
"Ar
Râs
o Gaernarfon"
(Ynteu Trip yno ac yn ôl?)
Gan
Aled Williams

Wedi gweld llun Buick Ishmael ar y
Wefan ac wedyn siarad gyda Barry Jones, daeth
hanesyn i’m côf am hogiau o Lithfaen oedd wedi mynd draw i Gaernarfon
un diwrnod. Tybiaf mai yn y dauddegau/ tridegau oedd hyn – cyn i fy nhad (Ben)
briodi, beth bynnag! Pedwar ohonynt
oedd yna yn ôl fel y deallais i sef dau yn byw yn Llithfaen ond yn wreiddiol o
Rhiw - Ben Tan ‘Rardd a Ted Tan Ffordd; Tudor
Evans gyrrwr taxi a gadwai siop ddillad yn Llithfaen a ‘hogyn o Rhiw’ na
chofiwn ei enw heblaw iddo swnio’n Feiblaidd.
‘Roedd gan yr ‘hogyn o Rhiw’ Buick a ‘sgetyn ar ei fonnet – fel
mascot’ – felly rhaid dod i’r casgliad mai Ishmael oedd o. Yn ôl fy nhad,
‘roedd Tudor wedi ffansio’r Buick yn fawr gan dybio y gwnai Daxi pendigamp.
Ni chefais wybod pwrpas yr ymweliad a Thref y Cofis ond deallais iddynt
fynd yno mewn dau gar – sef y Buick ac Austin 18 Tudor. ‘Roedd gan hwnnw 6
silindr ac er mai ond ‘sidevalve’ oedd y peiriant – ‘roedd ganddo ddigon
o ‘torque’ medda Tudor. Rhinwedd hanfodol mewn lle mynyddig fel Llithfaen yn
ôl yr hogia a phan ofynnwyd i Ishmael sut oedd y Buick am ddringo, daeth yr
ateb “ O, mae hwn yn llemain am allt,
‘sti” (Iaith Brain eto?).
Gan fod y ffordd o Gaernarfon i Lithfaen yn cynnwys troeadau, darnau syth
ac elltydd, penderfynnwyd fod yn rhaid profi un car yn erbyn y llall. Tydi hogia
–na’r lôn -ddim wedi newid llawer, nacydynt? Dywedodd Ishmael am deiars
blaen y Buick ‘ma nhw braidd yn foel ar hyn o bryd a bydd raid cymeryd pwyll
ar y troeadau. Mae hi’n hawdd gwneud hwn droi ei din i waerad, sti’, meddai
(hel esgusion meddai rhai).
Cychwynnodd yr Austin hefo Tudor a Ted ynddo i
fyny Stryd y Llyn a mwg glas yn ei ganlyn. Wedyn daeth Ishmael a Ben yn y
Buick ‘hwnnw’n gwneud swn fel cath yn canu grwndi’. Tybed ai dyna oedd
arwyddocâd y mascot? Tebyg mai V8
oedd y peiriant.
Yn y milltiroedd cyntaf, ‘roedd yr Austin yn llamu’n braf rownd y
cornelydd tra’r oedd yr Americannwr yn ‘dipyn o honglad’ a rhaid oedd
gwylio’r teiars, wrth gwrs. Erbyn cyrraedd Llandwrog, ‘roedd cryn chwarter
milltir rhyngddynt. Ond daeth lôn syth Glynllifon i ddangos gallu’r Buick, a
chyn cyrraedd Aberdesach, a’r ddau gar ‘wedi eu hagor led y pen’ pasiodd y
Buick yr Austin ‘ fel petai’n sefyll’ a’i adael ar ôl. Mwy o gornelydd
wedyn a daeth yr Austin yn nes i
‘gwnffon y gath’. Scrialu heibio Llanaelhaiarn wedyn i fyny allt ‘Tan y
Ffynnon’ lle’r oedd pwer anferth y Buick yn drech na’r Austin oedd yn
crafu yn ei ail gêr. Heibio Gwag-y Noe a’r Hafod wedyn, ‘roedd yr Austin yn
dal i fyny’n dda a lle’r oedd rhaid cymeryd gofal yn y llall ar y lôn
gul,droellog. Cafwyd ‘codiad sowdl’ yn Bwlch Swngwn
ac yn y diwedd, y Buick gyrhaeddodd sgwar Llithfaen
gyntaf o gryn dipyn.
Oedd, mi oedd y Buick yn ‘llemain
am allt’ – a mi oedd o’n ‘medru llamu’ hefyd meddai’r hogia.
Geiriau gan Mr Aled Williams, diolch yn fawr.