"Dywediadau"

gan

Aled Williams

Dau forwr yn cyfarfod o flaen  siop y pentre ar ôl mordeithiau gan ymffrostio.

‘Wyt ti ddim wedi bod yn bell iawn i le poeth go iawn, naddo?’

“O, do, mi fu’s i mewn gwres – nes oedd fy mlewyn i’n cyrlio!”

Byddai cymeriad (Guto Ty’n y Muriau?) yn cael y gwaith o gynnal y lôn arweiniai i’r Gwaith Manganese gan osod cerrig yn daclus ar y traciau. Canmolwyd safon ei waith gan rhywun ac meddai ‘ Mae’ nhw’n edrych yn o lew ‘rwan, ond mi fydd y Ted yna wedi dwad yn ei hen lori’n o fuan a mi fydd o wedi ei strybibo nhw i gyd.

(Ted Evans Tan y Ffordd – diweddarach Cartrefle, Llithfaen).

Rhywun yn gofyn iddo ‘ Ti’n o lew, was?’ ac atebai “ Na, ‘dwi’n werth dim”

Aeth fy nhaid a chriw o ddynion i roi cymorth i ryddhau traction aeth i draferthion mewn ffôs neu ryd gerllaw Meillionydd. Arhosodd un gwr yn nrws ysgubor yn Meillionydd i ymochel y glaw ac meddai ’ Hwi, law – dyro hi iddyn’ nhw – mae nhw’n siwr o ddwad adref cyn pump.’

Adeg dyrnu ym Meillionydd – criw o weithwyr yn gwledda o gylch y bwrdd a chafodd un forwyn fach ddamwain swnllyd wrth blygu. Pan aeth y lle’n ddistaw a hithau’n rhugno cadair ar y llawr daeth llais “ dim byd yn debyg, ‘mach i”

Un cymeriad wedi cael oriawr yn anrheg gan forwr. Dywedai trwy ei drwyn: ‘ mae gen i wâets hefo pig stîl arni hi.’

Jane Terfyn (chwaer Huw Terfyn - diweddarach yn Llithfaen)

‘ Ia wir, ngenadd i’     (fy nhwirionnedd I)

Dywedai fy nhaid adeg tywydd drwg ‘ mae hi’n llawn budreddi’

Fy nain yn ceryddu fy mrawd pan yn cam-ymddwyn ‘ fydda i yn troi tu min – os leci DI

Gwas fferm wedi curo un noson oer ar ddrws bwthyn ar odre Penarfynydd i holi ynglyn a dafad aeth ar y creigiau. Daeth dyn i’r drws mewn dim ond crys nos cwta. Datgannodd y gwas yn ddiweddarach iddo weld y dyn ‘ a mi oedd o yn ddu-las fel mochyn a chlwy’ arno fo’

Gwreigan drigai mewn bwthyn ar y ffordd i Bryncroes

‘ Mae gen i danllwyth o dân a thecell arno ‘ dywedodd hyn fel –“ Gingi cangchwch gân a checach ‘ngo fo”      (Cymysgedd o iaith brain a nam lleferydd)

Arferid ar un adeg i aelodau mewn cwrdd neu oedfa ddatgelu eu cyfranniad ond os nad oedd modd ganddynt, rhaid oedd rhoi croes ar gyfer yr enw. Byddai un hen wreigan bob amser yn tynnu anadl hir drwy ei thrwyn a dweud ‘ crôeswch! ‘

Byddai gwr yn codi canu yn yr Oedfa ar Ddydd Sul yn ddigon effeithiol. Un tro, rhoddodd dôn â’r mesur anghywir ar gyfer yr Emyn. Yn lle ail-ddechrau, canodd pob llinell gan ychwanegu “ Ffal-da-ri-di-cob” [ l:- .l  t :-.t  d:- :- ].

Mul Tan yr Ardd wedi dianc drosodd i ardd y Plas a’r wraig a drigai yno (Keeting?) yn gofyn i fy nhad yn chwithig ‘ pw pia mîl’

Wedi dychwelyd o Borth Neigwl yn waglaw ar ôl bod yn hel broc môr dywedwyd wrth fy nain ‘ doedd yna ddim byd ond baw mul a bom oel’

(Bom oel oedd enw traed y brain am y cwyr du-frown a ymgasglai o ganlyniad i longau ollwng olew i’r mor)

‘Roedd gwobr o chwe cheiniog i’w gael am dynnu pwysau yn ffair y pentref ac meddai cariad llanc wrtho “ Dal arni, Dafydd – chwech neu ddim!”

Diolch i Mr Aled Williams.

~~~~~~~~~~~

Map or Safle                Website Map

Copyright © Rhiw.com