|
|
"Digwyddiadau"gan Aled Williams Pan yn un-ar-bymtheg oed (yn 1918), cafodd
fy nhad y cyfrifoldeb o danio pwmp yng ngwaelodion y Gwaith Manganese. Byddai
hynny yn orchwyl dyddiol a dringai i lawr nifer o ystolion hir am 5 o’r gloch
y bore ar ben ei hun i wneud hynny. O’r Gwaith i Borth Neigwl ‘roedd twbiau dur yn symyd ar wifrau a gludai’r mwyn manganese i’r llongau ddeuai yno. Teithiai fy nhad un bore i lawr y llwybr ar gefn mul pan ddisgynnodd un o’r twbiau a’i gynnwys ugain troedfedd i fwrdd oddiwrthynt. Cymaint oedd braw’r mul nes y neidiodd a charlamu gan fwrw ei farchog. "Tan yr Ardd" Byddai’n arferiad
gan hogia Tan yr Ardd fynd i lawr yr allt i dorri eithin a phoethwal ar
gyfer y tân. Disgynnodd fy nhad un tro pan yn ifanc iawn nes rhedeg cefn bysedd
ei law dde ar hyd y cryman a gariai. Cofiai
redeg on ôl adref at ei fam gan weddio na wnai farw cyn cyrraedd ati.
‘Roedd y creithiau ganddo ar hyd ei oes. Dyma hanes gefais gan fy Mam (oedd, gyda
llaw, yn SRN). Pan oedd yn ymweld a Tan yr Ardd daeth fy nhaid adref o’i waith
(fel adeiladydd) un diwrnod mewn
poen wedi i galch poeth fynd i’w lygad. Gwnaeth fy nain iddo orfedd ar ei gefn
ar y setee. Aeth allan i’r ardd, cododd garreg a thynnu malwen allan. Daeth ag
ef i’r ty a rhoi pin yn y gragen.
Tywalltodd y sudd ddaeth allan i lygad fy nhaid, ac, yn ôl tystiolaeth Mam,
ymhen llai nac ugain munud, ‘roedd yr hen Sam ar ei ffordd yn ôl i’w waith. Byddai nain yn hel pob math o blanhigion a
llysiau i baratoi meddyginiaeth at
lawer o fân broblemmau corfforol, yn ôl fy Mam. Pechod nad ysgrifennwyd dim
amdanynt. Dywedai fy nhad ‘ Eli Treffynnon – wellith o’n union, eli Sir
Fflint – wellith o’n gynt’. Gan fod Tan yr Ardd mor agos i Fynydd y
Rhiw a’r grug, byddai cychod gwenyn yn dod a chynnyrch da bob amser. Tra yn
curo tuniau un tro i ‘hel y gwenyn’ aeth gwenynen i fewn i glust fy nhad.
Ceisiodd nain bopeth i rwystro pigiad, on methu a wnaeth y tro hwnnw! Nid oedd gormod o fodd yn Tan yr Ardd i
brynu pethau moethus, ond temptiwyd y bechgyn un tro i grynhoi digon i brynu
‘torch’ drydan – un cromiwm ‘oval’gyda chwydd-wydr fel lens. Ei
defnyddio yn lle’r lamp carbide oedd y bwriad. Cedwid hi o olwg nain a taid yn
yr ardd o dan garreg. Un min nos, daeth Sam fy nhaid i dacluso’r wal tu allan,
ac wrth symyd y garreg, daeth y torch i’r golwg gyda’r golau ymlaen.
Ddeallais i erioed beth ddigwyddodd wedyn! Tebyg fod gennym berthnasau ddaethai i
ymweld a Tan yr Ardd o Dde Cymru ar un adeg a byddai’r plant yn gwneud hwyl am
yr acen. Gwelwyd lygoden yn y cwt golchi tra’r oeddynt yno un waith ac
aethpwyd i nol y gath i wneud ei gwaith. Daeth un o’r plant yno wedyn hefo
cannwyll a dywedodd yr ‘hwntw’ “ Ne! Ne! , well gan y giath heb ddim gole
– s’moi’n moin e”. Jane Ellen Tan yr Ardd (Anti Sian) wedi bod
yn ymarfer ‘gwers’ – “ Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd . . .”
erbyn y Cwrdd dydd Sul. Yno adroddod yn eglur a chlir “ Poera dy fara
ar wyneb y dyfroedd. . . .” Byddai’n arferiad hela yng ngolau lleuad.
Un gaeaf r’oedd eira (anarferol)
ar fynydd y Rhiw. Cariai un dyn ei wn a’i faril i lawr yn rhy isel ac heb yn
wybod iddo, paciodd yr eira i mewn
yn galed, a phan daniodd ar bry’, cafodd anaf go ddrwg – gwers i rywun. Am ryw reswm, neidiodd haid o fôch i’r môr
tua Penarfynnydd. Dilynwyd hwy mewn cychod a buont yn nofio gyda’r
llanw yr holl ffordd dros porth Neigwl nes cyrraedd Cilan. ‘Roedd y rhan fwyaf
ohonynt yn gwaedu yn ddrwg gan i’w carnau blaen rwbio eu gyddfau. Bu llanw mor fawr yn Mhorth Neigwl un tro nes oedd hanner y ty sydd ger
y traeth islaw Treheli o dan ddwr. Bwgan
Pen Clip. Am gyfnod, bu cryn ofn ac arswyd ymysg trigolion Rhiw ynlyn a
‘UFO’ Diolch i Mr Aled Williams. |
|
~~~~~~~~~~~ Copyright © Rhiw.com |