd. Clywyd rhywun yn dweud ‘ Tydi o ddim
llawer o silc, was – rhyw dipyn o dreimî ydi o’ (sef “Try Me”) Yn
gryno, felly, o enaid a chôf ddeuai’r dull yma o gyfathrebu. Nid cynnyrch
creaduriaid ynfyd, anllythrennog ydoedd.
Egni, gallu a ffraethineb cymeriadau cymharol dlawd a’i creodd: rhai efallai
godasai i fri petai’r cyfle wedi dod i’w rhan – ond wedyn buasant wedi
symyd o’r ardal heb greu na chyfrannu dim at y ffenomen yma. Diolch i Mr Aled Williams. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |